Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ganolog i bopeth rydym yn anelu at ei gyflawni ym myd addysg. Dyma sylfeini dysgu, gwaith a bywyd yn gyffredinol. Felly, maent yn rhan annatod o'n rhaglen lywodraethu a'n gweledigaeth ar gyfer system addysg y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddi.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw safonau llythrennedd a rhifedd cystal ag y dymunir. Yn ôl y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA), mae dysgwyr yng Nghymru yn perfformio'n sylweddol is ar gyfartaledd na dysgwyr mewn gwledydd tebyg eraill, ac ni all – ac ni chaiff – y sefyllfa barhau.

Mae'n bwysig pwysleisio nad bai ysgolion nac athrawon yw hyn. Rydym wedi etifeddu system addysg nad yw'n ddigon clir na chydlynol, ac nad oes iddi gyfeiriad pendant. Mae cyfnod estynedig o ddiwygio wedi gadael ei ôl, ac mae'r ffocws ar lythrennedd a rhifedd wedi pylu. Mae ysgolion hefyd yn wynebu'r pwysau rydym yn eu gweld yn y gymdeithas ehangach. Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw ac mae mwy o blant yn wynebu problemau o ran eu llesiant meddyliol ac emosiynol. Mae hyn oll yn cynyddu'r heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu bob dydd.

Mae'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn gam cyntaf pwysig tuag at ddatblygu system addysg deg sy'n gweithio dros bawb. Mae'n ymwneud â gosod disgwyliadau clir ar gyfer gweithredu, gwneud rolau a chyfrifoldebau yn weladwy a dod â phobl a sefydliadau ynghyd mewn ffyrdd sy'n eu galluogi i fanteisio i'r eithaf ar ei gilydd.

Mae'n fwriadol ailadroddus a bydd yn cael ei adolygu a'i werthuso'n barhaus, yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o ran yr hyn y mae data – a'r ecosystem addysg ehangach – yn ei ddweud wrthym. Bydd y dull cyfannol newydd hwn yn datblygu wrth inni feithrin dealltwriaeth gliriach o'r hyn sydd angen inni ei wneud nesaf dros amser. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigamsyniol bod angen gwelliannau.

Mae'r Cynllun yn egluro'r 5 sylfaen a fydd yn sbarduno deilliannau gwell i ddysgwyr. Credwn fod rhieni a gofalwyr, ymarferwyr y blynyddoedd cynnar (0 i 3), athrawon ac ymarferwyr addysg (3 i 16), arweinwyr ysgolion a lleoliadau a phartneriaid cymorth yn chwarae rôl ganolog o ran datblygiad llythrennedd a rhifedd, ar draws yr ystod oedran.

Ond ni allant weithio yn annibynnol ar ei gilydd – rhaid i’r 5 sylfaen gydweithio, fel elfennau hanfodol, er mwyn inni gyflawni ein nodau cyffredin i godi safonau, hybu dyheadau a gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Rydym yn gryfach gyda'n gilydd ac yn credu'n gryf yn egwyddor cydgyfrifoldeb.

Felly hefyd rydym yn credu ym mhotensial trawsnewidiol ein Cwricwlwm i Gymru. Er ein bod wedi ymrwymo i adolygu'r cwricwlwm ac yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut y gallem gryfhau a gwella'r hyn rydym wedi ei ddatblygu dros amser, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w egwyddorion sylfaenol a'i gyfeiriadedd sy'n seiliedig ar bwrpas. 

Rydym yn sylweddoli y gall rhai ystyried bod cyflwyno Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn mynd yn groes i hanfod y Cwricwlwm i Gymru. I'r gwrthwyneb, rydym am fod yn gwbl glir ein bod o'r farn ei fod yn hanfodol i wireddu ein huchelgais yn llawn. Mae llythrennedd a rhifedd yn cynnig porth i'r cwricwlwm, ac mae'r cwricwlwm ei hun yn dibynnu ar ddysgwyr sy'n gallu defnyddio iaith a rhif yn hyderus.

Rydym yn llywodraeth newydd sydd ag uchelgais newydd ac ni wnawn ymddiheuro am bennu disgwyliadau uchel. Mae Cymru yn genedl addysgu falch y mae ei hanes cyfoethog wedi'i lywio gan weithlu medrus a chymdeithas ddinesig feddylgar. Wrth lansio'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i'r egwyddorion hyn, sy'n hanfodol i bopeth rydym yn ceisio ei gyflawni.

Mae codi safonau yn gyfrifoldeb ar y cyd sy'n gofyn am ddull cydweithredol amlasiantaethol a thrawsadrannol, gan gynnwys Addysg Gynradd ac Addysg Uwchradd; Sgiliau ac Addysg Drydyddol; Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol; a Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a'r Gymraeg. Mae angen camau gweithredu cydgysylltiedig gan amrywiaeth o wasanaethau i fynd i'r afael â'r problemau y mae ein plant yn eu hwynebu, ac nid ydynt yn fater i ysgolion yn unig. Mae'n bwysig bod y llywodraeth hefyd yn gwneud y defnydd gorau o'i hadnoddau drwy weithio ar draws ffiniau.

Er mwyn y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol, mae'n ddyletswydd arnom i wneud pethau'n iawn ym maes llythrennedd a rhifedd – ac mae gan bob un ohonom rôl bwysig i’w chwarae. Bydd angen ymdrech tîm i wireddu'r uchelgais hon, ac mae angen eich help chi arnom.

Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Cefin Campbell, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
 

Yr achos dros newid

Mae deilliannau addysgol yng Nghymru ym maes llythrennedd a rhifedd wedi bod yn heriol ers blynyddoedd lawer ac maent yn dal i beri pryder. Mae canlyniadau PISA 2025 yn dangos bod 31% o ddysgwyr islaw lefel hyfedredd sylfaenol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o ran darllen a bod 36% islaw'r lefel sylfaenol o ran mathemateg. Rydym wedi llusgo y tu ôl i weddill y DU a llawer o wledydd tebyg eraill y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn rowndiau PISA olynol. Yn 2025, ein dysgwyr â'r cyrhaeddiad uchaf 2 flynedd yn is na chyrhaeddiad eu cyfoedion yn Lloegr mewn darllen a mwy na 2 flynedd yn is mewn mathemateg. Yn yr un modd, roedd cyrhaeddiad ein dysgwyr gwannaf 2 flynedd yn is na chyrhaeddiad eu cyfoedion yn Lloegr mewn darllen a mwy na blwyddyn yn is mewn mathemateg. Mae data o'n hasesiadau personol yn dangos bod bylchau mewn cyrhaeddiad yn dod i'r amlwg ym Mlwyddyn 2 ac yn ehangu dros amser. Erbyn Blwyddyn 9, mae cyrhaeddiad dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim tua 3 blynedd yn is na chyrhaeddiad eu cyfoedion mewn darllen a thua 2 flynedd yn is mewn rhifedd.

Mae hwn yn fater sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn na ellir ei briodoli i un polisi, dull na chenhedlaeth benodol. Er gwaethaf ymroddiad ein gweithlu, mae gormod o blant yn gadael yr ysgol heb y sgiliau llythrennedd a rhifedd sy'n angenrheidiol i lwyddo yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae tegwch yn ganolog i hyn. Mae'r dystiolaeth yn glir; tlodi yw un o'r ffactorau pwysicaf ar gyfer rhagweld cyrhaeddiad addysgol o hyd. Gall orfodi rhwystrau sy'n effeithio ar ddatblygiad iaith, diddordeb mewn darllen, presenoldeb a llesiant. Gall y rhwystrau hyn barhau i lywio llwybrau pobl ifanc y tu hwnt i'r ysgol, gan effeithio ar eu cyfranogiad mewn dysgu pellach, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae amcangyfrifon dros dro yn awgrymu nad oedd bron 14% o bobl ifanc yng Nghymru rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn 2024, a bod dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn llawer llai tebygol na'u cyfoedion o symud ymlaen i addysg ôl-16. 

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant a chefnogi teuluoedd ledled Cymru, ac i gydnabod yn llawn effaith tlodi ar lesiant ac addysg, rydym yn datblygu strategaeth tlodi plant newydd, ar frys, yn seiliedig ar y dystiolaeth ryngwladol orau o'r hyn sy'n gweithio. Nod y strategaeth a'r camau gweithredu, y targedau a'r mesurau cysylltiedig fydd lleihau achosion ac effeithiau tlodi plant a rhoi cyfle i bob plentyn wireddu ei botensial yn llawn. Yn ogystal, rydym yn cymryd camau uniongyrchol i gynyddu incwm teuluoedd sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys datblygu Taliad Plant Cymru, Cynnal, ar frys, i ddarparu taliad wythnosol uniongyrchol i blant ifanc mewn teuluoedd sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, gan ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim a mynediad at ofal plant a ariennir ar yr un pryd.

Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod angen mwy o gydweithio ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus a thu hwnt i gefnogi ein plant i wireddu eu potensial. Mae angen cymorth drwy ddulliau amlasiantaethol cryf ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y sector iechyd a thu hwnt ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau, yn wynebu digartrefedd, neu'n delio â phroblemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Bydd ein gwaith drwy Ysgolion Bro a'n fframwaith ar gyfer presenoldeb, ymddygiad a llesiant yn helpu ysgolion wrth iddynt ganolbwyntio ar addysgu ein plant.

Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Erbyn diwedd tymor y Senedd hon, rydym am weld gwelliant parhaus o ran deilliannau llythrennedd a rhifedd ledled Cymru. Bydd llwyddiant yn golygu mwy o ddysgwyr yn gwneud cynnydd sicr, cyrhaeddiad gwell ar gamau dysgu allweddol ac anghydraddoldebau o ran cyrhaeddiad a chynnydd yn culhau dros amser. Bydd yn golygu mwy o ddysgwyr yn ennill cymwysterau perthnasol a chynnydd parhaus yng nghyfran y dysgwyr sy'n gadael addysg uwchradd yn siaradwyr Cymraeg annibynnol.

Fel egwyddor sylfaenol, rydym am i bob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd:  cyn yr ysgol a thrwy gydol ei daith dysgu. Dylai pob plentyn ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf, gan ei alluogi i wireddu ei botensial yn llawn. Mae pob plentyn yn golygu pob plentyn: ymestyn ein dysgwyr mwyaf abl a thalentog a rhoi'r cymorth angenrheidiol i ddysgwyr ag ADY a'r rhai y mae tlodi yn effeithio arnynt. Ni ddylai'r un plentyn gael ei adael ar ôl.

Byddwn yn mesur cynnydd drwy ddangosyddion cenedlaethol sydd wedi'u dylunio i olrhain safonau cenedlaethol dros amser a'n helpu i ddeall effaith y Cynllun hwn. Bydd y dangosyddion hyn yn creu llinell sylfaen gadarn i asesu ein cynnydd. Byddwn yn cyhoeddi targedau cenedlaethol ar gyfer dangosyddion allweddol. Lle mae tystiolaeth yn cefnogi hyn, byddwn yn cyhoeddi'r rhain nawr ac yn cyhoeddi targedau pellach pan fydd llinellau sylfaen wedi'u sefydlu. Nodir ein dull yn ‘Mesur Effaith’ ac ‘Atodiad C’.

Rydym eisiau i Ffoneg Synthetig Systematig gael ei ddefnyddio wrth ddysgu plant i ddarllen. Dylent ddysgu datgodio geiriau ochr yn ochr ag agweddau eraill ar ddysgu darllen. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth, a gyflwynir inni drwy ein Panel Arbenigol Llythrennedd. Bydd ysgolion yn addasu eu dulliau pan fydd plant yn ei chael hi'n anodd ymdopi, ac yn nodi rhwystrau i lythrennedd a rhifedd yn gynnar, a byddant yn cael eu cefnogi i ymateb. Mae Estyn yn cydnabod bod dulliau Ffoneg Synthetig Systematig yn elfen bwysig o addysgu darllen i ddysgwyr ym mhob ysgol brif ffrwd, ac mae ei ffocws estynedig ar arolygu darllen bellach ar waith. Rydym hefyd yn croesawu ei ffocws estynedig ar fathemateg o 2027 ymlaen.

Byddwn yn sicrhau sylfeini cadarn i bob plentyn, yn ogystal ag ymestyn ein dysgwyr mwyaf abl a thalentog. Mae hyn yn golygu gosod disgwyliadau uwch a sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel fwy cyson i bawb a chymorth amserol wedi'i dargedu'n well. Mae pob plentyn yn haeddu'r sylfaen gryfaf bosibl mewn llythrennedd a rhifedd. Mae hyn yn golygu cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), dysgwyr y mae tlodi yn effeithio arnynt a dysgwyr amlieithog y mae Cymraeg a Saesneg yn ieithoedd ychwanegol iddynt (CIY/SIY). 

Bydd ein dull yn cydnabod yr amrywiaeth eang o amgylcheddau dysgu sydd eu hangen i gefnogi plant: nid ysgolion yn unig, ond lleoliadau meithrin nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol. Am y rheswm hwn, wrth gyfeirio at y rhain i gyd, rydym yn cyfeirio at 'leoliadau addysg'. Mae'r cynllun hefyd yn cyfeirio at leoliadau gofal plant sy'n amgylcheddau hanfodol i ddatblygiad plant. 

Drwy Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, rydym hefyd yn mynegi ein huchelgais yn glir y dylai pob dysgwr allu defnyddio'r Gymraeg â hyder ac annibyniaeth gynyddol pan fydd yn gadael addysg. Mae gwireddu'r uchelgais hon yn dibynnu ar gydnabod bod dysgu'r Gymraeg yn rhan annatod o lythrennedd a chyfathrebu, yn hytrach nag yn ystyriaeth ar wahân mewn perthynas â'r cwricwlwm. 

Mae llythrennedd Cymraeg a Saesneg yn sylfeini pwysig iawn ar gyfer dysgu, cyfranogiad a chyflawniad. Er mwyn cyflawni'r nodau dysgu Cymraeg a nodir yn Neddf 2025, rhaid inni gryfhau disgwyliadau, arferion addysgu, dulliau asesu, adnoddau a dysgu proffesiynol ym mhob rhan o'r system addysg. Er mai addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o feithrin sgiliau dwyieithog cryf, mae Deddf 2025 yn darparu fframwaith deddfwriaethol sy'n galluogi pob ysgol i gynnig mwy o ddarpariaeth dysgu Cymraeg, felly mae'n rhaid integreiddio dysgu Cymraeg ym mhob rhan o'n dull o wella deilliannau i bob dysgwr.

Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, mae angen dull gweithredu ar y cyd, parhaus a hirdymor: mae camau clir y byddwn yn eu cymryd dros y 4 blynedd nesaf, ond er mwyn sicrhau llwyddiant parhaol bydd angen ffocws parhaus dros ddegawdau. Felly, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn nodi ein dyhead yn y tymor hwy a'r camau cydlynol y mae angen eu cymryd i'w wireddu. 

Sylfeini allweddol ar gyfer llwyddiant

Byddwn yn mabwysiadu dull system gyfan sy'n cydnabod yr holl bobl, gwasanaethau ac amgylcheddau sy'n llywio taith dysgwr. Mae cynnydd ym maes llythrennedd a rhifedd yn dibynnu ar bartneriaethau cryf ar draws y 5 sylfaen, y mae pob un ohonynt yn chwarae rhan benodol ond ategol i gefnogi plant a phobl ifanc i ffynnu. Mae'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn ffordd gwbl gyfannol o fynd i'r afael â mater sydd o'r pwys mwyaf i bob un ohonom.

Bydd angen partneriaeth wirioneddol genedlaethol a chynnwys pob rhanddeiliad allweddol i wireddu'r uchelgais hon. Ni all yr un sefydliad gyflawni'r newid rydym yn ceisio ei gyflawni ar ei ben ei hun. Felly, rydym wedi nodi 5 sylfaen allweddol y credwn eu bod yn allweddol i gryfhau llythrennedd a rhifedd plant:

  1. rhieni a gofalwyr
  2. ymarferwyr y blynyddoedd cynnar (0 i 3)
  3. athrawon ac ymarferwyr addysg (3 i 16)
  4. arweinwyr ysgolion a lleoliadau 
  5. partneriaid cymorth 

Ein rôl fel llywodraeth yw creu'r amodau i'r sylfeini hyn ffynnu: gosod disgwyliadau, rhoi arweinyddiaeth, darparu cymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hwyluso partneriaethau cryf sy'n galluogi'r rhai sydd agosaf at blant i wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Image
Pum sylfaen allweddol

Sylfaen 1: rhieni a gofalwyr

Egwyddorion

Caiff sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu eu cryfhau drwy ryngweithio, darllen, sgwrsio a chwarae bob dydd. Fel addysgwyr cyntaf plant, mae rhieni a gofalwyr yn llywio agweddau at ddarllen, iaith a rhifedd ac yn bartneriaid hanfodol wrth gefnogi dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Drwy gryfhau sgiliau a hyder rhieni a gofalwyr, a thrwy hyrwyddo dysgu oedolion, gallwn fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, torri cylchoedd anfantais a chreu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rhaid cefnogi teuluoedd ac mae'n bwysig bod gwybodaeth, cymorth, cyngor a chyfleoedd ar gael iddynt. Rydym yn ymrwymedig i Ysgolion Bro, sy'n helpu teuluoedd i chwarae rôl weithredol yn nysgu eu plant ac sy'n hanfodol i ddod â theuluoedd, ysgolion a gwasanaethau ynghyd. Mae rhaglenni ymyrryd yn gynnar ac atal, fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, yn nodi anghenion yn gynnar, yn rhoi cymorth ymarferol i deuluoedd ac yn meithrin hyder rhieni ac yn cryfhau gwydnwch. Gyda'i gilydd, mae'r dulliau hyn yn helpu i greu cartrefi ac amgylcheddau cymunedol meithringar sy'n cefnogi datblygiad plant ac yn eu galluogi i ffynnu. Maent yn gosod y sylfeini ar gyfer dysgu a llesiant plant a'u cyfleoedd yn y dyfodol, gan gefnogi'r Gymraeg fel rhan o ddarpariaeth gynhwysol, gymunedol ar yr un pryd.

Camau gweithredu

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • mynd ati yn ystod gwanwyn 2027 i ddatblygu adnoddau hygyrch yn Gymraeg, Saesneg a'r ieithoedd cymunedol a siaredir fwyaf er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut mae llythrennedd, mathemateg a rhifedd yn cael eu haddysgu mewn ysgolion a sut y gallant gefnogi'r dysgu hwn gartref (bydd hyn yn cynnwys cymorth i ddysgwyr dwyieithog a phlant ag ADY)
  • gweithio gydag Adnodd, drwy gydol tymor y Senedd, i ddatblygu a hyrwyddo adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cryfhau datblygiad iaith cynnar, llythrennedd a rhifedd o'r blynyddoedd cynharaf ac yn cefnogi teuluoedd i ddarllen gyda'i gilydd a meithrin hoffter gydol oes at ddarllen
  • gweithio gyda phartneriaid i feithrin hyder rhieni a gofalwyr wrth gefnogi mathemateg a rhifedd, gan ddysgu o'n grant 'Adeiladu cymunedau ysgolion sy'n hyderus o ran rhifau yng Nghymru' sydd ar waith tan 2028 i ddatblygu cymorth parhaus bellach
  • mapio data cyfredol ar Sgiliau Sylfaenol Oedolion ac ystyried datblygu dull cenedlaethol o gryfhau llythrennedd a rhifedd oedolion ledled Cymru, erbyn hydref 2027
  • cryfhau’r dull o ymdrin â dysgu i deuluoedd drwy ddod â phartneriaid ynghyd ym maes addysg, gofal plant, iechyd a gwasanaethau cymunedol, erbyn hydref 2027
  • drwy gydol tymor y Senedd, parhau i gefnogi'r broses o ddatblygu Ysgolion Bro, cryfhau gweithgarwch ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau a chefnogi datblygiad llythrennedd a rhifedd plant. Rydym wedi dechrau ar waith i ddatblygu rhaglen gofleidiol, gan archwilio'r ffordd y gellir cyfuno ffrydiau cyllido gwahanol i ategu amrywiaeth o ddulliau i gefnogi'r broses o ymgysylltu ag ysgolion yn well
  • drwy gydol tymor y Senedd, parhau i gefnogi teuluoedd ac ymarferwyr drwy ein rhaglenni a'n mentrau ymyrryd yn gynnar ac atal presennol, gan gynnwys dulliau sy'n ystyriol o drawma
  • gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu dulliau cydgysylltiedig sy'n gwella llesiant, presenoldeb a diddordeb dysgwyr mewn dysgu a threialu rhaglen gofleidiol newydd i gefnogi'r nodau hyn. Bydd y gwaith hwn yn dechrau yn ystod hydref 2026. 
  • drwy gydol tymor y Senedd, parhau i gynnig cyfleoedd i helpu teuluoedd a chymunedau i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg a chynnig mwy o gyfleoedd i ddysgu, defnyddio a mwynhau'r iaith mewn bywyd bob dydd, drwy adeiladu ar fentrau fel Cymraeg i Blant, Clwb Cwtsh a Cymraeg yn y Cartref.   

Nodau

Ein nod yw creu Cymru lle mae teuluoedd, cymunedau ac ysgolion yn cydweithio i wella sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu o'r blynyddoedd cynharaf ymlaen. Rydym am rymuso mwy o rieni a gofalwyr i ddarllen i'w plant a'u cefnogi a thrwy wneud hynny, chwarae rôl fwy gweithredol yn eu haddysg. Dylid meithrin a chryfhau llythrennedd a rhifedd plant yn barhaus drwy eu bywyd teuluol wrth inni geisio adfywio diwylliant hanesyddol Cymru o werthfawrogi addysg a'i lle mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol.

Sylfaen 2: ymarferwyr y blynyddoedd cynnar (0 i 3)

Egwyddorion

Caiff sylfeini llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu eu gosod ymhell cyn i blentyn ddechrau yn yr ysgol. Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol er mwyn mabwysiadu dull cyfannol o ddatblygu plant, gan gydnabod bod sgiliau cyfathrebu, iaith, llythrennedd a rhifedd yn datblygu drwy chwarae, cydberthnasau a phrofiadau bob dydd. Mae'n sicrhau bod cymorth ar gael cyn gynted â phosibl. Mae ehangu gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynnig gofal plant cyffredinol newydd yn tanlinellu pwysigrwydd datblygu sgiliau cymdeithasol ac addysgol yn gynnar ac yn cynnig cyfle sylweddol i gefnogi dysgu sylfaenol o oedran cynnar. 

Mae gan ymarferwyr y blynyddoedd cynnar gyda chymorth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar rôl hanfodol i'w chwarae i gefnogi datblygiad llythrennedd a rhifedd plant, drwy gynnig profiadau iaith cyfoethog, cydberthnasau cadarnhaol ac amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel. 

Camau gweithredu

Byddwn yn gwneud y canlynol: 

  • gweithio gyda Cwlwm, awdurdodau lleol, ysgolion a'r sector gofal plant a chwarae ehangach i hyrwyddo Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a chefnogi ymarfer cynhwysol sy'n gyfoethog o ran iaith ac sy'n cael ei arwain gan ddatblygiad plant yng Nghymru, drwy gydol tymor y Senedd 
  • datblygu, darparu a hyrwyddo adnoddau o ansawdd uchel sy'n meithrin dealltwriaeth ddyfnach o ddatblygiad plant ac yn helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol drwy chwarae, cyfathrebu a phrofiadau bob dydd, drwy gydol tymor y Senedd
  • gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a Cwlwm drwy gydol tymor y Senedd i ddarparu dysgu proffesiynol sy'n rhoi'r arbenigedd a'r hyder i ymarferwyr feithrin dysgu, llesiant a datblygiad plant (mae hyn yn cynnwys cymorth i greu amgylcheddau sy'n cynnig cyfleoedd chwareus i feithrin sgiliau iaith, dealltwriaeth fathemategol gynnar, chwilfrydedd a hoffter at ddysgu drwy chwarae), parhau i weithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch partner i ddatblygu adnoddau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys dulliau dwyieithog fel Prosiect Pengwin, i gryfhau'r broses o adnabod plant ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn gynnar, a'u cefnogi. Caiff Prosiect Pengwin ei gwblhau erbyn haf 2027 
  • drwy gydol tymor y Senedd, gweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Athrofa (o fis Awst 2027 ymlaen), Mudiad Meithrin, y Coleg Cymraeg a phartneriaid i gryfhau sgiliau Cymraeg y gweithlu gofal plant cyfan, gan feithrin hyder a gallu ymarferwyr i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a galluogi mwy o blant i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a pharhau i'w meithrin o'r blynyddoedd cynharaf ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg 

Nodau

Ein nod yw creu gweithlu hyderus, medrus a gwerthfawr ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy'n cefnogi datblygiad cyfannol plant ac sy'n gallu nodi rhwystrau a mynd i'r afael â nhw yn gynnar. O’r blynyddoedd cynharaf, rydym am i bob plentyn gael cyfleoedd cyfoethog i ddatblygu sgiliau iaith, cyfathrebu a rhifedd drwy chwarae. Mae hyn yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Drwy nodi achosion yn gynnar, darparu cymorth effeithiol a sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel, ein nod yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn gynnar, ehangu mynediad at brofiadau cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod plant yn barod i barhau i ddysgu a datblygu pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol. 

Sylfaen 3: athrawon ac ymarferwyr addysg (3 i 16)

Egwyddorion 

Drwy addysgu o ansawdd uchel, cydberthnasau cryf a ffocws clir ar gynnydd dysgwyr, mae athrawon ac ymarferwyr addysg (3 i 16) yn galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder. Mae llythrennedd a rhifedd yn gyfrifoldebau a rennir ym mhob rhan o'r cwricwlwm, sy'n golygu bod gan bob athro rôl i'w chwarae wrth sicrhau bod dysgwyr yn cryfhau'r sgiliau hyn ac yn eu cymhwyso mewn cyd-destunau ystyrlon.

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi ymroddiad parhaus y gweithlu addysg i'n dysgwyr, a'r pwysau y maent yn eu hwynebu o ran llwyth gwaith. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi ymarferwyr ac i weithio mewn partneriaeth â nhw, fel bod ganddynt yr adnoddau i wneud eu gwaith. Mae hyn yn cynnwys darparu manylion ac adnoddau cliriach a chynnig cyfleoedd o ansawdd uchel ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae Asesiad o'r Effaith ar y Gweithlu wedi'i ddatblygu ar gyfer y Cynllun, a byddwn yn ei adolygu'n fanwl wrth i'r Cynllun gael ei roi ar waith. Rhaid inni osod disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr, wedi'u cefnogi gan addysgu a dysgu o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chymorth amserol ac ymyriadau effeithiol. Mae hyn yn golygu cydnabod yr effaith y gall anfantais economaidd-gymdeithasol ei chael ar gynnydd a deilliannau. 

Y cam cyntaf i sicrhau addysgu o ansawdd uchel yw deall y dysgwyr. Rydym am i ymarferwyr ddefnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth ac adnoddau asesu i ddeall cryfderau, doniau, mannau cychwyn a lefelau ymgysylltu unigol dysgwyr â dysgu. Mae'r Safonau Proffesiynol ac Ymrwymiadau sy'n disgrifio'r sgiliau, y wybodaeth a'r ymddygiadau sy'n nodweddu ymarfer rhagorol ac yn cefnogi twf proffesiynol yn cefnogi hyn a bwriedir iddynt ddod yn rhan annatod o fywyd bob dydd yn yr ysgol neu'r lleoliad. Bydd y rhain yn disodli'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a byddant yn dod i rym ym mis Medi 2027. Rydym am iddynt ddefnyddio'r wybodaeth hon i wneud penderfyniadau proffesiynol gwybodus ynghylch ble mae plant arni yn eu dysgu a pha gymorth a her sydd eu hangen arnynt i ddatblygu ymhellach.  Rydym am i ymarferwyr gydweithio i rannu eu gwybodaeth a'u harferion asesu, gan eu galluogi i ddatblygu a gwella eu hymarfer a meithrin dealltwriaeth fwy cyson o ddisgwyliadau. Mae hyn oll yn helpu ysgolion i osod targedau ystyrlon ac uchelgeisiol i ddysgwyr sy'n adlewyrchu eu man cychwyn, eu hanghenion a'u cryfderau. Bwriedir i'n hadolygiad arfaethedig o'r cwricwlwm sicrhau mwy o eglurder i'r gweithlu addysg ac, o ganlyniad, gwella cydlyniant y cwricwlwm i ddysgwyr.

Camau gweithredu

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • rhoi canllawiau statudol clir a manwl sy'n nodi'r hyn y dylai plant ei ddysgu a phryd, o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer llythrennedd, mathemateg a rhifedd, yn unol â thystiolaeth ryngwladol, er mwyn cryfhau dulliau addysgu, dysgu a dealltwriaeth o gynnydd a helpu ymarferwyr i ymestyn y dysgwyr mwyaf abl drwy egluro'r camau nesaf yn glir (bwriedir cynnal ymgynghoriad yn ystod hydref 2026 a chyhoeddi'r canllawiau yn ystod gwanwyn 2027)
  • ymgorffori llythrennedd a rhifedd yn ein hadolygiad o'r cwricwlwm ehangach (byddwn yn dechrau'r adolygiad yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf). Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut rydym yn ymestyn ein dysgwyr mwyaf abl a chryfhau llythrennedd ariannol 
  • adolygu canllawiau Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau bod rôl a phwysigrwydd addysgu ffoneg synthetig systematig wrth ddysgu darllen yn ddigamsyniol, a bod y disgwyliad yn glir y dylai pob ysgol ddefnyddio ffoneg synthetig systematig fel rhan o’i dull o addysgu darllen (bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026)
  • datblygu dull addysgu mathemateg a rhifedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymgynghori arno a'i hyrwyddo, gan ddefnyddio tystiolaeth ryngwladol, arbenigedd ymarferwyr, ac argymhellion y Panel Arbenigol Rhifedd (bwriedir cynnal ymgynghoriad yn ystod haf 2027 a chyhoeddi'r dull addysgu yn ystod gwanwyn 2027)
  • adnewyddu’r Panel Arbenigol Llythrennedd a gweithio gydag ef i adeiladu ar egwyddorion presennol, gan sicrhau bod ein dull o ymdrin â llythrennedd yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael (bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026)
  • drwy gydol tymor y Senedd, ymgorffori a hyrwyddo Siarad gyda Fi, y Fframwaith Hyfforddi Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu ac adnoddau dysgu proffesiynol cysylltiedig i gryfhau dealltwriaeth o ddatblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu a gallu ymarferwyr i adnabod plant ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a'u cefnogi 
  • gweithio gyda Dysgu ac Adnodd, drwy gydol tymor y Senedd, i ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol ac adnoddau ar gyfer ymarferwyr, gan roi'r sgiliau iddynt ddeall a chefnogi datblygiad llythrennedd a rhifedd (bydd hyn yn cynnwys ffocws ar gefnogi dysgwyr ar adegau pontio allweddol, a chefnogi'r broses o addysgu llythrennedd a rhifedd ym mhob rhan o'r cwricwlwm, a bydd hefyd yn archwilio cymorth ymarferol i ymestyn y dysgwyr mwyaf abl a thalentog) 
  • Gweithio gyda Dysgu, Adnodd a CAL:ON o hydref 2026 ymlaen i adolygu a chryfhau'r ddarpariaeth ffoneg yn Gymraeg a Saesneg fel bod pob ysgol yn defnyddio ffoneg synthetig systematig yn effeithiol. Bydd hwn yn  sicrhau bod ymarferwyr yn meddu ar y sgiliau i gefnogi dysgwyr ar bob cam wrth iddynt ddatblygu sgiliau darllen, gan gynnwys dysgwyr hŷn y mae angen ymyrraeth ychwanegol arnynt, a chefnogi ymarferwyr i gyflwyno rhaglenni ffoneg yn effeithiol a chywir. Bydd hyn hefyd yn cynnwys canllaw ar ffoneg i ysgolion yng Nghymru (hydref 2026) a chanllaw cenedlaethol ar asesu llythrennedd, gan gynnig pecyn cymorth cyfannol i ysgolion i'w helpu i ddeall cynnydd dysgwyr ac ymateb i'w hanghenion (gwanwyn 2027).
  • gweithio gydag Adnodd, Dysgu a CAL:ON i ddatblygu dulliau, adnoddau a dysgu proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi dysgwyr mewn ysgolion dwy iaith a chyfrwng Cymraeg (yn ôl y diffiniad o ysgolion 'Dwy Iaith a 'Prif Iaith - Cymraeg' yn Neddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025) wrth iddynt symud o ddysgu darllen yn Gymraeg i ddysgu darllen yn Saesneg, gan adeiladu ar eu sgiliau llythrennedd presennol a meithrin dealltwriaeth o god yr wyddor Saesneg ar yr un pryd. Bydd y gwaith hwn yn dechrau yn ystod hydref 2026
  • pennu set o egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth y cytunwyd arnynt yn genedlaethol mewn perthynas â dulliau addysgu effeithiol i gefnogi plant a phobl ifanc 0 i 16 oed i gaffael a dysgu Cymraeg mewn gwahanol gategorïau iaith ysgolion fel y'u diffiniwyd yn Neddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, lleoliadau addysg a chyd-destunau dysgwyr (dechrau haf 2027) 
  • adeiladu ar Dyfodol Byd-eang, gan weithio gyda phartneriaid, Dysgu, Adnodd a CAL:ON i rannu enghreifftiau o ymarfer effeithiol gydag ymarferwyr er mwyn helpu dysgwyr i ddefnyddio a chryfhau eu sgiliau llythrennedd mewn ieithoedd rhyngwladol
  • sicrhau y caiff enghreifftiau o ymarfer effeithiol i gefnogi dysgwyr amlieithog y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt eu rhannu ledled Cymru drwy gyhoeddi ymchwil yn ystod hydref 2026 a gweithio gyda'n hawdurdodau lleol partner i ddatblygu dulliau a rennir wedi'u llywio gan y canfyddiadau hyn
  • Datblygu rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer llwybrau dysgwyr i'w chyflwyno yn ystod blwyddyn academaidd 2027 i 2028, gan ddod â'r elfennau cryfaf o Academi Seren a'r Rhaglen Ymestyn yn Ehangach, a ariennir ar hyn o bryd gan Medr, ynghyd mewn un cynnig cydlynol i ddysgwyr ledled Cymru. Bydd y rhaglen yn cefnogi ac yn ymestyn dysgwyr mewn ysgolion a cholegau, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu anfantais neu sy'n cael eu tangynrychioli, gan eu helpu i wireddu eu potensial, yn cynnwys symud ymlaen i addysg uwch yng Nghymru.
  • egluro'r broses o osod targedau unigol i ddysgwyr ym maes llythrennedd a rhifedd (hydref 2026, bydd hyn hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad o'r cwricwlwm)
  • gweithio gydag ymarferwyr, drwy gydol tymor y Senedd, i asesu ac olrhain effeithiau’r Cynllun hwn ar lwyth gwaith, gan sicrhau ein bod yn eu helpu i flaenoriaethu’n effeithiol

Nodau

Ein nod yw gweithlu addysg hyderus a medrus sydd wedi'i rymuso a all gefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym am weld ymarferwyr sydd â'r gallu i ddarparu disgwyliadau cyson uchelgeisiol, addysgu o ansawdd uchel, a chymorth amserol. Mae cryfhau hyder ac arbenigedd proffesiynol yn allweddol i hyn.

Sylfaen 4: arweinwyr ysgolion a lleoliadau 

Egwyddorion

Mae lleoliadau addysg effeithiol sy'n hunanwella yn hanfodol i sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel a bod pob plentyn yn cael y cymorth a'r her sydd eu hangen arno. 

Nid yw hyn yn fater i leoliadau addysg yn unig. Rhaid i'n cymorth fod yn glir, yn hygyrch ac yn gydgysylltiedig rhwng partneriaid, gan osgoi biwrocratiaeth a dyblygu.

Mae gwybodaeth asesu o ansawdd uchel yn hanfodol i helpu dysgwyr i wneud cynnydd. Mae angen yr adnoddau a'r wybodaeth asesu cywir ar arweinwyr ysgolion a lleoliadau i'w galluogi i olrhain cynnydd dysgwyr, nodi anghenion yn gynnar a rhoi cymorth priodol ar waith. Rydym am i ysgolion yn benodol gydweithio'n agos: gan weithio gyda'i gilydd i ddeall dysgu a safonau a rhannu gwybodaeth, tystiolaeth a dulliau effeithiol. 

Mae hyn yn bwysig ar bob cam dysgu, nid yn unig ar adegau pontio allweddol, ac mae angen i ysgolion gydweithio'n llorweddol ag ysgolion tebyg, yn ogystal ag yn fertigol â lleoliadau ar draws y continwwm dysgu. Mae hyn yn hanfodol fel bod disgwyliadau’n gyson heriol, yn realistig ac yn cael eu deall yn dda mewn ysgolion a rhyngddynt. Mae hefyd yn sicrhau bod plant yn cael y cymorth priodol wrth iddynt symud, rhywbeth y gwyddom y gall fod yn rhwystr allweddol i'w llythrennedd a'u rhifedd.

Mae gwybodaeth asesu hefyd yn ganolog i hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella. Mae angen i hyn gael ei ategu gan ddiwylliant o gydweithio: rydym am rannu ymarfer, gwahodd safbwyntiau ysgolion, lleoliadau a phartneriaid eraill a nodi a cheisio cymorth lle bo angen. Mae'r dull hwn yn ganolog i sicrhau bod gwybodaeth asesu yn arwain at welliant gwirioneddol ac ymarfer a deilliannau mwy cyson ledled Cymru.

Mae'r Llawlyfr Asesu Personol bellach yn nodi'n glir bod disgwyl i ysgolion rannu data asesu personol lle bydd hyn yn cefnogi cynnydd dysgwyr ac yn ysgogi gwelliant mewn ysgolion.

Camau gweithredu

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • datblygu sylfaen dystiolaeth a chynigion ar gyfer dealltwriaeth sylfaenol genedlaethol o lythrennedd a rhifedd plant pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol. Bydd y gwaith cwmpasu yn dechrau yn ystod hydref 2026
  • gweithio gydag awdurdodau lleol, o hydref 2026 ymlaen, i annog a chefnogi defnydd ehangach o’r cwricwlwm a'r trefniadau asesu a ddatblygwyd ar gyfer lleoliadau addysg feithrin a ariennir nas cynhelir fel rhan o'n dull dros dro o gryfhau ymarfer
  • gweithio gyda CAL:ON i hyrwyddo adnoddau sgrinio llythrennedd rhad ac am ddim sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n helpu i nodi anghenion dysgwyr yn gynnar, targedu cymorth yn effeithiol a gwella dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr dros amser ar draws lleoliadau addysg (ar gael nawr). Mae'r sgrinio yn cynnwys asesu sgiliau darllen geiriau a datgodio, gan gynnwys cymhwyso ffoneg, ochr yn ochr â sgiliau iaith lafar. Gall hyn helpu ysgolion i nodi a yw anawsterau darllen yn gysylltiedig â datgodio/ffoneg, deall iaith, neu'r ddau, a thargedu cymorth yn unol â hynny. Byddwn yn gweithio gyda Dysgu i wreiddio sgrinio ar gerrig milltir allweddol ar draws y system addysg, gyda'r nod o sefydlu dull cenedlaethol cyson a disgwyliad cenedlaethol maes o law. 
  • cyflwyno dangosydd sy'n gysylltiedig ag oedran Blwyddyn 6 ar gyfer darllen a rhifedd drwy asesiadau personol i gynnig pwynt cyfeirio cenedlaethol cyson ar gyfer cynnydd dysgwyr a chefnogi cyfnodau pontio effeithiol i'r ysgol uwchradd. Bydd y dangosydd cyntaf ar gael i ysgolion o fis Chwefror 2027 drwy'r system asesiadau personol cenedlaethol 
  • defnyddio'r Cod statudol i ddisgrifio gallu yn Gymraeg, gan ddarparu fframwaith a rennir ar gyfer cynnydd yn Gymraeg a chysoni asesiadau a chymwysterau er mwyn helpu i fonitro dysgu Cymraeg yn gyson ym mhob categori iaith ysgolion. Caiff y cod ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2027
  • sicrhau bod y canllawiau a'r cymorth presennol ar gyfer y cwricwlwm a gwella ysgolion yn nodi'n glir sut y dylai ysgolion ddefnyddio gwybodaeth asesu llythrennedd a rhifedd wrth hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026
  • archwilio’r posibilrwydd o greu fframwaith cyson i helpu dysgwyr i bontio rhwng ysgolion, yn enwedig o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd (Blwyddyn 6 i 7) fel bod ysgolion yn glir ynghylch cynnydd dysgwyr ac yn gallu nodi cymorth lle bo angen
  • rhoi canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n egluro'r broses ar gyfer gosod targedau ar gyfer gwella ysgolion (hydref 2026)
  • profi a mireinio’r canllawiau ar alluogi dysgu ar y cyd ag ymarferwyr cyn cyhoeddi canllawiau diwygiedig er mwyn helpu i gryfhau addysgu a dysgu sy’n briodol yn ddatblygiadol o 3 i 16 oed. Bydd y gwaith profi yn dechrau yn ystod hydref 2026 a bwriedir cyhoeddi'r fframwaith yn ystod haf 2027 
  • darparu ardal llyfrgell ym mhob ysgol gynradd erbyn 2030, gan gynnig lle pwrpasol i blant sy'n meithrin hoffter gydol oes at ddarllen yn Gymraeg a Saesneg. Dros y flwyddyn academaidd hon, byddwn yn datblygu cynigion manwl gan gynnwys sut y bydd ardaloedd llyfrgell yn cael eu diffinio, eu darparu a'u cefnogi. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol i asesu'r ddarpariaeth bresennol a lefel y buddsoddiad sydd ei angen, cyn bwrw ymlaen â'r broses gyflwyno.
  • parhau i ariannu'r Grant Datblygu Disgyblion sy'n helpu lleoliadau addysg ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gyrhaeddiad a wynebir gan ddysgwyr mewn tlodi a phlant sy'n derbyn gofal
  • o hydref 2026, bydd yr Adolygiad o Bolisi'r Grant Datblygu Disgyblion yn gwella'r ffordd rydym yn dyrannu ac yn ariannu'r Grant Datblygu Disgyblion, y ffordd rydym yn monitro'r defnydd a wneir ohono a'i effaith, a'r ffordd rydym yn gwerthuso llwyddiant cyllid grant; gan gynnwys o ran gwella canlyniadau rhifedd a llythrennedd
  • o hydref 2026, defnyddio ein Partneriaeth Lliniaru Effaith Tlodi a'n cynllun peilot Diogelu rhag Tlodi presennol i ystyried sut y gall ysgolion leihau'r rhwystrau i gyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â chostau, gan gynnwys: 
  • offer, deunyddiau dysgu, mynediad digidol, cludiant, gwisg ysgol, profiadau cwricwlwm a gwaith ehangach ar gyfranogiad gydag awdurdodau lleol er mwyn:
  • meithrin diwylliant agored, llawn ymddiriedaeth lle mae ysgolion yn cydweithio â'i gilydd a gyda'u hawdurdod lleol
  • galluogi ysgolion i rannu gwybodaeth a dulliau asesu er mwyn datblygu disgwyliadau a dealltwriaeth fwy cyson o gynnydd
  • meithrin cydgyfrifoldeb am nodi, rhannu ac ymateb i gryfderau, heriau a'r cymorth sydd ei hangen
  • monitro sut mae'r system yn rhannu gwybodaeth asesu ac ystyried newid deddfwriaethol os bydd anghysondebau'n parhau

Nodau

Ein nod yw defnyddio data yn fwy effeithiol, gan roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar arweinwyr i ddeall eu dysgwyr yn well a thargedu cymorth lle mae ei hangen. Rydym am weld diwylliant lle mae gwybodaeth berthnasol am blant yn cael ei rhannu rhwng lleoliadau fel nad yw'r ddealltwriaeth sy'n cael ei meithrin a'r cymorth sy'n cael ei ddatblygu o amgylch plentyn yn diflannu pan fydd yn symud. Rydym am weld lleoliadau addysg hyderus sy'n hunanwella, sy'n glir ac yn agored ynghylch eu cryfderau, eu heriau a'u blaenoriaethau, sy'n cydweithio ag eraill ac sy'n defnyddio data yn effeithiol i lywio eu dulliau. Mae angen iddynt gael cymorth gan awdurdodau lleol a phartneriaid cefnogol, sy'n hyrwyddo gwelliant cydweithredol ac yn hwyluso'r cymorth sydd ei angen ar leoliadau addysg i wella'n barhaus. Mae'r holl elfennau hyn yn allweddol i leihau amrywiadau a gwella deilliannau llythrennedd a rhifedd ledled Cymru.

Sylfaen 5: partneriaid cymorth

Egwyddorion

Mae cymorth effeithiol a chydlynol o ansawdd uchel yn hanfodol i sicrhau gwelliant cynaliadwy. Mae angen negeseuon cyson a chymorth o ansawdd cyson uchel ar leoliadau addysg. Mae hyn yn sicrhau bod ganddynt ddisgwyliadau clir ar bob lefel ac yn cefnogi eu gallu i gyflawni'r disgwyliadau hynny. Mae trefniadau cydweithio cryf, llawn ymddiriedaeth rhwng partneriaid cymorth a Llywodraeth Cymru yn hanfodol. Ein rôl ni fel llywodraeth yw pennu cyfeiriad clir a chefnogi a herio ein partneriaid i'w gyflawni. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen sicrhau llinellau cyfathrebu agored a pharhaus, rhannu'r hyn sy'n gweithio, a bod yn onest pan fydd heriau’n codi. Rydym yn cydnabod y bu'n gyfnod ansefydlog i strwythurau cymorth, ac y bu'n anodd i ysgolion ddeall y cymorth sydd ar gael a manteisio arno. Rydym ymrwymedig i gynnig arlwy clir, hygyrch ac effeithiol i ysgolion sy'n gadarn ac yn seiliedig ar ddull mwy deallus o ymdrin ag atebolrwydd. Mae gwaith partneriaid cymorth yn hanfodol i hyn ac i lwyddiant y Cynllun yn fwy cyffredinol. Mae rolau a chyfrifoldebau penodol y partneriaid hyn wedi'u nodi yn Atodiad A.

Camau gweithredu

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • adeiladu ar ganfyddiadau'r Adolygiad o Rolau a Chyfrifoldebau Partneriaid Addysg yng Nghymru er mwyn datblygu system gymorth fwy cydlynol. Byddwn yn lleihau nifer yr achoson diangen o ddyblygu ac yn symleiddio negeseuon a chymorth i ysgolion
  • drwy'r Tîm Gwella Addysg, cydweithio â lleoliadau addysg ac awdurdodau lleol, gwrando arnynt a dysgu oddi wrthynt, drwy gydol tymor y Senedd, gan sicrhau bod polisi cenedlaethol yn seiliedig ar realiti ymarfer ac yn ymateb i anghenion lleol
  • disgwyl ac annog sefydliadau i gyfrannu at ein huchelgeisiau cenedlaethol a chyfeirio at y cymorth i leoliadau addysg a amlinellir yn y Cynllun hwn ac adeiladu arno, yn unol â'r egwyddorion sy'n sail i'r Cwricwlwm i Gymru
  • sefydlu Bwrdd Cyflawni newydd ar gyfer y Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, dan gadeiryddiaeth Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, er mwyn sicrhau atebolrwydd gennym ni ein hunain a’n partneriaid cymorth wrth gyflawni’r camau gweithredu a amlinellir yn y Cynllun
  • disgwyl i bartneriaid cymorth chwilio am enghreifftiau o ymarfer da a mynd ati, ar y cyd â nhw, i ystyried ffyrdd a dulliau o rannu'r enghreifftiau hyn yn genedlaethol
  • drwy ein Tîm Gwella Addysg, gweithio gydag awdurdodau lleol, drwy gydol tymor y Senedd, wrth iddynt ddatblygu eu systemau gwella cydweithredol lleol i sicrhau disgwyliadau a dulliau mwy cyson rhwng ysgolion, yn unol â'r Canllawiau Gwella Ysgolion. Mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i wneud y canlynol: 
    • galluogi ysgolion i gydweithio ag ysgolion tebyg a lleoliadau eraill ar draws y continwwm dysgu;
    • hyrwyddo dysgu a gwelliant parhaus drwy rannu data yn agored rhwng ysgolion a gyda’r awdurdod lleol 
  • gweithio gyda Medr a'r sector ôl-16 i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu pontio'n effeithiol i addysg bellach a'u bod yn barod i barhau â'u dysgu

Nodau

Ein nod yw system gydgysylltiedig sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cefnogi llythrennedd a rhifedd ar bob cam o daith dysgwr. Mae angen system arnom lle mae disgwyliadau, negeseuon a chymorth cyson yn rhoi eglurder llwyr i leoliadau addysg ynghylch yr hyn sydd ei angen a sut i gael cymorth i fodloni'r disgwyliadau hynny. Yn hollbwysig, rydym am weld cydberthnasau cryf, llawn ymddiriedaeth rhwng sefydliadau gwahanol a gyda Llywodraeth Cymru, lle mae pawb yn cydweithio ac yn rhannu gweledigaeth ar y cyd.

Mesur effaith

Mae angen inni feithrin dealltwriaeth genedlaethol glir o safonau ledled Cymru: er mwyn gwybod a ydym yn gwneud cynnydd a ble mae angen targedu cymorth yn y dyfodol. 

Byddwn yn creu set fach o ddangosyddion cenedlaethol sy'n cynnig ffordd o fesur cyrhaeddiad a chynnydd dysgwyr ym maes llythrennedd a rhifedd Cymraeg a Saesneg. Bydd y dangosyddion hyn hefyd yn ystyried eu hymgysylltu ehangach â'r ysgol. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i olrhain safonau cenedlaethol dros amser, deall effaith y Cynllun hwn, a llywio camau gweithredu pellach. Byddwn yn defnyddio trefniadau asesu a chasglu data presennol lle bynnag y bo modd.

Nodir y dangosyddion hyn yn Atodiad C.  O ran presenoldeb, mae llinellau sylfaen eisoes yn bodoli ac rydym wedi ymrwymo yn y cynllun hwn i gyflawni targedau cenedlaethol penodol mewn perthynas â'r rhain. O ran y dangosyddion eraill, byddwn yn gweithio dros y flwyddyn nesaf i sefydlu llinellau sylfaen clir ac yna'n cytuno ar dargedau sy'n seiliedig ar y rhain. 

Yn hollbwysig, pan fo'r data yn ddigon dibynadwy, bydd y dangosyddion hyn hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae grwpiau gwahanol o ddysgwyr yn gwneud cynnydd, gan gynnwys y rhai y mae tlodi yn effeithio arnynt a'r rhai ag ADY.

Bwriedir i'r dangosyddion hyn roi darlun cenedlaethol o gynnydd. Byddant yn helpu i sicrhau tryloywder cenedlaethol a gwella systemau, nid creu tablau cynghrair, ac ni fyddant yn cael eu defnyddio fel dangosyddion ar lefel yr ysgol. Bydd rhai o'r dangosyddion hyn hefyd yn rhan o ddangosfwrdd blaenoriaethau'r llywodraeth, gan helpu i ddangos sut mae'r cynllun yn cyfrannu at gynnydd ehangach ledled Cymru.

Fel rhan o'n dull ehangach o werthuso'n genedlaethol, byddant yn cael eu defnyddio ar y cyd â gwybodaeth ehangach am bresenoldeb a phlant nad ydynt yn yr ysgol, cyrchfannau dysgwyr, y gweithlu addysg, gwelliant ysgolion, tlodi plant a mesurau perthnasol eraill. Byddant hefyd yn ategu Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu ar gyfer plant 14 i 16 oed, a fydd yn rhoi darlun ehangach o brofiadau, cymwysterau, cyflawniadau a chynnydd dysgwyr.

Atodiad A: partneriaid cymorth – rolau a chyfrifoldebau

Awdurdodau lleol

Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid hanfodol yn ein dull gweithredu: gan gefnogi cylch hunanwerthuso ysgolion a phroses ar y cyd o wella ysgolion a sicrhau mynediad at gymorth a dysgu. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen ffocws a chymorth parhaus gan awdurdodau lleol, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda nhw i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei gydlynu a'i fod yn darparu arlwy cyson, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i ysgolion.

Estyn

Mae gan Estyn rôl hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi hunanwelliant ac ansawdd arweinyddiaeth, addysgu a dysgu. Credwn fod ffocws manylach Estyn ar wella sgiliau darllen yn agwedd bwysig ar hyn.Mae ein cydberthynas barhaus ag Estyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan leoliadau addysg ddisgwyliadau clir a chyson.

Dysgu

Dysgu yw sefydliad dysgu proffesiynol cenedlaethol Cymru. Mae'n cefnogi addysgwyr mewn lleoliadau addysg i fod cystal â phosibl ac i gyflawni ein blaenoriaethau cenedlaethol. Bydd Dysgu yn arwain gwaith i wella dulliau addysgu, cefnogi arweinwyr, ac ymgorffori dysgu proffesiynol effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gyson â'r Cwricwlwm i Gymru, sy'n cefnogi llythrennedd a rhifedd. Mae hyn yn cynnwys helpu i gyflwyno rhaglenni ffoneg yn effeithiol ac yn gywir a datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ehangach pob dysgwr, gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym mhob categori iaith ysgolion. 

Adnodd

Adnodd yw'r corff strategol cenedlaethol sy'n arwain ac yn cydlynu'r ddarpariaeth o adnoddau addysgol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n comisiynu adnoddau o ansawdd uchel sy'n cefnogi'r Cwricwlwm Cymru ac yn cyfoethogi dysgu. Mae'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Dysgu, a phartneriaid cenedlaethol eraill i sicrhau bod adnoddau'n gynhwysol, yn berthnasol, yn hawdd eu haddasu ac yn hygyrch. Drwy gydweithio, ymgysylltu ac ymchwilio, mae'n dod â dysgwyr, ymarferwyr, cyflenwyr a phartneriaid o sectorau gwahanol ynghyd i rannu arbenigedd a chreu adnoddau sy'n ysbrydoli.

Darparwyr addysg gychwynnol i athrawon

Mae gan Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) rôl bwysig i'w chwarae o ran meithrin sgiliau newydd-ddyfodiaid i'r proffesiwn i addysgu llythrennedd a rhifedd i safon uchel. Mae'r meini prawf achredu ar gyfer rhaglenni AGA yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr AGA sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau i addysgu llythrennedd, rhifedd a defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Maent hefyd yn cefnogi myfyrwyr sy'n paratoi i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg (y cyfeirir atynt fel ysgolion categori 'Prif Iaith - Cymraeg' yn Neddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 neu ddwy iaith i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt.

Cwlwm

Cwlwm yw'r bartneriaeth o sefydliadau sy'n cefnogi darpariaeth gofal plant, gwaith chwarae a'r blynyddoedd cynnar ledled Cymru. Mae Cwlwm yn helpu lleoliadau gofal plant, gan gynnwys lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, i gynnig profiadau chwarae, dysgu a gofal cynhwysol o ansawdd uchel ac sy'n briodol yn ddatblygiadol. Bydd Cwlwm yn helpu lleoliadau gofal plant a'r blynyddoedd cynnar i gynnig amgylcheddau a phrofiadau diddorol i blant er mwyn helpu i ddatblygu sylfeini cadarn ar gyfer eu datblygiad iaith, llythrennedd a rhifedd.

CAL:ON 

CAL:ON yw'r ganolfan llythrennedd genedlaethol yng Nghymru: menter llythrennedd ddwyieithog genedlaethol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor a'i hariannu gan Dysgu. Mae'n defnyddio tystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol ynglŷn â sut mae plant yn dysgu darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'r ffyrdd mwyaf effeithiol o'u haddysgu. Mae CAL:ON yn canolbwyntio ar ddatblygiad ymarferol, gan dreialu adnoddau dysgu proffesiynol a rhaglenni llythrennedd, adnoddau sgrinio a chanllawiau i ysgolion, a'u gwerthuso'n drylwyr cyn eu cyflwyno'n genedlaethol. Mae CAL:ON yn gweithio'n agos gyda phob partner yn y system, gan gynnwys y Panel Arbenigol Llythrennedd. Mae ei thystiolaeth ymchwil a gwerthuso yn sicrhau bod unrhyw ddeunydd sy'n cyrraedd y system addysg yn cael ei werthuso'n drylwyr ac y gellir dangos ei fod yn effeithiol o ran gwella safonau.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol/yr Athrofa

Caiff yr Athrofa ei sefydlu o dan Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ym mis Awst 2027. Caiff y swyddogaethau a gyflawnir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar hyn o bryd eu trosglwyddo i'r Athrofa ar ôl ei sefydlu. Bydd yn allweddol i gryfhau llythrennedd a gwireddu'r nodau dysgu Cymraeg a nodir yn y Ddeddf. Bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol i feithrin a chynnal dealltwriaeth a rennir o ymarfer addysgegol effeithiol mewn perthynas â chaffael a dysgu Cymraeg (gan gynnwys mewn lleoliadau trochi) a bydd yn rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol ar gynnwys y cwricwlwm. Bydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Adnodd a Dysgu er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau a chyfleoedd dysgu proffesiynol i gefnogi'r broses o gaffael a dysgu Cymraeg ym mhob categori iaith ysgolion. 

Atodiad B: dyddiadau allweddol

Cam gweithreduLlinell amser
Sefydlu Bwrdd Cyflawni'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, dan gadeiryddiaeth Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, i fesur cynnydd yn erbyn yr amserlenni a nodir yn y CynllunHydref 2026
Egluro'r broses o osod targedau unigol i ddysgwyr ym maes llythrennedd a rhifeddHydref 2026

Gweithio gydag Adnodd i ddatblygu a hyrwyddo adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cryfhau datblygiad iaith cynnar, llythrennedd a rhifedd o'r blynyddoedd cynharaf ac yn cefnogi teuluoedd i ddarllen gyda'i gilydd a meithrin hoffter gydol oes at ddarllen

 

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026

Gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu dulliau cydgysylltiedig sy'n gwella llesiant, presenoldeb a diddordeb dysgwyr mewn dysgu a threialu rhaglen gofleidiol newydd i gefnogi'r nodau hyn

 

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026

Rhoi canllawiau statudol clir a manwl sy'n nodi'r hyn y dylai plant ei ddysgu a phryd, o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer llythrennedd, mathemateg a rhifedd, yn unol â thystiolaeth ryngwladol, er mwyn cryfhau dulliau addysgu, dysgu a dealltwriaeth o gynnydd

 

Bwriedir cynnal ymgynghoriad yn ystod hydref 2026 a chyhoeddi'r canllawiau yn ystod gwanwyn 2027 

Ymgorffori llythrennedd a rhifedd yn ein hadolygiad o'r cwricwlwm ehangach. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut rydym yn ymestyn ein dysgwyr mwyaf abl a chryfhau llythrennedd ariannol 

 

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026
Adolygu canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau bod rôl a phwysigrwydd addysgu Ffoneg Synthetig Systematig wrth ddysgu darllen yn ddigamsyniolBydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026

Gweithio gyda Dysgu, Adnodd a CAL:ON i adolygu a chryfhau'r ddarpariaeth ffoneg yn Gymraeg a Saesneg, gan sicrhau bod ymarferwyr yn meddu ar y sgiliau i gefnogi dysgwyr ar bob cam wrth ddatblygu sgiliau darllen, gan gynnwys dysgwyr hŷn y mae angen ymyrraeth ychwanegol arnynt, a chefnogi ymarferwyr i gyflwyno rhaglenni ffoneg yn effeithiol ac yn gywir.  Mae hyn yn cynnwys y canllaw ar ffoneg i ysgolion yng Nghymru 

 

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026

Gweithio gydag Adnodd, Dysgu a CAL:ON i ddatblygu dulliau, adnoddau a dysgu proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi dysgwyr mewn ysgolion dwy iaith a chyfrwng Cymraeg (yn ôl y diffiniad o ysgolion 'Dwy Iaith a 'Prif Iaith - Cymraeg' yn Neddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025) wrth iddynt symud o ddysgu darllen yn Gymraeg i ddysgu darllen yn Saesneg, gan adeiladu ar eu sgiliau llythrennedd presennol a meithrin dealltwriaeth o god yr wyddor Saesneg ar yr un pryd

 

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026
Profi a mireinio’r canllawiau ar alluogi dysgu ar y cyd ag ymarferwyr cyn cyhoeddi canllawiau diwygiedig er mwyn helpu i gryfhau addysgu a dysgu sy’n briodol yn ddatblygiadol o 3 i 16 oedBydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026
Sicrhau bod y canllawiau a'r cymorth presennol ar gyfer y cwricwlwm a gwella ysgolion yn nodi'n glir sut y dylai ysgolion ddefnyddio gwybodaeth asesu llythrennedd a rhifedd wrth hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwellaBydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026
Adolygu Polisi'r Grant Datblygu Disgyblion i wella'r ffordd rydym yn dyrannu ac yn ariannu'r Grant Datblygu Disgyblion, y ffordd rydym yn monitro'r defnydd a wneir ohono a'i effaith, a'r ffordd rydym yn gwerthuso llwyddiant cyllid grant; gan gynnwys o ran gwella canlyniadau rhifedd a llythrenneddBydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026
Defnyddio ein Partneriaeth Lliniaru Effaith Tlodi a'n cynllun peilot Diogelu rhag Tlodi presennol i ystyried sut y gall ysgolion leihau'r rhwystrau i gyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â chostauBydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026

Darparu ardal llyfrgell ym mhob ysgol gynradd erbyn 2030, gan gynnig lle pwrpasol i blant sy'n meithrin hoffter gydol oes at ddarllen yn Gymraeg a Saesneg

 

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026
Datblygu sylfaen dystiolaeth a chynigion ar gyfer dealltwriaeth sylfaenol genedlaethol o lythrennedd a rhifedd plant pan fyddant yn dechrau yn yr ysgolBydd y gwaith yn dechrau yn ystod hydref 2026
Cyflwyno dangosydd sy'n gysylltiedig ag oedran Blwyddyn 6 ar gyfer darllen a rhifedd drwy asesiadau personol i gynnig pwynt cyfeirio cenedlaethol cyson ar gyfer cynnydd dysgwyr a chefnogi cyfnodau pontio effeithiol i'r ysgol uwchraddBydd y dangosydd ar gael i ysgolion o fis Chwefror 2027
Datblygu adnoddau hygyrch yn Gymraeg, Saesneg a'r ieithoedd cymunedol a siaredir fwyaf er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut mae llythrennedd, mathemateg a rhifedd yn cael eu haddysgu mewn ysgolion a sut y gallant gefnogi dysgu gartref. Bydd hyn yn cynnwys cymorth i ddysgwyr dwyieithog a phlant ag ADYBydd y gwaith yn dechrau yn ystod gwanwyn 2027 
Gweithio gyda Dysgu, Adnodd a CAL:ON i ddatblygu canllaw cenedlaethol ar asesu llythrennedd, gan gynnig pecyn cymorth cyfannol i ysgolion i'w helpu i ddeall cynnydd dysgwyr ac ymateb i'w hanghenionBydd y gwaith yn dechrau yn ystod gwanwyn 2027
Pennu set o egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth y cytunwyd arnynt yn genedlaethol mewn perthynas â dulliau addysgu effeithiol i gefnogi plant a phobl ifanc 0 i 16 oed i gaffael a dysgu Cymraeg mewn gwahanol gategorïau iaith ysgolion fel y'u diffiniwyd yn Neddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, lleoliadau addysg a chyd-destunau dysgwyrBydd y gwaith yn dechrau yn ystod haf 2027

Datblygu dull addysgu mathemateg a rhifedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymgynghori arno a'i hyrwyddo, gan ddefnyddio tystiolaeth ryngwladol, arbenigedd ymarferwyr, ac argymhellion y Panel Arbenigol Rhifedd i lywio disgwyliadau a chanllawiau

 

Bwriedir cynnal ymgynghoriad yn ystod haf 2027 a chyhoeddi'r dull addysgu yn ystod hydref 2027 
Gweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch partner i ddatblygu adnoddau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys dulliau dwyieithog fel Prosiect Pengwin, i gryfhau'r broses o adnabod plant ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn gynnar, a'u cefnogi

Bydd gwaith Prosiect Pengwin wedi’i gwblhau erbyn haf 2027

 

Mapio data cyfredol ar Sgiliau Sylfaenol Oedolion ac ystyried datblygu dull cenedlaethol o gryfhau llythrennedd a rhifedd oedolion ledled Cymru

 

Hydref 2027 

Cryfhau’r dull o ymdrin â dysgu i deuluoedd drwy ddod â phartneriaid ynghyd ym maes addysg, gofal plant, iechyd a gwasanaethau cymunedol

 

Hydref 2027
Datblygu rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer llwybrau dysgwyr, gan ddod â'r elfennau cryfaf o Academi Seren a'r Rhaglen Ymestyn yn Ehangach, a ariennir ar hyn o bryd gan Medr, ynghyd mewn un cynnig cydlynol i ddysgwyr ledled CymruCaiff y rhaglen ei chyflwyno yn ystod blwyddyn academaidd 2027 i 2028.