Neidio i'r prif gynnwy

Rhif: WG55272

Llywodraeth Cymru
Dogfen Ymgynghori
 

Trosedd Segura Llonydd: Canllawiau i awdurdodau lleol

Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2026
Camau gofynnol: Ymatebion erbyn: 4 Rhagfyr 2026

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ganllawiau arfaethedig i awdurdodau lleol ar ddatblygu camau gweithredu i fynd i'r afael â segura llonydd.  
 

Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 4 Rhagfyr 2026. Gallwch ymateb gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu gallwch lenwi'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad sy'n amgaeedig a'i dychwelyd drwy un o'r dulliau isod:

E-bost: polisiansawddaer@llyw.cymru 

Post: 
      
Polisi Ansawdd Aer 
Is-adran Diogelu'r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Mae fersiynau print bras, Braille ac ieithoedd eraill o'r ddogfen hon ar gael ar gais.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Is-adran Diogelu'r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: polisiansawddaer@llyw.cymru.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac am unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â hwy neu sy'n cynllunio ymgyngoriadau yn y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, yna gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, nodwch hynny wrth i chi ddychwelyd eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data
  • (o dan amgylchiadau penodol) i ofyn i'ch data gael eu 'dileu’
  • i (o dan rai amgylchiadau) gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod: 

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Cefndir

Mae segura llonydd, sef yr arfer o adael injan yn rhedeg pan nad yw cerbyd yn symud, yn cyfrannu'n ddiangen at lygredd aer a sŵn. Mae hefyd yn gwastraffu tanwydd ac yn cynyddu costau i yrwyr.

Gall segura fod yn bryder penodol mewn rhai lleoliadau, fel y tu allan i ysgolion neu leoliadau gofal iechyd lle gall pobl agored i niwed, gan gynnwys plant, pobl ifanc a phobl hŷn, ddod i gysylltiad anghymesur ag allyriadau cerbydau. Mewn ymateb i hyn, yn 2026 cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru ddeddfwriaeth a wnaeth gynyddu swm y gosb benodedig am droseddau segura llonydd a'i gwneud yn bosibl i fesurau gorfodi dargedu ‘mannau problemus’ hysbys a mannau lle byddai segura yn effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth o gamau i godi ymwybyddiaeth o'r niweidiau posibl sy'n gysylltiedig â segura llonydd ac annog gyrwyr i beidio â segura pan fydd cerbydau wedi stopio. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu cenedlaethol a chanllawiau i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu strategaethau lleol cadarn i newid ymddygiad.

Rydym yn rhoi blaenoriaeth i gefnogi ac annog gyrwyr i ddiffodd injan eu cerbydau drwy ymwybyddiaeth gynyddol, cydymffurfiaeth wirfoddol a negeseuon clir am fanteision gwneud hynny. Gall canolbwyntio ar atal drwy strategaethau codi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad helpu i leihau llygredd aer a sŵn.

Ein nod yw diogelu iechyd y cyhoedd a lleihau llygredd aer, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae pobl agored i niwed yn dod i gysylltiad fwyaf ag allyriadau cerbydau, megis o amgylch ysgolion, cartrefi gofal, a lleoliadau gofal iechyd.

Rydym yn cydnabod bod angen adnoddau priodol ar awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi pan fo angen. Ar 30 Medi 2026 bydd Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2026 (“Rheoliadau 2026”) yn dod i rym.

Mae Rheoliadau 2026 yn diwygio Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 drwy ddisodli swm presennol y gosb benodedig, sef £20 am drosedd segura llonydd, gydag ystod cosbau o £75 - £150 am droseddau segura llonydd. Mae'r ystod cosbau uwch yn adlewyrchu difrifoldeb yr effeithiau y gall allyriadau diangen o gerbydau eu cael ar iechyd y cyhoedd a'r bwriad yw y bydd yn fwy o ataliaeth i droseddu ac yn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol osod cosbau sy'n adlewyrchu amgylchiadau lleol.

Mae Rheoliadau 2026 yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol benderfynu naill ai gosod un gosb (o fewn yr ystod) ar gyfer pob trosedd segura yn eu hardal, neu ddefnyddio dull mwy strategol a chysylltu swm y gosb ag amgylchiadau'r drosedd. Mae'r ail opsiwn yn golygu y bydd gan awdurdodau lleol, am y tro cyntaf erioed yng Nghymru, y gallu i benderfynu y dylid cyflwyno cosb uwch pan gaiff troseddau segura eu cyflawni mewn ardaloedd penodol megis y tu allan i ysgolion.

Mae'n gywir o hyd mai dim ond mewn perthynas ag allyriadau y gellir cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r effeithiau posibl y gall llygredd sŵn eu cael ar lesiant pobl Cymru hefyd.

Felly, bwriedir i'r canllawiau drafft hyn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau cymesur ac effeithiol o fynd i'r afael â segura llonydd drwy addysg, gwaith ymgysylltu a mesurau gorfodi.

Drwy’r ymgynghoriad hwn rydym yn croesawu barn ar y canllawiau drafft.

Cefndir y Polisi

Roedd strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach, yn nodi llwybr 10 mlynedd i sicrhau aer glanach. Y bwriad oedd y byddai'r camau gweithredu yn mynd i'r afael â ffynonellau hysbys iawn o lygredd aer fel trafnidiaeth, diwydiant (gan gynnwys amaethyddiaeth), ac allyriadau o gartrefi a busnesau.

Ailbwysleisiodd Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021 i 2026 Llywodraeth flaenorol Cymru ymrwymiad y Llywodraeth ar y pryd i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.  

Cyflawnwyd yr ymrwymiad i ddeddfu a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu honno drwy gyhoeddi Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (“Deddf 2024”), sy’n darparu ystod o fesurau i gyfrannu at welliannau yn ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru. Roedd Deddf 2024 yn rhan hanfodol o'r pecyn o fesurau a nodwyd yn y Cynllun Aer Glân ac yn adeiladu ar ddeddfwriaeth bresennol yn y maes hwn.

Mae allyriadau trafnidiaeth yn gyfrifol am gyfran sylweddol o lygredd aer, gan gynnwys ocsidau nitrogen (NOx) a deunydd gronynnol sy'n cael effaith andwyol ar iechyd pobl. Roedd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 wedi cydnabod pwysigrwydd ein seilwaith trafnidiaeth wrth gysylltu pobl ac ysgogi twf economaidd. Mae gwella ansawdd aer a lleihau sŵn amgylcheddol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn ffocws gweithredu pwysig.

Mae Cynllun sŵn a seinwedd i Gymru 2023 i 2028 yn darparu ffordd o gefnogi amgylchedd sain iach. Mae'r ddogfen yn cynnwys uchelgais i sicrhau seinweddau priodol, sy'n golygu sicrhau'r amgylchedd sain cywir ar yr adeg gywir yn y lle cywir. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir ac yn cydnabod rôl y system gynllunio wrth helpu i leihau lefelau cysylltiad y boblogaeth â llygredd aer a sŵn. 

Canllawiau drafft

Roedd Datganiad o Fwriad y Polisi 2023 ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yn nodi'r bwriad i ddefnyddio pwerau llunio canllawiau presennol yn adran 88(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar segura llonydd. Nododd y Datganiad o Fwriad y Polisi mai bwriad y canllawiau fyddai helpu “awdurdodau lleol ar arfer eu swyddogaethau gwrth-segura i fynd i'r afael ag effeithiau cerbydau’n segura ar yr amgylchedd aer”.

Mae dwy swyddogaeth i'r canllawiau drafft yn yr ymgynghoriad hwn. Maent yn rhoi cyngor cyffredinol ac enghreifftiau i awdurdodau lleol ar sut y gallant ddatblygu a chyflwyno cyfathrebiadau a mentrau lleol i annog pobl i osgoi'r arfer o segura'n llonydd. Maent hefyd yn rhoi cyngor ar ddefnyddio pwerau gorfodi a ddarperir ar eu cyfer yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 (fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau 2026).

Mae'r canllawiau drafft yn egluro beth yw segura llonydd, yn trafod sut mae segura llonydd yn cyfrannu at lygredd aer a sŵn ac o dan ba amgylchiadau y gellir ystyried bod segura llonydd yn drosedd. Maent yn archwilio'r lleoliadau a'r rhesymau nodweddiadol dros segura llonydd, ac yn cynnwys deunydd cyfeirio defnyddiol sy'n tynnu sylw at ymgyrchoedd presennol, pecynnau cymorth, ac enghreifftiau o fentrau gwrth-segura cadarnhaol o bob cwr o'r DU a all fod yn ddefnyddiol pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried y dull gweithredu ar gyfer eu hardal.

Mae'r atodiadau'n cynnwys dolenni i adnoddau defnyddiol eraill, datganiad enghreifftiol i fusnesau ei ddefnyddio, a thempledi ar gyfer ymgyrchoedd ysgolion. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys ffurflen fel y gall awdurdodau lleol gyflwyno datganiad blynyddol ar y cosbau penodedig a gyflwynwyd ganddynt yn ystod y flwyddyn flaenorol. Nid oes dyletswydd ar awdurdodau lleol i gwblhau'r ffurflen hon ac mae'n gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, bydd y data yn cael eu defnyddio i ddeall sut mae pwerau gorfodi yn cael eu defnyddio'n ymarferol.

Pam rydym yn ymgynghori?

Rydym am  gasglu barn ar y canllawiau arfaethedig i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn darparu cyngor digon cyflawn a chynhwysfawr ar fynd i'r afael â phroblemau segura lleol.

Rydym yn croesawu barn gyrwyr a phobl nad ydynt yn gyrru. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan awdurdodau lleol, a gweithredwyr a chyrff gorfodi sifil, yn ogystal â sefydliadau sydd â diddordeb mewn mynd i'r afael â llygredd a gludir yn yr aer er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.

Cwestiynau

Rydym yn ceisio barn ar y cwestiynau canlynol. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wella'r canllawiau, cofiwch gynnwys y rhain yn y cwestiynau perthnasol isod.

Gellir cyflwyno ymatebion drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho fersiwn Word o'r ffurflen ymateb i'w chwblhau. Gwahoddir ymatebwyr hefyd i ddefnyddio'r adrannau sylwadau i roi awgrymiadau ar sut y gellid gwella'r canllawiau. Gallwch e-bostio ffurflenni ymateb wedi'u cwblhau i polisiansawddaer@llyw.cymru .

Amdanoch chi

Cwestiwn 1a

Nodwch ym mha rinwedd rydych yn cwblhau'r holiadur hwn. Gallwch ddewis mwy nag un opsiwn.

  • Gyrrwr
  • Unigolyn sydd ddim yn gyrru
  • Aelod o'r cyhoedd
  • Swyddog awdurdod lleol
  • Swyddog gorfodi
  • Ysgol/sefydliad addysg
  • Sefydliad iechyd/y GIG
  • Gweithredwr busnes/fflyd
  • Sefydliad cymunedol/gwirfoddol/trydydd sector (nodwch natur y sefydliad)
  • Arall (rhowch fanylion)

Cwestiwn 1b

Os gwnaethoch ddewis ‘Arall’, rhowch fwy o fanylion isod.

Addasrwydd y cyngor

Cwestiwn 2a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y canllawiau drafft yn darparu cyngor cynhwysfawr ar bob agwedd berthnasol ar fynd i'r afael â phroblemau segura?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 2b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Cwestiwn 3a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y canllawiau drafft yn ei gwneud yn bosibl i fynd i'r afael â phroblemau segura mewn ffordd gyson ledled Cymru?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 3b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Eglurder a dull gweithredu

Cwestiwn 4a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y canllawiau drafft yn annog dull cymesur wedi'i dargedu i fynd i'r afael â phroblemau segura? 

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 4b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Cwestiwn 5a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y canllawiau drafft yn gwahaniaethu'n glir rhwng amgylchiadau lle mae segura yn drosedd ac amgylchiadau lle nad yw segura yn drosedd?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 5b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Gweithredu a chyflawni

Cwestiwn 6a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y canllawiau drafft yn cynnwys manylion adnoddau defnyddiol i helpu i fynd i'r afael â segura?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 6b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Cwestiwn 7a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y cyngor o dan y pennawd 'Dulliau a negeseuon ymgyrchu' yn debygol o fod yn effeithiol?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 7b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Cwestiwn 8a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y canllawiau drafft yn darparu cyngor cynhwysfawr ac enghreifftiau y gellid eu defnyddio i annog pobl i newid eu hymddygiad?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 8b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Gorfodi 

Cwestiwn 9a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y canllawiau drafft yn darparu canllawiau defnyddiol i awdurdodau lleol pan fyddant yn defnyddio eu pwerau gorfodi?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 9b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Cwestiwn 10a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y canllawiau drafft yn esbonio'r broses orfodi yn glir?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 10b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Cwestiwn 11a

I ba raddau rydych yn cytuno bod y dylai gorfodi fod yn rhan o ddull gweithredu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â segura llonydd mewn ffordd gadarn?

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno 
  • Anghytuno'n gryf

Cwestiwn 11b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Strwythur

Cwestiwn 12a

Mae'r canllawiau hyn wedi'u datblygu ar gyfer awdurdodau lleol ac maent yn cynnwys cymysgedd o gyngor ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad a chanllawiau statudol ar orfodi. A allai'r cyngor a geir yn y canllawiau hyn fod yn ddefnyddiol i gynulleidfa ehangach, yn eich barn chi? 

  • Gallai
  • Na allai
  • Ddim yn siŵr

Cwestiwn 12b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb, gan gynnwys pa gynulleidfaoedd eraill y byddai'r cyngor yn ddefnyddiol iddynt yn eich barn chi.

Cwestiwn 13a

A ydych yn cytuno bod y cydbwysedd rhwng codi ymwybyddiaeth, newid ymddygiad a gorfodi yn briodol yn y canllawiau?

  • Ydw/Ydyn
  • Nac ydw/Nac ydyn
  • Ddim yn siŵr

Cwestiwn 13b

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Y Gymraeg

Cwestiwn 14

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau a'r cyngor ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Cwestiwn 15

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cyngor neu'r canllawiau drafft er mwyn:

  • cynyddu effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r iaith Gymraeg a sicrhau nad yw’n cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg; a/neu
  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg a sicrhau nad yw'n cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Defnyddiwch y gofod isod i esbonio eich ateb.

Arall

Cwestiwn 16

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw sylwadau perthnasol eraill ar y cyngor a'r canllawiau drafft ar fynd i'r afael â segura llonydd, nodwch hwy isod. Byddem yn awyddus i wybod ble y gellid gwella'r canllawiau.

Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor i bawb, a hoffai Llywodraeth Cymru glywed gan unrhyw un sydd am gynnig barn ar y canllawiau drafft.

Diolch am roi o'ch amser i rannu eich barn ar y mater hwn.