Mae dros £2.3 miliwn ar gael i gefnogi prosiectau tai a gofal newydd ledled Cymru, gan helpu pobl ag anghenion gofal a chymorth i fyw'n annibynnol, yn eu cymunedau eu hunain, am gyfnod hirach.
- Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £2.3 miliwn drwy'r Gronfa Tai â Gofal i gefnogi prosiectau tai a gofal newydd yng Nghaerffili a Sir Gaerfyrddin.
- Bydd y cyllid yn caniatáu i fwy o bobl ag anghenion gofal a chymorth fyw'n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain, osgoi arosiadau diangen yn yr ysbyty a dychwelyd adref yn gynt.
- Mae'r buddsoddiad yn cefnogi dull gweithredu integredig o ran tai, iechyd a gofal cymdeithasol.
Wedi'i ddyrannu drwy'r Gronfa Tai â Gofal (HCF), bydd y cyllid yn cefnogi sawl prosiect yng Nghaerffili a Sir Gaerfyrddin. Bydd y prosiectau yn darparu tai rhent cymdeithasol newydd â gofal, fel tai gofal ychwanegol a byw â chymorth, fel y gall pobl aros yn annibynnol yn hytrach na symud i ofal preswyl cyn bod angen iddynt wneud hynny.
Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi llety a gofal canolraddol yn y gymuned, gan gynnwys cyfleusterau cam-i-fyny a cham-i-lawr, gan helpu pobl i osgoi arosiadau diangen yn yr ysbyty a dychwelyd adref yn gynt ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r ysbyty.
Mae'r Gronfa Tai â Gofal yn rhaglen gyfalaf pum mlynedd gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu tai a llety i bobl ag anghenion gofal a chymorth. Mae'n ganolog i uchelgais y llywodraeth i ddod â thai, iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd, fel y gall pobl gael eu cefnogi gartref, yn eu cymunedau eu hunain, yn hytrach nag mewn ysbytai neu ofal preswyl.
Trwy gynyddu'r cyflenwad o dai a llety arbenigol, mae'r gronfa yn helpu pobl i aros yn nes at eu cartrefi a'u hanwyliaid, yn lleddfu'r pwysau ar ysbytai a chartrefi gofal ac yn adeiladu system iechyd a gofal sy’n fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian:
Mae pawb yn haeddu cartref lle gallant fyw'n ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas, beth bynnag yw eu hanghenion gofal. Bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, gan eu helpu i aros yn eu cymunedau ac yn agos at deulu a ffrindiau, yn hytrach na chael eu symud i ffwrdd ar gyfer gofal y gallent ei dderbyn yn nes at y cartref.
Trwy fuddsoddi mewn tai â gofal, rydym hefyd yn lleddfu'r pwysau ar ein hysbytai a'n cartrefi gofal, gan helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref yn gynt ar ôl iddynt fod yn yr ysbyty, a rhyddhau capasiti i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Dyma sut mae dull gwirioneddol integredig o ran tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn edrych yn ymarferol, ac rwy'n falch o'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i bobl ledled Cymru.
