Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynlluniau Digonolrwydd Blynyddol) (Cymru) 2026: asesiad o'r effaith ar gydraddoldebau
Sut y gall Rheoliadau ar gyfer Cynlluniau Digonolrwydd Blynyddol Awdurdodau Lleol effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig.
Ar y dudalen hon
1. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Ni ddisgwylir i reoliadau arfaethedig 2026 gael unrhyw effaith negyddol sylweddol ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol ar unigolion mewn grwpiau gwarchodedig na’r rhai sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel. Ni ddisgwylir i’r rheoliadau arfaethedig effeithio ar ddarpariaeth, cymhwystra nac ansawdd gwasanaethau mewn unrhyw ffordd sylweddol, ac o’r herwydd ni ddisgwylir iddynt gyflwyno rhwystrau ychwanegol. Nid yw dyletswyddau presennol o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb wedi newid, a bydd darparwyr yn parhau i weithredu’n unol â’r gofynion hynny.
Mae’r newidiadau’n dechnegol eu natur ac maent yn ymwneud â phennu’r ffurf, y cynnwys a’r dull y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu mabwysiadu i ddiwallu eu dyletswydd cynllunio digonolrwydd fel y nodir yn neddf 2025. Nid yw’r newidiadau’n cyflwyno gofynion na rhwymedigaethau newydd a fyddai’n creu rhwystrau neu’n newid mynediad at wasanaethau. O ystyried natur dechnegol y newidiadau, mae’r mesurau lliniaru’n canolbwyntio ar gyfathrebu’r newidiadau i randdeiliaid allweddol – yn bennaf, awdurdodau y mae’n ofynnol iddynt gyflawni eu dyletswyddau cynllunio digonolrwydd presennol. Bydd yr awdurdodau lleol hynny hefyd yn cael rhagor o ganllawiau a chymorth ar gyfer mynd i’r afael â’u cynlluniau digonolrwydd er mwyn bodloni’r gofynion rheoleiddio, felly nid oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol wedi’u pennu. Nid yw’r cynnig yn newid fframweithiau canlyniadau na threfniadau monitro, oherwydd nid yw’n dylanwadu ar amcanion cydraddoldeb na hygyrchedd gwasanaethau. I grynhoi, bernir mai bach iawn fydd effaith y rheoliadau arfaethedig ar gydraddoldeb.
Serch hynny, mae yna nifer o effeithiau cadarnhaol bach a allai ddeillio o’r newidiadau arfaethedig. Er mai gwella cysondeb a thryloywder cynllunio digonolrwydd yw prif effaith y cynigion hyn, disgwylir hefyd y byddant yn cael effaith gadarnhaol gymedrol ar gydraddoldeb. Trwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio cynlluniau mewn fformat safonedig, gyda setiau data craidd clir a phendant, bydd y rheoliadau’n gwella tryloywder, cymharedd ac ansawdd cyffredinol y dystiolaeth a ddefnyddir wrth gynllunio.
Bydd hyn yn ategu dull mwy cyson o bennu anghenion a bylchau yn y ddarpariaeth ledled Cymru, yn cynnwys i blant a phobl ifanc â nodweddion gwarchodedig a rhai ag anghenion cymhleth neu arbenigol. Yn ei dro, disgwylir y bydd gwell data, blaengynllunio cliriach, a’r gallu i bennu pwysau’n gynharach, yn ategu mynediad tecach at leoliadau priodol ac yn lleihau’r amrywio mewn canlyniadau rhwng gwahanol grwpiau o blant dros amser.
Trwy hyrwyddo cynllunio mwy cyson a dealltwriaeth gliriach o anghenion nas diwellir, yn ogystal â thrwy wella amlygrwydd bylchau sy’n effeithio ar grwpiau arbennig o blant, yn cynnwys rhai ag anghenion cymhleth, anableddau neu anghenion ieithyddol, gallai cynllunio digonolrwydd safonedig ategu proses benderfynu decach a mwy tryloyw ledled Cymru. Er y gallai’r gofynion penodol hyn ar gynnwys a ffurf y cynlluniau hynny gael effaith amrywiol ar awdurdodau lleol yn sgil cyfyngiadau capasiti, gellir lliniaru’r risgiau hynny, trwy gyfrwng cymorth gan ADSS (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol) Cymru, Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant a’r canllawiau a ddarperir, er mwyn sicrhau y caiff y gofynion hynny eu rhoi ar waith yn gymesur.
2. Cofnod o’r effeithiau yn ôl nodweddion gwarchodedig:
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig:
Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd, cred a diffyg cred, rhyw neu rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, plant a phobl ifanc hyd at 18 oed, aelwydydd incwm isel.
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Ni ddisgwylir i’r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar unigolion â nodweddion gwarchodedig nac ar grwpiau yr ymdrinnir â nhw o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Y rhesymau dros eich penderfyniad (yn cynnwys tystiolaeth):
Diwygiadau o natur weinyddol yw’r rheoliadau o dan sylw ac ni ddisgwylir iddynt gael unrhyw effaith negyddol ar unigolion sy’n cael cymorth gan ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig.
Disgwylir i’r cynigion hyn gael effaith gadarnhaol gymedrol ar gydraddoldeb trwy wella cysondeb, tryloywder ac ansawdd cynllunio digonolrwydd, gan ei gwneud yn bosibl i bennu gwahaniaethau mewn darpariaeth ynghynt ac ategu mynediad tecach at leoliadau priodol i blant a phobl ifanc.
Sut byddwch yn lliniaru’r effeithiau?
Ni ddisgwylir i’r cynnig gael effaith negyddol sylweddol ar unigolion â nodweddion gwarchodedig nac ar grwpiau yr ymdrinnir â nhw o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae mesurau lliniaru’n cynnwys hysbysu rhanddeiliaid allweddol – sef awdurdodau lleol yn bennaf – ynglŷn â newidiadau.
Bydd awdurdodau lleol yn cael cymorth a chanllawiau ychwanegol yn ymwneud â chynllunio digonolrwydd er mwyn iddynt allu bodloni’r rheoliadau, felly ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ganlyniadau anfwriadol.
Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Ni ddisgwylir i’r cynnig gael unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol ar unigolion â nodweddion gwarchodedig nac ar grwpiau yr ymdrinnir â nhw o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Y rhesymau dros eich penderfyniad (yn cynnwys tystiolaeth)
Diwygiadau gweinyddol yw’r cynigion ac ni ddisgwylir iddynt gael unrhyw effaith negyddol ar unigolion sy’n cael cymorth gan ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig.
Sut byddwch yn lliniaru effeithiau negyddol?
Nid oes unrhyw effeithiau negyddol i’w lliniaru.
3. Hawliau Dinasyddion yr UE neu AEE a’r Swistir
Rheoliadau gweinyddol a thechnegol eu natur yw’r rheoliadau arfaethedig ac ni ddisgwylir iddynt gael unrhyw effaith ar unigolion a gynorthwyir gan ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig, yn cynnwys rhai y caiff eu hawliau eu hamddiffyn o dan Gytundebau Hawliau Dinasyddion. Nid yw’r newidiadau hyn yn newid hawliau preswylio, mynediad at wasanaethau, nac unrhyw hawliau sy’n deillio o Gytundeb Ymadael y DU â’r UE, y Cytundeb Gwahanu â Gwladwriaethau’r AEE-EFTA, na Chytundeb Hawliau Dinasyddion y Swistir. O’r herwydd, ni ddisgwylir y bydd yna effaith gadarnhaol na negyddol ar ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd na’r Swistir, sy’n byw’n gyfreithlon yn y DU.
Nid yw’r rheoliadau arfaethedig yn cyflwyno gofynion newydd a fyddai’n effeithio ar hawliau’n ymwneud â phreswylio, cydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol, mynediad at systemau nawdd cymdeithasol, na thriniaeth deg. Bydd unigolion a amddiffynnir gan Gytundebau Hawliau Dinasyddion yn parhau i fwynhau’r un amddiffyniadau a’r un hawliau ag o’r blaen, yn cynnwys yr hawl i weithio, astudio, a chael gafael ar ofal iechyd a thai. Ni chaiff rhwystrau eu creu, ac ni chaiff newidiadau eu gwneud i rwymedigaethau cydymffurfio presennol ar gyfer darparwyr gwasanaethau.
I grynhoi, nid yw’r cynnig yn effeithio ar hawliau gweithwyr, darpariaethau anwahaniaethol, na gallu gweithwyr trawsffiniol i barhau i weithio yn y DU. Cyfyngir y newidiadau i addasiadau gweinyddol ac nid ydynt yn effeithio ar ddarparu gofal nac ar brofiad y rhai a gaiff eu cynorthwyo gan ddarparwyr cofrestredig. O’r herwydd, asesir yn gyffredinol na cheir unrhyw effaith o gwbl.
