Dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol a rôl camwybodaeth: adolygiad cyflym o’r dystiolaeth (crynodeb)
Nod y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio sut mae pobl yn dod i ddeall hawliau dynol a sut mae camwybodaeth yn effeithio ar y ddealltwriaeth hon.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adolygiad cyflym hwn o’r dystiolaeth yn ystyried dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol, effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth, ac effeithiolrwydd dulliau sydd wedi'u cynllunio i gynyddu'r ddealltwriaeth honno. Mae'r adolygiad yn tynnu ar fwy na 100 o gyhoeddiadau o amrywiaeth o ffynonellau rhyngwladol, gan gynnwys:
- ymchwil academaidd
- gwerthusiadau
- llenyddiaeth lwyd
Daw canfyddiad cyson i'r amlwg ar draws y dystiolaeth – sef bod deall hawliau dynol yn fwy na dim ond gwybod bod hawliau'n bodoli. Mae pobl yn fwy tebygol o ddeall a gweithredu ar eu hawliau pan fydd yr hawliau hynny:
- yn ystyrlon mewn bywyd bob dydd
- wedi’u hatgyfnerthu gan sefydliadau y maent yn ymddiried ynddynt
- wedi'u cefnogi gan wybodaeth ddibynadwy
Canfu'r adolygiad hefyd gyfyngiadau pwysig yn y sylfaen dystiolaeth. Er bod y llenyddiaeth yn rhoi mewnwelediad i sut y mae pobl yn deall ac yn profi hawliau, mae tystiolaeth gadarn am y canlyniadau hirdymor ac a yw cynyddu dealltwriaeth yn arwain at newid parhaol mewn ymddygiad yn gymharol brin.
Prif ganfyddiadau
Mae dealltwriaeth yn mynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw ymwybyddiaeth o hawliau ar ei phen ei hun yn gyfystyr â dealltwriaeth. Efallai y bydd pobl yn gwybod am hawliau dynol mewn egwyddor ond heb yr hyder, y gefnogaeth na'r cyfle i'w harfer yn ymarferol. Ar draws y llenyddiaeth a adolygwyd, mae’r canfyddiadau'n awgrymu bod dealltwriaeth yn cael ei siapio gan brofiad bywyd gymaint ag y mae gan wybodaeth neu addysg. Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth yn parhau i fod yn sylfaen bwysig ar gyfer dealltwriaeth, hyd yn oed os mai anaml y mae’n ddigon ar ei phen ei hun i gynhyrchu ymgysylltiad ystyrlon â hawliau neu i newid ymddygiad.
Nid yw mwy o wybodaeth bob amser yn troi’n weithredu
Gall llawer o ymyriadau, gan gynnwys addysg, wella ymwybyddiaeth ac annog agweddau cadarnhaol tuag at hawliau dynol, yn enwedig yn y tymor byr. Fodd bynnag, canfu'r adolygiad wahaniaeth cyson rhwng ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ddyfnach. Mae ymyriadau sy'n dibynnu'n bennaf ar gyfathrebu gwybodaeth yn aml yn ei chael yn anodd troi gwybodaeth yn weithredu. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai dulliau mwy addawol yw'r rhai sy'n gyfranogol, yn fyfyriol ac yn seiliedig ar brofiadau, gan helpu pobl i weld eu hunain fel deiliaid hawliau gweithredol yn hytrach na derbynwyr gwybodaeth goddefol.
Mae ymddiriedaeth a sefydliadau yn bwysig
O ran siapio sut mae pobl yn deall hawliau mae gan y mannau hyn ran bwysig i’w chwarae:
- ysgolion
- gwasanaethau cyhoeddus
- lleoliadau gofal iechyd
- sefydliadau cymunedol
- sefydliadau eraill
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn fwy tebygol o ymgysylltu â hawliau pan fydd sefydliadau’n atgyfnerthu egwyddorion sy'n seiliedig ar hawliau yn gyson trwy eu harferion bob dydd.
Mae camwybodaeth yn effeithio ar ymddiriedaeth yn ogystal â dealltwriaeth
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod camwybodaeth (gwybodaeth anwir neu anghywir a rennir heb fwriad i gamarwain) a thwyllwybodaeth (gwybodaeth anwir a rennir yn fwriadol i dwyllo) yn tanseilio dealltwriaeth mewn sawl ffordd ac nid yw eu heffaith yn gyfyngedig i ledaenu gwybodaeth anwir. Gall ofn, stigma a naratifau camarweiniol:
- erydu hyder mewn sefydliadau
- ei gwneud hi'n anoddach adeiladu dealltwriaeth a rennir
- gwanhau’r gefnogaeth i hawliau cyffredinol
Mae naratifau hawliau dynol yn aml yn cystadlu â negeseuon amgen sy’n or-syml neu’n ennyn ymgysylltiad ar lefel emosiynol.
Mae iaith a pherthnasedd diwylliannol yn bwysig
Mae'r ffordd y trafodir hawliau dynol yn bwysig. Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyd-destun diwylliannol ac iaith sy’n ystyrlon yn lleol. Mae'r dystiolaeth a adolygwyd yn awgrymu bod hawliau dynol yn aml yn cael eu deall yn well pan fyddant yn gysylltiedig â chysyniadau mwy cyfarwydd fel:
- urddas
- tegwch
- parch
Mae cyd-destun diwylliannol hefyd yn bwysig, a gall galluogi pobl i ymgysylltu â hawliau dynol yn eu hiaith gyntaf helpu i leihau rhwystrau i ddealltwriaeth a chefnogi ymgysylltiad dyfnach â chysyniadau ynglŷn â hawliau. Yn ogystal, gall dulliau sy'n dibynnu'n rhy drwm ar iaith gyfreithiol neu dechnegol greu rhwystrau rhag ymgysylltu.
Mae amodau byw pobl yn siapio’u dealltwriaeth o hawliau
Un o'r canfyddiadau cryfaf ar draws yr adolygiad yw pwysigrwydd amodau cymdeithasol ac economaidd. Gall arfer eich hawliau deimlo'n beryglus, yn amherthnasol neu'n amhosibl i’w wireddu oherwydd:
- tlodi
- tai ansicr
- iechyd gwael
- gwahaniaethu
- mynediad anghyfartal i wasanaethau
Ar draws y dystiolaeth, mae amodau byw pobl dro ar ôl tro yn dod i'r amlwg fel ffactor pwysig sy’n siapio’u gallu i weithredu ar eu hawliau ai peidio. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai amodau byw pobl yn aml iawn yw’r prawf go iawn o ba mor ystyrlon yw hawliau’n ymarferol, ac mae hyn yn amlygu nad oes modd gwahanu dealltwriaeth y cyhoedd oddi wrth amodau cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Y goblygiadau i bolisi ac ymarfer yng Nghymru
Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod gwella dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau dynol yn gofyn am fwy na chodi ymwybyddiaeth gyhoeddus. Mae dulliau’n fwyaf tebygol o fod yn effeithiol pan maent yn cyfuno addysg a chyfathrebu â sefydliadau dibynadwy, cyfranogiad ystyrlon, ac amodau sy'n galluogi pobl i arfer eu hawliau’n ymarferol.
Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gall cyfathrebiadau fod yn fwy effeithiol pan maent yn cysylltu hawliau â phrofiadau bob dydd a gwerthoedd cyfarwydd, yn hytrach na defnyddio iaith gyfreithiol neu dechnegol.
Mae ymddiriedaeth yn dod i'r amlwg fel ystyriaeth arbennig o bwysig. Gall cryfhau dealltwriaeth y cyhoedd felly ddibynnu nid yn unig ar wella mynediad at wybodaeth, ond hefyd ar greu sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt ac amgylcheddau gwybodaeth dibynadwy, a chefnogi perthnasoedd cymunedol.
Mae'r canfyddiadau hyn yn gyson ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau cyhoeddus dwyieithog. Mae hyn yn awgrymu y gall darparu cyfleoedd i ymgysylltu â hawliau dynol yn y Gymraeg a'r Saesneg leihau rhwystrau ieithyddol a chefnogi dealltwriaeth a chyfranogiad mwy ystyrlon.
Yn olaf, mae'r adolygiad yn nodi bylchau pwysig mewn tystiolaeth. Ychydig iawn o dystiolaeth gadarn sydd ar gael ar effaith hirdymor, newid mewn ymddygiad ac effeithiolrwydd ymyraethau, a phrin hefyd yw’r dystiolaeth o Gymru neu'r DU ehangach. Daw llawer o'r dystiolaeth sydd ar gael o gyd-destunau rhyngwladol. Byddai cryfhau'r sylfaen dystiolaeth hon yn gwella dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio i gefnogi dealltwriaeth gyhoeddus barhaus o hawliau dynol.
Manylion cyswllt
Ymchwilydd: Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: yrunedtystiolaethcydraddoldeb@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 86/2026

