Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Mynychu’n bersonol                  

  • Karin Phillips (cyd-Gadeirydd (KP), Aelod Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
  • Paula Williams (PW), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
  • Darren Trollope (DT), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid 
  • Sasha Yilmaz (SY), Llywodraeth Cymru (CSD)
  • Lynzi Jarman (LJ), Llywodraeth Cymru (JPD)
  • James Gerard (JG), Llywodraeth Cymru (JPD)
  • Fallon Gallagher (FG), HMPPS         

Mynychu ar Teams

  • Martyn Gunter (MG), Llywodraeth Cymru (ECWL)
  • Emma Williams (EW), Llywodraeth Cymru (Cyfarwyddwr Cyffredinol ECWL)
  • Padraig McNamara (PM), Llywodraeth Cymru (Iechyd) 
  • Mark Bradley (MB), Llywodraeth Cymru (Iechyd) 
  • Sally Rees (SR), Llywodraeth Cymru (Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio) 
  • Tom Cartright (TC), Llywodraeth Cymru (KAS) 
  • Alison Lott (AL), Llywodraeth Cymru (CSD)
  • Andrea Brazier (AB), Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi 
  • Michelle Davies (MD), Cynrychiolydd iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 
  • Paul Biggs (PBi), Uned Cyswllt Heddlu
  • Phillip Bowen (PBo), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
  • Cheryl De Freitas (CDF), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid 
  • Rachel Morgan (RM), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA)
  • Gill Adams (GA), Rheolwyr YOT Cymru (YMC)
  • Alan Webster (AW), Y Weinyddiaeth Gyfiawnder 
  • Surinder Randhawa (SR), HMCTS
  • Gwen James (GJ), Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 
  • Martina Feilizer (MF), Cynrychiolydd academaidd
  • Julie Davies (JD), Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS)
  • James Warr (JW), Rheolwyr YOT Cymru
  • Philip O’Connell (PO’C) ar ran DCC Nicola Brain 
  • Neil Blyth (NB) ar ran DCC Nicola Brain 
  • Rocio Cifuentes (RC), Comisiynydd Plant Cymru
  • Jay McCabe (JM), Rheolwyr YOT Cymru (YMC)
  • Dafydd Llywelyn (DLl), PCC Dyfed Powys 
  • Eleri Thomas (ET), Dirprwy PCC Gwent 
  • Kirsty Davies (KD), Rheolwyr YOT Cymru (YMC)
  • Mark Brace (MBrace), Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel 
  • Tim Melville (TM), Cadeirydd, Fforwm Cadeiryddion Panel Ieuenctid Ynadon Cymru

Ymddiheuriadau 

  • Mike Connolly (cyd-Gadeirydd), Llywodraeth Cymru (CSD)
  • Daniel Jones, Uned Atal Trais Cymru (VPU)
  • James White, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW)
  • Stephanie Roberts-Bibby, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid 
  • Stephen Wood, Rheolwyr YOT Cymru (YMC)
  • Katie Hughes, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder 
  • DCC Nicola Brain, Heddlu Gwent
  • Louise Lawrence, HMPPS
  • Christine Harley, HMPPS
  • Lucy Peates, HMPPS

Crynodeb o gamau

Pob pwynt gweithredu i’w gwblhau cyn gynted â phosib ond erbyn 27 Chwefror 2026 fan bellach oni roddir dyddiad arall.

  • Pwynt Gweithredu 1: MB i godi’r heriau gyda SLCN yn ystod ei gyfarfod nesaf gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol y proffesiynau AHP a Gwyddor Gofal Iechyd. (Arweinydd MB)
  • Pwynt Gweithredu 2: Cytunodd MB i gael trafodaethau pellach gyda’r YJS i ystyried atebion posib ar gyfer SLCN ac i adrodd yn ôl i gyfarfod mis Ebrill o’r Panel. (Arweinydd MB a JW)
  • Pwynt Gweithredu 3: MD i rannu papurau iechyd yr WYJAP gyda chydweithwyr Bwrdd Iechyd ehangach ac i rannu unrhyw adborth pellach. (Arweinydd MD)
  • Pwynt Gweithredu 4: EW i adnabod yn Llywodraeth Cymru beth oedd y trefniadau llywodraethu o gwmpas plant a pha drafodaethau oedd yn digwydd am siwrne plentyn. (Arweinydd EW)
  • Pwynt Gweithredu 5: DT i rannu cynllun cerrig milltir dangosol OoCR gyda’r Panel. (Arweinydd DT)
  • Pwynt Gweithredu 6: Gwahodd cydweithwyr DCMS a HO i gyfarfod o’r WYJAP yn y dyfodol, y naill i roi cyflwyniad ar Hybiau Dyfodol Ieuenctid a’r llall ar Baneli Partneriaethau Atal. (Arweinydd Ysgrifenyddiaeth)
  • Pwynt Gweithredu 7: DT a PB i gyfarfod ag AW i drafod polisi a chanllawiau ar fod ym meddiant cyllyll a’r cysylltiad â’r gwaith OoCR sy’n cael ei wneud yng Nghymru. (Arweinydd DT, PB ac AW)
  • Pwynt Gweithredu 8: Dolen i gofnodion WYJAP 20 Hydref i’w hanfon allan i’r Panel. (Arweinydd Ysgrifenyddiaeth)

Eitem agenda 1: croeso a chyflwyniadau

Croesawodd KP yr aelodau i gyfarfod Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru (WYJAP). 

Dywedodd KP wrth yr aelodau y byddai’r cyfarfod yn cael ei recordio ac i godi llaw os oedd unrhyw wrthwynebiad. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad.

Eglurodd KP na fydd Mike Connolly yn ymuno â’r Panel heddiw oherwydd ei fod ar wyliau blynyddol. 

Croesawodd KP Philip Bowen, Aelod Bwrdd YJB, Cheryl de Freitas, Prif Swyddog Gweithredol YJB ac Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru. Ymunodd gydweithwyr Polisi Iechyd Llywodraeth Cymru â’r cyfarfod hefyd fel rhan o eitem agenda 2. 

Nodwyd yr ymddiheuriadau.

Eitem agenda 2: Blaenoriaeth Strategol WYJAP (Partneriaeth gydag Iechyd)

Rhoddodd PM drosolwg ar adran Iechyd Meddwl papur 26 01 26 02 yr WYJAP. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Roedd Llywodraeth Cymru wedi adnabod cynnydd yn y niferoedd plant ers 2020, oedd yn her ddifrifol. Roedd y twf mewn problemau iechyd meddwl yn gymhleth ac wedi’i yrru gan gyfuniad o ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a thechnolegol.
  • Roedd y Strategaeth Iechyd Meddwl a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-Niwed a gyhoeddwyd yn 2025 yn cydnabod y cymhlethdod cynyddol a’r gwahanol ffactorau sy’n cyfrannu ar gyfer plant a phobl ifanc.
  • Roedd y Strategaeth Iechyd Meddwl yn cynnwys mynediad y diwrnod hwnnw at wasanaethau i rai sydd eu hangen.
  • Un o brif bwyntiau ffocws y Strategaeth Iechyd Meddwl oedd atal, gan ddod â phartneriaid allweddol fel Gofal Cymdeithasol, Tai ac Addysg at ei gilydd gan hefyd edrych ar effaith tlodi. 
  • Roedd nifer o safleoedd dangosol yn cael eu sefydlu yn y cam cychwynnol, un yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) mewn ardal benodol.
  • Roedd data perfformiad wedi gwella i blant a phobl ifanc ond, er bod y cynnydd yn gadarnhaol, roedd dal angen mwy o waith.
  • Roedd Cynllun Darparu Tair Blynedd yn nodi manylion y tair blynedd gyntaf. 

Rhoddodd MB drosolwg ar adran Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu (SLCN) papur 26 01 26 02 yr WYJAP. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Roedd Therapyddion Iaith a Lleferydd (SLT) wedi eu cynnwys yn Fframwaith 10 mlynedd y Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) er mwyn cynyddu cyfran y gweithwyr AHP sy’n darparu ymyriadau atal yn y gymuned. 
  • Yn ôl y data diweddaraf ar gyfer Rhagfyr 2025, roedd 825 o therapyddion SLT cofrestredig yn byw yng Nghymru. 
  • Roedd y data diweddaraf o Hydref 2025 yn nodi bod 1,593 o blant yn aros am Therapi Iaith a Lleferydd (SLT) a llai na 2% yn aros mwy na’r cyfnod atgyfeirio 14 wythnos o’i gymharu â 19% yn Hydref 2023.
  • Mae dull Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar ac atal drwy raglenni fel Dechrau’n Deg. 
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prosiect Pengwin, rhaglen ymchwil wedi’i harwain gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, i greu dulliau ac adnoddau newydd er mwyn adnabod a chefnogi datblygu iaith, lleferydd a chyfathrebu cynnar mewn plant ifanc ar draws Cymru.
  • Bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal ymgynghoriad ar yr ymgyrch ‘Siarad â Fi’, sy’n ceisio creu gwelliannau yn y ffordd y cefnogir plant yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau SLC. Bydd Cam Dau’r ymgynghoriad yn cynnwys ymestyn yr ystod oed o sero i bump i sero i 11. 
  • Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu Safonau Gofynnol fel y gall pob gwasanaeth YJS adnabod SLCN a lefel y cymorth sydd ei angen. 

Rhoddodd SR drosolwg ar bapur 26 01 26 03 yr WYJAP ar Niwroamrywiaeth.  Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Byrddau Iechyd i ddileu’r rhestr aros tair blynedd. Roedd pob Bwrdd Iechyd ar darged i wneud hyn.
  • Roedd peilot carchardai ar y gweill i edrych ar ba mor gyffredin oedd ADHD yn y boblogaeth garchardai ond hefyd i ba raddau oedd y cyflwr yn cyd-ddigwydd â chyflyrau fel awtistiaeth, syndrom Tourette ac iaith a lleferydd.
  • Y potensial i ddefnyddio dulliau proffilio fel yr un sydd wedi’i ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. 

Rhoddodd JW drosolwg ar bapur 26 01 26 09 yr WYJAP. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Nid oedd rôl iechyd yn y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) ar draws Cymru mor glir ag ar gyfer partneriaid statudol eraill fel yr Heddlu a Phrawf. 
  • Er bod y cymorth atal blynyddoedd cynnar ar gyfer SLCN i’w groesawu, mae pryderon o hyd am blant yn yr YJS na chawsant eu hadnabod yn gynt drwy’r llwybr atal.
  • Roedd darpariaeth iaith a lleferydd yr YJS yn amrywiol ac wedi’i ariannu drwy’r Grant Craidd Cyfiawnder Ieuenctid neu gyllid partneriaeth. Tynnwyd sylw nad oedd darpariaeth neilltuol gan yr YJS ar gael yng Ngogledd Cymru na Bro Morgannwg. 
  • Roedd yn bwysig i wasanaethau fod wedi eu gwreiddio yn y YJS er mwyn cefnogi plant pan oeddent yn y System Cyfiawnder Ieuenctid, ac wedyn hefyd. Byddai hyn yn helpu i hwyluso eu hymgysylltiad â gwasanaethau cyffredinol. 

Roedd adborth gan y Panel yn cynnwys:

  • Pwysigrwydd cynyddu’r gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Byrddau Iechyd a’r YJS a chynnwys yr YJS mewn ymgynghoriadau perthnasol.
  • Roedd y ddarpariaeth SLCT yn anghyson ar draws y Byrddau Iechyd, yn ogystal ag ar draws Cymru. 
  • Pwysigrwydd ehangu ymarfer SLCT yn yr YJS fel y gallai therapyddion addasu eu dull o weithio fel bo angen ac argymell dulliau eraill o ddarparu ymyriadau, fel cymhorthion gweledol a dogfennau hawdd darllen. 
  • Er bod y targed atgyfeirio 14 wythnos ar gyfer SLCN efallai wedi’i gwrdd, nid oedd ôl-ddilyn ymyriadau efallai mor amserol. 
  • Mae tystiolaeth arolygiadau HMIP wedi adnabod canlyniadau gwell i blant lle’r oedd therapyddion SLCT wedi eu gwreiddio yn yr YJS. 
  • Roedd yn hanfodol sicrhau bod anghenion plant yn yr YJS yn cael eu cwrdd cyn pontio i’r system cyfiawnder oedolion.
  • Efallai nad yw’r cohort o blant sy’n aros am ddiagnosis Niwroamrywiaeth yn mynd i’r ysgol, neu efallai eu bod ar amserlen lai, sy’n gallu effeithio ar y llwybr i dderbyn asesiad diagnostig. 
  • Dylid ystyried anghydraddoldebau iechyd oherwydd gallai’r cohort o blant fod o gymunedau difreintiedig, cymunedau treftadaeth ethnig, yn enwedig o ystyried lefel yr anghymesuredd mewn rhai cymunedau.
  • Ni ddylai plant a phobl ifanc orfod bod mewn cysylltiad â’r YJS i dderbyn yr ymyriadau a’r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt.
  • Dylid cydnabod rôl gwasanaethau cyffredinol, yn enwedig gwaith ieuenctid cyffredinol. 

Croesawodd MB yr adborth gan y Panel a chytunodd i godi’r heriau gyda SLCN yn ei gyfarfod gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol y proffesiynau AHP a Gwyddor Gofal Iechyd. Cytunodd MB ac EW i gael trafodaethau pellach gyda JW i ystyried atebion posib ar gyfer SLCN ac i adrodd yn ôl i gyfarfod mis Ebrill o’r Panel. 

Pwynt gweithredu 1: MB i godi’r heriau gyda SLCN yn ei gyfarfod nesaf gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol y proffesiynau AHP a Gwyddor Gofal Iechyd.

Pwynt gweithredu 2: Cytunodd MB i gael trafodaethau pellach gyda JW i ystyried atebion posib ar gyfer SLCN ac i adrodd yn ôl i gyfarfod mis Ebrill o’r Panel. 

Diolchodd KP i bawb am eu cyfraniadau i wella dealltwriaeth o’r pynciau a drafodwyd a’r parodrwydd i ymgysylltu ymhellach. Gofynnodd KP i MD rannu papurau iechyd yr WYJAP gyda chydweithwyr Bwrdd Iechyd ehangach ac i rannu unrhyw adborth pellach gyda’r Panel. 

Pwynt gweithredu 3: MD i rannu papurau iechyd yr WYJAP gyda chydweithwyr Bwrdd Iechyd ehangach ac i rannu unrhyw adborth pellach gyda’r Panel. 

Mewn ymateb i’r her a godwyd gan GA ac RC na ddylai plant a phobl ifanc orfod bod mewn cysylltiad â’r YJS i dderbyn yr ymyriadau a’r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt, gofynnodd KP i EW adnabod yn Llywodraeth Cymru beth oedd y trefniadau llywodraethu o gwmpas plant a pha drafodaethau oedd yn digwydd am siwrne plentyn. 

Pwynt gweithredu 4: EW i adnabod yn Llywodraeth Cymru beth oedd y trefniadau llywodraethu o gwmpas plant a pha drafodaethau oedd yn digwydd am siwrne plentyn. 

Eitem agenda 3: blaenoriaethau eraill yr WYJAP

Rhoddodd ET ddiweddariad ar bartneriaeth Blaenoriaeth Strategol yr WYJAP gyda Phlismona. Papur 26 01 26 03 yr WYJAP. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys:.

  • Mae gan blismona yng Nghymru bortffolio Plismona Plentyn-Ganolog sefydledig ac mae noeth-chwilio plant yn un o’r prif feysydd blaenoriaeth i’r grŵp hwnnw. Cadeiryddion y grŵp hwn yw’r Dirprwy Brif Gwnstabl, Nicky Brian, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Eleri Thomas.
  • Mae’r Uned Cyswllt Heddlu hefyd wedi creu dangosfwrdd data ar gyfer y portffolio Plismona Plentyn-Ganolog, gyda ffocws ar stopio a chwilio. Mae hwn yn casglu data gan y pedwar heddlu yng Nghymru ar stopio a chwilio (gan gynnwys noeth-chwilio) a chaniatáu llywodraethu a chraffu canolog yn y portffolio Plismona Plentyn-Ganolog.
  • Sefydlwyd Grŵp Llywio wedi’i gyd-gadeirio gan PCC Dafydd Llewellyn a Paula Williams, Cyfarwyddwr Gweithrediadau YJB Cymru, i symud ymlaen gyda gweithredu’r gwaith ar Ddatrysiadau Tu Allan i’r Llys (OoCR).  

Ychwanegodd DT gynllun cerrig milltir dangosol wedi’i ddatblygu ar gyfer gwaith yr OoCR a fyddai’n cael ei rannu gyda’r Panel. 

Pwynt gweithredu 5: DT i rannu’r cynllun cerrig milltir dangosol OoCR gyda’r Panel. 

Rhoddodd MG ddiweddariad ar bartneriaeth blaenoriaeth strategol yr WYJAP gydag Addysg, papur 26 01 26 04 yr WYJAP. Yn ogystal â chynnwys y papur, ychwanegodd fod gwaith yn mynd rhagddo ar Brotocol Traws-Gymru ar Arfau mewn Ysgolion, gyda chyhoeddiad yn Chwefror 2026.

Gofynnodd KP i KD roi adborth o’r Fforwm Gwaharddiadau a Chadw diweddar. Eglurodd KD fod ffocws y Fforwm wedi bod ar effaith cyfraddau gwaharddiad uwch.  Datblygwyd canllawiau drafft i ysgolion gael gwella tryloywder, cysondeb a hygyrchedd ac i sicrhau bod rhieni’n cael eu cynnwys yn llawn. Roedd KD a KP wedi darparu adborth helaeth ar y canllawiau o safbwynt YJS, gan gynnwys iaith deall trawma a chadarnhaol, i sicrhau ei fod yn nodi pa gymorth sydd yn ei le i’r plentyn a’r teulu ehangach. Byddai cyfarfod olaf y Fforwm ym mis Chwefror yn rhoi cyfle i wneud sylwadau ar y canllawiau drafft diwygiedig a hefyd i adolygu’r codau presenoldeb i sicrhau bod ystod gywir o amgylchiadau’n cael eu cofnodi ar gyfer plant. 

Cyfeiriodd KP at bapurau gwybodaeth ym mhapur 26 01 26 05 yr WYJAP, Diweddariad ar Hybiau Dyfodol Ieuenctid yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a phapur 26 01 26 05 yr WYJAP, Diweddariad ar raglen Partneriaeth Atal Dyfodol Ieuenctid y Swyddfa Gartref (HO). Ychwanegodd SY fod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda DCMS a’r HO ar y ddwy raglen waith ac y byddai swyddogion o Lywodraeth y DU yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod o’r WYJAP yn y dyfodol i roi diweddariad pellach. 

Ychwanegodd PW fod Pennod Cymru canllawiau’r Bartneriaeth Atal wedi’i chylchredeg i bartneriaid gan gydweithwyr y HO am sylw. 

Pwynt gweithredu 6: Gwahodd cydweithwyr DCMS a HO i gyfarfod o’r WYJAP yn y dyfodol, y naill i roi cyflwyniad ar Hybiau Dyfodol Ieuenctid a’r llall ar Baneli Partneriaethau Atal.

Eitem agenda 4: diweddariad y weinyddiaeth gyfiawnder (Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid ac Arian Grant)

Dywedodd AW fod cyllid Rhaglen Turnaround wedi’i sicrhau am dair blynedd yn Lloegr, ac un flwyddyn wedi’i chadarnhau yng Nghymru yn amodol ar drafodaethau rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU ar ddatganoli a’r trefniadau ariannu. Byddai diweddariadau pellach yn cael eu rhoi ar ôl cwblhau’r trafodaethau rhyng-lywodraeth.  

Eitem agenda 5: cofnodion a phwyntiau gweithredu cyfarfod 20 Hydref 2025

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y pwyntiau gweithredu. 

O ran paragraff 4.5 yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf, gofynnodd KP i AW am ddiweddariad yn dilyn ei gynnig i gysylltu ag arweinwyr Plismona yng Nghymru i drafod a symud ymlaen ag argymhellion adroddiad thematig HMICFRS ar effeithiolrwydd troi plant ymaith o’r System Cyfiawnder Troseddol. Dywedodd AW fod Prif Arolygydd HMIP wedi adolygu holl argymhellion yr adroddiad thematig ac un maes yn gysylltiedig â’r gwaith oedd cynlluniau Llywodraeth y DU ar fod ym meddiant cyllyll, gyda Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo’r polisi a’r canllawiau. Cynigiodd DT gael trafodaeth â chydweithwyr y MoJ am droseddau cyllyll a’r cysylltiad â’r gwaith OoCR sy’n cael ei wneud yng Nghymru. 

Pwynt gweithredu 7: DT a PB i gyfarfod â’r MoJ i drafod polisi a chanllawiau ar fod ym meddiant cyllyll a’r cysylltiad â’r gwaith OoCR sy’n cael ei wneud yng Nghymru. 

Dywedodd KP wrth y Panel y byddai cofnodion 20 Hydref 2025 yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddai dolen yn cael ei hanfon allan i’r Panel.

Pwynt gweithredu 8: Dolen i gofnodion 20 Hydref yr WYJAP i’w hanfon allan i’r Panel.  

Eitem agenda 6: unrhyw fusnes arall

Dywedodd KP y byddai cyfarfod nesaf yr WYJAP ar 20 Ebrill 2026 am 11:00. Byddai’r cyfarfod yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb gydag opsiwn o ginio gweithio, gan annog yr aelodau i fynychu.