Cyfarfod y Bwrdd Llywodraeth Cymru: 12 Mehefin 2026
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Andrew Goodall (Cadeirydd)
- Carys Williams
- Aled Edwards
- Mike Usher
- Judith Paget
- Emma Williams
- Jacqueline Totterdell
- Tracey Burke
- Andrew Slade
- Claire Bennett
- Nicola Edwards
- David Richards
- Dom Houlihan
- Dean Medcraft
- Nicola Williams
- Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur (TUS)
Yn mynychu
- Aled ap Dafydd
- Glyn Jones
- Peter McDonald
- Jo Salway
- Elin Burns
- Sinead Gallagher
- Tracey Breheny
Ymddiheuriadau
- Sioned Evans
- Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Ysgrifenyddiaeth
- Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
1. Croeso a materion cyfredol
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau gwrthdaro buddiannau. Nododd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal ar fformat mwy tebyg i weithdy nag arfer, er mwyn hybu trafodaeth onest ac eang ymhlith aelodau'r bwrdd a swyddogion cymorth.
1.2 Nododd y Cadeirydd fod Llywodraeth newydd Cymru eisoes wedi bod ar waith ers pedair wythnos, wedi cynnal pedwar cyfarfod Cabinet, ei bod ar ddiwrnod 25 o'r cynllun 100 diwrnod, ac wedi cwblhau dwy sesiwn o Gwestiynau Prif Weinidog. Disgrifiwyd bwrlwm yr wythnosau cynnar fel cyflym, gyda disgwyliadau cryf ar gyfer momentwm, cyflawni gweladwy ac ymateboldeb.
1.3 Nododd y Cadeirydd mai'r cyfarfod heddiw oedd y cyfarfod bwrdd olaf i Tracey Burke cyn iddi adael Llywodraeth Cymru. Diolchodd y Cadeirydd i Tracey am ei harweinyddiaeth, ei phroffesiynoldeb, ei hiwmor a'i chyfraniad sylweddol at Lywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach ar draws ystod o rolau.
1.4 Croesawodd y Cadeirydd Claire Bennett i'r Bwrdd a'i llongyfarch ar ei phenodiad yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol, Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd.
2. Y Gwasanaeth Sifil a Chefnogi'r Llywodraeth Newydd
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Aled ap Dafydd, Uwch Gynghorydd Arbennig y Prif Weinidog i'r cyfarfod a'i wahodd i fyfyrio ar rôl y gwasanaeth sifil wrth gefnogi'r llywodraeth newydd. Tynnodd Aled sylw at bwysigrwydd meithrin cysylltiadau adeiladu perthnasoedd a fyddai'n ddigon gwydn i ddelio â'r heriau anochel sydd o'n blaenau a nododd dair blaenoriaeth arweiniol: sef ffocws di-ildio ar flaenoriaethau'r Gweinidogion, sicrhau gwerth am bob punt sy'n cael ei gwario, a sicrhau bod canlyniadau'n ddiriaethol a bod modd cyfathrebu â'r cyhoedd yn eu cylch.
2.2 Dywedodd Aled fod y chwe maes blaenoriaeth a nodwyd cyn yr etholiad yn darparu ffocws a chysondeb i'r weinyddiaeth newydd. Pwysleisiodd hefyd rôl cynghorwyr arbennig fel cyswllt hanfodol rhwng y Gweinidogion a'r Gwasanaeth Sifil; byddai eu rôl yn cynnwys dehongli disgwyliadau'r Gweinidogion, cefnogi cyfathrebu a helpu i gysylltu â'r sefydliad. Nododd y Cadeirydd mai allwedd i'r berthynas yw'r angen i gynnal cyfathrebu agored, cyd-ymddiriedaeth a pharch, gyda'r ddwy ochr yn gallu herio yn adeiladol.
2.3 Trafododd y Bwrdd swydd newydd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad. Esboniodd Aled fod y weinyddiaeth newydd yn dymuno rôl weinidogol a allai ddod â gwaith ynghyd ar draws y llywodraeth, cadw ffocws ar gyflawni, ystyried problemau sy'n dod i'r amlwg a chefnogi ymagwedd sy'n cael ei sbarduno gan ddata at fewnwelediad a monitro cynnydd.
2.4 Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen am nodi risgiau cyflenwi yn gynnar yn hytrach nag ymateb pan fo problemau wedi dod yn acíwt yn unig. Roedd cefnogaeth i fwy o ddefnydd o ddata a thystiolaeth gadarn, gan gynnwys dangosfyrddau ac offer mewnwelediad. Tynnodd Nicola Williams sylw at bwysigrwydd cynnwys gwasanaethau cyfreithiol yn gynharach wrth ddatblygu polisi. Esboniodd fod ymgysylltiad diweddar ar draws gwasanaethau cyfreithiol wedi dangos awydd cryf i gefnogi'r gweinidogion a swyddogion yn fwy effeithiol, gan gynnwys drwy helpu i nodi atebion yn gynharach a chynghori ai deddfwriaeth oedd y llwybr cywir. Roedd diddordeb mewn darparu hyfforddiant a chymorth i staff newydd a chynghorwyr arbennig ar faterion cyfreithiol ailadroddus.
3. Myfyrdodau ar y Paratoadau ar gyfer Etholiadau'r Senedd
3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Judith Paget i fyfyrio ar y gwaith paratoi ar gyfer yr etholiad. Nododd Judith fod yr is-bwyllgor paratoi ar gyfer yr etholiad wedi cyfarfod 17 gwaith ac wedi clirio tua 107 o gamau gweithredu. Mae ymarfer gwersi a ddysgwyd wedi'i gynnal gydag adborth a gasglwyd o bob rhan o'r sefydliad. Mae'r adborth cychwynnol yn gadarnhaol ar y cyfan. Roedd yr is-bwyllgor paratoi ar gyfer yr etholiad yn werthfawr wrth ddarparu cydlyniad, goruchwyliaeth a llwybr clir ar gyfer datrys problemau. Cafodd cynhyrchion cyfathrebu, pecynnau tîm a deunyddiau ategol eu canmol, yn ogystal â lefel ac ansawdd yr ymgysylltu ar draws y sefydliad. Nodwyd rhai meysydd i'w gwella, gan gynnwys gwella sut i gael gafael ar ganllawiau, ac ystyried a ddylai grwpiau polisi gael eu cynnwys yn gynharach yn y dyfodol.
3.2 Adroddwyd bod y rhaglen sefydlu ar gyfer y Gweinidogion a chynghorwyr arbennig wedi mynd yn dda ac mae'r adborth ar y cynnwys, y fformat a'r defnyddioldeb wedi bod yn gadarnhaol. Nododd y Bwrdd nad oedd y lefel hon o ymsefydlu strwythuredig bob amser yn cael ei ddarparu mewn gweinyddiaethau eraill a'i bod wedi cael ei groesawu'n fawr.
3.3 Nododd y Cadeirydd y dylai'r Gwasanaeth Sifil gymryd hyder o'r adborth cadarnhaol. Roedd y sefydliad wedi dangos ei allu i ymateb yn gyflym ar ôl i'r portffolios gweinidogol, trefniadau'r swyddfa breifat a pheirianwaith newidiadau llywodraeth gael eu cyhoeddi.
4. Ymateb i'r Cynllun 100 diwrnod
4.1 Rhoddodd Jo Salway yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr ymateb i gynllun 100 diwrnod y llywodraeth newydd. Mae Jo a'i thîm wedi cyfarfod â phob cyfarwyddwr a dirprwy gyfarwyddwr perthnasol sy'n gyfrifol am ymrwymiadau ac mae'r trafodaethau hyn wedi helpu i brofi rhagdybiaethau a deall cymhlethdodau ynghylch perchnogaeth a'r gallu i gyflawni'r ymrwymiadau yn y cynllun.
4.2 Roedd elfen gyfathrebu wedi'i hychwanegu at y cynllun fel y gellid ystyried cyflawni, amseru a negeseuon cyhoeddus gyda'i gilydd. Nodwyd bod y gyllideb atodol yn gyfle cyfathrebu pwysig ar gyfer ymrwymiadau y mae arnynt angen cyllid cyn y gellid cyflawni canlyniadau gweladwy.
4.3 Trafododd y Bwrdd yr angen i ddefnyddio'r cynllun 100 diwrnod yn sylfaen ar gyfer gweddill tymor y Llywodraeth ac fe dynnodd sylw at yr angen i sicrhau bod monitro yn canolbwyntio ar ganlyniadau, cerrig milltir a mesurau ystyrlon yn hytrach na gweithgarwch prosesu yn unig.
5. Gweithgareddau ailosod – Pobl a diwylliant
5.1 Rhoddodd Dom Houlihan ddiweddariad ar waith ailosod o safbwynt pobl a diwylliant sefydliadol. O safbwynt pobl, nodwyd tair thema ailadroddus: sef datblygu cynllun cliriach, fforddiadwy a chynaliadwy i'r gweithlu; cynyddu hyblygrwydd ac ystwythder ar draws adnoddau; a manteisio i'r eithaf ar ffyrdd o weithio.
5.2 Roedd gwaith ar allu sefydliadol yn cynnwys datblygu golwg sengl ar gostau sefydliadol, deall gwir gostau staff a ariennir gan raglenni ac egluro sut y byddai meysydd gwasanaethau corfforaethol yn ymateb i flaenoriaethau'r Llywodraeth. Roedd y Grŵp Effeithiolrwydd Gweithredol wedi bod yn datblygu cynlluniau busnes a blaenoriaethau ar gyfer y 12 i 18 mis nesaf fel y gallai'r swyddogaeth gwasanaethau corfforaethol nodi'r hyn y byddai angen ei arafu neu ei gyflymu mewn ymateb i flaenoriaethau'r Llywodraeth.
5.3 Nododd Dom fod pwysau ariannol yn dal yn sylweddol. Ni fyddai cau'r bylchau ariannol presennol ond yn galluogi'r sefydliad i sefyll yn ei unfan yn hytrach na buddsoddi. Roedd hyn yn gwneud blaenoriaethu a dewisiadau ynghylch gallu sefydliadol yn bwysicach.
5.4 O ran galluogrwydd, rhoddodd Dom yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am strategaeth dalent ar ei newydd wedd, gan gynnwys buddsoddi mewn prentisiaethau, y cynllun carlam a chynlluniau eraill. Tynnwyd sylw at alluogrwydd o ran y Gymraeg fel mater o bwys, gyda gwaith ar y gweill i wella gallu meysydd busnes i weithredu drwy'r Gymraeg, yn ogystal â chynyddu'r capasiti cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
5.5 O ran diwylliant, trafododd y Bwrdd reoli perfformiad, disgwyliadau a ffyrdd o weithio. Mae gweithio'n glyfar yn dal yn broblem: nid yw'r sefydliad yn bodloni ei ddisgwyliad presennol o 40% ar gyfer presenoldeb yn y swyddfa yn gyson.
6. Ailosod – gweithio'n ddwyieithog
6.1 Cynigiodd Elin Burns ei myfyrdodau fel Prif Berchennog Cyfrifol am weithio'n ddwyieithog yng nghyd-destun diwygio'r Senedd a'r weinyddiaeth newydd. Tynnodd Elin sylw at waith cyflym rhwng mis Hydref 2025 a mis Mai 2026 i ddeall galluogrwydd o ran y Gymraeg, profi gwahanol ffyrdd o weithio, treialu technoleg ac ystyried goblygiadau sefydliadol tymor hwy. Thema allweddol sy'n dod i'r amlwg o'r gwaith yw'r angen i symud i ffwrdd o weld gallu o ran y Gymraeg fel mater du a gwyn, sef a yw cydweithwyr yn gallu siarad Cymraeg neu beidio. Yn hytrach, dylid ystyried bod cydweithwyr yn perthyn i sbectrwm o allu, gan gynnwys siaradwyr hyderus, dysgwyr, siaradwyr goddefol a'r rhai sy'n deall Cymraeg ond y mae'n well ganddynt ymateb yn Saesneg.
6.2 Trafododd y Bwrdd y cydbwysedd rhwng ehangu gwasanaethau cyfieithu a chynyddu hyder sefydliadol. Mae gwasanaethau cyfieithu yn dal yn angenrheidiol, ond mae rhaid symud yn y tymor hwy tuag at fwy o hyder, galluogrwydd ac arweinyddiaeth wrth weithredu'n ddwyieithog. Roedd gan uwch arweinwyr rôl bwysig wrth fodelu defnydd o'r Gymraeg a chreu amgylchedd lle'r oedd newid rhwng Cymraeg a Saesneg yn normal ac yn dderbyniol.
6.3 Cydnabu'r Bwrdd ddimensiwn emosiynol iaith, ac efallai y bydd rhai cydweithwyr yn pryderu nad yw eu Cymraeg yn ddigon da, tra gallai siaradwyr Cymraeg rhugl boeni bod disgwyl iddynt gyfieithu neu gario'r baich dros eraill. Cydnabu'r Bwrdd yr angen am arweinyddiaeth sy'n hybu hyder, cynhwysiant a rhannu cyfrifoldeb.
6.4 Nododd y Bwrdd yr angen i gytuno ar gynnig gwasanaeth realistig gyda'r Gweinidogion wrth gefnogi'r daith tymor hwy tuag at weithio mwy dwyieithog.
7. Ailosod - Blaenoriaethu
7.1 Rhoddodd Peter McDonald drosolwg o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i edrych ar flaenoriaethu cyn y Rhaglen Lywodraethu newydd. Nododd y Bwrdd fod blaenoriaethu yn her sefydliadol ganolog ac fe gydnabu fod sefydliad wedi bod yn well yn hanesyddol am nodi blaenoriaethau nag am ddadflaenoriaethu gwaith. Nododd y Bwrdd nad yw dadflaenoriaethu yn fater syml o stopio gwaith yn unig; gallai olygu hefyd wneud llai, gwneud gwaith yn wahanol neu ddirwyn gweithgarwch i ben mewn ffordd reoledig i osgoi risg ddiangen. Tynnodd y Bwrdd sylw at mor bwysig ydyw bod yr holl staff yn cefnogi'r agenda flaenoriaethu a datblygu diwylliant sefydliadol i gefnogi'r gweithgarwch.
7.2 Dywedodd Peter mai'r cynnig ar unwaith yw defnyddio'r cynllun 100 diwrnod fel cyfle i baratoi pecyn o ddewisiadau ail-flaenoriaethu angenrheidiol, fel y gallai'r Ysgrifennydd Parhaol drafod y dewisiadau â'r gweinidogion fel cynnig cydlynol. Byddai'r Rhaglen Lywodraethu yn gofyn am ddull mwy systematig, gan gynnwys blaenoriaethu rhwng grwpiau.
8. Ailosod - Digidol/AI
8.1 Rhoddodd Glyn Jones ddiweddariad ar ddigidol ac AI. Mae'r ddau faes yn cael eu symud ymlaen o dan yr agenda ailosod: sefydlu hyrwyddwyr AI ar draws y sefydliad a sicrhau bod offer AI ar gael yn ddiogel ac yn foesegol. Byddai gwaith hyrwyddwyr AI yn adeiladu ar y rhwydwaith presennol o hyrwyddwyr digidol. Roedd yr Is-bwyllgor Effeithiolrwydd Gweithredol wedi cytuno y dylai fod un hyrwyddwr AI ym mhob cyfarwyddiaeth ac un ym mhob proffesiwn, gyda'r rôl yn cael ei chydnabod fel cyfrifoldeb corfforaethol ac yn cael ei adlewyrchu yn amcanion staff.
8.2 Dywedodd Glyn fod Copilot Chat ar gael i'r holl staff, tra bo Microsoft 365 Copilot trwyddedig ar gael i staff sydd wedi cael trwyddedau. Mae tua 2,200 o drwyddedau yn cael eu defnyddio, er bod rhai pryderon nad yw pob un yn cael ei defnyddio'n llawn.
8.3 Trafododd y Bwrdd y cyfleoedd a'r risgiau a achosir gan asiantwyr Copilot a thynnodd sylw at bwysigrwydd datblygu diwylliant ar draws y sefydliad lle mae datrysiadau digidol ac AI yn cael eu hystyried yn gynnar yn yr holl waith datblygu polisi a datrysiadau. Dywedodd Glyn fod asiantwyr yn dod i'r amlwg ar draws y sefydliad a gallent gefnogi meysydd megis busnes y llywodraeth ond cydnabu eu bod yn codi risgiau ynghylch rheoli gwybodaeth a pherchnogaeth, llwybrau archwilio aneglur, costau talu wrth fynd a'r her o ehangu arloesiadau lleol mewn gwasanaethau sefydliad cyfan. Mae model cryfach ar gyfer gwasanaethau yn cael ei ddatblygu fel y gellir creu a rheoli asiantwyr mewn ffordd fwy diogel a chyson.
8.4 Y nod tymor hwy yw sefydlu amgylchedd sy'n ddiogel yn dechnegol ar gyfer defnyddio AI. Byddai hyn yn caniatáu i offer sydd wedi'i ddatblygu yn lleol ac o bosibl offer o Lywodraeth y DU neu rywle arall, gael ei ddefnyddio'n ddiogel ac am well gwerth na dibynnu ar gynhyrchion masnachol trwyddedig yn unig. Nododd y Bwrdd fod y gwaith yn gymhleth yn dechnegol ac yn symud yn gyflym. Nododd y Bwrdd hefyd yr angen tebygol am hyfforddiant AI pellach a phwysigrwydd sicrhau bod AI yn cefnogi gweithio dwyieithog yn briodol.
9. Ailosod - Busnes y Llywodraeth
9.1 Rhoddodd Tracey Breheny yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd ar raglen gwella busnes y llywodraeth. Mae busnes y llywodraeth (gan gynnwys gohebiaeth, cwestiynau ysgrifenedig a llafar a busnes y Senedd) yn rhan greiddiol o waith y sefydliad a nododd Tracey fod maint a chymhlethdod busnes y llywodraeth wedi cynyddu'n sylweddol.
9.2 Dywedodd Tracey fod rhaglen fusnes y llywodraeth yn anelu at wella cysondeb, ansawdd ac effeithlonrwydd ar draws grwpiau. Roedd y gwaith wedi'i lywio gan drafodaethau gyda Chyfarwyddwyr Cyffredinol a phenaethiaid timau busnes y llywodraeth. Mae nifer o offer digidol wedi'i ddatblygu, gan gynnwys dangosfwrdd busnes y llywodraeth a lansiwyd ar 30 Ebrill. Byddai'r cam nesaf yn canolbwyntio ar ymgorffori'r defnydd o'r offer a chreu grŵp ansawdd a dysgu trawslywodraethol parhaol.
10. Unrhyw fater arall
10.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.
