Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynlluniau Digonolrwydd Blynyddol) (Cymru) 2026: asesiad effaith integredig
Crynodeb o'r rheoliadau cynlluniau digonolrwydd blynyddol awdurdodau lleol a'i effeithiau disgwyliedig.
Ar y dudalen hon
Adran 1. Pa gamau Y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Y mater dan sylw
Ar 24 Mawrth 2025, daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (‘Deddf 2025’) yn gyfraith yng Nghymru. Mae’n cynnwys darpariaethau y bwriedir iddynt gyfyngu ar yr arfer o wneud elw ymhlith darparwyr gwasanaethau cartref plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu (a elwir ar y cyd yn ‘wasanaethau plant o dan gyfyngiad’). Mae Deddf 2025 yn pennu cyfres o drefniadau, y daeth rhai ohonynt i rym o 1 Ebrill 2026. Yn y pen draw, bydd y trefniadau hyn yn cyfyngu darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad (ac eithrio’r rhai a ddarperir gan awdurdodau lleol) i endidau ‘nid-er-elw’ a fydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Hefyd, mae Deddf 2025 yn mewnosod adran newydd – sef adran 75A – yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae’r adran newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi cynllun (‘cynllun digonolrwydd blynyddol’) ynglŷn â’u dyletswydd adran 75(1). O 1 Ebrill 2026 ymlaen, cafodd dyletswydd digonolrwydd presennol awdurdodau lleol yn adran 75(1) ei diwygio fel:
- bod yn rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau llety i’r plant sy’n derbyn gofal ganddynt
- bod y ddyletswydd yn ymestyn i lety yn ardal yr awdurdod neu’n agos at ardal yr awdurdod, gan gydnabod y gall lleoliad y tu allan i’r sir fod yn nes at gymuned gartref y plentyn o dan rai amgylchiadau
- bod y llety’n gorfod bod gyda darparwyr sydd naill ai’n awdurdodau lleol neu sy’n bodloni’r gofynion nid-er-elw
- bod awdurdodau lleol yn gorfod ystyried y budd o gael amrywiaeth o lety yn eu hardaloedd neu yn agos atynt sy’n diwallu anghenion gwahanol y plant sy’n derbyn gofal ganddynt. Mae hyn yn disodli’r ffocws blaenorol ar nifer y darparwyr
Bwriad y cynlluniau digonolrwydd blynyddol yw hyrwyddo ac ategu dull cydlynol o gynllunio a darparu digonolrwydd lleoliadau nid-er-elw mewn awdurdodau lleol, yn unol ag anghenion lleol, ac yng nghyd-destun ailgydbwyso’r ddarpariaeth gofal a chymorth yn ehangach. Trwy ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi adroddiadau digonolrwydd blynyddol, bydd modd sicrhau bod cynlluniau awdurdodau lleol yn dryloyw ac yn hygyrch i randdeiliaid allweddol eraill, gan arwain at drefn fwy cydgysylltiedig ynghyd â gwell integreiddio.
Mae adran 75A(3) o Ddeddf 2014, fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf 2025, yn pennu’r wybodaeth graidd y mae’n rhaid ei chynnwys mewn cynlluniau digonolrwydd blynyddol. I grynhoi, mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:
- amcangyfrifon o nifer y plant y disgwylia’r awdurdod lleol ofalu amdanynt, yn cynnwys y rhai y bydd trefniadau addas yn annhebygol o fod ar gael ar eu cyfer
- asesiadau o argaeledd llety (yn cynnwys cartrefi plant a gofal maeth awdurdodau lleol), ac i ba raddau y mae’r llety hwnnw’n bodloni dyletswydd digonolrwydd adran 75(1)
- gwybodaeth am y defnydd disgwyliedig o leoliadau atodol, yn cynnwys nifer disgwyliedig y ceisiadau a’r rhesymau dros y ceisiadau hynny; a hefyd
- y camau y bwriada’r awdurdod eu cymryd er mwyn sicrhau y bydd llety digonol ar gael yn unol â gofynion adran 75(1)
Mae adran 75A newydd hefyd yn cynnwys pwerau newydd i wneud rheoliadau:
- is-adran (2)(a) mewn perthynas â ffurf cynlluniau
- is-adran (3)(d)(iii) a (iv) mewn perthynas â gwybodaeth am ddarparwyr er-elw sy’n darparu llety yng Nghymru, ac unrhyw wybodaeth a fydd yn cael ei rhagnodi mewn rheoliadau ynglŷn â darparwyr er-elw sy’n darparu llety yn Lloegr
- is-adran (3)(f) mewn perthynas â gwybodaeth arall a fydd yn cael ei rhagnodi mewn cynlluniau
Hefyd, mewnosododd Deddf 2025 adrannau newydd 75B, 75C a 75D yn Neddf 2014. Mae’r adrannau newydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno drafft o’u cynllun digonolrwydd i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo, yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn pe na bai cynllun drafft yn cael ei gymeradwyo, ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio adroddiad blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Camau gweithredu a gynigir
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau o dan yr holl bwerau newydd i wneud rheoliadau o fewn adran 75A newydd a restrir uchod.
Byddai rheoliadau o dan adran 75A(2)(a) yn rhagnodi bod yn rhaid i gynlluniau digonolrwydd fod ar ffurf templed a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Byddai rheoliadau o dan adran 75A(3)(f) yn nodi nifer o elfennau ‘craidd’ pellach i’w cynnwys mewn cynlluniau digonolrwydd yn ychwanegol at y rhai a nodir eisoes yn adran 75A(3). Mae’r rhain yn cynnwys:
- proffil ac anghenion asesedig plant a phobl ifanc sydd angen gofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol
- nifer y plant sy’n derbyn gofal
- patrymau lleoli, yn cynnwys lleoliadau y tu allan i ardal yr awdurdod lleol a hefyd y tu allan i Gymru
- y defnydd o wasanaethau cartref plant, gwasanaethau maethu a gwasanaethau llety diogel
- lleoli plant mewn lleoedd nad yw’r darparwr wedi’i gofrestru i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn cysylltiad â hwy
- nifer y plant sy’n destun gorchmynion amddifadu o ryddid
- heriau a risgiau mewn perthynas â digonolrwydd – rhai cyfredol a rhai a ragamcannir
- argaeledd llety a lleoliadau yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
- capasiti’r gweithlu, gallu’r gweithlu, recriwtio’r gweithlu, cadw’r gweithlu a chynllunio’r gweithlu
- ansawdd a chyfyngiadau’r data
- cydweddu cynlluniau digonolrwydd blynyddol â strategaethau a chynlluniau perthnasol eraill
Rheoliadau arfaethedig nad ydynt yn cael eu hystyried:
Ni fydd y trefniadau newydd mewn perthynas â chymeradwyo ceisiadau am leoliadau atodol yn dod i rym tan fis Ebrill 2030. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ofyniad cyfatebol sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau digonolrwydd fodloni’r gofynion o dan adrannau 75A(3)(b), 3(c) a 3(d). O’r herwydd, ni fydd rheoliadau a wneir o dan adran 75A(3)(d)(iii) a (iv) yn cael eu cyflwyno o dan y ddeddfwriaeth hon, a byddant yn cael eu hystyried maes o law.
Sut y mae’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu cymhwyso, drwy gydol y cylch polisi a chyflawni
1. Hirdymor
Mae dull Llywodraeth Cymru o gael gwared ar elw o ofal plant yn adlewyrchu gweledigaeth hirdymor ar gyfer gofal cynaliadwy a theg. Trwy ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr weithredu ar sail nid-er-elw, nod y polisi yw sicrhau bod adnoddau’n cael eu hailfuddsoddi i wella canlyniadau i blant yn hytrach na chael eu dosbarthu fel elw. Mae hyn yn cyd-fynd â’r nod hirdymor o greu system ofal sefydlog sy’n blaenoriaethu llesiant yn hytrach nag elw ariannol.
Bwriad y rheoliadau arfaethedig ynghylch cynlluniau digonolrwydd blynyddol yw sicrhau manteision dros y tymor hir, trwy gefnogi’r fframwaith cynllunio digonolrwydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol:
- asesu anghenion cyfredol a rhagamcanol, gan gynnwys tueddiadau o ran plant sy’n derbyn gofal, y galw yn y dyfodol, a phwysau disgwyliedig o ran lleoliadau
- cynllunio ar gyfer ystod o lety o fewn neu ger eu hardal, gan adlewyrchu llesiant hirdymor plant trwy leihau pellter diangen o’u cartref
- datblygu cynlluniau gweithlu, gan gydnabod gwydnwch y gweithlu fel penderfynydd hirdymor o sefydlogrwydd ac ansawdd lleoliadau
Mewn ymateb i adborth a gafwyd trwy gyfrwng yr ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd ynghylch y ddyletswydd cynllun digonolrwydd, rydym wedi datblygu templed a chanllawiau atodol ar gyfer cynlluniau digonolrwydd. Bydd y rhain yn hyrwyddo cysondeb, tryloywder a chymharedd ar draws y cynlluniau a gyflwynir, gan ategu cynllunio rhanbarthol a chenedlaethol tymor hwy.
Bydd cynlluniau digonolrwydd blynyddol yn galluogi awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i werthuso cynnydd hirdymor, nodi newidiadau yn y galw a’r ddarpariaeth, a llywio datblygiad polisïau’n barhaus. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion hirdymor yr agenda dileu elw a thrawsnewid yn gyffredinol, sy’n pwysleisio gwelliannau parhaus mewn canlyniadau ac ailfuddsoddi er budd y cyhoedd.
2. Atal
Nod y polisi dileu elw ehangach yw ceisio atal risgiau sy’n gysylltiedig â gofal a ysgogir gan elw, megis ansefydlogrwydd posibl mewn lleoliadau oherwydd penderfyniadau sy’n cael eu llywio gan y farchnad, a chostau cynyddol.
Bydd y rheoliadau arfaethedig ynghylch cynlluniau digonolrwydd blynyddol yn cefnogi atal drwy wneud y canlynol:
- ei gwneud hi’n ofynnol rhagfynegi angen yn y dyfodol, gan ei gwneud yn ofynnol yn benodol i awdurdodau amcangyfrif nifer y lleoliadau a’r math o leoliadau sydd eu hangen, gan eu galluogi i gynllunio capasiti ymlaen llaw yn hytrach na dibynnu ar leoliadau brys neu anaddas
- mandadu dadansoddi risgiau, bylchau a phwysau o ran y gweithlu, yn benodol bylchau mewn darpariaeth, gwendidau a risgiau data, ynghyd â’r camau gweithredu i fynd i’r afael â nhw
- cynnwys camau rhag-gynllunio i ddatblygu darpariaeth trwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau nodi sut y byddant yn sicrhau digonolrwydd yn y blynyddoedd i ddod, trwy hyrwyddo gwaith siapio’r farchnad cynnar, meithrin gallu a buddsoddi, atal diffygion rhag digwydd
Bydd ymgysylltu ag awdurdodau lleol i ddatblygu’r templed a bennir mewn rheoliadau yn sicrhau bod yr elfennau ataliol yn adlewyrchu realiti gweithredol a phrofiad rheng flaen.
3. Integreiddio
Fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig a gwblhawyd ar gyfer dileu elfennau elw Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ar y pryd, mae’r rheoliadau arfaethedig hyn yn rhan o’r gwaith dileu elw a’r Rhaglen Drawsnewid ehangach. Mae trefniadau llywodraethiant wedi’u rhoi ar waith er mwyn cyflawni’r rhaglen drawsnewid ehangach hon. Rydym wedi defnyddio dull tair haen i ddarparu’r cyfarwyddyd a’r craffu cywir i gyflawni ein nodau ac i sicrhau cysylltiadau ag agendâu polisi perthnasol eraill. Mae gan y strwythur cyfredol dri grŵp allweddol:
- Bwrdd Goruchwylio Gweinidogol i oruchwylio’r Rhaglen Drawsnewid, gan ddarparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd gwleidyddol o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
- Grŵp Cyflawni Trawsnewid i arwain y gwaith o fwrw ymlaen â’r Rhaglen Drawsnewid
- Bwrdd y Rhaglen Dileu Elw o Ofal Plant sy’n Derbyn Gofal i ddarparu arbenigedd ychwanegol wrth inni ystyried tystiolaeth, deddfu a datblygu rhaglenni ymarferol ar gyfer gweithredu’r ymrwymiad hwn
Wrth i’r rhaglen symud yn agosach at y cyfnod gweithredu, ac yng ngoleuni ffurfio’r llywodraeth newydd sydd gan Gymru, mae’r trefniadau llywodraethu hyn yn cael eu hadolygu. Ond bydd unrhyw strwythurau olynol diwygiedig yn parhau i adlewyrchu’r egwyddorion craidd, sef goruchwyliaeth strategol, ffocws ar gyflawni, arbenigedd y sector ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, sydd wedi ategu’r rhaglen hyd yn hyn.
Mae llunio cynlluniau digonolrwydd blynyddol manwl yn rhwymedigaeth weinyddol a dadansoddol sylweddol, yn enwedig i awdurdodau llai. Er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw risgiau o ran dyblygu diangen, a hefyd er mwyn cynnig gwell eglurder, bydd templed a chanllawiau i ategu’r newidiadau arfaethedig yn nodi pa mor bwysig yw cael cydweddiad clir rhwng cynlluniau digonolrwydd blynyddol ar y naill law a dogfennau cynllunio a dogfennau strategaeth eraill ar y llaw arall, er mwyn darparu fframwaith cynllunio cydlynol.
4. Cydweithio
Datblygu trefniadau arfaethedig
Ymgysylltodd swyddogion yn agos â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru) i ddatblygu’r dull arfaethedig. Galwodd ADSS Cymru grŵp o Benaethiaid Gwasanaethau awdurdodau lleol ynghyd, a gyflwynodd adborth ar strwythur y cynlluniau, y prosesau cyflwyno cysylltiedig, a’r defnydd posibl o bwerau gwneud rheoliadau. Rhoddodd y swyddogion ystyriaeth ofalus i’r adborth hwn wrth ddrafftio’r ymgynghoriad. O ganlyniad, mae’r ddogfen yn adlewyrchu’r ymgysylltu hwn, yn cynnwys y cynnig i ragnodi templed ar gyfer y cynllun a’r cynnig i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol i ddatblygu’r templed cychwynnol hwn a’i ddiweddaru, pe bai angen, mewn ymateb i anghenion a ddaw i’r amlwg.
Ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion
Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 9 Chwefror a 7 Ebrill 2026 yn ymdrin â’r dull gweithredu arfaethedig a chynnwys posibl y rheoliadau sy’n ymwneud â chynlluniau digonolrwydd. Roedd hyn yn cynnwys:
- defnydd o’r pwerau gwneud rheoliadau o dan adran 75A newydd:
- y dull a’r prosesau arfaethedig sy’n ymwneud ag:
- adran 75B newydd – Dyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo cynllun digonolrwydd,
- adran 75C newydd – Dyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn os nad yw’r cynllun drafft yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru
- adborth cyffredinol ar weithredu’r gofynion eraill sy’n ymwneud â chynlluniau digonolrwydd o fewn adran 75 newydd, gan gynnwys:
- rgofynion i amcangyfrif nifer y plant a fydd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol
- faint o lety a ddarperir gan rieni maeth awdurdodau lleol a chartrefi plant a fydd ar gael i’r awdurdod lleol
- nifer y ceisiadau y mae’r awdurdod lleol yn disgwyl eu gwneud am gymeradwyo lleoliadau atodol yn unol ag adran 81B a fewnosodwyd yn Neddf 2014
Ochr yn ochr â’r meysydd uchod, roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ynglŷn ag adrannau drafft 1 ac 8 o’r Asesiad Effaith Integredig fel y gellid rhoi ystyriaeth strwythuredig i effaith y cynigion.
Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ymhlith amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn cynnwys darparwyr gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG, rheoleiddwyr, arolygiaethau, sefydliadau’r trydydd sector a phartneriaid cymdeithasol, ac fe’i cyhoeddwyd trwy gyfrwng cylchlythyrau Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ni luniwyd fersiynau hawdd eu deall na fersiynau ar gyfer plant a phobl ifanc, oherwydd newidiadau mân a thechnegol oedd y newidiadau rheoleiddiol a gynigiwyd. Fodd bynnag mae’r gwaith ymgysylltu â sefydliadau cynrychiadol, yn cynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Voices form Care Cymru a NYAS Cymru, yn parhau er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall y rhaglen ddiwygio ehangach.
Crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriad
Derbyniwyd 17 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Yn gyffredinol, roedd y rhain yn cynnwys cymysgedd o ddarparwyr er-elw ac nid-er-elw unigol, awdurdodau lleol unigol a sefydliadau ambarél a oedd yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, darparwyr gwasanaethau, a phlant a phobl ifanc. Cyflwynwyd ymateb ar y cyd ar ran ADSS Cymru a Chonsortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, Maethu Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig i’w gwneud yn ofynnol llunio cynlluniau digonolrwydd blynyddol trwy ddefnyddio templed a ragnodir yn genedlaethol. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr o’r farn y byddai dull safonedig yn ategu cysondeb, cymharedd a goruchwyliaeth ledled Cymru.
Hefyd, mynegwyd cefnogaeth gyffredinol ar gyfer rheoliadau sy’n rhagnodi gwybodaeth ychwanegol i’w chynnwys mewn cynlluniau digonolrwydd blynyddol. Dywedodd yr ymatebwyr pa mor bwysig yw sicrhau bod y cynlluniau’n cynnwys gwybodaeth ddigonol ar gyfer cynorthwyo i asesu digonolrwydd cyfredol a digonolrwydd yn y dyfodol, gan osgoi dyblygu’n ddiangen yr wybodaeth a gynhwysir eisoes mewn dogfennau cynllunio a strategaethau cysylltiedig.
Mewn perthynas ag adrannau drafft 1 ac 8 yr Asesiad Effaith Integredig, roedd yr ymatebion yn gadarnhaol at ei gilydd, ac roedd nifer ohonynt yn cytuno bod yr asesiad yn adlewyrchu bwriad y polisi a’r buddion disgwyliedig a oedd yn gysylltiedig â dileu elw o ofal plant. Gofynnodd rhai o’r ymatebwyr am fwy o fanylion ynglŷn â digonolrwydd y gweithlu a chadw’r gweithlu, ynghyd â chynaliadwyedd darpariaethau preswyl ac arbenigol, yr effeithiau ar awdurdodau gwledig a llai, risgiau pontio, problemau posibl a allai ddod i ran plant ag anghenion cymhleth, beichiau gweinyddol ac ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg.
Aethpwyd ati’n ofalus i ystyried yr adborth a ddeilliodd o’r ymgynghoriad, yn cynnwys wrth ddiweddaru a pharatoi’r Asesiad Effaith Integredig llawn hwn a’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd â’r rheoliadau penodol.
5. Cyfranogiad
Yn ychwanegol at ymgynghori ynglŷn â’r cynigion, mae swyddogion wedi gweithio’n agos â’r sector llywodraeth leol i ddatblygu’r trefniadau arfaethedig. Mae’r ymdrechion hyn yn cynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol ag ADSS Cymru, a alwodd grŵp penodedig o benaethiaid gwasanaethau awdurdodau lleol ynghyd i lywio a chraffu ar y dull arfaethedig o ymdrin â chynlluniau digonolrwydd. Cyflwynodd y grŵp hwn adborth manwl ar strwythur y cynlluniau, y prosesau cyflwyno a chymeradwyo, a’r defnydd posibl o bwerau gwneud rheoliadau.
Adran 8. Casgliad
8.1 Sut cafodd y bobl, y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt, eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
Wrth ddatblygu’r rheoliadau arfaethedig ynghylch cynlluniau digonolrwydd blynyddol, ymgysylltwyd â’r rhai y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cydraddoldeb 2010, a chwblhawyd ymgynghoriad ffurfiol.
Mae Bwrdd y Rhaglen Dileu Elw a’i ffrydiau gwaith cysylltiedig yn cynnwys cynrychiolaeth eang o’r holl sectorau perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys y sector cyhoeddus a’r sector gofal nid-er-elw a darparwyr cartrefi gofal plant a gwasanaethau maethu yn y sector er-elw. Mae bwrdd y rhaglen a’i ffrydiau gwaith wedi cael diweddariadau ar y gwaith hwn ar adegau allweddol a chafodd yr aelodau gyfle i gyfrannu’n ffurfiol trwy’r broses ymgynghori. Tra caiff trefniadau llywodraethu’r rhaglen eu hadolygu ar hyn o bryd, bydd unrhyw fwrdd, ffrydiau gwaith neu weithgorau olynol yn parhau i ddwyn rhanddeiliaid allweddol ynghyd ac yn parhau i gynnig cyfleoedd iddynt gyfrannu at, a llywio, datblygiad a gweithrediad parhaus y gwaith hwn.
8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
O ystyried eu natur dechnegol, disgwylir mai cyfyngedig fydd effaith y rheoliadau arfaethedig ynghylch cynlluniau digonolrwydd blynyddol ar bobl, diwylliant a’r Gymraeg, yr economi, a’r amgylchedd yng Nghymru. Fodd bynnag, disgwylir iddynt gael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried galw am y Gymraeg, darpariaeth a gallu'r gweithlu, helpu i nodi bylchau, cryfhau gallu cyfrwng Cymraeg a chefnogi plant i aros yn eu cymunedau.
O ran yr effeithiau cadarnhaol a ragwelir trwy ei gwneud yn ofynnol cynnal dadansoddiad cyson o anghenion, tueddiadau galw, risgiau, a chapasiti’r gweithlu, bydd y rheoliadau’n helpu awdurdodau lleol i ragweld pwysau ac i siapio’r ddarpariaeth yn fwy effeithiol, gan wella’r tebygolrwydd y gellir lleoli plant yn agos at eu cartrefi ac mewn lleoliadau sy’n diwallu eu hanghenion. Bydd y strwythur a’r cysondeb gwell hwn ledled Cymru hefyd yn gwella tryloywder ac atebolrwydd, gan greu sylfaen gryfach ar gyfer goruchwylio a chymharu cenedlaethol. Mae’r gofyniad i gydweddu cynlluniau digonolrwydd â dogfennau statudol presennol – megis asesiadau o’r boblogaeth, cynlluniau ardal ac adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad – yn cryfhau integreiddio ymhellach ac yn annog dull system gyfan o wella gofal.
O ran effeithiau negyddol posibl, mae’r rheoliadau’n creu gofynion newydd ar awdurdodau lleol. Mae cynhyrchu cynlluniau digonolrwydd blynyddol manwl yn rhwymedigaeth weinyddol a dadansoddol sylweddol, yn enwedig i awdurdodau llai. Ceir risg hefyd o ddyblygu â dogfennau strategol presennol oni bai bod y canllawiau’n ddigon clir.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, bydd y templed a’r canllawiau arfaethedig yn nodi pa mor bwysig yw cael cydweddiad clir rhwng cynlluniau digonolrwydd blynyddol ar y naill law a dogfennau cynllunio a strategaethau eraill ar y llaw arall, er mwyn cynnig fframwaith cynllunio cydlynol. Byddant yn nodi mai cynlluniau digonolrwydd yw’r prif gyfrwng statudol ar gyfer dangos sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. Hefyd, byddant yn nodi y dylai awdurdodau lleol wneud defnydd priodol o strategaethau, asesiadau a dogfennau rhanbarthol presennol wrth lunio cynlluniau digonolrwydd.
Ymhellach, efallai y bydd heriau o ran sicrhau ansawdd data cyson, yn enwedig mewn perthynas â rhagweld a phennu bylchau, yn golygu nad yw cynlluniau’n gymaradwy. Bwriedir lliniaru’r effeithiau negyddol posibl hyn trwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i siapio’r templed a’r canllawiau ategol. Dylai hyn sicrhau bod y gofynion yn ymarferol ac yn realistig, a bod y canllawiau a’r prosesau’n cael eu cydlunio â’r rhai y mae’n ofynnol iddynt weithredu’r rheoliadau.
8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
- yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant?
- yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
O ystyried bod y newidiadau yn y rheoliadau arfaethedig ynghylch cynlluniau digonolrwydd blynyddol yn dechnegol eu natur ac yn ymwneud â phrosesau presennol, ni ragwelir y byddant yn cael effaith sylweddol ar y saith nod llesiant. Fodd bynnag, nodir effeithiau posibl isod, yn cynnwys rhai sy’n gysylltiedig â’r polisi dileu elw ehangach:
- Cymru lewyrchus – mae’r rheoliadau arfaethedig yn cryfhau cynllunio hirdymor a defnydd effeithiol o arian cyhoeddus trwy roi gofynion data cliriach i awdurdodau lleol ynghyd â thempled cyson, gan eu helpu i gyfeirio buddsoddiad tuag at y mathau cywir o ddarpariaeth leol ac osgoi lleoliadau argyfwng neu bell aneffeithlon, tra bod canllawiau wedi’u cydgynhyrchu yn lleihau costau gweinyddol diangen
- Cymru gydnerth – trwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddadansoddi anghenion, risgiau, heriau’r gweithlu a bylchau digonolrwydd yn y dyfodol, mae’r rheoliadau arfaethedig yn helpu i adeiladu system ofal fwy sefydlog ac addasadwy sy’n gallu gwrthsefyll pwysau’r farchnad yn well a lleihau’r tarfu ar blant, tra bod canllawiau a rennir yn helpu awdurdodau i reoli risgiau pontio
- Cymru iachach – bydd gwell cynllunio digonolrwydd yn cefnogi plant i gael mynediad at lety sefydlog a phriodol yn agos at eu cartref, sy’n hanfodol ar gyfer llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol; bydd canllawiau cliriach hefyd yn helpu i sicrhau nad yw gwendidau data a chynllunio yn tanseilio canlyniadau plant
- Cymru fwy cyfartal – mae templed safonedig a dyletswyddau cliriach yn lleihau’r amrywio rhwng ardaloedd, gan helpu i sicrhau bod pob plentyn - ni waeth beth fo’i leoliad - yn elwa ar yr un lefel o gynllunio, tystiolaeth a chraffu, ac nad oes unrhyw grŵp dan anfantais oherwydd arferion anghyson neu gapasiti lleol
- Cymru o gymunedau cydlynus – bydd y cynllunio cryfach, mwy cyson a gefnogir gan y rheoliadau arfaethedig yn helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd, eu hysgolion a’u cymunedau, gan gefnogi perthnasoedd iach a sefydlogrwydd cymunedol, tra bydd canllawiau a ddatblygir ar y cyd yn annog gwaith mwy cydgysylltiedig ar draws awdurdodau
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – bydd y dull cynllunio strwythuredig a gefnogir gan y rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn haws i awdurdodau nodi ac ymateb i anghenion lleoliadau cyfrwng Cymraeg, ac mae templedi cenedlaethol a rennir yn helpu i sicrhau bod ystyriaethau ieithyddol yn cael eu hymgorffori’n gyson ledled Cymru
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – mae gofyn am gynllunio cryfach sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac a gefnogir gan y rheoliadau arfaethedig ochr yn ochr â chanllawiau a gynhyrchir ar y cyd yn hyrwyddo defnydd cyfrifol a moesegol o arian cyhoeddus ac yn cefnogi system ofal sydd wedi’i chynllunio o amgylch hawliau plant a chynaliadwyedd hirdymor, gan liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â gweithredu anghyson
8.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Bydd effaith rheoliadau arfaethedig 2026 yn cael ei monitro’n ofalus. Mae swyddogion yn ymgysylltu’n rheolaidd â phartneriaid ar draws y sector i gael gwybodaeth am y farchnad, gan gynnwys ymgysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol trwy gyfrwng ADSS (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol) Cymru a thrwy’r corff cenedlaethol o waith a wneir trwy gyfrwng Bwrdd y Rhaglen Dileu Elw.
O ran gwerthuso ehangach, disgwylir i’r polisi dileu elw cyffredinol fod yn destun gwerthusiad ffurfiol dros y blynyddoedd i ddod. Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma o fewn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r wybodaeth a gasglwyd fel rhan o ymarfer Delphi 2024, rydym yn bwriadu comisiynu astudiaeth ddilynol i adnewyddu gwybodaeth y sector er mwyn asesu i ba raddau y mae safbwyntiau'r sector gofal cymdeithasol plant ar yr agenda dileu elw wedi esblygu ers astudiaeth Delphi 2024. Bydd hefyd yn nodi'r ffactorau (er enghraifft, datblygu cynlluniau digonolrwydd) a allai effeithio ar ei gyflawni a'i werthuso yn llwyddiannus.
Bydd yr astudiaeth hon yn archwilio canfyddiadau Delphi 2024, yn asesu canfyddiadau cyfredol o Ddeddf 2025, ac yn nodi risgiau, rhagdybiaethau a meysydd consensws neu anghytuno newydd. Bydd hefyd yn cynhyrchu mewnbynnau gweithredadwy megis dangosyddion posibl, ffynonellau data dichonadwy ac opsiynau gwerthuso.
Bydd yr astudiaeth ddilynol yn mabwysiadu methodoleg ffurfiol i ddarparu sylfaen dystiolaeth ehangach ac i gyfrif am ffactorau a risgiau allanol. Ar yr un pryd, bydd swyddogion yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol trwy gyfrwng Bwrdd y Rhaglen Dileu Elw i gasglu barn a llunio’r dull gwerthuso ar y cyd.
Mae'r dull gwerthuso hwnnw wedi'i gytuno gan weinidogion a bydd yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â swyddogion ymchwil gymdeithasol y llywodraeth i bennu'r dull gwerthuso mwyaf effeithiol. Bydd yn cynnwys casglu data llinell sylfaen a gafwyd o gyflwyno trefniadau newydd yn 2026.
Disgwylir i’r astudiaeth ddechrau yn ystod 2026. Bydd hyn yn golygu y bydd modd paratoi’r fanyleb werthuso ffurfiol a dechrau’r gwaith yn 2026 i 2027.
