Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ar yr adolygiad o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru.

Ym mis Hydref, lansiais gam 1 yr adolygiad, a oedd yn canolbwyntio ar egwyddorion allweddol ym meysydd llythrennedd, rhifedd a sgiliau ehangach. Gofynnais nifer o gwestiynau am gynigion i wneud llythrennedd a rhifedd yn rhan annatod o’r cwricwlwm. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ym mis Ionawr eleni, ac rwy’n falch o gael cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion.

Un o negeseuon clir yr ymgynghoriad yw bod y mwyafrif yn cefnogi ein cynigion i wneud llythrennedd a rhifedd yn brif flaenoriaethau cwricwlwm Cymru. Yn benodol, roedd yna gefnogaeth i ddiwygio Meysydd Dysgu Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, a Datblygiad Mathemategol y Cyfnod Sylfaen. Roedd cefnogaeth hefyd i ddiwygio rhaglenni astudio Cymraeg (iaith gyntaf), Saesneg a mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2 i 4 er mwyn iddynt ategu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Rydym wedi datblygu fersiynau diwygiedig o’r Meysydd Dysgu a’r rhaglenni astudio hyn a byddwn yn ymgynghori arnynt tan 13 Mehefin.

Neges glir arall yw y dylid ehangu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, ar sail anstatudol, i gynnwys llythrennedd a rhifedd ar ei ffurf gynharaf yn y Cyfnod Sylfaen i blant tair a phedair oed a sicrhau ei fod yn cynnwys hefyd y cyrsiau TGAU newydd a Bagloriaeth Cymru yng Nghyfnod Allweddol 4.

Roedd yna gynigion eraill yn ymgynghoriad cam 1 - yn eu plith asesu a chyflwyno sgiliau ehangach fel elfennau statudol o drefniadau’r cwricwlwm yng Nghymru, rhywbeth sydd wedi cael cefnogaeth aruthrol gan randdeiliaid hyd yn hyn. Bydd y rhain yn rhan o’r cylch gwaith ar gyfer adolygiad annibynnol yr Athro Donaldson o’r cwricwlwm cenedlaethol a’r trefniadau asesu, a gyhoeddais ddwy wythnos yn ôl.

Mae’r rhain yn gerrig milltir pwysig ar ein taith i ddiwygio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad ar y Meysydd Dysgu a’r rhaglenni astudio arfaethedig ar gyfer addysg yng Nghymru yn gwrando’n astud ar adborth ymarferwyr, ac yn gweithredu arno. Bydd hefyd yn ein helpu i sefydlu llythrennedd a rhifedd fel elfennau hanfodol.

Erbyn diwedd y daith, gyda chymorth y sector addysg ac arweiniad arbenigol gan bobl fel yr Athro Donaldson, rwy’n hyderus y gwelwn gwricwlwm sy’n rhoi cyfleoedd i’n plant a’n pobl ifanc ddysgu mewn ffordd a fydd yn eu helpu i feddwl, gweithredu, ffynnu ac addasu.