Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Heddiw, rwy'n datgan fy mwriad i gyhoeddi ymgynghoriad Papur Gwyn ar 21 Medi 2026 ar gynigion ar gyfer Bil Lles Anifeiliaid Gwyllt (Cymru).
Mae gan Gymru hanes balch o hybu safonau uchel o ran lles anifeiliaid. Wrth i'n dealltwriaeth o les anifeiliaid a disgwyliadau'r cyhoedd barhau i esblygu, mae'n bwysig bod ein fframwaith deddfwriaethol yn cyd-fynd â hynny lle ceir tystiolaeth bod lle i wella.
Bydd y Papur Gwyn sydd ar ddod yn holi barn am ddau gynnig wedi'u targedu sydd â'r nod o fynd i'r afael â phryderon penodol am les morloi ac ysgyfarnogod yng Nghymru.
Byddai'r cynnig cyntaf yn creu trosedd newydd o aflonyddu ar forloi yn fwriadol neu'n ddi-hid. Mae Cymru'n cynnal poblogaeth fridio bwysig o forloi llwyd, sy'n rhan o boblogaeth Brydeinig o bwysigrwydd rhyngwladol, gyda safleoedd bridio y gall y cyhoedd eu cyrraedd yn hawdd. Byddai'r cynnig yn cau bwlch yn y fframwaith deddfwriaethol presennol ac yn amddiffyn morloi rhag niwed a achosir gan aflonyddu arnynt yn fwriadol neu'n ddi-hid.
Byddai'r ail gynnig yn sefydlu tymor caeedig statudol ar gyfer ysgyfarnogod, a thrwy hynny ymdrin ag anghysondeb yn y gyfraith bresennol. Yn wahanol i rywogaethau hela eraill, nid oes tymor caeedig statudol ar gyfer ysgyfarnogod ac, ar hyn o bryd, gellir eu lladd, eu hanafu neu eu cipio drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yn ystod eu tymor bridio. Byddai'r cynnig ar gyfer tymor caeedig yn amddiffyn ysgyfarnogod, gan gynnwys benywod bridio a'u hepil, pan fyddant fwyaf bregus.
Er bod y cynigion hyn yn ymwneud â gwahanol rywogaethau ac amgylcheddau, mae amcan cyffredin yn eu huno: lleihau niwed y gellir ei osgoi i anifeiliaid gwyllt ac adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal safonau uchel o ran lles anifeiliaid yng Nghymru.
Bydd y mesurau hyn wedi'u targedu yn ein galluogi i weithredu nawr ar bryderon clir a phenodol am les anifeiliaid mewn perthynas â morloi ac ysgyfarnogod. Maent yn cyd-fynd â gwaith ehangach i ddwyn ynghyd, symleiddio a moderneiddio deddfwriaeth bywyd gwyllt yng Nghymru, fel ei bod yn fwy hygyrch, cydlynol ac effeithiol.
Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer morloi ac ysgyfarnogod yn agor ar 21 Medi 2026 ac yn cau am hanner nos ar 19 Hydref 2026. Bydd dogfennau'r ymgynghoriad ar gael drwy dudalen we'r Papur Gwyn ar Les Anifeiliaid Gwyllt. Ni fydd y dudalen ar gael tan i'r ymgynghoriad agor.
Rwy'n cyhoeddi'r cynigion hyn cyn i'r ymgynghoriad agor fel bod rhanddeiliaid a phartïon â diddordeb yn cael cymaint o rybudd â phosibl o'r materion y byddwn yn holi barn amdanynt. Bydd fy swyddogion hefyd yn cysylltu ag ystod eang o randdeiliaid cyn y dyddiad cyhoeddi i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r ymgynghoriad sydd ar ddod ac yn cael cyfle i baratoi eu hymatebion.
Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn lles anifeiliaid, rheolaeth a chadwraeth bywyd gwyllt, ffermio a rheoli tir, pysgota, gweithgareddau arfordirol a morol eraill, a gorfodi, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pan fydd yn agor. Bydd y safbwyntiau a ddaw i law yn helpu i lywio'r ffordd y caiff y cynigion hyn, ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol, eu datblygu yn y dyfodol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
