Ymateb i Adroddiad Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru Gyfan
Ein safbwynt ar argymhellion yr adroddiad a'r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd.
Ar y dudalen hon
Blaenoriaeth 1: arweinyddiaeth amenedigol genedlaethol gydlynol i sicrhau cysondeb mewn cynllunio strategol, ansawdd a diogelwch ledled Cymru
Argymhelliad: a) tîm amenedigol cenedlaethol
Rydym yn argymell penodi cyfarwyddwyr clinigol cenedlaethol neu arweinwyr mewn obstetreg, neonatoleg, nyrsio newyddenedigol ac anaestheteg obstetrig ar lefelau cyfwerth ag amser llawn amrywiol. Bydd hyn yn sefydlu uwch dîm clinigol amenedigol cenedlaethol amlddisgyblaethol i weithio gyda’r Prif Swyddog Bydwreigiaeth i yrru a chynghori ar ddatblygiadau polisi yn Llywodraeth Cymru, a dwyn byrddau iechyd a darparwyr gwasanaeth eraill i gyfrif.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Byddwn yn adolygu'r tîm arweinyddiaeth glinigol presennol sy'n cynnwys y Prif Swyddog Bydwreigiaeth yn Llywodraeth Cymru a'r Obstetregydd, y Fydwraig a'r Neonatolegydd sydd wedi'u lleoli yn Perfformiad a Gwella'r GIG.
Mae angen goruchwyliaeth genedlaethol gryfach ar y cyd ar gyfer gwasanaethau amenedigol, gyda'r awdurdod angenrheidiol a'r ddealltwriaeth gynhwysfawr i sbarduno gwelliant parhaus a safonau gofal a diogelwch sy'n gyson yn genedlaethol.
Argymhelliad: a) i) bwrdd trosolwg strategol cenedlaethol
Dylai’r bwrdd hwn gynnwys yr holl randdeiliaid cenedlaethol perthnasol sydd â chylch gwaith yn ymwneud â gwasanaethau amenedigol (gan gynnwys ymhlith eraill Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Chronfa Risg Cymru), y tîm amenedigol cenedlaethol a chynrychiolydd defnyddwyr gwasanaeth. Amcan y grŵp hwn fyddai sicrhau goruchwyliaeth gynhwysfawr ac atebolrwydd ar y cyd. Dylai’r bwrdd gael ei gefnogi gan ddau is-bwyllgor arbenigol: un yn canolbwyntio ar adolygu a gweithredu ar arwyddion ansawdd a diogelwch critigol yn rheolaidd, ac un arall yn goruchwylio sut mae byrddau iechyd yn cyflawni’r broses digwyddiadau adroddadwy cenedlaethol ym maes amenedigol a lledaenu dysgu.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu bwrdd trosolwg strategol cenedlaethol gydag aelodaeth berthnasol a chylch gorchwyl wedi’i gyhoeddi. Bydd y bwrdd yn cael ei gynorthwyo gan is-bwyllgor a fydd yn canolbwyntio ar adolygu ansawdd a diogelwch yn barhaus gan ddefnyddio systemau data perthnasol. Bydd is-bwyllgor arall yn cael ei greu i oruchwylio'r broses digwyddiadau adroddadwy cenedlaethol ac i sicrhau bod yr hyn a ddysgir yn cael ei rannu'n brydlon.
Argymhelliad: a) ii) grŵp mamolaeth a newyddenedigol cenedlaethol ar gyfer menywod, rhieni a chymunedau
Rydym yn argymell bod y panel lleisiau mamolaeth a newyddenedigol cenedlaethol arfaethedig hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau eiriolaeth cymunedol sy’n cynrychioli poblogaethau sydd mewn mwy o berygl o brofiadau a chanlyniadau gwaeth mewn gwasanaethau amenedigol. Rydym hefyd yn argymell y dylai ethol cynrychiolydd i eistedd ar y bwrdd goruchwylio strategol cenedlaethol.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Yn rhan o'r fframwaith ymgysylltu amenedigol, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Llais roi cymorth i unigolion o fyrddau iechyd sy'n cadeirio partneriaethau lleisiau mamolaeth a newyddenedigol, ac i sefydlu fforwm cenedlaethol i rannu arferion gorau neu ddysgu allweddol ac uwchgyfeirio unrhyw faterion i Perfformiad a Gwella'r GIG a Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 26 Chwefror. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi unrhyw ofynion hyfforddiant.
Argymhelliad: a) iii) grŵp rhanddeiliaid amenedigol
Mae grŵp ehangach o randdeiliaid sy’n cynnwys y sector gwirfoddol, cynrychiolwyr eiriolaeth, cyrff y DU fel y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, a chynrychiolwyr o wahanol grwpiau staff gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, wedi bod yn cynghori ein panel asesu sicrwydd. Mae eu cyngor a’u her wedi bod yn amhrisiadwy. Rydym yn argymell eu bod yn parhau i gyfarfod bob chwarter a’u bod yn llunio cylch gorchwyl fel bod barn y grŵp yn bwydo i mewn i’r bwrdd goruchwylio strategol cenedlaethol. Dylid adolygu ei aelodaeth bresennol a’n hawgrym ni yw y dylid ei ehangu i gynnwys addysgwyr, ymchwilwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr.
Rydym hefyd yn argymell bod y tîm amenedigol cenedlaethol yn cyfarfod unwaith y flwyddyn mewn digwyddiad wyneb-yn-wyneb ar y cyd â’r bwrdd goruchwylio, y Grŵp Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol ar gyfer Menywod, Rhieni a Chymunedau, a’r Grŵp Rhanddeiliaid Amenedigol.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Perfformiad a Gwella'r GIG i adolygu ac ehangu aelodaeth y grŵp rhanddeiliaid a sefydlu hwn yn grŵp parhaus sy'n cyfarfod yn rheolaidd ac sydd â chylch gorchwyl wedi’i gyhoeddi. Bydd digwyddiad wyneb yn wyneb blynyddol yn cael ei gynnal i'r holl grwpiau gyfarfod i sefydlu prosesau ar gyfer newid ac i adolygu cynnydd yn erbyn camau gweithredu blaenorol.
Argymhelliad: b) data a monitro
Dylai’r grŵp goruchwylio cenedlaethol fod yn gyfrifol am fonitro setiau data cynhwysfawr yn fwy systematig a chydgysylltiedig ar lefel genedlaethol, gyda dangosyddion diogelwch critigol yn cael eu monitro mewn amser-real. Er mwyn galluogi hyn, dylid rhoi blaenoriaeth frys i ddatblygu a gweithredu’r dangosfwrdd cenedlaethol Beacon a’i ddefnyddio i hybu dealltwriaeth o’r system gyfan a rhoi gwelliannau ar waith. Dylid cyhoeddi’r data hyn mewn adroddiadau rheolaidd.
Hefyd, dylai Llywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i gyflwyno dangosfwrdd signalau diogelwch ychwanegol, yn debyg i’r dangosfwrdd MOSS a gyflwynwyd yn ddiweddar yn Lloegr, er mwyn gallu monitro dangosyddion diogelwch allweddol mewn amser-real ar draws gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru, ac ymyrryd yn gyflym yn ôl yr angen. Dylai hyn gael ei fonitro gan is-grŵp o’r grŵp goruchwylio cenedlaethol a chynnwys yr arbenigedd clinigol ac academaidd angenrheidiol.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Mae dangosfwrdd Beacon eisoes yn weithredol ledled Cymru. Bydd system famolaeth ddigidol Badgernet yn weithredol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru erbyn Ebrill 2026. Mae'r cyflwyno system famolaeth digidol yn cynnwys safonau cofnodi ac adrodd data mamolaeth a fydd yn bwydo i ddangosfwrdd cenedlaethol.
Mae Cymru wedi bod yn rhan o'r grŵp llywio ar gyfer datblygu'r system signalau data MOSS o dan arweiniad GIG Lloegr sy'n cael ei chyflwyno ledled Lloegr ar hyn o bryd. Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnal asesiad o'r seilwaith a'r costau sydd eu hangen i roi hyn ar waith yng Nghymru.
Argymhelliad: c) llywodraethiant cenedlaethol
Rydym yn argymell bod map hygyrch ac esboniad o’r dirwedd lywodraethiant gymhleth yn cael eu cyhoeddi o fewn chwe mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu fframwaith llywodraethiant clinigol a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2026.
Blaenoriaeth 2: cynnig cyffredinol o ofal o safon drwy gydol y daith amenedigol
Argymhelliad:
Rydym yn argymell bod cyfraddau presennol y dilyniant mewn gofal gan fydwragedd yn cael eu hasesu yn 2026 i 2027, gan ddefnyddio’r cofnod iechyd mamolaeth unigol digidol newydd; a chynllun ystyrlon i gynyddu dilyniant mewn gofal a luniwyd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, byrddau iechyd, staff, menywod a theuluoedd. Dylid blaenoriaethu menywod ag anghenion cymdeithasol ac iechyd mwy cymhleth ar gyfer dilyniant mewn gofal yn ystod y camau gweithredu cyntaf.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd y Prif Swyddog Bydwreigiaeth yn Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o GIG Cymru, staff, menywod a theuluoedd i adolygu’r model gorau ar gyfer dilyniant mewn gofal. Bydd y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2026.
Argymhelliad:
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod pob darparwr gwasanaethau mamolaeth, newyddenedigol ac addysg berthnasol yn mynd ati i weithio drwy gamau achredu Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd Llywodraeth Cymru yn adnewyddu'r gofyniad a nodwyd ar gyfer achrediad UNICEF (Cronfa Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Plant) ar draws yr holl fyrddau iechyd a sefydliadau addysg uwch sy'n rhan o'r Cynllun Bwydo Babanod. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddatblygu yn ystod 2026 i 2027.
Argymhelliad:
Dylai byrddau iechyd sicrhau bod aelod addas o’r tîm amlddisgyblaethol sy’n ymwneud â’u gofal yn cynnal trafodaeth geni cyn eu rhyddhau o wasanaethau mamolaeth. Lle bo’n berthnasol, dylai gwasanaethau newyddenedigol fod yn rhan o’r trafodaethau hyn. Dylid cynnig hyn fel mater o drefn, yn ogystal â’r Gwasanaeth Gwerthfawr Myfyrio ar Enedigaeth sy’n gallu cymryd sawl wythnos i’w ddarparu ar ôl y geni, a hynny pan ofynnir amdano.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau’r canllawiau i fyrddau iechyd, ochr yn ochr â'r Datganiad Ansawdd, gan nodi disgwyliadau i sicrhau bod trafodaethau am enedigaeth yn digwydd fel rhan arferol o ofal mamolaeth a newyddenedigol.
Argymhelliad:
Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi byrddau iechyd i ddarparu gwybodaeth glir, hygyrch a chywir i’r cyhoedd drwy ddarparu templedi ar gyfer ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol y gellir eu haddasu ar lefel ranbarthol.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda thimau Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd i ddatblygu cynllun cyfathrebu cenedlaethol i'w ystyried gan y Bwrdd Trosolwg Cenedlaethol.
Blaenoriaeth 3: rhoi sylw brys i faterion diogelwch clinigol hollbwysig
Argymhelliad:
Dylai Llywodraeth Cymru symud ymlaen yn gyflym yn 2026 i gomisiynu a gweithredu’r llinell brysbennu genedlaethol arfaethedig. Dylai hefyd gyhoeddi model gwasanaeth safonol ar gyfer brysbennu wyneb-yn-wyneb gyda therminoleg gyson, gan sicrhau ei fod ar gael o gwmpas y gloch trwy'r holl flwyddyn gyda chefnogaeth staff ymroddedig a phresenoldeb clinigol uwch dibynadwy. Ni ddylai gwasanaethau brysbennu wyneb yn wyneb gynnwys asesiadau cyn-geni neu ôl-enedigol sydd wedi’u trefnu.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Mae ymarfer cwmpasu ar gyfer llinell frysbennu genedlaethol ar gyfer mamolaeth y gweill ac mae disgwyl iddo adrodd ym mis Mawrth 2026. Bydd yn darparu argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y dull gweithredu a bydd yn cynnwys costau ac amserlenni. Bydd Perfformiad a Gwella'r GIG yn datblygu
manyleb gwasanaeth yn 2026 i 2027 ar gyfer brysbennu wyneb yn wyneb o dan oruchwyliaeth y Bwrdd Trosolwg Cenedlaethol.
Argymhelliad: ysgogi’r esgor
Mae angen manyleb gwasanaeth genedlaethol glir i sicrhau bod byrddau iechyd yn cyd-fynd â chanllawiau cyfredol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar wneud penderfyniadau gwybodus, cynllunio gofal a mynediad amserol at ofal. Dylai manyleb y gwasanaeth hefyd gyhoeddi model gwasanaeth safonol ar gyfer ysgogi’r esgor sy’n disgrifio’r llwybr derbyn, y man gofal, y gweithlu ymroddedig a’r drafodaeth mewn cyfarfodydd amenedigol dyddiol (trafodaethau amlddisgyblaethol) am y llif a’r capasiti ysgogi’r esgor.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd Perfformiad a Gwella'r GIG yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i ddatblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer ysgogi’r esgor.
Blaenoriaeth 4: staffio ac ystadau digonol i ddarparu gofal diogel o ansawdd da
Argymhelliad: a)
Ar lefel genedlaethol, dylid datblygu a gweithredu adnodd cynllunio’r gweithlu ar gyfer model gweithlu amlddisgyblaethol i wasanaethau mamolaeth sy’n adlewyrchu ac yn integreiddio â safonau BAPM (British Association of Perinatal Medicine) ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol. Dylai hyn gynnwys lefelau digonol o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, seicoleg a fferylliaeth, a dylai ddisodli’r defnydd gorfodol presennol o Birthrate Plus®. Dylai hefyd gynnwys yr holl wasanaethau mamolaeth, gan gynnwys gofal cynenedigol, ôl-enedigol a bydwreigiaeth, a gwasanaethau i fenywod sydd ag anghenion cymdeithasol a diwylliannol ychwanegol.
Rhaid i fyrddau iechyd fynd i’r afael â phwysau staffio ar unwaith tra bo manylebau gweithlu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn cael eu hailddatblygu.
Ymateb: derbyn
Mae AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru) wedi cynnal adolygiad o'r offer aciwtedd sydd ar gael ac wedi cyhoeddi cynllun gweithlu amenedigol. Ar hyn o bryd mae Perfformiad a Gwella'r GIG yn datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer y gweithlu amenedigol i gyd-fynd â'r cynllun a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2026. Rydym yn cydnabod nad yw'r offer gweithlu presennol yn adlewyrchu'r tîm amlddisgyblaethol sydd ei angen ar gyfer cymhlethdod cynyddol gofal. Mae Llywodraeth Cymru mewn trafodaeth gynnar gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu offeryn cynllunio gweithlu amlddisgyblaethol i'w ddefnyddio ledled y DU. Bydd y Rhaglen Staffio Genedlaethol yn Perfformiad a Gwella'r GIG yn arwain y gwaith hwn gyda'r Prif Swyddog Bydwreigiaeth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrwydd bod gan fyrddau iechyd gynlluniau gweithlu ar waith gyda sefydliadau staff priodol drwy'r mecanweithiau perfformiad a sicrwydd perthnasol.
Blaenoriaeth: a) rhwydwaith clinigol meddygaeth mamau
Dylai hyn gael ei gomisiynu gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, dylai Perfformiad a Gwella GIG Cymru hwyluso’r gwaith o adolygu llwybrau clinigol ar gyfer cyflyrau prin ond difrifol sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, fel sbectrwm placenta accreta, er mwyn sicrhau bod llwybrau clir, cyson ac wedi’u comisiynu ar gael ar gyfer asesiadau a thriniaeth arbenigol yng Nghymru neu gan glinigwyr yng ngwledydd eraill y DU.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Mae Perfformiad a Gwella'r GIG wedi ysgrifennu at y Cyd-bwyllgor Comisiynu yn amlinellu'r gofyniad am
rwydwaith clinigol meddygaeth mamau sy'n canolbwyntio ar gyflyrau prin. Mae'r Cyd-bwyllgor wedi cyflwyno hyn fel bwriad comisiynu o fewn y Cynllun Tymor Canolig Integredig ac mae'n cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Argymhelliad: b) digon o theatrau a chapasiti
Dylai pob Bwrdd Iechyd adolygu ei ystâd o theatrau a’u capasiti, gan adlewyrchu anghenion nawr ac yn y dyfodol. Dylai hyn gynnwys cynllun ar gyfer staffio theatr yn ddigonol (meddygol ac anfeddygol) a bod theatrau mamolaeth wedi’u lleoli’n briodol a gydag adnoddau priodol o fewn ôl troed y gwasanaeth mamolaeth a newyddenedigol er mwyn galluogi cymorth amserol i’r tîm amlddisgyblaethol sy’n gofalu am fenywod a babanod yn ystod llawdriniaeth wedi’i chynllunio a heb ei chynllunio.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd Perfformiad a Gwella'r GIG yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i adolygu'r capasiti theatr presennol, i fodelu anghenion y dyfodol ac i ddatblygu manyleb gwasanaeth ar ofynion ar gyfer capasiti theatr a lefelau staffio, yng nghyd-destun cyfraddau cynyddol o doriadau cesaraidd. Mae hyn yn cyd-fynd â gwaith ehangach ym maes gofal a gynlluniwyd i adolygu'r defnydd o theatrau, ac mae'n caniatáu i waith modelu'r gweithlu gael ei wneud i lywio'r gwaith hwn.
Blaenoriaeth 5: cymorth iechyd meddwl
Argymhellion:
Dylai Llywodraeth Cymru lunio a chyhoeddi manyleb gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer llwybrau iechyd meddwl amenedigol sy’n cwmpasu cyflyrau iechyd meddwl cyffredin a chyflyrau cymedrol i ddifrifol abrofir gan fenywod, yn ogystal â gwasanaethau i dadau neu bartneriaid a’r berthynas rhwng rhiant-baban.
Dylai byrddau iechyd sicrhau bod hyfforddiant wedi’i integreiddio i holl staff gwasanaethau amenedigol ar adnabod, ymateb ac atal trawma. Dylai pawb sy’n ymwneud â phrosesau ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys timau cyfreithiol, ddilyn yr hyfforddiant hwn hefyd. Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o gydnabod, ymateb ac atal trawma cymhleth ymysg menywod, rhieni a staff.
Dylai pob bwrdd iechyd gymryd rhan mewn proses ystyrlon gyda staff gwasanaethau amenedigol i geisio dealltwriaeth fanwl o anghenion iechyd meddwl a llesiant staff a chyd-gynhyrchu gwell strwythurau cymorth a gofal. Dylai byrddau iechyd adolygu a monitro pa mor effeithiol yw hyn drwy ddulliau ymgysylltu cydweithredol a thryloyw.
Ymateb: derbyn yn rhannol
Camau gweithredu:
Mae llwybrau cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol wedi'u datblygu ac maent ar waith ar draws y byrddau iechyd. Disgwylir i'r byrddau iechyd gadw at safonau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ac maent wedi cael cyllid i ddod â’r gwasanaethau yn unol â'r safonau. Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Cymru yn nodi y bydd Datganiadau Ansawdd sy'n seiliedig ar y Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal yn nodi'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau a llwybrau clinigol penodol, ac y bydd y rhain yn cael eu hategu gan fanylebau gwasanaeth manylach yn disgrifio'r canlyniadau a'r manteision.
Mae amrywiaeth o raglenni a gwasanaethau ar draws y llywodraeth sy'n cefnogi'r berthynas rhwng rhieni a babanod. Ni fyddai'r gwasanaethau hyn yn rhan o fanyleb y GIG ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag AaGIC a'r Byrddau Iechyd i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i'r holl staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau amenedigol a chymorth ar draws GIG Cymru.
Mae'r byrddau iechyd yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau cymorth perthnasol ar waith ar gyfer llesiant staff. Bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn gofyn am sicrwydd y byddant yn adolygu'r ddarpariaeth bresennol ac yn gweithio gyda staff i wella'r cynnig lle bo angen.
Blaenoriaeth 6: comisiynu gofal newyddenedigol optimaidd
Recommendation: comisiynu
Mae angen dybryd i Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru gwblhau’r gwaith dadansoddi a’r penderfyniadau comisiynu gofynnol sy’n ymwneud â ffurfweddu crudiau newyddenedigol a chludiant babanod newydd-anedig. Dylai hyn hefyd gynnwys ystyried sut i fanteisio i’r eithaf ar ansawdd a chapasiti gofal pontio.
Dylai Llywodraeth Cymru gyflymu’r broses o weithredu system genedlaethol i ddod o hyd i welyau mamolaeth a gwelyau neu grudau newyddenedigol sydd ar gael o gwmpas y gloch trwy'r holl flwyddyn, ac yn cynnig staff ymroddedig, goruchwyliaeth glinigol uwch ac un pwynt mynediad.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd y Cyd-bwyllgor Comisiynu yn cwblhau'r dadansoddiad angenrheidiol i lywio penderfyniadau comisiynu ar gyfer gwasanaeth cludiant newyddenedigol cenedlaethol a chyfluniad crudau newyddenedigol. Disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2026 yn unol â gwaith ehangach sy'n cael ei wneud gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar y prosiect Lleoli Gwelyau Crud. Bydd y dadansoddiad hwn yn llywio penderfyniadau a gwaith cynllunio i weithredu'r gwasanaeth cludiant a lleoli crudau.
Blaenoriaeth 7: proses ddibynadwy ar gyfer adolygu ac ymchwilio, sy’n cynnwys teuluoedd ac yn arwain at ddysgu amserol
Gweithdrefn Weithredu Safonol glir, hygyrch a chyhoeddus ar gyfer rheoli ac ymateb i ddigwyddiadau mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru. Dylai hyn gynnwys siart llif sy’n dangos y prosesau a’r amserlenni y mae’n rhaid eu dilyn i gyd fynd â deddfwriaeth a chanllawiau Cymru,
a fframweithiau’r DU. Rhaid i’r weithdrefn ganolbwyntio ar y teulu, bod yn ystyriol o drawma, a defnyddio dulliau cyfiawnder adferol.
Is-bwyllgor arbenigol o’r Bwrdd Trosolwg Strategol Cenedlaethol (fel y disgrifir ym mlaenoriaeth 1) i oruchwylio sut mae’r byrddau iechyd yn gweithredu’r broses digwyddiadau sy’n adroddadwy yn genedlaethol mewn achosion amenedigol. Dylai hyn gynnwys arweinwyr clinigol amlddisgyblaethol, eiriolwr cleifion lleyg, Cronfa Risg Cymru ac arbenigedd academaidd i sicrhau bod prosesau’n canolbwyntio ar y teulu, yn amserol a bod dysgu’n cael ei rannu. Gallai hefyd sicrhau bod adrodd ar ddigwyddiadau amenedigol yn arwain at ddysgu thematig a chynhyrchu adroddiadau thematig cenedlaethol.
Storfa genedlaethol o wybodaeth amenedigol i gynnwys Digwyddiadau sy’n Adroddadwy yn Lleol ac yn Genedlaethol a fyddai’n galluogi dysgu systematig ac ystyrlon ac adrodd yn ôl ar hynny.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Bydd Perfformiad a Gwella'r GIG yn datblygu Gweithdrefn Weithredu Safonol, yn 2026 i 2027, i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau a rheoli digwyddiadau. Bydd hyn yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Trosolwg Strategol Cenedlaethol.
Ar hyn o bryd mae gan Perfformiad a Gwella'r GIG bolisi Digwyddiadau Adroddadwy Cenedlaethol sy'n cynnwys achosion adroddadwy MBBRACE (Mothers and Babies: Reducing Risk through Audits and Confidential Enquiries). Bydd yn ofynnol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer datblygu storfa genedlaethol.
Blaenoriaeth 8: datblygu dealltwriaeth fanwl o anghenion, profiadau a chanlyniadau drwy ymgysylltu a gwerthuso
Argymhelliad:
Dylai byrddau iechyd wella sut mae profiadau a safbwyntiau menywod, teuluoedd a chymunedau yn cael eu clywed, a sut y gweithredir arnynt, drwy fanteisio i’r eithaf ar weithredu’r Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol.
Dylai byrddau iechyd wella sut mae profiadau a safbwyntiau staff yn cael eu clywed, a sut y gweithredir arnynt, drwy weithredu dulliau cynhwysiant ystyrlon sy’n cael eu cydgynhyrchu gyda grwpiau staff.
Dylai Llywodraeth Cymru, ar y cyd o bosibl â Llywodraethau eraill y DU, gomisiynu rhaglen ymchwil ar gostau’r model gofal presennol a’r model gofal sy’n datblygu, yn ogystal â chanlyniadau tymor byr, tymor canolig a thymor hir hynny.
Dylai byrddau iechyd brofi a gwerthuso cynlluniau i leihau anghydraddoldebau o ran profiad a chanlyniadau, yn enwedig o safbwynt tlodi ac ethnigrwydd, a rhannu’r canfyddiadau ar lefel Cymru gyfan.
Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwerthusiad o effaith a chanlyniadau’r blaenoriaethau a argymhellir yma.
Ymateb: derbyn
Camau gweithredu:
Mae'r Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol, sy'n rhoi cyfeiriad strategol i'r byrddau iechyd, yn cynnwys disgwyliad i ymgysylltu â chymunedau i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Mae Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella'r GIG wedi datblygu Mesurau Ymgysylltu Amenedigol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd drwy system adborth cleifion Civica ar draws gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Caiff ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2026.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraethau'r DU yn ehangach i benderfynu a ydynt yn dymuno symud ymlaen â'r maes gwaith hwn. Ar yr un pryd, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio data o'r model gofal presennol yn llinell sylfaen i asesu gwelliannau wrth i fodelau newydd gael eu gweithredu. Cynhelir y dadansoddiad hwn drwy ddefnyddio gwybodaeth fewnol ac arbenigedd dadansoddol.
Bydd data Mamolaeth Ddigidol Cymru yn darparu cyfleoedd i gael gwybodaeth am ddata wedi'u dadgyfuno i lywio materion y mae angen ymdrin â hwy er mwyn lleihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau a phrofiadau mamolaeth.
Bydd proses gadarn o gasglu a gwerthuso data yn cael ei hymgorffori yn yr holl fentrau a fydd yn ymateb i'r argymhelliad hwn.
