Cytundeb Caerdydd – The Cardiff Agreement rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban
Mae Cytundeb Caerdydd – The Cardiff Agreement rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn sefydlu fframwaith strategol ar gyfer cydweithredu ar faterion o ddiddordeb cyffredin.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Am y tro cyntaf ers dechrau datganoli, mae Cymru a’r Alban yn cael eu harwain gan lywodraethau sy’n credu yn y potensial sydd gennym i ffynnu fel gwledydd annibynnol.
Er bod y daith gyfansoddiadol y mae Cymru a’r Alban arni yn wahanol i’w gilydd, rydym yn cael ein rhwymo gan yr ymddiriedaeth sydd gennym yng ngallu ein pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu dyfodol nhw eu hunain.
Yn yr ysbryd hwnnw, mae’r fframwaith newydd hwn yn nodi meysydd o fuddiant cyffredin y byddwn ni fel Prif Weinidogion a’n priod lywodraethau yn cydweithio arnynt yn y blynyddoedd sydd i ddod, i gryfhau democratiaeth a gwella canlyniadau i’r rhai yr ydym yn eu cynrychioli.
Mae’r ymdrechion cyffredin hyn wedi eu gwreiddio yn y gred y dylai’r berthynas rhwng holl lywodraethau’r Deyrnas Unedig fod yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a chyd-barch.
Mae’r Deyrnas Unedig ar ei ffurf bresennol yn anghyfiawn ac yn anghynaliadwy. Byddwn yn defnyddio pob cyfle sydd ar gael inni i ddadlau’r achos dros fwy o degwch i Gymru a’r Alban mewn meysydd fel gweithrediad trefniadau ariannu y DU a phwerau dros ein dyfodol cyfansoddiadol.
Byddwn yn parhau i weithio tuag at ein nod cyffredin o fynd i’r afael â thlodi plant a chefnogi aelwydydd gyda chostau byw. Rydym eisoes yn rhannu arferion gorau. Mae Cymru yn efelychu Taliad Plant yr Alban, sy’n gynllun trawsnewidiol, gyda’i chynllun peilot ei hun – Cynnal – i gefnogi plant mewn aelwydydd incwm isel.
Bydd ein hymrwymiad ar y cyd i greu swyddi sgiliau uchel sy’n talu cyflogau da drwy ddenu buddsoddiad hirdymor yn cynnwys hyrwyddo Cymru a’r Alban ar y llwyfan fyd-eang, ymchwilio i gyfleoedd economaidd a meithrin cysylltiadau agosach â’r Undeb Ewropeaidd a phartneriaid rhyngwladol.
Fel llywodraethau, rydym yn cydnabod ein dyletswydd i chwarae ein rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’r cytundeb hwn yn nodi cynaliadwyedd ac ynni adnewyddadwy fel meysydd ag iddynt botensial inni ddysgu ar y cyd amdanynt a chydweithio arnynt. O ganlyniad, byddwn yn gallu defnyddio’r cyfoeth o adnoddau naturiol sydd gan ein gwledydd a sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd a ddaw â budd uniongyrchol i’n dinasyddion.
Rydym yn falch o gymeradwyo’r fframwaith hwn ac edrychwn ymlaen at achub ar y cyfleoedd a gyflwynir gan y bartneriaeth newydd hon – partneriaeth sydd â buddiannau pobl Cymru a’r Alban wrth ei gwraidd.
Diben
Mae’r cytundeb yn cyflwyno fframwaith strategol, hyblyg ar gyfer cydweithio a chynnal deialog ar faterion sydd o fuddiant cyffredin rhwng ein llywodraethau ac i ddysgu ar y cyd amdanynt, gan barchu hefyd ein mandadau democrataidd, a’n blaenoriaethau a’n hatebolrwydd neilltuedig i’n priod ddeddfwrfeydd.
Rydym yn rhannu ymrwymiad i wella canlyniadau i bobl Cymru a’r Alban, cryfhau democratiaeth, parchu hawl ein dinasyddion i benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol drwy ddulliau democrataidd, a mynd i’r afael â heriau cyffredin drwy weithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth.
Gweledigaeth a rennir
Drwy’r Cytundeb hwn, mae ein llywodraethau yn ceisio gwella canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i’n dinasyddion drwy gryfhau’r cydweithio rhwng ein Gweinidogion a’n swyddogion, a thrwy wneud y canlynol:
- rhannu dysgu ac arferion gorau
- gwneud galwadau ar y cyd am weithredu ar heriau a chyfleoedd cyffredin
- cefnogi cyfleoedd i ymgysylltu â democratiaeth a chyfranogiad y cyhoedd mewn materion polisi a chyfansoddiadol allweddol o fuddiant cyffredin
Er nad yw’r Cytundeb yn rhwymo mewn cyfraith ac nid yw’n effeithio ar bwerau neu gyfrifoldebau statudol yr un o’r ddwy lywodraeth, mae’n cynrychioli ymrwymiad sylfaenol i bartneriaeth strategol ac i fynd ar drywydd nodau cyffredin.
Meysydd cydweithio a rennir
Bydd ein llywodraethau yn gweithio gyda’i gilydd ar draws ystod o flaenoriaethau polisi a rennir, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r meysydd a ganlyn:
- mynd i’r afael â thlodi plant a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd
- mynd i’r afael â phwysau costau byw, gwella safonau byw a chefnogi aelwydydd a chymunedau i ffynnu
- hybu twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol a ffyniant
- ystyried trefniadau cyllidol sy’n cefnogi llywodraeth effeithiol, darparu tryloywder ac atebolrwydd, a’i gwneud yn bosibl i’n llywodraethau gyflawni ar ran y bobl rydym yn eu gwasanaethu
- mynd i’r afael â newid hinsawdd a chryfhau gwydnwch, gan gefnogi cynaliadwyedd hirdymor cymunedau ac economïau
- sicrhau bod ein llywodraethau yn edrych tuag allan, ac yn gydweithredol ac yn uchelgeisiol ein hagwedd tuag at ein gweithgaredd rhyngwladol. Drwy hyn, byddwn yn dangos dinasyddiaeth fyd-eang dda, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd economaidd a mynd i’r afael â heriau demograffig a chymdeithasol cyffredin, a bydd hyn yn cynnwys elwa i’r eithaf ar y cyfleoedd a’r budd a ddaw yn sgil ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd a phartneriaid rhyngwladol eraill
- cydnabod pwysigrwydd iaith, diwylliant, y cyfryngau a chwaraeon i fynegi hunaniaeth genedlaethol, cefnogi cymunedau a gwella llesiant
Gellir adolygu a diweddaru’r meysydd cydweithio hyn drwy gytundeb ar y cyd i adlewyrchu blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ac amgylchiadau sy’n newid.
Mae gan ein llywodraethau fuddiant cyffredin hefyd mewn trefniadau cyfansoddiadol a llywodraethiant effeithiol sy’n cefnogi atebolrwydd democrataidd, perthnasoedd rhynglywodraethol cryf ac sy’n diogelu ac yn ymestyn hunanlywodraeth yng Nghymru ac yn yr Alban.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i:
- rannu tystiolaeth, arbenigedd a dysgu ar ddatblygiadau a diwygio cyfansoddiadol
- ystyried materion sy’n effeithio ar weithrediad a datblygiad y setliadau datganoli yng Nghymru a’r Alban, gan gynnwys Deddf Marchnad Fewnol y DU a Chonfensiwn Sewel
- cydweithio ar weithrediad prosesau cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth y DU
- hyrwyddo cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn democratiaeth, gwydnwch sefydliadol a llywodraethu da, gan gynnwys drwy ddysgu ar y cyd ynghylch cyfranogiad y cyhoedd, dulliau ymgynghorol a mesurau i gryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd mewn sefydliadau democrataidd
- cefnogi cyfleoedd i gryfhau rôl y llywodraethau datganoledig yn nhrefniadau llywodraethiant y DU
Ffyrdd o weithio
Rydym yn cytuno i wneud y canlynol:
- gweithio gyda’n gilydd mewn ysbryd o bartneriaeth, ymddiriedaeth a chan fod yn agored
- cydweithio’n fwy eang â llywodraethau eraill ar feysydd o fudd cyffredin, gan gynnwys ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon pan fo hynny’n briodol
- rhannu tystiolaeth, ymchwil, arbenigedd ac arferion gorau, gan gynnwys cydweithio ar ymchwil a rennir, ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu polisi pan fo hynny’n briodol
- chwilio am gyfleoedd i ddatblygu dulliau cyffredin pan fydd buddiannau yn cyd-fynd
- cyfnewid gwybodaeth am ddatblygiadau polisi sy’n dod i’r amlwg a chynigion deddfwriaethol
- cefnogi cysylltiad a chydweithrediad rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar lefel Gweinidogion a swyddogion
Mae ein llywodraethau yn cydnabod nad yw cydweithio yn golygu bod angen cysoni polisïau penodol. Rydym yn parhau i fod yn rhydd i ddilyn gwahanol ddulliau pan fydd hyn yn adlewyrchu ein priod fandadau democrataidd, amgylchiadau lleol, amcanion polisi neu fuddiannau’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Nid yw’n fwriad y bydd unrhyw beth yn y cytundeb hwn yn effeithio ar ofynion deddfwriaethol ac ymrwymiadau anneddfwriaethol ein priod lywodraethau mewn perthynas â datblygu a chyflawni polisi, ac mewn perthynas â’n hatebolrwydd i’n deddfwrfeydd. Mae ein llywodraethau yn cydnabod rôl graffu bwysig Senedd Cymru a Senedd yr Alban, a bydd unrhyw weithgaredd a gynhelir fel rhan o’r Cytundeb hwn yn ddarostyngedig i’r trefniadau atebolrwydd a chraffu presennol.
Llywodraethiant
Cyfarfod y Prif Weinidogion
Bydd Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog yr Alban yn cyfarfod yn flynyddol o leiaf i:
- adolygu’r cynnydd o dan y Cytundeb hwn. Gallant adolygu ei gwmpas, ei flaenoriaethau neu ei drefniadau llywodraethiant fel sy’n ofynnol yn unol â’r cytundeb ar y cyd
- ystyried cyfleoedd sy’n dod i'r amlwg ar gyfer cydweithio a chytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol
Ymgysylltu ar Lefel Gweinidogion a Swyddogion
Bydd Gweinidogion a swyddogion perthnasol yn cyfarfod yn rheolaidd, fel y bo’n briodol, er mwyn datblygu’r cydweithio ar draws y meysydd polisi y cytunwyd arnynt.
