Neidio i'r prif gynnwy

Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026 y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026. Mae'r Ddeddf yn darparu cyfnod cychwyn rhwng mis Ebrill 2027 a mis Ebrill 2030, gan ofyn bod y gwaharddiad ar rasio milgwn yn cael ei ddwyn i rym ar adeg briodol yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i'r diwydiant ddirwyn ei weithgareddau i ben mewn modd trefnus, yn cryfhau'r trefniadau ar gyfer ailgartrefu cŵn yr effeithir arnynt, yn sicrhau bod cyrff gorfodi wedi'u paratoi'n llawn, ac yn galluogi cymorth i'r rhai yr effeithir arnynt. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cyfnod pontio'n cael ei reoli'n effeithiol i ddiogelu lles anifeiliaid.

I gefnogi hyn, sefydlwyd Grŵp Gweithredu'r Gwaharddiad ar Rasio Milgwn ym mis Gorffennaf 2025. Mae'r Grŵp yn rhoi cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru ar sut yn ymarferol i weithredu'r gwaharddiad ar rasio milgwn. Mae ei aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant rasio milgwn, y trydydd sector, llywodraeth leol, y byd academaidd ac arbenigwyr milfeddygol annibynnol.

Rwyf wedi derbyn adroddiad cyntaf y Grŵp, ac mae wedi'i gyhoeddi ar llyw.cymru.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y camau breision sydd wedi'u cymryd ac yn nodi argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, cyrff gorfodi, partneriaid trydydd sector a'r diwydiant rasio.

Rwyf wedi ymateb i'r argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ac wedi nodi'r rhai ar gyfer sefydliadau eraill. Mae fy ymateb bellach wedi'i gyhoeddi.

Hoffwn ddiolch i aelodau Grŵp Gweithredu'r Gwaharddiad ar Rasio Milgwn am eu hymrwymiad, eu harbenigedd a'u cyfraniad adeiladol wrth i ni weithio gyda'n gilydd i roi'r gwaharddiad ar rasio milgwn ar waith yng Nghymru.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.