Cyfarfod Grŵp Cynghori Draenogiaid y Môr: 16 Mehefin 2026
Nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd 16 Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Grŵp
Colin Charman (CC)
Jim Evans (JE)
Simon Frobisher (SF)
Kieran Hyder (KH)
Brett Garner (BG)
Richard Strudwick (RS)
John O’Connor (JO)
Peter Morgan (PM)
Peter Elliott (PE)
CCRI
Prof Paul Courtney (PC)
Dr Molly Atkins (MA)
Llywodraeth Cymru
Seb Evans (SE)
Michelle Billing (MB)
Matt Sayer (MS)
Prideaux Hattle (PH)
Michelle Fraser (MF)
Barrie John (BJ)
Ymddiheuriadau
Julian Bray (JB)
Hannah Rudd (HR)
Gareth Henson (GH)
Nodiadau
Croeso a Chyflwyniadau, Diben y Cyfarfod
Croesawodd Michelle Billing bawb i 12fed cyfarfod y grŵp a rhannodd ymddiheuriadau gan Julian Bray, Hannah Rudd a Gareth Henson. Croesawodd Peter Morgan o'r Angling Trust a'r Athro Paul Courtney a Dr Molly Atkins o CCRI.
Amlinellodd MB ddiben y cyfarfod, sef rhoi trosolwg o'r papur methodoleg drafft ar gyfer yr astudiaeth economaidd-gymdeithasol o bysgota hamdden.
Adolygu a chymeradwyo nodiadau a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol
Aeth Seb Evans dros y nodiadau a'r camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol. Ni wnaed unrhyw sylwadau, a chytunwyd y gellid cyfieithu a chyhoeddi'r nodiadau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cam gweithredu 1: Cyfieithu a chyhoeddi'r nodiadau a'r camau gweithredu o gyfarfod 11.
Cyflwyniad CCRI
Atgoffodd Seb Evans yr aelodau bod y contract ar gyfer yr astudiaeth economaidd-gymdeithasol o bysgota hamdden wedi'i ddyfarnu i CCRI a chyflwynodd PC ac MA.
Yr astudiaeth economaidd-gymdeithasol
Cyflwynodd Yr Athro Paul Courtney ac Dr Molly Atkins (CCRI) drosolwg o'r papur methodoleg drafft a gwahodd adborth cyn i'r astudiaeth ddechrau.
Dull gweithredu
Ffocws y trafodaethau cychwynnol oedd y fframwaith dwy haen arfaethedig, sy'n gwahaniaethu rhwng Pysgotwyr sy'n Targedu Draenogiaid Môr (TSB) a Physgotwyr Damweiniol Draenogiaid Môr (ISB). Bwriad y dull gweithredu yw gwella'r ddealltwriaeth o ymddygiad pysgotwyr a chryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer asesiadau a datblygu polisi.
Codwyd y pwyntiau canlynol:
- Awgrymwyd nad yw ymddygiad pysgotwyr bob amser yn ffitio'n daclus i'r naill gategori neu'r llall, gan fod llawer o bysgotwyr yn targedu draenogiaid môr ac yn cynnal gweithgareddau pysgota ehangach ar y môr ar yr un pryd.
- Gall categoreiddio pysgotwyr yn y modd hwn gymhlethu'r gwaith dadansoddi a phriodoli gwariant, cymhellion ac ymdrech bysgota.
- Gall cyfyngiadau yn y data sydd ar gael, yn enwedig o ran amcangyfrifon poblogaeth ac ehangu canlyniadau, leihau effeithiolrwydd y dull gweithredu.
- Nid yw astudiaethau ar lefel genedlaethol yn rhannu elfennau yn y modd hwn fel arfer, a gallai hynny gyfyngu ar y gallu i gymharu â gwaith ymchwil arall.
- Gall dull symlach sy'n canolbwyntio ar bysgotwyr penodedig draenogiaid môr gynhyrchu data mwy cadarn.
Cydnabu PC y pwyntiau a godwyd, gan nodi y dylai gwahaniaethu rhwng pysgotwyr ISB a TSB wella'r ddealltwriaeth o ymddygiadau pysgota a sicrhau bod modd priodoli ymdrech, gwariant a chymhellion yn fwy cywir. Er bod dosbarthu yn parhau i fod yn her gydnabyddedig ym maes ymchwil pysgodfeydd hamdden, bydd cwestiynau strwythuredig yn rhoi ffordd dryloyw i neilltuo ymatebwyr sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Parodrwydd i dalu
Gofynnodd un o'r aelodau ai bwriad y cwestiynau am barodrwydd i dalu oedd archwilio potensial cyflwyno trwyddedau neu ffioedd ar gyfer pysgotwyr hamdden. Codwyd pryder y gallai dull o'r fath annog pobl i beidio â physgota ar gyfer hamdden, yn enwedig pobl ifanc.
Eglurodd MS nad yw parodrwydd i dalu yn ymwneud ag a fyddai unigolion yn talu am fynediad i'r bysgodfa hamdden draenogiaid môr. Yn hytrach, mae'n amcangyfrif y gwerth y maen nhw'n ei roi ar hynny a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwerth hwnnw.
Cadarnhaodd MB y bydd y papur yn cael ei ddiweddaru i roi esboniad cliriach o'r cysyniad parodrwydd i dalu.
Ansawdd data
Fe wnaeth y trafodaethau ar ansawdd data dynnu sylw at yr angen i ystyried y canlynol:
- Patrymau teithio (e.e. pellter a chostau cysylltiedig) a demograffeg.
- Meysydd posibl o duedd mewn gwaith ehangach ar lefel y DU.
- Maint y sampl a'r effaith bosibl ar lefelau hyder.
- Y Sea Angling Diary fel ffynhonnell ddata bosibl, er bod y cwestiynau'n parhau ynglŷn â pha mor gynrychioliadol ydyw a faint o fanylder sydd ar gael ar gyfer Cymru.
- Tuedd posibl yn deillio o ddibyniaeth ar ddata demograffig presennol.
Ymgysylltu â physgotwyr
Nodwyd y gallai fod yn anoddach ennyn diddordeb pysgotwyr sy'n targedu draenogiaid môr yn benodol, gan eu bod yn aml yn osgoi lleoliadau pysgota poblogaidd a gallant fod yn amddiffynnol o'u mannau pysgota. Mewn cyferbyniad, mae pysgotwyr damweiniol yn aml yn pysgota mewn lleoliadau mwy poblogaidd a hygyrch, gan eu gwneud yn haws i'w cyrraedd trwy weithgareddau arolygu a samplu.
Ystyriwyd bod sicrhau cynrychiolaeth ddigonol o'r pysgotwyr hyn sy'n anoddach eu cyrraedd yn hanfodol i lwyddiant yr astudiaeth, oherwydd y gallai eu tangynrychioli arwain at ogwyddo'r canlyniad a lleihau pa mor dda y mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu'r boblogaeth pysgota môr ehangach.
Nodwyd hefyd y gall proffil demograffig pysgotwyr sy'n targedu draenogiaid môr yng Nghymru fod yn gymharol gul, gyda chyfranogiad wedi'i grynhoi ymhlith grwpiau demograffig penodol. Tynnodd hyn sylw at yr angen i'r astudiaeth adlewyrchu'r nodweddion hyn yn gywir gan ymgorffori strategaethau lliniaru i ehangu cyfranogiad.
Nodwyd bod patrymau gwario'n cael eu hysgogi i raddau helaeth gan offer, amser a theithio.
Y camau nesaf
Diolchodd MB i'r cyfranogwyr am eu cyfraniadau a phwysleisiodd yr angen am gefnogaeth barhaus gan y grŵp, ei rwydweithiau, a chymunedau pysgota ehangach i helpu i hyrwyddo'r astudiaeth, sicrhau'r nifer fwyaf bosibl o ymatebion i'r arolwg, ac ennyn diddordeb pysgotwyr anoddach eu cyrraedd.
Nodwyd y bydd cwestiynau dilynol yn cael eu dosbarthu ar ôl y cyfarfod, a gwerthfawrogir ymatebion manwl gan yr aelodau.
Bydd yr adborth o'r cyfarfod yn cael ei ystyried, a bydd y papur methodoleg yn cael ei ddiweddaru lle bo angen.
Cam gweithredu 2: LlC a CCRI i adolygu'r adborth o'r cyfarfod a diweddaru'r papur methodoleg.
Cam gweithredu 3: Dosbarthu holiadur CCRI i'r grŵp.
Unrhyw fater arall; dyddiad y cyfarfod nesaf
Bydd y cyfarfod nesaf ar ddechrau mis Awst a bydd yn canolbwyntio ar gyngor diweddaraf ICES a'r tymor silio.
Camau gweithredu
Camau sy'n weddill o gyfarfodydd blaenorol
Cyfarfod 7: 5 Rhagfyr 2024
- Cael cyngor ar sut gellid amrywio terfynau niferoedd hamdden. MB: parhaus.
Cyfarfod 8: 4 Chwefror 2025
- Paratoi datganiad ynglŷn â rôl genweirio hamdden a phwysigrwydd data hamdden wrth gyflawni’r FMP draenogiaid môr. SE/HR: parhaus.
- Archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio llysgenhadon i hyrwyddo’r dyddiaduron genweirio môr. MB: parhaus.
Cyfarfod 11: 26 Mawrth 2026
- Cydlynu trafodaeth ar gyfnodau silio rhwng Prifysgol Essex a Phrifysgol Bangor. MS: parhaus.
Camau gweithredu newydd o’r cyfarfod hwn
- Cyfieithu a chyhoeddi nodiadau a chamau gweithredu o gyfarfod 11. MF: cwblhawyd 5 Awst 2026.
- LIC A CCRI i adolygu'r adborth o'r cyfarfod a diweddaru'r papur methodoleg. SE/CCRI: cwblhawyd 13 Gorffennhaf 2026.
- Dosbarthu holiadur CCRI i'r grŵp. MF: cwblhawyd 17 Mehefin 2026.
