Sut y lluniodd Gofal Cymdeithasol Cymru fwrdd sy'n adlewyrchu amrywiaeth sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar Cymru.
Cefndir
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi mynd ati ar y cyd i ddatblygu Bwrdd sy'n adlewyrchiad gwirioneddol o'r amrywiaeth yn sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar Cymru. Mae'r astudiaeth achos hon yn rhannu sut y cyflawnwyd hyn drwy recriwtio cynhwysol, gweithio mewn partneriaeth, a chreu newid diwylliannol.
Pam y mae cynrychiolaeth yn bwysig
Mae ein Bwrdd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan sicrhau ein bod yn cyflawni dyletswyddau statudol a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae safbwyntiau amrywiol yn cryfhau llywodraethiant, yn cyfoethogi dadl ac yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn falch o'r amrywiaeth sydd i'w weld ar ein Cofrestr o dros 65,000 o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â'r amrywiaeth ymhlith y defnyddwyr gofal a chymorth y maent yn eu cefnogi bob dydd. Mae cael Bwrdd cynrychioliadol yn hollbwysig, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r gofal a'r cymorth a ddarperir i blant, oedolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr ledled Cymru.
Ein taith
Pan sefydlwyd Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2017, cawsom y cyfle prin i recriwtio Bwrdd newydd o'r cychwyn cyntaf. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, fe wnaethom gyflwyno prosesau recriwtio hygyrch a oedd yn seiliedig ar werthoedd. Yn lle cyfweliadau traddodiadol, defnyddiwyd ymarferion a oedd yn profi gallu ymgeiswyr i gydweithio ac i wneud penderfyniadau moesegol. Fe wnaethom gynnal digwyddiadau agored, rhannu fideos er mwyn gwneud i'r broses deimlo'n fwy personol, ac annog cyswllt anffurfiol ag Ysgrifennydd y Bwrdd. Datblygodd y dull gweithredu hwn Fwrdd a gafodd gydnabyddiaeth genedlaethol am ei arferion cynhwysol yn Adolygiad yr Arglwydd Holmes (2018).
Erbyn 2023, roedd gennym ffocws newydd. Er bod ein Bwrdd yn amrywiol o ran rhyw, anabledd a phrofiad bywyd, roedd pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn parhau i gael eu tangynrychioli. Gyda thymor 12 aelod yn tynnu tua'r terfyn, gwelsom gyfle i fynd ymhellach. Arweiniodd ein Cadeirydd a'n Prif Weithredwr broses recriwtio a gynlluniwyd nid yn unig i lenwi swyddi gwag ond hefyd i greu hyder a gwelededd ymhlith cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gwnaed penderfyniad bwriadol i wneud pethau'n wahanol er mwyn cyflawni canlyniadau gwahanol, a herio ein ffordd ein hunain o feddwl.
Beth wnaethom yn wahanol
Cryfhawyd gweithgarwch allgymorth ac ymgysylltu drwy weithio mewn partneriaeth â rhwydweithiau, er enghraifft rhaglen Llwybr i'r Bwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru, Rhaglen Datblygu Darpar Arweinwyr Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, a Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Fe wnaeth y cysylltiadau hyn ein helpu i ymestyn ein cyrhaeddiad a'n hygrededd.
Adolygwyd yr holl ddeunyddiau i sicrhau eu bod yn gynhwysol, gan ddefnyddio Cymraeg Clir a Saesneg Clir, a phwysleisiwyd nad oedd angen profiad blaenorol o fod ar unrhyw Fwrdd. Recordiodd ein Cadeirydd fideo byr yn esbonio pam y mae gwahanol safbwyntiau yn bwysig. Roedd sesiynau briffio fin nos yn cynnig cyngor ymarferol ac yn rhoi gwedd gliriach ar y broses.
Cynlluniwyd canolfannau asesu i fod yn groesawgar ac yn hygyrch. Fe wnaethom rannu cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw er mwyn cefnogi tegwch ac addasiadau rhesymol, gan gynnwys ar gyfer ymgeiswyr niwrowahanol. Roedd cyfweliadau yn canolbwyntio ar werthoedd yn hytrach nag ar statws, gan flaenoriaethu hygrededd, cydweithredu a dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Yr effaith
Denodd ymgyrch 2024–2025 86 o ymgeiswyr, gan gynnwys 17 o bobl anabl a 17 o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ddatblygu proses sgorio deg a oedd yn caniatáu i ragfarn gael ei herio'n agored. Roedd perfformiad yr ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn gryf, gyda pherfformiad sawl un ymhlith y gorau.
Penododd y Gweinidog 12 o aelodau newydd, gan greu un o Fyrddau mwyaf amrywiol Cymru. Mae'r Bwrdd bellach yn cynnwys cydbwysedd rhwng dynion a menywod, ac ystod o oedrannau, cefndiroedd ethnig a phrofiadau bywyd. Mae hyn ochr yn ochr ag arbenigedd mewn gwaith cymdeithasol, iechyd, y byd academaidd, arweinyddiaeth gymunedol, a busnes.
Fel rhan o'n hymrwymiad i amrywiaeth mewn arweinyddiaeth, fe wnaethom ymuno â Chynllun Cysgodi Swyddi Llywodraeth Cymru o dan Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru - Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, sy'n cynnig profiad llywodraethu i unigolion o gefndiroedd lleiafrifol.
Roedd y canlyniadau hyn yn deillio o ddull gweithredu cyfunol: gweithgarwch allgymorth helaeth, a chynllunio canolfannau asesu mewn ffordd gynhwysol.
Lleisiau aelodau'r Bwrdd
Dywedodd Katija Dew, a benodwyd ym mis Ebrill 2025:
"Mae cynrychiolaeth yn bwysig - mae e'n dod â gwahanol safbwyntiau ynghyd wrth wneud penderfyniadau, ac yn dangos bod rolau arwain yn agored i bawb. Mae'r dull gweithredu cynhwysol drwy gydol y broses recriwtio yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i degwch.
Ar ôl cael eu penodi, mae sesiynau cynefino a dysgu ar y cyd yn barhaus wedi atgyfnerthu cynhwysiant, a chefnogi aelodau i gyfrannu'n hyderus".
Beth rydym wedi'i ddysgu
Mae datblygu amrywiaeth yn cymryd amser, ac mae'n golygu gwaith cynllunio a newid diwylliannol. Roedd uwch-berchnogaeth, hyblygrwydd o fewn y fframwaith penodiadau cyhoeddus ac ymgysylltu parhaus yn hollbwysig. Mae ein profiad yn dangos gwerth blaenoriaethu sgiliau a gwerthoedd yn hytrach na statws, a chreu diwylliant sefydliadol sy'n galluogi. Nid yw cynhwysiant yn dod i ben ar ôl recriwtio. Caiff ei gynnal drwy brosesau cynefino hygyrch, gweithgarwch diwylliannol parhaus, a sgyrsiau agored am anghenion.
Y Camau Nesaf
Drwy arweinyddiaeth, arloesi a gweithio mewn partneriaeth, rydym wedi creu Bwrdd sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn parhau yn gyfrifoldeb parhaus, nid menter untro mohonynt.
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â llinosbradbury@gofalcymdeithasol.cymru.
