Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad sy’n gofyn am farn ar ganllawiau ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wedi cael ei lansio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymgynghoriad sy’n gofyn am farn ar ganllawiau ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wedi cael ei lansio.

Bydd yr ymgynghoriad, a fydd ar agor am 12 wythnos, yn helpu i lunio’r canllawiau i gefnogi ysgolion i ddatblygu polisi ffonau symudol.

Bydd y canllawiau newydd hyn yr ymgynghorir arnynt yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2027. Fe’u datblygwyd mewn ymateb i bryderon cynyddol am yr effaith y mae’r defnydd o ffonau symudol yn ei chael ar lesiant, ymgysylltiad, dysgu ac ymddygiad dysgwyr, wrth gydnabod y rôl bwysig y gall technoleg ddigidol ei chwarae mewn addysg pan gaiff ei defnyddio mewn ffordd briodol.

Bydd ‘Datblygu polisi ffonau symudol: canllawiau i ysgolion’ yn darparu mwy o eglurder a chysondeb ledled Cymru. Bydd yn helpu ysgolion i ddatblygu a gwella eu polisïau ffonau symudol, gyda’r disgwyliad bod y defnydd o ffonau symudol yn cael ei gyfyngu yn ystod y diwrnod ysgol, wrth ganiatáu i ysgolion fod yn hyblyg ac ymateb i’w hamgylchiadau lleol.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:

Roedd Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf yn cynnwys ymrwymiad clir i weithredu ar y mater o ddefnydd ffonau symudol mewn ysgolion. Rwy’n cefnogi’n llawn, ac yn annog yn gryf, gyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar ddefnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, hyd at ac yn cynnwys cyfyngiad llwyr ar draws safle’r ysgol. Mae’r effaith y gall ffonau symudol, cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ehangach ei chael ar lesiant, ymddygiad a phrofiadau dysgu yn sylweddol, ac mae ysgolion a theuluoedd wedi codi pryderon dilys am dynnu sylw yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd y canllawiau hyn yn darparu cyfeiriad cenedlaethol clir ac yn galluogi ysgolion i ddatblygu polisïau cadarn, sy’n gyson ledled Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i ysgolion, rhieni, dysgwyr a rhanddeiliaid sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac i lunio’r canllawiau newydd i sicrhau eu bod yn ymarferol ac yn effeithiol.