Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yn darparu’r fframwaith ar gyfer gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy ddatblygu cynaliadwy. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio ar y cyd â phobl a chymunedau, mabwysiadu dull integredig o fynd i’r afael â heriau, a gweithredu i atal problemau rhag mynd yn fwy difrifol. Mae’n sefydlu saith nod llesiant sydd, gyda’i gilydd, yn disgrifio’r Gymru yr ydym am ei gweld ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgymryd â datblygu cynaliadwy drwy osod a chyhoeddi amcanion llesiant sydd wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o’u cyfraniad at gyflawni’r saith nod llesiant, a thrwy gymryd pob cam rhesymol i wireddu’r amcanion hynny.

Mae’r Datganiad Llesiant hwn yn atodiad  i Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026–2030. Mae’n esbonio:

  • ein hamcanion llesiant a’r camau rhesymol y byddwn yn eu cymryd i’w gwireddu
  • sut y mae gwireddu ein hamcanion yn cyfrannu at y saith nod llesiant
  • sut y maent wedi’u datblygu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy; a
  • sut y bydd cynnydd yn cael ei fonitro a sut yr adroddir arno yn ystod tymor y Senedd hon.

Ein hamcanion llesiant (2026–2030)

Etholwyd y Llywodraeth hon i gyflawni newid i bobl Cymru. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi sut y byddwn yn gwireddu’r addewid hwnnw drwy ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i bobl a chymunedau ar draws ein gwlad.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol inni ymateb i heriau heddiw wrth adeiladu’r Gymru yr ydym am ei gweld ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, rydym wedi dod â’n Rhaglen Lywodraethu a’n Hamcanion Llesiant ynghyd o dan un fframwaith gweithredu. Mae ein hamcanion yn nodi’r canlyniadau hirdymor yr ydym am eu cyflawni, tra bod yr ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu yn ffurfio’r camau rhesymol y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r canlyniadau hynny yn ystod tymor y Senedd hon.

Mae’r amcanion wedi’u seilio ar y blaenoriaethau y mae pobl wedi ymddiried ynom i’w cyflawni, wedi’u llywio gan y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ein cenedl, ac wedi’u llunio gan ein cyfrifoldeb i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Byddant yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau a wneir heddiw yn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Mae’r heriau sy’n wynebu Cymru yn gymhleth ac yn rhyng-gysylltiedig. Mae cynnydd mewn un maes yn aml yn dibynnu ar gynnydd mewn maes arall. Mae economi llesiant ffyniannus yn dibynnu ar iechyd da, tai o safon, cymunedau cryf, llwyddiant addysgol, cynaliadwyedd amgylcheddol a chyfle cyfartal. Mae ein hamcanion felly wedi’u cynllunio i weithio gyda’i gilydd, gan gydnabod y cysylltiadau hyn a chefnogi dull integredig sy’n gwneud y mwyaf o’n cyfraniad at y saith nod llesiant.

Dyma ein hamcanion llesiant ar gyfer y cyfnod 2026–2030:

  1. Datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a thorri rhestrau aros
  2. Helpu aelwydydd â chostau byw
  3. Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
  4. Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
  5. Mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau’r dyfodol gorau i bob plentyn yng Nghymru
  6. Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan
  7. Gwell llywodraeth – cyflawni ein blaenoriaethau

Amcan llesiant 1: Datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a thorri rhestrau aros

Poblogaeth iach yw sylfaen cenedl ffyniannus. Mae iechyd da yn galluogi pobl i gymryd rhan mewn gwaith, addysg a bywyd cymunedol, tra bod gwasanaethau iechyd a gofal cryf a chynaliadwy yno i’w cefnogi pan fydd eu hangen arnynt.

Mae adroddiad Llesiant Cymru yn dangos mai cyfyngedig fu’r cynnydd tuag at Gymru iachach, gyda disgwyliad oes iach yn gostwng a dangosyddion eraill yn tynnu sylw at heriau parhaus o ran gwella iechyd y boblogaeth. Mae poblogaeth sy’n heneiddio, galw cynyddol, patrymau salwch sy’n newid ac anghydraddoldebau iechyd parhaus yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau. Mae gormod o bobl yn treulio gormod o amser mewn iechyd gwael, naill ai oherwydd eu bod yn aros yn rhy hir am ddiagnosis neu driniaeth, gan effeithio ar eu llesiant, eu hansawdd bywyd a’u gallu i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Byddwn yn gwella iechyd y boblogaeth, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at ofal o ansawdd uchel yn nes at y cartref, pan fydd ei angen arnynt. Byddwn yn datblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy’n addas ar gyfer y dyfodol, gan wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth, lleihau amseroedd aros a helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl ledled Cymru. Byddwn hefyd yn cryfhau’r integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i wella llif cleifion, lleihau oedi a sicrhau bod pobl yn derbyn gofal cydgysylltiedig yn y lleoliad mwyaf priodol. Ynghyd â’r camau ataliol ehangach a nodir mewn mannau eraill yn y Datganiad hwn, bydd y mesurau hyn yn helpu i greu Cymru iachach, sy’n fwy cyfartal a llewyrchus.

Byddwn yn:

  • lleihau amseroedd aros ac yn gwella’r ffordd y mae gofal a gynlluniwyd yn cael ei ddarparu drwy drawsnewid a moderneiddio gwasanaethau cleifion allanol, ehangu capasiti diagnostig a llawfeddygol a sefydlu hyd at 10 hwb llawfeddygol ledled Cymru.
  • sicrhau bod gofal integredig yn cael ei ddarparu yn nes at y cartref gyda gweithgarwch ataliol yn ganolog iddo i gefnogi diagnosis cynharach, lleihau derbyniadau i’r ysbyty ac oedi cyn rhyddhau cleifion.
  • cryfhau llwybrau clinigol cenedlaethol ar gyfer pob grŵp oedran, gan ganolbwyntio’n benodol ar iechyd meddwl, strôc, diabetes, offthalmoleg a gofal cardiofasgwlaidd, er mwyn sicrhau gofal diogel, teg ac o ansawdd uchel ledled Cymru, gan ymgorffori hawliau cleifion a lleihau amrywiadau rhanbarthol. Bydd yr uchelgais ar gyfer GIG Cymru yn cael ei hamlinellu drwy Gynllun Gwasanaethau Clinigol Cenedlaethol.
  • cyflwyno Strategaeth Ganser Genedlaethol sy’n canolbwyntio ar atal, diagnosis cynharach, ymchwil ac arloesi, mynediad teg at wasanaethau, a gofal canser sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn.
  • gwella canlyniadau a phrofiadau iechyd a gofal i fenywod a merched gan gynnwys drwy Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru wedi’i atgyfnerthu, gan sicrhau bod menywod yn cael eu clywed, bod pobl yn gwrando arnynt a’u bod yn cael eu cynnwys wrth lunio’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio ac yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu gofal. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu canlyniadau gwell i fenywod, teuluoedd a babanod drwy ein mentrau gofal mamolaeth a newyddenedigol ehangach.
  • gwella canlyniadau i bobl sy’n byw gyda dementia drwy ddiagnosis cynharach, mynediad amserol at asesiadau a thriniaeth, gan gynnwys cryfhau’r cymorth a’r gweithgarwch ataliol, yn ogystal â thrwy gyhoeddi Strategaeth Ddementia.
  • gweithio i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu gofal lliniarol a gofal diwedd oes.
  • gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl gan gynnwys llwybrau mynediad ar yr un diwrnod a chryfhau’r dull ‘dim drws anghywir’.
  • ymgorffori ffordd o ymdrin ag iechyd a gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan ddefnyddio tystiolaeth, data a phrofiadau cleifion i lunio, darparu a gwella gwasanaethau sy’n cyflawni canlyniadau gwell o ran iechyd i bobl Cymru.
  • datblygu gweithlu cynaliadwy a medrus drwy gyflwyno strategaeth gweithlu hirdymor sy’n sicrhau cynnydd o hyd at 100 yn niferoedd y meddygon teulu, gan wella mynediad at ofal y tu allan i oriau, lleihau’r pwysau ar ysbytai ac adrannau damweiniau ac achosion brys, a chefnogi gweithio hyblyg a datblygiad proffesiynol parhaus.
  • gwella mynediad at wasanaethau deintyddol, gan gynnwys ystyried opsiynau i sefydlu ysgol ddeintyddol newydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor, a sicrhau bod byrddau iechyd yn asesu anghenion deintyddiaeth lleol ac yn cymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth ddeintyddol ddigonol i’w poblogaethau.
  • adolygu strwythurau sefydliadol a llywodraethiant, a’u cryfhau neu eu newid pan fo angen, i wella effeithiolrwydd ac atebolrwydd y system.
  • datblygu rhaglen Cyfleusterau Iechyd a Gofal Cynaliadwy, gan flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw risg uchel ac atgyweiriadau brys, moderneiddio a defnydd mwy effeithlon o’r ystad.
  • gweithredu Strategaeth Ddigidol 10 mlynedd sy’n hyrwyddo arloesi a defnydd strategol o AI a thechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg ar draws GIG Cymru, yn gwella llythrennedd iechyd, ac yn cryfhau’r defnydd o ddata i wella canlyniadau cleifion, yn llywio penderfyniadau ac yn darparu gwasanaethau mwy effeithiol.
  • symud tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol drwy gryfhau gofal cymdeithasol drwy Raglen Gwasanaeth Cenedlaethol a fydd yn sicrhau safonau cyson, dulliau casglu data gwell a gweithlu sy’n cael ei gefnogi’n well.
  • sicrhau pontio didrafferth rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gofal sy’n fwy cydgysylltiedig a chynaliadwy ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • diwygio’r maes diogelu i gryfhau’r ffordd y mae plant ac oedolion yn cael eu hamddiffyn drwy atebolrwydd cliriach, arweinyddiaeth gryfach a defnydd gwell o ddata a gwybodaeth i ysgogi gwelliant parhaus yn ymarferol.

Amcan llesiant 2: Helpu aelwydydd â chostau byw

Mae costau cynyddol bywyd bob dydd yn effeithio ar sicrwydd, llesiant a chyfleoedd aelwydydd ledled Cymru. Mae adroddiad Llesiant Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod tua un rhan o bump o bobl a thraean o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol.

Gan ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael inni, byddwn yn cymryd camau ymarferol i leddfu costau aelwydydd drwy ofal plant fforddiadwy, cartrefi diogel ac effeithlon o ran ynni, a threthiant teg. Drwy leihau anghydraddoldebau a chryfhau sefyllfa ariannol teuluoedd, gallwn wella iechyd a llesiant a galluogi mwy o bobl i gyflawni eu potensial. Byddwn hefyd yn mynd ar drywydd y pwerau sydd eu hangen i ddatblygu amddiffyniadau cymdeithasol a wnaed yng Nghymru, sy’n diwallu anghenion ein pobl a’n cymunedau.

Byddwn yn:

  • darparu Cynnig Gofal Plant trawsnewidiol a chyffredinol newydd i blant rhwng 9 mis a 4 oed, gan adeiladu’n raddol i 20 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, a chynnal y cynnig 30 awr presennol ar gyfer plant 3 a 4 oed cymwys.
  • cyflwyno un system ymgeisio symlach fel y gall teuluoedd gael mynediad hawdd at ofal plant a ariennir.
  • ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar drwy ein Cynnig Gofal Plant newydd.
  • gweithio’n agos gyda darparwyr gofal plant i adeiladu capasiti ar draws y sector a thyfu’r gweithlu er mwyn cefnogi’r ehangu.
  • gweithio i wella System Budd-daliadau Cymru er mwyn gwneud cymorth yn addas i’r diben ac yn haws ei hawlio.
  • pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli nawdd cymdeithasol fel y gallwn gynllunio a darparu amddiffyniadau cymdeithasol a wnaed yng Nghymru, sy’n adlewyrchu anghenion a gwerthoedd ein pobl a’n cymunedau yn well.
  • cyflwyno mesurau newydd i gryfhau hawliau ac amddiffyniadau rhentwyr, gan gynnwys rhenti teg, a byddwn yn gwella ansawdd cyffredinol eiddo rhent.
  • gweithio tuag at wireddu hawl i gartref digonol yng Nghymru.
  • darparu mwy o dai cymdeithasol – o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030 –a chefnogi tai a arweinir gan y gymuned sy’n diwallu anghenion lleol.
  • sefydlu Unnos fel y gellir darparu mwy o gartrefi dan berchnogaeth gyhoeddus sy’n effeithlon o ran ynni.
  • ehangu mynediad at y rhaglen ôl-osod drwy fabwysiadu dull ar sail ardal sy’n niwtral o ran deiliadaeth, gan gadw cynlluniau effeithlonrwydd ynni presennol ar gyfer aelwydydd incwm isel.
  • canolbwyntio ar gyflymder gwaith cyweirio eiddo sydd â diffygion diogelwch tân.
  • archwilio ffyrdd o wneud y Dreth Gyngor yn decach.
  • defnyddio ein dulliau trethi datganoledig i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac yn cynllunio ein trethi i gefnogi ein nodau, gan gynnwys helpu i brynu cartrefi, a lleihau gwastraff mewn safleoedd tirlenwi.

Amcan llesiant 3: Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda

Economi gref a chynhyrchiol yw’r sylfaen ar gyfer gwell safonau byw, gwasanaethau cyhoeddus da a Chymru fwy llewyrchus. Ein huchelgais yw creu mwy o gyfoeth a chadw mwy ohono yng Nghymru, gan greu swyddi da sy’n talu’n dda a sicrhau bod cymunedau ym mhob rhan o’n gwlad yn elwa.

Mae gan Gymru botensial economaidd enfawr, ond nid yw cyfleoedd, buddsoddiad na thwf yn cael eu rhannu’n gyfartal. Mae adroddiad Llesiant Cymru yn dangos, er bod lefelau cyflogaeth a chymwysterau wedi gwella dros y tymor hwy, bod Cymru yn parhau i fod ag allbwn economaidd ac incwm aelwydydd is na chyfartaledd y DU, tra mai cyfyngedig fu’r cynnydd o ran gwella cynhyrchiant, cyflogau ac incwm. Byddwn yn cefnogi busnesau Cymru i dyfu, yn arfogi pobl â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn gwella cysylltedd ac yn cryfhau’r economïau gwledig a rhanbarthol sy’n cynnal cymunedau, ein diwylliant a’r Gymraeg.

Drwy fuddsoddi yn y tymor hir a gwneud gwell defnydd o sgiliau, adnoddau naturiol a gwariant cyhoeddus Cymru, byddwn yn adeiladu economi decach, wyrddach a mwy gwydn sy’n gweithio i bobl a chymunedau ledled Cymru.

Byddwn yn:

  • datblygu ein cenhadaeth cynhyrchiant, a fydd yn ystyried holl weithgarwch y llywodraeth yng nghyd-destun cynyddu cynhyrchiant.
  • sefydlu Comisiwn Economaidd a Chyllidol newydd i’n helpu i osod targedau, casglu data perthnasol a mesur cynnydd i wneud y llywodraeth yn fwy atebol dros ei phenderfyniadau economaidd.
  • creu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd, dan arweiniad byd busnes, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, i helpu busnesau Cymru i dyfu, arloesi a masnachu’n rhyngwladol, sicrhau mewnfuddsoddiad, a chynyddu nifer y swyddi o ansawdd da, sy’n talu’n dda ac sy’n gynaliadwy. Bydd yr asiantaeth yn gweithio i bobl ledled y wlad ac ar draws yr economi.
  • diwygio Banc Datblygu Cymru a’r cynhyrchion ariannol y mae’n eu cynnig er mwyn helpu busnesau canolig i dyfu a sicrhau bod ei gyllid yn hyrwyddo ac yn ymgorffori gwaith teg a chyflog byw gwirioneddol.
  • anelu at gynyddu’r lefel sy’n cael ei gwario ar gaffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru tuag at 70%, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus yn sbardun i dwf economaidd. Byddwn yn cyflwyno mesur newydd o’r gwerth economaidd y mae Cymru’n ei gael o gaffael cyhoeddus er mwyn sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn rhoi’r budd economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i’r wlad.
  • datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer pren Cymru, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus i ysgogi’r galw, a hyrwyddo arloesedd a thwf busnes yn y sector, gan gynyddu gwydnwch a chydweithio â’r sector i gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Cymru ar gyfer Pren.
  • mabwysiadu dull Gwaith Teg yn Gyntaf o ran dyfarnu grantiau, benthyciadau a chontractau’r sector cyhoeddus.
  • diwygio ac yn ailgydbwyso ardrethi busnes i roi mwy o gefnogaeth i fusnesau’r stryd fawr ym maes lletygarwch, hamdden a manwerthu.
  • defnyddio’r Tasglu Canol Trefi i archwilio’r opsiynau ynghylch adfywio canol ein trefi, gan gynnwys ailddefnyddio eiddo gwag fel tai cymdeithasol.
  • deddfu ar gyfer hawl y gymuned i brynu, i rymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau lleol.
  • darparu mwy o gymorth arbenigol i greu, tyfu a chynnal busnesau newydd – busnesau cydweithredol, cymdeithasol, a rhai sy’n eiddo i weithwyr – a’i gwneud yn haws iddynt gael mynediad at gyllid drwy Fanc Datblygu Cymru.
  • datblygu Strategaeth Sgiliau i Gymru, wedi’i llywio gan archwiliad sgiliau cenedlaethol, i sicrhau bod darpariaeth sgiliau, addysg alwedigaethol a chymwysterau yn cyd fynd ag anghenion economaidd Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Byddwn yn cefnogi system sy’n cryfhau llwybrau i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan helpu pobl i gael y sgiliau, y cymorth a’r cyfleoedd y mae arnynt eu hangen i gael gwaith teg, diogel a chynaliadwy, i aros yn y gwaith hwnnw, ac i wneud cynnydd.
  • cymryd camau i greu system addysg drydyddol gynaliadwy yn ariannol, sy’n darparu addysg, sgiliau ac ymchwil o ansawdd uchel, yn cefnogi cydweithredu ar draws y sector, ac yn sicrhau gwerth hirdymor o fuddsoddiad cyhoeddus, gan ddechrau â’n hadolygiad annibynnol o gyllid addysg uwch.
  • gweithio i sicrhau bod pobl ifanc o Gymru yn gallu byw, astudio a gweithio yn Ewrop – gan gynnwys drwy wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru a fydd yn codi wrth i’r DU ailymuno â chynllun Erasmus+, ac archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y rhaglen Taith sy’n benodol i Gymru.
  • cyflwyno Strategaeth Ddigidol newydd a fydd yn cefnogi digideiddio ac arloesi yn economi Cymru, yn sbarduno trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus, ac yn creu’r amodau ar gyfer mabwysiadu AI mewn ffordd ddiogel a moesegol er mwyn cynyddu cynhyrchiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon.
  • parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a darparwyr telathrebu i sicrhau bod busnesau a chartrefi yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn o leiaf.
  • blaenoriaethu gwydnwch cysylltiadau ar draws Afon Menai drwy welliannau tymor byr a chanolig wrth gynllunio ar gyfer atebion hirdymor.
  • gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â gwydnwch ffyrdd yng nghoridor De-ddwyrain Cymru.
  • hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu cynnal yn ddiogel.
  • cyflwyno cyfres wedi’i hadnewyddu o brosiectau rheilffyrdd sy’n flaenoriaeth yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.
  • creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig drwy ehangu’r system talu am docynnau drwy dapio i mewn ac allan, a chyflwyno prisiau symlach a thecach ar draws bysiau a threnau i wella gwasanaethau i deithwyr a chymunedau ledled Cymru, gan wneud teithio’n symlach ac yn fwy fforddiadwy.
  • parhau i ddarparu tocynnau bws sengl am £1 a thocynnau diwrnod am £3 i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 21 oed a chadw pasys bws i bobl dros 60 oed a phobl anabl.
  • trawsnewid gwasanaethau bysiau drwy fasnachfreinio, gan ddod â llwybrau, prisiau a safonau o dan un system atebol i’r cyhoedd sy’n rhoi teithwyr yn gyntaf. Byddwn yn gwella cysylltiadau rhwng cymunedau drwy’r gwasanaeth bysiau newydd rhwng y Gogledd a’r De ac yn darparu rhwydwaith integredig sy’n gwella mynediad at wasanaethau, yn cefnogi twf economaidd, ac yn helpu i leihau allyriadau carbon.
  • cyflwyno strategaeth gwefru cerbydau trydan (EV) wedi’i hadnewyddu ar gyfer Cymru.
  • rhoi teithio llesol wrth wraidd system drafnidiaeth Cymru, gan ei wneud yn ddewis ymarferol, diogel a chynhwysol ar gyfer mwy o siwrneiau bob dydd. Byddwn yn lleihau rhwystrau i gerdded, olwyno a beicio i gefnogi ein cenhadaeth atal afiechyd, a hyrwyddo cyfleoedd o ran llesiant a’r economi.
  • rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd dull cydgysylltiedig o deithio gan ddysgwyr, gan gryfhau gweithio trawslywodraethol fel bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i wella mynediad at addysg, gan gynnwys drwy fynd i’r afael â rhwystrau i addysg cyfrwng Cymraeg.
  • mynd ati’n strategol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Maes Awyr Caerdydd a gwneud y mwyaf o’i botensial economaidd.
  • gweithio gyda phorthladdoedd Cymru i gryfhau eu gwydnwch a gwneud y mwyaf o’u cyfraniad at economi Cymru, wrth fynd ar drywydd datganoli rheoleiddio porthladdoedd yn llawn.
  • cefnogi’r sector amaethyddol yng Nghymru mewn ffordd sy’n sail i gynaliadwyedd hirdymor busnesau fferm ac yn diogelu dyfodol y fferm deuluol mewn hinsawdd sy’n newid. Byddwn yn datblygu ac yn mireinio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mewn cydweithrediad cryf â’r gymuned ffermio, fel ei fod yn cefnogi sector amaethyddol ffyniannus i gynhyrchu bwyd, gan gyflawni canlyniadau amgylcheddol allweddol hefyd, yn raddol.
  • gweithredu dull newydd o reoli maethynnau ar draws dalgylchoedd, gan symud oddi wrth y dull “ffermio yn ôl y calendr” a chefnogi ffermwyr i leihau llygredd dŵr amaethyddol.
  • cyflwyno cynllun newydd ar gyfer Twbercwlosis (TB) Gwartheg, gan fabwysiadu dull cyfannol o fynd i’r afael â’i ddileu, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan wyddoniaeth, gan gynnwys tair elfen, sef gwartheg, pobl a bywyd gwyllt.
  • datblygu Cynllun Lles Anifeiliaid wedi’i adnewyddu sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac sy’n ymdrin â lles anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm.
  • cefnogi diwydiant pysgota a dyframaethu cynaliadwy, a’r cymunedau sy’n dibynnu arno, fel rhan o’r system fwyd a’r economi.
  • cyflawni Strategaeth Datblygu Gwledig i Gymru.
  • deddfu i’w gwneud yn ofynnol i gynlluniau gwario a rhaglenni polisi gwledig gael eu prawfesur o safbwynt gwledig er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb yn llawn i anghenion cymunedau gwledig.
  • cyflwyno Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd a chynhwysfawr.
  • archwilio opsiynau ar gyfer ymestyn hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer anheddau unigol a throsi adeiladau fferm ar gyfer defnydd preswyl i wella mynediad at dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.
  • datblygu Strategaeth Ynni Genedlaethol, gan fapio anghenion ynni Cymru heddiw ac yn y dyfodol a nodi cynllun clir, hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i’w diwallu.
  • cydlynu gweithgarwch ar draws y llywodraeth a sectorau allweddol drwy gyflwyno Bargen Sector newydd ar gyfer Ynni Adnewyddadwy.
  • uno Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i greu cwmni ynni cenedlaethol cryfach i dyfu perchnogaeth gymunedol.
  • adolygu’r trothwy o 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau ac yn creu eithriadau newydd clir a rhesymol pan na fyddai’r llety hwnnw yn gymwys i fod yn gartref preifat.
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu effeithiolrwydd mesurau presennol ar ail gartrefi a llety gwyliau ac asesu pa gamau pellach y mae eu hangen i helpu pobl ifanc i aros yn eu cymunedau ac i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
  • adolygu rôl Croeso Cymru ac ystyried ai dyma’r model gorau ar gyfer cefnogi twristiaeth a hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant.
  • diwygio’r system gynllunio, fel ei bod yn gwasanaethu ein pobl, ein cymunedau a’n busnesau yn well, gan adeiladu Cymru fwy cysylltiedig a llewyrchus.
  • ailwampio prosesau cynllunio gofodol a chreu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i Gymru sy’n darparu gweledigaeth a goruchwyliaeth newydd ar sail Cymru gyfan.
  • disodli’r dulliau tameidiog presennol sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd o ran rheoli morol drwy gyflwyno Fframwaith Cynllunio Morol, wedi’i adeiladu ar sail cyd-reoli gwirioneddol gyda physgotwyr, rhanddeiliaid amgylcheddol a chymunedol a rhanddeiliaid y diwydiant.

Amcan llesiant 4: Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu

Mae addysg yn agor drysau, yn helpu pobl i gyflawni eu potensial ac yn datblygu’r sgiliau y mae Cymru gref a ffyniannus yn dibynnu arnynt. Gall system addysg o ansawdd uchel wella cyfleoedd bywyd, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac arfogi pobl i gyfrannu at eu cymunedau a dyfodol ein gwlad.

Mae gormod o ddysgwyr yn dal i wynebu rhwystrau i gyflawni eu potensial. Mae adroddiad Llesiant Cymru yn tynnu sylw at anghydraddoldebau parhaus mewn deilliannau addysgol, gyda dysgwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig yn parhau i brofi deilliannau gwaeth. Byddwn yn codi safonau, yn gwella presenoldeb a llesiant, ac yn sicrhau bod dysgwyr yn cael y gefnogaeth a’r addysg o ansawdd uchel sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Drwy greu llwybrau clir drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, cefnogi ein gweithlu addysg ac ehangu cyfleoedd i ddysgu drwy’r Gymraeg, byddwn yn helpu dysgwyr o bob oedran i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i gyflawni eu huchelgeisiau.

Byddwn yn:

  • cyhoeddi Cynllun Llythrennedd a Rhifedd ac yn codi safonau drwy sefydlu targedau cenedlaethol, gan gynnwys asesiad sylfaenol ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau yn yr ysgol. Byddwn yn cefnogi ein gweithlu i ddatblygu targedau unigol ar gyfer pob dysgwr.
  • adolygu trefniadau cwricwlwm ac asesu i symleiddio ac egluro disgwyliadau ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau disgwyliadau clir o ran gwybodaeth ac addysg am ddiwylliant a hanes ein cenedl.
  • datblygu fframwaith cydlynol sy’n dwyn ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau ieuenctid ynghyd i fynd i’r afael ag ymddygiad, presenoldeb, llesiant ac anghydraddoldeb addysgol. Mae’r rhain hefyd yn adlewyrchu materion cymdeithasol ehangach, a byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i fynd i’r afael â nhw. Byddwn yn gwella dysgu proffesiynol ac arferion adrodd am ddigwyddiadau a rhannu gwybodaeth rhwng ysgolion, ac yn profi dulliau gweithredu drwy ein cynlluniau peilot Ysgolion Cymunedol a Mwy.
  • cryfhau cynaliadwyedd hirdymor y system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gyda phartneriaid iechyd, i gryfhau eglurder y system, capasiti a hyder y gweithlu i ddarparu addysg gynhwysol yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn i ddiwallu eu hanghenion.
  • datblygu system addysg drydyddol sydd â llwybrau dysgwyr clir a chydlynol, gan gefnogi dysgu gydol oes a galluogi pobl o bob oed i gamu ymlaen yn hyderus rhwng addysg, hyfforddiant a chyflogaeth drwy gydol eu bywydau ac i gyrraedd eu potensial llawn.
  • diwygio Academi Seren, gan adeiladu ar ei helfennau cryfaf i gefnogi mwy o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, i gyflawni eu potensial a chamu ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth, gan gynnwys yma yng Nghymru.
  • cryfhau cyfleoedd i bobl ifanc gyflawni eu potensial gan gynnwys ehangu mynediad at lwybrau galwedigaethol megis prentisiaethau iau a sicrhau bod cyfraniad gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall yn well.
  • cynyddu cyfran y plant a’r bobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ac yn gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, gan osod targedau lleol i sicrhau twf cyson y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol.
  • cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gallu cael mynediad at lwybrau trydyddol yn y Gymraeg, gan gefnogi a datblygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithio gyda’r Coleg a Medr i gynyddu cyfleoedd i astudio’r Gymraeg fel pwnc.
  • cefnogi cynnydd yn nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy hyrwyddo a datblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr, a datblygu cyfleoedd sabothol newydd.
  • gweithio gyda’n gweithlu addysg a’n partneriaid cymdeithasol i wneud addysgu yn yrfa ddeniadol, uchel ei pharch sy’n dod â boddhad.
  • gwella prosesau recriwtio a chadw staff drwy leihau llwyth gwaith, darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer gwaith cynllunio, paratoi ac asesu, a chefnogi datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i bob athro, arweinydd a chynorthwyydd addysgu.
  • adeiladu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud i’r Cymelldaliad Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth o £15,000 i £20,000 i helpu i ddenu mwy o athrawon i bynciau lle mae prinder, ac archwilio cyfleoedd i gynyddu hyn ymhellach.
  • cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethiant diogelu ar draws addysg drwy sicrhau bod dysgwyr ac addysgwyr yn gallu adnabod ac adrodd am achosion o grŵmio. Byddwn yn darparu addysg gynhwysfawr ar ddiogelwch digidol a llythrennedd yn y cyfryngau, ac yn sicrhau bod safonau diogelu ac addysgol yn cael eu cynnal yn gyson ac yn destun craffu annibynnol.

Amcan llesiant 5: Mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau’r dyfodol gorau i bob plentyn yng Nghymru

Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn un o genadaethau diffiniol y Llywodraeth hon. Mae’n rheidrwydd moesol ac yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru. Dylai pob plentyn allu dysgu, cymryd rhan a gwireddu ei botensial, waeth beth fo amgylchiadau ei deulu.

Gall tlodi, anghydraddoldeb a gwahaniaethu gyfyngu ar ragolygon pobl a chael effaith ar eu hiechyd, eu haddysg a’u cyfleoedd mewn bywyd. Mae tystiolaeth o adroddiad Llesiant Cymru yn dangos bod tua thraean o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae eu hachosion a’u canlyniadau yn rhyng‑gysylltiedig, ac mae angen gweithredu ar draws y llywodraeth a’r gymdeithas i gael gwared ar rwystrau, diogelu hawliau a sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan lawn yn eu cymunedau.

Byddwn yn cyfuno cymorth uniongyrchol â gweithredu hirdymor i dorri’r cylch tlodi a hyrwyddo cydraddoldeb. Drwy weithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau strwythurol sy’n dal pobl yn ôl, byddwn yn adeiladu Cymru decach, iachach, fwy cyfartal a llewyrchus, lle caiff pawb eu trin ag urddas ac y gall pob plentyn ffynnu.

Byddwn yn:

  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a chyflawni cynllun newydd i fynd i’r afael â thlodi plant, gan osod targedau, meincnodau a cherrig milltir clir i ysgogi newid uchelgeisiol, cyflawnadwy.
  • pwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’r dulliau sydd ganddynt, gan gynnwys cael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, cynyddu’r Lwfans Tai Lleol, a chyflwyno tariffau cymdeithasol i sicrhau newid gwirioneddol i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi.
  • mynd ati i dreialu Cynnal, Taliad Plant Cymru, gan ddarparu taliad uniongyrchol bob wythnos i blant ifanc o deuluoedd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol.
  • ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, gan ddechrau drwy sicrhau bod pob myfyriwr ym Mlynyddoedd 7-11 o aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn gallu hawlio pryd ysgol am ddim, heb unrhyw gyfyngiad o ran incwm. Byddwn yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd fynd â’r gwaith ar Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd.
  • gweithio ar draws pob un o feysydd y llywodraeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, drwy ddull system gyfan a chymdeithas gyfan sy’n canolbwyntio ar atal.
  • cefnogi dioddefwyr a goroeswyr drwy ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy’n canolbwyntio ar oroeswyr yn y maes hwn, a thrwy eithrio llochesi o’r Ddeddf Rhentu Cartrefi i sicrhau mynediad at lety diogel.
  • gweithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd i hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys cydraddoldeb LHDTC+, hawliau pobl anabl, cydraddoldeb rhywedd a Chymru wrth hiliol. Byddwn yn cryfhau gwaith cyflawni ac atebolrwydd, ac yn adrodd ar gynnydd ac effaith.
  • cefnogi Llywodraeth y DU i ddatblygu gwaharddiad llwyr, sy’n cynnwys pobl draws, ar yr hyn a elwir yn ‘therapi trosi’, gan gryfhau’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r arferion niweidiol hyn a chefnogi goroeswyr.
  • cynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a gweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus i wella cefnogaeth i gyn-filwyr a’u teuluoedd.
  • bwrw ymlaen â chynigion i ddatblygu deddfwriaeth seiliedig ar hawliau dynol i Gymru.
  • gweithio gyda phartneriaid i gefnogi ceiswyr noddfa i gymryd rhan ac integreiddio i gymdeithas Cymru, gan eu helpu i ailadeiladu eu bywydau yn ddiogel a chydag urddas.

Amcan llesiant 6: Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan

Mae’r Llywodraeth hon yn uchelgeisiol dros Gymru ac yn benderfynol o sicrhau bod penderfyniadau sy’n effeithio ar ei phobl yn cael eu gwneud er eu budd. Mae cyflawni hyn yn gofyn am y pwerau, yr adnoddau a’r gallu i leisio barn sydd eu hangen i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ein cenedl.

Drwy’r amcan hwn, byddwn yn ceisio sicrhau setliad tecach, yn cryfhau dylanwad Cymru gartref ac yn rhyngwladol, ac yn adeiladu sefydliadau cenedlaethol cryf. Mae adroddiad Llesiant Cymru yn tynnu sylw at nifer o heriau parhaus, gan gynnwys lefelau allbwn economaidd ac incwm aelwydydd sy’n is na chyfartaledd y DU. Byddwn yn hyrwyddo buddiannau Cymru ac yn sicrhau bod gan ein cenedl lais hyderus wrth lunio ei dyfodol.

Byddwn yn:

  • mynd ar drywydd diwygio cyllidol, gan gynnwys tegwch yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu, gweithrediad Fformiwla Barnett, mwy o hyblygrwydd cyllidol, ariannu pwerau datganoledig mewn ffordd deg, a chyfrifoldebau pellach i’r Senedd dros drethi yng Nghymru.
  • brwydro dros y cyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus inni ac y mae ei angen arnom i fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru – gan gynnwys cyllid canlyniadol o HS2 – ac i’r rheilffyrdd gael eu datganoli.
  • cyflwyno rhaglen genedlaethol i ddiogelu ac adfer tomenni nas defnyddir, gan sicrhau bod pob tomen yn cael ei monitro, ei chynnal a’i rheoli’n briodol. Byddwn yn parhau i fynnu bod Llywodraeth y DU yn ariannu’r gwaith hwn yn briodol ac yn llawn.
  • •    Sefydlu strategaeth Cymru gyfan ar gyweirio tir halogedig i fapio, blaenoriaethu ac adfer yn gynyddol dir ôl-ddiwydiannol fel nad yw cymunedau bellach yn dod i gysylltiad â safleoedd diffaith, priddoedd gwenwynig, a dyfrffyrdd llygredig. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu’r gwaith adfer hwn.
  • mynd ar drywydd datganoli toll teithwyr awyr.
  • archwilio ffurfiau newydd ac arloesol o ariannu.
  • sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru i ddarparu cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan adeiladu ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Bydd y Comisiwn yn cefnogi sgwrs genedlaethol gynhwysol ar sail gwybodaeth, yn adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer trafod a gwneud penderfyniadau, ac yn rhoi cyngor ar flaenoriaethau datganoli a diwygio cyfansoddiadol ehangach.
  • gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r hawl i benderfynu ar yr amserlen, y cwestiwn a’r broses ar gyfer refferendwm annibyniaeth.
  • mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona yn llwyr i Gymru gyda’r brys y mae hyn yn ei haeddu.
  • gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r pŵer dros ddŵr yn llawn yng Nghymru.
  • gweithio i sicrhau datganoli pwerau i’r Senedd i ddeddfu i sefydlu corff cynllunio a rheoleiddiwr economaidd newydd i Gymru, fel bod pob penderfyniad am ddŵr yn cael ei wneud yng Nghymru ar gyfer Cymru.
  • blaenoriaethu sicrhau datganoli Ystad y Goron.
  • gweithio tuag at ddatganoli pwerau dros ddarlledu, gan gynnwys pwerau i reoleiddio, goruchwylio a sicrhau atebolrwydd am ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru. Byddwn yn dechrau drwy sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru er mwyn gwarchod a chryfhau platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol.
  • mynd ar drywydd datganoli pwerau lles yn llawn.
  • mynd ar drywydd datganoli pwerau pellach ar reoleiddio a phrisio ynni.
  • mynd ar drywydd datganoli rheoleiddio porthladdoedd yn llawn.
  • gweithio gyda’r sector, gan gynnwys ein diwydiannu creadigol, i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon wedi’i thargedu er mwyn creu Cymru iachach, gyfoethocach a mwy gwydn.
  • blaenoriaethu mynediad cyfartal at y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i bobl o bob oedran, cefndir a gallu, gan ystyried sut y gall ein polisïau mynediad gefnogi hyn.
  • cyflwyno Strategaeth Ewropeaidd a fydd yn cynnwys ein penderfyniad i fod yn gyson â safonau Ewropeaidd blaenllaw ym meysydd diogelu’r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a bwyd.
  • esblygu a datblygu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cydweithredu dwyochrog ag Iwerddon i gryfhau cysylltiadau diwylliannol a masnachol.
  • datblygu a gweithredu Strategaeth Ddiaspora gynhwysfawr er mwyn hyrwyddo Cymru fel gwlad i’n hentrepreneuriaid ar wasgar fuddsoddi ynddi, ac annog a chymell ymfudwyr diweddar i ddychwelyd.
  • rhoi cymorth strategol a hirdymor i gyrff llywodraethu cenedlaethol i ddenu a chynnal digwyddiadau rhyngwladol yng Nghymru.
  • creu gwaddol parhaol yn sgil dyfodiad digwyddiadau y Tour de France 2027 a thwrnamaint pêl-droed dynion Euro 2028 i Gymru.
  • adeiladu gwasanaeth cyhoeddus effeithiol a chydlynol yng Nghymru sy’n agored, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar wella bywydau pobl.
  • bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer Ysgol Lywodraethu Genedlaethol i Gymru.
  • adnewyddu’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod nhw’n bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
  • sefydlu dull gweithredu cenedlaethol i gydlynu’r gwaith o atal a dargyfeirio troseddau ar draws heddluoedd, GIG Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid yn y trydydd sector –    gan rannu’r arferion gorau a mynd i’r afael â’r pethau sylfaenol sy’n achosi troseddu.
  • cynnal cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng nghyd-destun trafodaethau ar ddatganoli plismona.
  • cyflwyno Bil Tribiwnlysoedd Cymru yn gynnar yn nhymor y Senedd er mwyn creu system dribiwnlysoedd gliriach, fwy cydlynol a mwy annibynnol – gyda gweithdrefnau modern, atebolrwydd cryfach, a ffocws mwy amlwg ar wella profiad defnyddwyr gwasanaethau.
  • adolygu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chydweithio â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau ei bod yn cyflawni newid mesuradwy.

Amcan llesiant 7: Gwell llywodraeth – cyflawni ein blaenoriaethau

Mae sicrhau newid parhaol yn golygu bod angen i’r llywodraeth weithio’n wahanol. Byddwn yn chwalu seilos, yn canolbwyntio adnoddau ar ganlyniadau cyffredin ac yn sicrhau bod penderfyniadau ar draws y llywodraeth yn cyfrannu at ein blaenoriaethau ac yn gwella bywydau pobl.

Ni all un gwasanaeth neu sefydliad sy’n gweithredu ar ei ben ei hun fynd i’r afael â llawer o’r heriau sy’n wynebu Cymru, gan gynnwys iechyd gwael, anghydraddoldeb, tlodi plant a newid hinsawdd. Felly, bydd atal yn cael ei drin fel nod i’r llywodraeth gyfan, gan gydnabod y cyfraniad y gall tai, addysg, cyflogaeth, trafnidiaeth, diwylliant, chwaraeon a’r amgylchedd ei wneud i wella llesiant a lleihau pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Byddwn yn mabwysiadu dull cydgysylltiedig a hirdymor o fynd i’r afael â’r heriau a fydd yn llywio dyfodol Cymru ac yn cryfhau ein gwydnwch cenedlaethol. Mae hyn yn golygu ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur, cefnogi’r Gymraeg fel iaith ffyniannus, gweithio’n effeithiol gyda’n partneriaid a pharatoi Cymru ar gyfer heriau’r dyfodol.

Byddwn yn:

  • sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn cael eu blaenoriaethu a’u cydgysylltu’n effeithiol ar draws y llywodraeth, gan ymgorffori datgarboneiddio, cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd ar draws pob portffolio.
  • cymryd camau beiddgar er mwyn gwella ansawdd aer, lleihau gwastraff a mynd i’r afael â llygredd drwy sicrhau bod deunyddiau yn cael eu defnyddio am gyfnod hirach, a sicrhau mai’r llygrwr sy’n talu wrth inni drosglwyddo i economi gylchol.
  • cymhwyso dull system gyfan, sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd er mwyn gwella ansawdd dŵr a chryfhau gwydnwch hinsawdd a natur yng Nghymru. Ein huchelgais yw bod pob corff dŵr yng Nghymru ar lwybr clir tuag at statws da. Gan weithio mewn partneriaeth ar draws sectorau, byddwn yn cyflymu’r gwaith o ddarparu datrysiadau seiliedig ar natur sy’n lleihau llygredd ac yn meithrin gwydnwch rhag pwysau amgylcheddol yn y dyfodol.
  • datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur trawslywodraethol i Gymru, gyda chefnogaeth Bwrdd Hinsawdd a Natur. Bydd y Cynllun yn cryfhau gwydnwch hinsawdd a natur, yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol, yn cefnogi pontio teg ac yn nodi camau gweithredu ymarferol tuag at lwybr i sero net erbyn 2040. Fel rhan o’r cynllun, byddwn yn gosod targedau uchelgeisiol i gyflawni adferiad natur sylweddol erbyn 2050.
  • sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, swyddfa gref ac annibynnol a fydd yn dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif am eu gwaith mewn perthynas â chyrraedd targedau amgylcheddol.
  • cyhoeddi a gweithredu strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg gyda ffocws o’r newydd ar gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn a mwy erbyn 2050, dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith, a sicrhau bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom yng Nghymru.
  • gweithio i gryfhau gwydnwch y Gymraeg fel iaith gymunedol ac mewn gweithleoedd, gan weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gweithio tuag at ddynodi ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol uwch a diogelu enwau lleoedd Cymraeg.
  • gweithio tuag at estyn Safonau’r Gymraeg i gyrff Llywodraeth y DU ac i wasanaethau sy’n gweithredu yng Nghymru, a sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd pob polisi cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, tai, cynllunio, trafnidiaeth, addysg, diwylliant a’r economi.
  • gwella iechyd a llesiant y cyhoedd, ar lefel poblogaeth, drwy ddatblygu Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd a chynhwysfawr i Gymru, yn seiliedig ar adolygiad o’r bôn i’r brig o anghenion iechyd y cyhoedd heddiw ac yn y dyfodol.
  • ymgorffori atal afiechyd yn yr holl waith datblygu polisi ar draws y llywodraeth gan sicrhau bod camau gweithredu’r llywodraeth ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd a llesiant yn cydweddu’n strategol.
  • manteisio ar arbenigedd a chynlluniau i leihau effaith clefydau trosglwyddadwy gan ganolbwyntio ar dargedau dileu erbyn 2030 ar gyfer twbercwlosis a feirysau a gludir yn y gwaed gan gynnwys HIV.
  • gwneud adnewyddu stoc dai Cymru yn genhadaeth genedlaethol, ynghyd â diwygiadau i roi mwy o sicrwydd i rentwyr a chynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael. Mae tai diogel a digonol yn sylfaen hanfodol i iechyd.
  • mynd i’r afael â digartrefedd drwy ddefnyddio dull Tai yn Gyntaf sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau bod ein deddfwriaeth digartrefedd newydd yn cael ei gweithredu’n effeithiol a’i hadolygu’n barhaus. Bydd ein Strategaeth Tai ac Adfywio yn seiliedig ar yr uchelgais y dylai pawb gael cartref saff a diogel.
  • buddsoddi yn rôl ataliol diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i hybu iechyd da i bobl o bob oedran, cefndir a gallu.
  • cyflwyno rhaglen genedlaethol Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion, gan roi sylfaen i bob disgybl yng Nghymru ar gyfer bywyd egnïol ac iach, magu eu hyder, a chadw plant yn ddiogel o amgylch dŵr.
  • gweithio gyda Fforwm Llifogydd Cymru sydd newydd ei greu i ddod ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau brys a sefydliadau cymunedol ynghyd i gydlynu strategaeth genedlaethol ar lifogydd.
  • adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod yn ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn cefnogi cydweithredu rhanbarthol effeithiol.
  • adolygu’r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i adlewyrchu’n well wir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru, a chyflwyno cyllid gwaelodol i sicrhau nad oes effaith anghymesur ar unrhyw awdurdod lleol.

Sut y gwnaethom osod ein hamcanion llesiant

Caiff llywodraethau eu hethol i gyflawni’r ymrwymiadau y maent yn eu rhoi gerbron pobl Cymru, ac felly’r man cychwyn i ni oedd y mandad a sicrhawyd yn yr etholiad.

Lluniwyd y Rhaglen Lywodraethu a’r amcanion llesiant o’r mandad democrataidd hwnnw drwy broses drawslywodraethol a oedd yn cynnwys timau polisi a Gweinidogion ar draws portffolios. Wrth wneud hynny, daethom â’r blaenoriaethau y cawsom ein hethol arnynt ynghyd â’r dystiolaeth a’r mewnwelediad sydd ar gael ar draws y llywodraeth, gan gynnwys y dangosyddion cenedlaethol a’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol. Fe wnaethom hefyd ystyried sut y byddai’r amcanion a’r camau rhesymol yn cyfrannu at flaenoriaethau’r Llywodraeth, yn gwneud y cyfraniad mwyaf at y saith nod llesiant ac yn gwasanaethu buddiannau’r bobl a’r cymunedau y byddent yn effeithio arnynt.

Cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy

Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy wedi llywio’r gwaith o ddatblygu ein hamcanion a’r ffordd y byddwn yn eu cyflawni. Rydym wedi ystyried pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac wedi cymhwyso’r pum ffordd o weithio: hirdymor, integreiddio, cyfranogiad, cydweithredu ac atal.

Hirdymor

Fe wnaethom edrych y tu hwnt i dymor y Senedd hon at y math o Gymru yr ydym am ei hadeiladu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cafodd ein dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd hirdymor sy’n wynebu ein cenedl ei llywio gan y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir llesiant ar gyfer 2050, ynghyd ag Adroddiad Llesiant Cymru ac Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y cyfeirir atynt uchod.

Mae’r dull hirdymor hwn yn sail i’n Rhaglen Lywodraethu gyfan. Er enghraifft, bydd ein Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur yn nodi camau gweithredu ymarferol tuag at gyflawni sero net erbyn 2040 ac yn gosod uchelgeisiau ar gyfer adferiad natur sylweddol erbyn 2050. Bydd ein strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn a mwy erbyn 2050, dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg a chryfhau’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn ogystal, mae ein hymrwymiad i dorri’r cylch tlodi yn cydnabod y gall gweithredu’n awr wella iechyd plant, eu deilliannau addysgol a’u cyfleoedd mewn bywyd drwy gydol eu hoes. Bydd hyn, ynghyd â’r camau ataliol a gymerwn yn awr, yn sicrhau bob pawb yn byw bywydau iachach am gyfnod hirach. Mae’r camau hyn yn dangos sut y gall gweithredu yn ystod tymor y Senedd hon gyfrannu at newid parhaol.

Wrth i’r ymrwymiadau hyn gael eu datblygu a’u cyflawni, byddwn yn parhau i ystyried eu heffaith ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Byddwn yn defnyddio tystiolaeth a mewnwelediad perthnasol i ddeall cynnydd, ymateb i amgylchiadau sy’n newid a sicrhau bod y penderfyniadau a wneir heddiw yn cefnogi gwelliannau parhaol i lesiant Cymru.

Integreiddio

Fe wnaethom ystyried sut y gallai pob amcan, ynghyd â’r camau rhesymol a nodir i gyflawni’r amcan hwnnw, gyfrannu at y saith nod llesiant a chefnogi cynnydd tuag at ein hamcanion llesiant eraill. Er eglurder, cyflwynir pob cam rhesymol o dan un amcan, ond fe wnaethom hefyd fapio’r ffordd y mae pob cam yn cyfrannu at bob nod llesiant perthnasol. Helpodd hyn ni i nodi cysylltiadau rhwng meysydd polisi ac i ystyried effeithiau ehangach y camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd.

Er enghraifft, yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu ein Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon hirdymor mae integreiddio a chysoni gweithredu ar draws iechyd, addysg, tlodi plant a’r economi, gan hefyd gyfrannu at ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae hyn yn cydnabod na ellir trin diwylliant a chwaraeon fel elfen ychwanegol, ond eu bod yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ein hamcanion llesiant ac yn cael eu hymgorffori drwy gydol y Rhaglen Lywodraethu. Adlewyrchir hyn yn y ffordd yr ydym yn gofalu am ein treftadaeth genedlaethol, ein casgliadau, ein llyfrgelloedd, ein creadigrwydd a’n cyfleusterau chwaraeon ac yn eu rhannu. Mae hefyd yn adlewyrchu’r cyfraniad hanfodol y gall diwylliant a chwaraeon ei wneud wrth atal iechyd gwael, cefnogi twf economaidd, cryfhau cymunedau a meithrin yr hyder i sefyll dros Gymru ar lwyfan y byd.

Mae’r heriau sy’n wynebu Cymru yn rhyng-gysylltiedig, ac roeddem hefyd yn ymwybodol o’r berthynas rhwng ein hamcanion ni ac amcanion cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Wrth i’n hymrwymiadau gael eu datblygu a’u cyflawni, byddwn yn parhau i ystyried y cysylltiadau hyn, yn sicrhau eu bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant, ac yn gwneud yn siŵr nad yw cynnydd tuag at un amcan yn tanseilio cynnydd tuag at un arall.

Cyfranogiad

Dechreuodd ein dull o gynnwys pobl cyn etholiad y Senedd. Cafodd maniffesto Plaid Cymru ei lunio drwy ymgysylltu parhaus â phobl a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys rhanddeiliaid, elusennau, sefydliadau cynrychioliadol ac arbenigwyr pwnc. Roedd hefyd yn seiliedig ar ymchwil a’r profiad a gafwyd gan gynrychiolwyr etholedig drwy eu hymgysylltiad rheolaidd ag etholwyr a chymunedau.

Cyflwynodd y maniffesto’r blaenoriaethau hynny i bobl Cymru, gan roi cyfle i bobl ledled Cymru benderfynu ar y cyfeiriad yr oeddent am i’w llywodraeth ei ddilyn. Felly, y mandad democrataidd a sicrhawyd yn yr etholiad hwnnw oedd sylfaen ein Rhaglen Lywodraethu a’n hamcanion llesiant.

Wrth drosi’r mandad hwnnw yn amcanion a chamau rhesymol, bu timau polisi a Gweinidogion yn ystyried buddiannau’r bobl, y cymunedau a’r sectorau yr effeithid arnynt. Cafodd hyn ei lywio gan fewnwelediad a gafwyd drwy ymgysylltu presennol a blaenorol ar faterion polisi, a thrwy berthnasoedd sefydledig â defnyddwyr gwasanaethau, cyrff cyhoeddus, partneriaid cyflawni a sefydliadau cynrychiadol.

Mae’r gwaith o gynnwys pobl wedi parhau wrth i’n hymrwymiadau gael eu cyflawni. Er enghraifft, bu goroeswyr, partneriaid cyflawni, rhanddeiliaid allweddol a’r Cynghorydd Cenedlaethol ym maes Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn rhan uniongyrchol o’r adolygiad cyflym o’r Strategaeth VAWDASV Genedlaethol bresennol. Mae eu cyfraniad wedi helpu i lywio’r penderfyniad i ddatblygu strategaeth newydd sy’n seiliedig ar ddull llywodraeth gyfan a system gyfan  ac sy’n canolbwyntio ar atal.

Rydym hefyd yn creu cyfleoedd i bobl ddylanwadu ar gynigion manwl drwy alwadau am dystiolaeth, ymgyngoriadau a chyfranogiad ehangach. Mae hyn yn cynnwys ceisio tystiolaeth a phrofiadau i lywio’r Strategaeth Ganser Genedlaethol, ymgynghori â dinasyddion Cymru a’u cynnwys yn y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer prawfesur gwledig, a gwahodd pobl a chymunedau i helpu i lunio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru.

Byddwn yn parhau i gynnwys y bobl a’r cymunedau y mae ein penderfyniadau yn effeithio arnynt, fel y gall eu gwybodaeth, eu profiad a’u safbwyntiau lywio’r broses o gynllunio, cyflawni a gwerthuso polisïau. Mae hyn yn cydnabod bod cyfranogiad yn broses barhaus ac y gall pobl ddylanwadu ar bob cam, o helpu i lunio opsiynau, blaenoriaethau a chynigion yn gynnar i ymgysylltu’n ystyrlon â manylion polisïau a rhaglenni sydd wedi’u datblygu.

Bydd y gwaith o gyflawni ein hymrwymiadau yn cael ei ategu gan broses asesu effaith. Mae’r mecanwaith hwn, sy’n gofyn am gyfranogiad ystyrlon, yn rhan hanfodol o lunio achos cynhwysfawr a chytbwys dros opsiynau polisi neu gynigion deddfwriaethol, ac mae’n cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys cydraddoldeb,
y Gymraeg, hawliau plant ac effaith amgylcheddol.

Cydweithredu

Fe wnaethom ddefnyddio’r mewnwelediad a gafwyd ar draws y llywodraeth drwy berthnasoedd sefydledig â llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus, busnesau, undebau llafur, y sector gwirfoddol a phartneriaid eraill. Bydd llawer o’n hymrwymiadau yn dibynnu ar y perthnasoedd hyn gan na all y llywodraeth sicrhau newid parhaol ar ei phen ei hun. Fe wnaethom hefyd nodi lle’r oedd cysylltiadau rhwng amcanion a chamau rhesymol, neu lle’r oeddent yn ategu ei gilydd, gan gydnabod y gall cydweithio effeithiol ar draws y llywodraeth helpu i wneud y mwyaf o’r cynnydd tuag at ganlyniadau cyffredin.

Er enghraifft, mae cyflawni ein cynnig gofal plant newydd yn ei gwneud yn ofynnol i wahanol rannau o’r llywodraeth weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant, cynrychiolwyr y gweithlu ac arbenigwyr yn y sector. Mae Grŵp Llywio Arbenigol a thasglu trawslywodraethol yn dwyn yr wybodaeth a’r profiadau hyn ynghyd i gefnogi’r gwaith ehangu, gan gynnwys mynd i’r afael â chynllunio’r gweithlu, mynediad, cyflawni a symleiddio’r system. Bydd y cydweithio hwn yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion o ran costau byw, addysg, tlodi plant a’r economi.

Mae ein hymrwymiad i adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol â llywodraeth leol yn enghraifft arall. Bydd y Cytundeb, a gafodd ei ddatblygu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn helpu i gytuno ar flaenoriaethau a ffyrdd o weithio a rennir mewn meysydd lle mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig wrth ein helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant.

Bydd y cydweithio yn parhau wrth i’n hymrwymiadau ddatblygu’n bolisïau a rhaglenni manwl. Byddwn yn dod â’r sefydliadau, y cymunedau, yr unigolion a’r rhannau o’r llywodraeth sydd yn y sefyllfa orau i’n helpu i gyflawni ein hamcanion ynghyd, gan gydnabod y gall gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig gyflawni mwy na gweithio ar wahân. Yn ogystal â hyn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol a rhwydweithiau datblygu cynaliadwy er mwyn rhannu dysgu a chyfrannu at ymdrechion ar y cyd i fynd i’r afael â heriau byd-eang cyffredin.

Atal

Wrth ddatblygu ein hamcanion llesiant a’r camau rhesymol i’w cyflawni, fe wnaethom ystyried lle y gallai gweithredu’n gynharach wella canlyniadau a lleihau pwysau yn y dyfodol ar bobl, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus. Adlewyrchir hyn drwy ein Rhaglen Lywodraethu gyfan, gan gynnwys ein ffocws ar atal salwch, torri’r cylch tlodi, gwella deilliannau addysgol, lleihau anghydraddoldebau, meithrin y gallu i wrthsefyll newid hinsawdd a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

Mae llawer o’r heriau sy’n wynebu Cymru yn gymhleth ac wedi bodoli ers tro. Felly, rydym wedi ceisio blaenoriaethu camau sy’n mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol yn ogystal ag ymateb i anghenion uniongyrchol. Er enghraifft, mae ein hymrwymiad i wreiddio atal ym maes iechyd wrth ddatblygu polisïau ar draws y llywodraeth yn cydnabod bod llawer o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant yn ymestyn y tu hwnt i wasanaethau iechyd a gofal. Gall tai, addysg, cyflogaeth, trafnidiaeth, diwylliant a’r amgylchedd oll ddylanwadu ar ganlyniadau iechyd hirdymor a helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol iechyd gwael ac anghydraddoldeb. Adlewyrchir y dull ataliol hwn hefyd yn y ffordd yr ydym yn trefnu’r llywodraeth, gan gynnwys drwy benodi Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Iechyd Ataliol a thrwy drefniadau gweinidogol trawslywodraethol sy’n canolbwyntio ar atal a phenderfynyddion ehangach iechyd.

Wrth i’n camau gael eu datblygu a’u cyflawni, byddwn yn parhau i ystyried ble y gall gweithredu ataliol wella canlyniadau hirdymor a lleihau pwysau y gellir eu hosgoi ar bobl, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd meddylfryd ataliol hefyd yn llywio penderfyniadau ynghylch sut y gellir defnyddio adnoddau yn y ffordd orau i gefnogi gwelliannau parhaol i lesiant Cymru.

Cyflawni ac adolygu ein hamcanion llesiant

Cyflawni

Mae cyflawni ein hamcanion llesiant yn gyfrifoldeb ar y cyd i Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidogion Cabinet unigol yn gyfrifol am gyflawni’r ymrwymiadau sydd o fewn eu portffolios, tra bod y Prif Weinidog a’r Cabinet yn gyfrifol ar y cyd am sicrhau y cynhelir cynnydd tuag at ein hamcanion ar draws y llywodraeth drwy gydol tymor y Senedd rhwng 2026 a 2030.

Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad sy’n gyfrifol am gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu a sicrhau bod cynnydd yn cael ei adrodd yn rheolaidd i’r Cabinet. Bydd hyn yn cryfhau atebolrwydd, yn cynnal ffocws ar gyflawni ac yn cefnogi gweithredu lle mae materion yn croesi ffiniau portffolio.

Caiff Gweinidogion eu cefnogi gan Wasanaeth Sifil Cymru wrth ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu’r camau a nodir yn y Datganiad hwn. Bydd Swyddfa Cabinet gryfach yn cefnogi cydlynu ar draws y llywodraeth, gan helpu adrannau i gydweithio i fynd i’r afael â heriau cyffredin, darparu sicrwydd ynghylch cynnydd a chyflawni blaenoriaethau a rennir.

Bydd datblygu’r gwaith trawslywodraethol hwn ochr yn ochr â’n prosesau cyllidebol yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r her o gydbwyso’r adnoddau sydd ar gael yn y tymor byr â’r potensial i wneud penderfyniadau sydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol ac sy’n cefnogi’r nodau llesiant yn well. Mae cyflawni ein hamcanion llesiant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i adnoddau gael eu trefnu i gyd-fynd â blaenoriaethau’r Llywodraeth.

Bydd penderfyniadau cyllidebol yn parhau i gael eu llywio gan y Rhaglen Lywodraethu, a’r dystiolaeth a’r mewnwelediad sydd ar gael. Yn ogystal â hyn, mae dull mwy hirdymor o gynllunio cyllidol yn rhoi’r pum ffordd o weithio ar waith er mwyn mynd i’r afael â’r heriau strategol sy’n ein hwynebu yma yng Nghymru.

Monitro ac adolygu cynnydd

Bydd ein hamcanion llesiant a’r camau rhesymol yr ydym yn eu cymryd i’w cyflawni yn parhau i gael eu hadolygu drwy gydol tymor y Senedd hon. Bydd cynnydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd gan y Gweinidogion a’r Cabinet, gan ddefnyddio tystiolaeth, gwybodaeth am berfformiad a newid mewn amgylchiadau, gan gynnwys canfyddiadau Adroddiad Llesiant blynyddol Cymru, ynghyd â ffynonellau tystiolaeth perthnasol eraill.

Byddwn yn adolygu ein hamcanion llesiant a’r camau rhesymol sy’n cael eu cymryd i’w cyflawni yn flynyddol ac yn adrodd ar gynnydd drwy Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu. Bydd yr adroddiad yn cofnodi canlyniad yr adolygiad hwnnw, gan gynnwys cynnydd yn erbyn ein hamcanion a’r camau rhesymol sy’n cael eu cymryd i’w cyflawni.

Drwy’r broses hon, byddwn yn parhau i asesu a oes angen gweithredu pellach mewn ymateb i amgylchiadau sy’n newid, heriau sy’n dod i’r amlwg neu dystiolaeth newydd, gan helpu i wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant a gwella canlyniadau i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ein cyfraniad at y nodau llesiant

Mae ein hamcanion llesiant wedi’u cynllunio i sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl gan Lywodraeth Cymru at y saith nod llesiant. Er bod gan bob amcan ei brif ffocws ei hun, rydym yn cydnabod bod yr heriau sy’n wynebu Cymru yn rhyng-gysylltiedig ac y gall gweithredu mewn un maes gyfrannu yn aml at gynnydd ar draws nifer o nodau.

Fe wnaethom ystyried sut y gallai pob amcan a’r camau rhesymol sy’n cefnogi’r amcanion hynny gyfrannu at y nodau llesiant, yn ogystal â dangosyddion a cherrig milltir cenedlaethol Cymru. Wrth wneud hynny, fe wnaethom nodi lle’r oedd amcanion yn cyfrannu’n uniongyrchol, a lle’r oedd potensial i gefnogi cynnydd ehangach o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae’r tabl isod yn crynhoi’r nodau llesiant a gefnogir gan bob amcan a’r dangosyddion a’r cerrig milltir cenedlaethol y mae pob amcan yn fwyaf tebygol o gyfrannu atynt. 

1. Datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy'n addas ar gyfer y dyfodol, a thorri rhestrau aros

Nodau llesiant perthnasol:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Rhif carreg filltir berthnasol: 2, 3, 5, 21, 29
Dangosydd cenedlaethol perthnasol: 1, 30

2. Helpu aelwydydd â chostau byw

Nodau llesiant perthnasol:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Rhif carreg filltir berthnasol: 10, 18, 21, 33, 37
Dangosydd cenedlaethol perthnasol: 6, 19, 31, 34, 49

3. Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy'n talu'n dda

Nodau llesiant perthnasol:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Rhif carreg filltir berthnasol: 3, 5, 8, 10, 17,18, 21, 22, 37, 44
Dangosydd cenedlaethol perthnasol: 9, 11, 12, 13, 16, 24, 26, 35, 38, 41, 43, 45, 48, 49, 50

4. Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu

Nodau llesiant perthnasol:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Rhif carreg filltir berthnasol: 8, 10 18, 21, 22, 37
Dangosydd cenedlaethol perthnasol: 7, 24, 25, 29, 36

5. Mynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau'r dyfodol gorau i bob plentyn yng Nghymru

Nodau llesiant perthnasol:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Rhif carreg filltir berthnasol: 5, 17, 18, 21, 22, 290
Dangosydd cenedlaethol perthnasol: 6, 19, 25, 27, 30, 49

6. Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan

Nodau llesiant perthnasol:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Rhif carreg filltir berthnasol: 17, 18, 21, 37, 44
Dangosydd cenedlaethol perthnasol: 9, 10, 11, 12, 19, 23, 24, 25, 27, 35, 38, 41, 43, 45, 47

7. Gwell llywodraeth – cyflawni ein blaenoriaethau

Nodau llesiant perthnasol:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Rhif carreg filltir berthnasol: 2, 3, 5, 33, 37, 41, 44
Dangosydd cenedlaethol perthnasol: 4, 15, 27, 29, 31, 32, 34, 35, 36, 38, 42, 43, 45, 49