Y Papur Gwyn ar Les Anifeiliaid Gwyllt: asesiad effaith rheoleiddiol
Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amlinellu effeithiau disgwyliedig o'r cynigion ar y sectorau cyhoeddus neu breifat, y sectorau elusennol neu wirfoddol.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn cefnogi’r ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Bil Lles Anifeiliaid Gwyllt (Cymru).
Mae’r Bil arfaethedig yn rhan o raglen ehangach o ddiwygio cyfraith bywyd gwyllt yng Nghymru. Mae’r gyfraith sy’n ymwneud â rheoli a diogelu bywyd gwyllt ar hyn o bryd wedi’i gwasgaru ar draws fframwaith cymhleth o ddeddfwriaeth, gyda llawer ohoni yn rhagflaenu datganoli. Felly, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar ddull deddfwriaethol dau gam o ddiwygio.
Y cam cyntaf yw’r Bil Lles Anifeiliaid Gwyllt (Cymru) arfaethedig. Y bwriad yw i hwn fod yn Fil bach â ffocws sy’n mynd i’r afael â dau fater penodol o ran lles anifeiliaid:
- aflonyddu ar forloi, a
- saethu ysgyfarnogod yn ystod y tymor bridio
Bydd yr ail gam yn cynnwys Bil Bywyd Gwyllt ehangach a fydd yn cydgrynhoi, ailddatgan a moderneiddio deddfwriaeth rheoli bywyd gwyllt yng Nghymru. Y ddeddfwriaeth arfaethedig honno fydd yn darparu’r prif gyfrwng ar gyfer gwella hygyrchedd, cydlyniant a strwythur cyfraith bywyd gwyllt.
Felly, nid ymgymryd â diwygio deddfwriaeth bywyd gwyllt yn ehangach yw diben Bil Lles Anifeiliaid Gwyllt (Cymru). Yn hytrach, y bwriad yw mynd i’r afael â dau bryder penodol am les anifeiliaid y mae Gweinidogion wedi cytuno na ddylai aros am y rhaglen gydgrynhoi ac ailddatgan. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y ddau fesur yn mynd i’r afael â bylchau sydd wedi’u nodi yn y fframwaith deddfwriaethol presennol sy’n caniatáu i niwed y mae modd ei osgoi ddigwydd, ac nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddigonol trwy ddeddfwriaeth, canllawiau neu fesurau gwirfoddol presennol.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y mesurau arfaethedig, eu costau a’u buddion disgwyliedig, a goblygiadau ymarferol gweithredu a gorfodi.
Yr hyn sy’n dilyn yw’r costau, y buddion, y risgiau a’r grwpiau sy’n cael eu heffeithio sydd wedi cael eu nodi. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio tystiolaeth i brofi, mireinio neu herio’r asesiad. Bydd Asesiad Effaith Rheoleiddiol terfynol yn cyd-fynd â Bil pe bai Bil yn cael ei gyflwyno.
Dull gweithredu
Asesiad Effaith Rheoleiddiol cam ymgynghori yw hwn, ac mae wedi’i baratoi ar sail gymesur.
Mae’r Bil arfaethedig yn cynnwys dau fesur polisi ar wahân. Mae pob un wedi’i asesu ar wahân yn erbyn y llinell sylfaen ddeddfwriaethol bresennol ac yn erbyn opsiynau amgen sy’n gallu cyflawni’r amcanion polisi.
Ar gyfer pob cynnig, mae’r asesiad yn ystyried:
- y broblem i fynd i’r afael â hi
- yr amcan polisi
- yr opsiynau o dan ystyriaeth
- costau disgwyliedig
- buddion disgwyliedig
- ystyriaethau o ran gweithredu
- effeithiau gorfodi, ac
- effeithiau ehangach perthnasol
Mae’r asesiad yn pwyso ar y canlynol:
- deddfwriaeth bresennol yng Nghymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig
- tystiolaeth gan sefydliadau bywyd gwyllt a lles anifeiliaid
- llenyddiaeth wyddonol sydd ar gael
- ymgysylltu â chyrff gorfodi
- trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol, a
- gwaith a wnaed i gefnogi nodi ac asesu’r effeithiau ar y system gyfiawnder
Lle nad yw’n bosibl meintioli’r effeithiau yn hyderus, maen nhw’n cael eu disgrifio yn ansoddol. Bydd ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i wella’r sylfaen dystiolaeth, profi rhagdybiaethau a llywio gwaith asesu yn y dyfodol.
Dull ymgynghori
Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â’r ddau fesur, a dim ond y ddau fesur, sy’n rhan o’r cynnig i’w cynnwys yn y Bil Lles Anifeiliaid Gwyllt (Cymru).
Nid yw’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar gydgrynhoi, ailddatgan neu ddiwygio cyfraith bywyd gwyllt yn ehangach. Bydd y materion hynny’n cael eu hystyried ar wahân trwy ail gam y rhaglen diwygio cyfraith bywyd gwyllt.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar:
- priodoldeb yr opsiynau polisi a ffefrir
- a yw’r costau, y buddion a’r risgiau a nodwyd wedi’u hasesu’n gywir
- ystyriaethau gweithredu a gorfodi, ac
- unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi croeso arbennig i dystiolaeth sy’n ymwneud â:
- graddfa a natur aflonyddu ar forloi yng Nghymru
- effeithiau sy’n gysylltiedig ag aflonyddu ar forloi
- hyd a lled saethu ysgyfarnogod yn ystod cyfnod y tymor caeedig arfaethedig
- effeithiau tebygol ar unigolion, busnesau a sefydliadau
- y galw tebygol o ran gorfodi, ac
- unrhyw gostau neu fuddion nad ydynt wedi’u nodi yn yr asesiad hwn
Bydd ymatebion sy’n dod i law trwy’r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i fireinio rhagdybiaethau, cryfhau’r sylfaen dystiolaeth a llywio datblygiad yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol terfynol.
Opsiynau, costau a manteision
Mae’r adrannau canlynol yn nodi asesiad Llywodraeth Cymru o’r opsiynau a ystyriwyd ar gyfer pob cynnig a’r effeithiau disgwyliedig sy’n gysylltiedig â nhw. Mae’r asesiad yn pwyso ar lenyddiaeth wyddonol, tystiolaeth a ddarparwyd gan sefydliadau lles anifeiliaid a chadwraeth, ymgysylltu â chyrff gorfodi, ystyried dulliau deddfwriaethol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, a gwaith a wnaed i gefnogi nodi’r effeithiau ar y system gyfiawnder.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’r opsiynau a ffefrir ar gyfer y ddau fesur ac wedi asesu’r costau, y manteision, y risgiau a’r gofynion gweithredu tebygol sy’n gysylltiedig â’r opsiynau hynny. Gwahoddir ymatebion i ymgynghoriad ar sail yr asesiad hwnnw a byddant yn cael eu defnyddio i brofi rhagdybiaethau, nodi tystiolaeth ychwanegol a mireinio’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol terfynol.
Aflonyddu ar forloi
Problem/bwlch a’r rhesymeg dros ymyrraeth
Mae Cymru’n cefnogi poblogaeth fridio bwysig o forloi llwyd sy’n cael ei chydnabod trwy’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn Sir Benfro a Bae Ceredigion. Mae Cymru yn cynnwys rhai o’r safleoedd bridio morloi mwyaf hygyrch ym Mhrydain. Mae lefelau cynyddol o hamdden arfordirol, gweithgarwch morol a thwristiaeth bywyd gwyllt wedi arwain at bryder cynyddol ynghylch aflonyddu ar forloi gan weithgarwch dynol. Mae aflonyddu yn gallu digwydd ar y tir ac ar y môr, ac mae’n gallu digwydd wrth i bobl fynd yn rhy agos at forloi, boed yn fwriadol neu fel arall. Mae tystiolaeth yn dangos y gall aflonyddu achosi i forloi adael safleoedd gorffwys, sbarduno ymateb o banig ac arwain at anaf, straen, llai o ffitrwydd ac, mewn rhai amgylchiadau, marwolaeth. Mae pryderon lles penodol yn dod i’r amlwg lle mae aflonyddu yn peri i famau a morloi ifanc dibynnol gael eu gwahanu.
Er bod morloi yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu lladd, eu hanafu neu eu cipio o dan Ddeddf Cadwraeth Morloi 1970, nid oes trosedd benodol yng Nghymru ar hyn o bryd o darfu ar forloi yn fwriadol neu’n ddi-hid. Mae hyn yn cyferbynnu â’r amddiffyniadau sydd ar gael ar gyfer mamaliaid eraill y môr a’r dulliau a fabwysiadwyd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod hyn yn cynrychioli bwlch sylweddol yn y fframwaith deddfwriaethol presennol. O ganlyniad, mae opsiynau cyfyngedig gan awdurdodau gorfodi ar hyn o bryd lle mae ymddygiad yn effeithio ar les trwy aflonyddu ond lle nad yw hynny’n gyfystyr â lladd, anafu neu gipio.
Mae’r rhesymeg dros ymyrraeth felly wedi’i seilio ar ystyriaethau lles anifeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad yw’r fframwaith deddfwriaethol presennol yn ddigonol i atal neu annog rhag ymddygiad a allai arwain at niwed i forloi y mae modd ei osgoi. Nid yw ymgyrchoedd i hybu ymwybyddiaeth wedi gallu mynd i’r afael â phob achos o aflonyddu niweidiol.
Amcan polisi
Amcan y polisi yw gwella lles anifeiliaid trwy leihau niwed y mae modd ei osgoi a achosir gan aflonyddu bwriadol neu ddi-hid ar forloi a darparu fframwaith cyfreithiol clir a chymesur sy’n cefnogi rhyngweithio cyfrifol â bywyd gwyllt a gorfodi effeithiol pan fo ymddygiad niweidiol yn digwydd.
Opsiynau a gafodd eu hystyried
Opsiwn 1: gwneud dim
O dan yr opsiwn hwn, byddai’r fframwaith deddfwriaethol presennol yn aros fel y mae.
Byddai’r opsiwn hwn yn osgoi costau gweithredu ac ni fyddai’n gosod unrhyw rwymedigaethau ychwanegol ar unigolion, busnesau nac awdurdodau cyhoeddus. Fodd bynnag, byddai’r bwlch a nodwyd o fewn y fframwaith deddfwriaethol yn parhau a byddai asiantaethau gorfodi yn dal i orfod ymateb i achosion o aflonyddu ar forloi gyda phwerau cyfyngedig. Byddai niwed lles sy’n gysylltiedig ag aflonyddu, gan gynnwys straen, anaf, gwahanu mamau a morloi bach neu beri i famau droi cefn ar forloi bach dibynnol, yn dal i allu digwydd heb fecanwaith gorfodi penodol. Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod yr opsiwn hwn yn gallu cyflawni’r amcan polisi.
Opsiwn 2: amddiffyn ar sail safle
O dan yr opsiwn hwn, dim ond mewn safleoedd gorffwys morloi dynodedig neu leoliadau penodedig y byddai amddiffyniad rhag aflonyddu yn berthnasol, yn dilyn y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban.
Byddai’r opsiwn hwn yn darparu amddiffyniad ychwanegol mewn safleoedd dynodedig a gall leihau aflonyddu mewn rhai lleoliadau y gwyddys eu bod yn cefnogi gweithgarwch morloi sylweddol. Fodd bynnag, mae morloi yn anifeiliaid symudol iawn ac mae aflonyddu yn aml yn digwydd i ffwrdd o safleoedd dynodedig. Nid yw effeithiau lles wedi’u cyfyngu i leoliadau penodol ac maen nhw’n gallu digwydd lle bynnag y mae morloi yn treulio amser. Byddai’r opsiwn hwn hefyd yn cyflwyno cymhlethdod ychwanegol oherwydd byddai lleoliadau dynodedig yn gofyn am adnabod, cyfathrebu ac adolygiad parhaus. Byddai angen i awdurdodau gorfodi ac aelodau o’r cyhoedd benderfynu a oedd ymddygiad wedi digwydd y tu mewn neu’r tu allan i ardal ddynodedig. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai mynd i’r afael yn rhannol â’r mater lles a nodwyd fyddai’r opsiwn hwn.
Opsiwn 3: trosedd gyffredinol o aflonyddu ar forloi (opsiwn a ffefrir)
O dan yr opsiwn hwn, byddai trosedd newydd o aflonyddu ar forloi yn fwriadol neu’n ddi-hid yn berthnasol ledled Cymru.
Byddai’r opsiwn hwn yn darparu amddiffyniad lle bynnag y mae morloi yn treulio amser, a byddai’n mynd i’r afael â’r bwlch a nodwyd yn y fframwaith deddfwriaethol. Byddai’n darparu sail glir ar gyfer gorfodi a byddai’n osgoi’r cymhlethdod sy’n gysylltiedig ag amddiffyn ar safleoedd penodol. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai’r opsiwn hwn sy’n cyd-fynd orau â’r amcan polisi oherwydd ei fod yn ceisio mynd i’r afael â niwed lles waeth beth fo’r lleoliad ac yn darparu dull cyson y mae modd ei ddeall gan awdurdodau gorfodi ac aelodau o’r cyhoedd.
Mae’r opsiwn yn rhagweld dod â’r drosedd aflonyddu newydd o fewn y fframwaith trwyddedu presennol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Byddai hyn yn caniatáu i drwyddedau gael eu dyrannu a fyddai’n caniatáu aflonyddu morloi at ddibenion penodedig, gan gynnwys dibenion gwyddonol neu addysgol, cadwraeth anifeiliaid gwyllt, prosiectau ailgyflwyno neu drawsleoli, ffotograffiaeth, iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd, rheoli clefydau, ac atal difrod difrifol i bysgodfeydd. Nid yw’r cynnig yn gofyn am greu cyfundrefn drwyddedu newydd.
Y grwpiau sy’n cael eu heffeithio
Gallai’r grwpiau sy’n cael eu heffeithio gynnwys:
- ymwelwyr â’r arfordir ac aelodau o’r cyhoedd
- defnyddwyr dŵr hamdden
- busnesau twristiaeth a hamdden
- ffotograffwyr bywyd gwyllt
- gweithredwyr pysgota masnachol
- gweithredwyr llongau
- gweithredwyr twristiaeth bywyd gwyllt
- sefydliadau cadwraeth mamaliaid morol
- sefydliadau achub ac adsefydlu bywyd gwyllt morol
- ymchwilwyr, sefydliadau gwyddonol a’r rhai sy’n ymgymryd â gweithgareddau addysgol trwyddedig
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- awdurdodau lleol
- Parciau Cenedlaethol
- awdurdodau gorfodi, a
- sefydliadau cadwraeth a lles anifeiliaid
Costau
Mae disgwyl i’r costau sy’n gysylltiedig â’r opsiwn a ffefrir fod yn isel a bod modd ymdopi ag unrhyw gynnydd o fewn y trefniadau presennol.
Mae’r costau pennaf yn debygol o fod ynghlwm wrth baratoi canllawiau, gweithgarwch hybu ymwybyddiaeth ac ymgyfarwyddo â’r gofynion cyfreithiol newydd. Y disgwyl yw y bydd y costau hyn yn cael eu hysgwyddo’n bennaf gan Lywodraeth Cymru, asiantaethau gorfodi a sefydliadau y mae eu gweithgareddau yn dod â nhw i gysylltiad rheolaidd â morloi, gan gynnwys gweithredwyr twristiaeth a hamdden.
Mae’r rhan fwyaf o weithredwyr cyfrifol eisoes yn dilyn codau ymddygiad morol gwirfoddol gyda’r bwriad o leihau unrhyw aflonyddu ar forloi. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r brif gost gydymffurfio fod ynghlwm wrth ymgyfarwyddo â’r drosedd newydd yn hytrach na newidiadau sylweddol i arferion gweithredol. Nid oes disgwyl gweld gostyngiad yn y galw gan ddefnyddwyr am weithredwyr teithiau o ystyried bod y mwyafrif yn cydymffurfio ac oherwydd na fyddai’r cyhoedd yn debygol o fod yn oddefgar ynghylch effeithiau niweidiol ar y bywyd gwyllt maen nhw’n talu i’w arsylwi.
Disgwylir cynnydd cymedrol mewn gweithgarwch gorfodi oherwydd y byddai awdurdodau yn gallu ymchwilio i ymddygiad nad yw’n gallu arwain at gamau gorfodi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reoleiddiwr, arolygiaeth neu gorff gorfodi newydd yn cael ei gynnig, ac mae disgwyl i’r trefniadau gorfodi troseddau bywyd gwyllt presennol barhau i fod yn ddigonol.
Efallai y bydd rhai sefydliadau ac unigolion yn wynebu costau gweinyddol cyfyngedig pan fydd angen trwyddedau i ymgymryd â gweithgareddau a allai fel arall yn gyfystyr ag aflonyddu. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld yr angen am gyfundrefn drwyddedu neu system ymgeisio newydd, gan fod disgwyl i unrhyw drwyddedau weithredu trwy drefniadau trwyddedu statudol presennol.
Mae asesiad rhagarweiniol Llywodraeth Cymru o effeithiau ar y system gyfiawnder yn awgrymu bod yr effeithiau ar luoedd heddlu, erlynwyr a’r llysoedd yn debygol o fod yn isel, gyda disgwyl i rhwng 0 a 5 achos y flwyddyn symud ymlaen i gamau gorfodi ffurfiol ar gyfer y ddau fesur gyda’i gilydd.
Nid oes unrhyw wariant cyfalaf sylweddol na gofynion seilwaith wedi’u nodi.
Manteision
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai prif fanteision yr opsiwn a ffefrir yn deillio o welliannau mewn lles anifeiliaid. Nid oes unrhyw ddata ar gael i seilio amcangyfrif o’r gwerth o welliant mewn lles anifeiliaid o ganlyniad i’r Bil arfaethedig. Fodd bynnag, gellir dangos y gwerth y mae cymdeithas y DU yn ei roi ar les anifeiliaid trwy’r miliynau o bunnoedd a roddir i elusennau lles anifeiliaid bob blwyddyn a’r cannoedd o filoedd o bobl sy’n ymweld â sefydliadau lles anifeiliaid bob blwyddyn, gan gynnwys gwarchodfeydd morloi.
Mae tystiolaeth a adolygwyd yn ystod datblygu’r polisi yn dangos y gall aflonyddu arwain at ymatebion o straen, anafiadau, troi cefn ar safleoedd gorffwys ac, mewn rhai amgylchiadau, marwolaeth. Mae pryderon penodol yn bodoli ynghylch achosion pan fo aflonyddu yn arwain at wahanu mamau a morloi bach dibynnol, gan arwain at droi cefn ar forloi bach a dioddefaint y gellid ei osgoi. Bwriad yr opsiwn a ffefrir yw lleihau amlder digwyddiadau o’r fath trwy atal ymddygiad niweidiol a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o ryngweithio priodol â morloi.
Mantais arall yw cau bwlch a nodwyd yn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Er bod morloi yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu lladd, eu hanafu neu eu cipio, nid oes unrhyw drosedd o aflonyddu ar forloi yn fwriadol neu’n ddi-hid yn bodoli ar hyn o bryd. Byddai creu trosedd o aflonyddu yn darparu fframwaith cliriach a mwy cyflawn ar gyfer diogelu lles morloi.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd o’r farn bod y cynnig yn debygol o wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ymddygiad cyfrifol o amgylch bywyd gwyllt morol a darparu mwy o eglurder i awdurdodau gorfodi wrth ymateb i ddigwyddiadau.
Bwriad yr eithriadau i’r drosedd a darparu trwyddedau, lle bo’n briodol, yw sicrhau bod y cynnig yn gymesur.
Er bod disgwyl mai gwelliant i les anifeiliaid fydd prif fudd y cynnig, mae cost posibl i sefydliadau lles anifeiliaid. Mae un sefydliad yn y DU sy’n arbenigo ar adsefydlu morloi bach sydd wedi’u hanafu neu wedi’u gadael wedi dweud ei fod yn costio dros £2,000 ar gyfartaledd i achub, adsefydlu a rhyddhau morlo bach. Nid yw sefydliadau achub morloi yn cyhoeddi ystadegau blynyddol cynhwysfawr ar gyfer Cymru yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae elusen Welsh Marine Life Rescue wedi adrodd o’r blaen eu bod wedi achub 25 i 35 morloi y flwyddyn ar gyfartaledd, gyda 61 o forloi wedi’u hachub yn 2017 (ar celticquestcoasteering.com). Nid yw’r RSPCA yn cyhoeddi dadansoddiad penodol i Gymru o ran derbyniadau morloi. Fodd bynnag, mae eu canolfannau adsefydlu arbenigol sy’n derbyn morloi o Gymru yn adrodd llwyth achosion blynyddol sylweddol. Er enghraifft, adroddodd un o’r canolfannau ei bod yn derbyn 382 o forloi bach dros gyfnod o chwe blynedd, sy’n cyfateb i gyfartaledd o oddeutu 64 o forloi bach y flwyddyn (ar facebook.com).
Ar y sail hon, mae’n rhesymol tybio bod angen adsefydlu dwsinau o forloi o Gymru bob blwyddyn. Mae amcangyfrifon cyhoeddedig y gall adsefydlu gostio dros £2,000 fesul morlo bach (ar sealsanctuary.sealifetrust.org) yn awgrymu y gallai cost gyfunol achub ac adsefydlu i elusennau a sefydliadau anllywodraethol eraill fod gyfystyr â thua £100,000 y flwyddyn. Dylid ystyried y ffigwr hwn fel ffigwr dangosol yn unig. Nid yw pob enghraifft o achub morlo yn deillio o aflonyddu ac yn hytrach gall fod yn gysylltiedig â ffactorau fel clefyd, anaf, tywydd garw, diffyg maeth neu gaethiwed o ryw fath.
Gallai’r manteision ehangach gynnwys cefnogaeth ar gyfer twristiaeth bywyd gwyllt cyfrifol, gwell hyder o ran y cyhoedd mewn amddiffyniadau lles anifeiliaid a mwy o gysondeb â’r amddiffyniadau a roddir i famaliaid morol eraill.
Byddai’r cynnig hefyd yn gwneud yr amddiffyniad a roddir i forloi yn gydnaws â throseddau presennol sy’n ymwneud ag aflonyddu sy’n berthnasol i famaliaid morol eraill. Byddai hyn yn darparu fframwaith deddfwriaethol mwy cydlynol a chyson, gan wneud y gyfraith yn haws i’r cyhoedd ei deall ac i awdurdodau gorfodi ei chymhwyso. Disgwylir i fwy o gysondeb ar draws amddiffyniadau rhywogaethau gefnogi cyfathrebu cliriach o arferion gwylio bywyd gwyllt cyfrifol a gwella’r ymwybyddiaeth o weithgareddau a allai arwain at aflonyddu.
Anfanteision, risgiau, ansicrwydd a sensitifrwydd
Mae’r prif ansicrwydd yn ymwneud â graddfa’r gweithgarwch aflonyddu presennol yng Nghymru. Er bod tystiolaeth yn dangos yn glir bod aflonyddu ar forloi yn digwydd ac yn gallu achosi effeithiau ar les, nid oes data cenedlaethol cynhwysfawr yn bodoli ac mae llawer o’r dystiolaeth sydd ar gael yn deillio o adrodd am ddigwyddiadau, rhaglenni monitro ac astudiaethau a gynhaliwyd mewn mannau eraill yn y DU.
Er bod ansicrwydd o hyd ynglŷn â graddfa’r gweithgarwch aflonyddu yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y dystiolaeth sydd ar gael yn ddigonol i ddangos bod aflonyddu ar forloi yn digwydd a’i fod yn gallu achosi niwed sylweddol i les anifeiliaid.
Mae ansicrwydd hefyd ynghylch i ba raddau y bydd newid deddfwriaethol, yn hytrach na gweithgarwch hybu ymwybyddiaeth barhaus, yn cyfrannu at newid ymddygiad. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod deddfwriaeth a hybu ymwybyddiaeth yn ddulliau ategol yn hytrach nag amgen.
Efallai y bydd rhai rhanddeiliaid yn ystyried bod y canllawiau gwirfoddol presennol yn ddigonol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dod i’r casgliad nad yw mesurau gwirfoddol ar eu pennau eu hunain yn darparu mecanwaith digonol ar gyfer mynd i’r afael â’r digwyddiadau mwyaf difrifol neu ddiffyg cydymffurfio dro ar ôl tro gan rai sectorau.
Er bod disgwyl y bydd y galw am orfodi yn parhau i fod yn isel, ni ellir rhagweld nifer gwirioneddol yr adroddiadau, ymchwiliadau ac erlyniadau yn sicr ar hyn o bryd.
Mae ansicrwydd hefyd ynghylch i ba raddau y gallai fod angen trwyddedau i awdurdodi gweithgareddau a fyddai fel arall yn gyfystyr ag aflonyddu ac amlder unrhyw geisiadau o’r fath. Fodd bynnag, gan fod disgwyl i drwyddedu weithredu trwy drefniadau statudol presennol, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld yr angen am system drwyddedu newydd neu seilwaith gweinyddol ychwanegol sylweddol.
Gweithredu, gorfodi a monitro
Y disgwyl yw y bydd modd sicrhau gweithredu trwy drefniadau cyflawni presennol.
Byddai gweithredu yn cael ei gefnogi trwy gyhoeddi canllawiau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithgarwch cyfathrebu wedi’i dargedu. Byddai ymgyrchoedd ymwybyddiaeth presennol sy’n hyrwyddo ymddygiad cyfrifol o amgylch morloi yn parhau a byddai hynny’n helpu i esbonio effaith ymarferol y drosedd newydd. Bydd gweithgarwch cyfathrebu hefyd yn esbonio gweithrediad trefniadau trwyddedu presennol ar gyfer gweithgareddau a allai fod angen awdurdodiad, gan gynnwys ymchwil wyddonol, gweithgareddau cadwraeth a gwaith achub neu adfer bywyd gwyllt morol.
Byddai’r gorfodi yn digwydd trwy drefniadau troseddau bywyd gwyllt presennol. Byddai ymchwiliadau yn cael eu cynnal yn bennaf gan luoedd heddlu, gydag erlyniadau yn digwydd trwy brosesau cyfiawnder troseddol presennol. Ni ragwelir unrhyw seilwaith gorfodi ychwanegol sylweddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl mai ataliaeth a newid ymddygiad yn hytrach nac erlyn fydd prif effaith y ddeddfwriaeth.
Ar ôl cychwyn, bydd monitro yn cynnwys ystyried digwyddiadau a adroddwyd, gweithgarwch gorfodi, adborth rhanddeiliaid ac unrhyw dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ynghylch canlyniadau lles. Bydd y ffactorau hyn yn llywio gweithgarwch adolygu ar ôl gweithredu yn y dyfodol.
Effeithiau ehangach
Bydd y cynnig yn cyfrannu at amcanion lles anifeiliaid ehangach, bioamrywiaeth a hyder y cyhoedd. Gall hefyd gefnogi enw da Cymru am safonau lles uchel i anifeiliaid ac annog rhyngweithio cyfrifol â bywyd gwyllt. Mae’r effeithiau hyn yn anodd eu meintioli ond disgwylir iddynt fod yn gadarnhaol.
Tystiolaeth
- Wilson, S.C. (2014). The Impact of Human Disturbance at Seal Haul-outs: A Literature Review for the Seal Conservation Society. Seal Conservation Society
- Moroedd Gwyllt Cymru: parchu morloi (ar wildseas.wales)
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) (2026). UK Marine Strategy Part One: Updated Assessment and Good Environmental Status. Llundain: Defra
- Ymddiriedolaeth Ymchwil Morloi: beth rydyn ni'n ei wneud (ar sealresearchtrust.com)
- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: gwylio adar môr, morloi a morfil yn gyfrifol (ar welshwildlife.org)
Tymor caeedig ar gyfer ysgyfarnogod
Problem/bwlch a’r rhesymeg dros ymyrraeth
Mae’r ysgyfarnog yn rhywogaeth o’r pwysigrwydd pennaf ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn wahanol i rywogaethau hela eraill, fodd bynnag, mae’n bosibl saethu ysgyfarnogod trwy gydol y flwyddyn ar hyn o bryd ac nid oes tymor caeedig statudol yng Nghymru. Mae ysgyfarnogod felly yn eithriad nodedig i’r egwyddor hirsefydlog y dylid gwarchod rhywogaethau hela yn ystod cyfnodau bridio a magu.
Mae diffyg tymor caeedig yn golygu y gellir saethu ysgyfarnogod yn gyfreithlon yn ystod cyfnodau pan fo ysgyfarnogod benyw yn feichiog, yn magu lefrod ifanc sy’n ddibynnol, neu’n cefnogi lefrod sydd wedi’u diddyfnu yn ddiweddar. Mae sefydliadau lles anifeiliaid wedi lleisio pryderon ers blynyddoedd lawer y gall saethu yn ystod y cyfnod hwn arwain at farwolaeth benywod sy’n bridio ac amddifadu lefrod dibynnol, gan arwain at ddioddefaint y gellid ei osgoi trwy newyn, ysglyfaethu ac amlygiad i niwed. Mae tystiolaeth a adolygwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod nifer sylweddol o ysgyfarnogod yn feichiog neu’n magu lefrod dibynnol yn ystod mis Chwefror a thrwy lawer o’r cyfnod tymor caeedig arfaethedig.
Mae’r rhesymeg dros ymyrryd wedi’i seilio’n bennaf ar ystyriaethau lles anifeiliaid yn hytrach na phryderon ynghylch cadwraeth rhywogaethau. Er bod tystiolaeth o ddirywiad hanesyddol ym mhoblogaethau ysgyfarnogod, nid atal dirywiad rhywogaeth neu newid statws cadwraeth ysgyfarnogod yw amcan y polisi. Yn hytrach, mae’r cynnig yn ceisio mynd i’r afael â’r canlyniadau lles sy’n dod i’r amlwg pan fydd anifeiliaid beichiog neu anifeiliaid sy’n magu yn cael eu saethu yn ystod y tymor bridio a lefrod ifanc dibynnol yn byw am gyfnod byr yn unig heb ofal mamol.
Mae’r sefyllfa bresennol hefyd yn creu gwahaniaeth cynyddol rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae’r Alban wedi gweithredu tymor caeedig statudol ar gyfer ysgyfarnogod ers 2012 ac mae Gogledd Iwerddon yn darparu amddiffyniad tymhorol i ysgyfarnogod yno. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi nodi ei bwriad i gyflwyno tymor caeedig ar gyfer ysgyfarnogod yn Lloegr pan fydd cyfle deddfwriaethol addas yn codi. Unwaith y bydd hyn yn digwydd, Cymru fydd yr unig ran o’r Deyrnas Unedig heb amddiffyniad tymhorol statudol ar gyfer ysgyfarnogod.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried a yw dibyniaeth ar ganllawiau gwirfoddol yn ddigonol. Er bod sefydliadau saethu wedi hyrwyddo cyfyngiad gwirfoddol, a bod BASC ar hyn o bryd yn cynghori rhag saethu ysgyfarnogod yn ystod rhan o’r tymor bridio, nid yw mesurau gwirfoddol yn atal saethu yn ystod cyfnodau pan allai ysgyfarnogod fod yn feichiog neu’n magu, ac nid ydynt yn darparu unrhyw fecanwaith ar gyfer gorfodi pan fo canllawiau yn cael eu diystyru. Felly, mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad yw mesurau gwirfoddol ar eu pen eu hunan yn cyflawni amcan y polisi hwn.
Amcan polisi
Amcan y polisi yw gwella lles anifeiliaid trwy ddiogelu ysgyfarnogod beichiog neu ysgyfarnogod sy’n magu a lefrod dibynnol yn ystod y tymor bridio a lleihau dioddefaint y mae modd ei osgoi sy’n gysylltiedig â saethu anifeiliaid bridio yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r cynnig hefyd yn ceisio cymhwyso i ysgyfarnogod yr un egwyddor sylfaenol sydd eisoes wedi’i adlewyrchu ar draws deddfwriaeth rheoli hela, sef yr egwyddor o amddiffyn anifeiliaid yn ystod cyfnodau sensitif o atgenhedlu a dibyniaeth.
Opsiynau a gafodd eu hystyried
Opsiwn 1: gwneud dim
O dan yr opsiwn hwn, byddai’r fframwaith deddfwriaethol presennol yn aros fel y mae a gellid parhau i saethu ysgyfarnogod trwy gydol y flwyddyn.
Ni fyddai’r opsiwn hwn yn pennu unrhyw gostau ar unigolion, busnesau, rheolwyr tir nac awdurdodau cyhoeddus. Gallai arferion saethu presennol barhau heb gyfyngiad ac ni fyddai unrhyw weithgaredd gorfodi neu gydymffurfio ychwanegol.
Fodd bynnag, byddai’r pryderon lles a nodwyd yn parhau. Byddai ysgyfarnogod beichiog ac ysgyfarnogod sy’n magu yn parhau i allu cael eu saethu yn ystod y tymor bridio a byddai lefrod dibynnol yn parhau i fod mewn perygl o gael eu hamddifadu. Byddai’r anghysondeb presennol rhwng ysgyfarnogod a rhywogaethau hela eraill yn parhau a byddai perygl mai Cymru fyddai’r unig genedl yn y Deyrnas Unedig heb amddiffyniad tymhorol ar gyfer ysgyfarnogod. Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai’r opsiwn hwn yn cyflawni’r amcan polisi.
Opsiwn 2: cyflwyno tymor caeedig (opsiwn a ffefrir)
O dan yr opsiwn hwn, byddai trosedd newydd o ladd, anafu neu gymryd ysgyfarnog yn fwriadol neu’n ddi-hid yn ystod tymor caeedig statudol (1 Chwefror a 30 Medi) oni bydd eithriad yn gymwys neu y gofynnir am drwydded a’i rhoi.
Byddai’r opsiwn hwn yn darparu amddiffyniad trwy gydol y prif gyfnod bridio a byddai’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r pryderon lles sydd wedi’u nodi. Drwy atal saethu ysgyfarnogod beichiog ac ysgyfarnogod sy’n magu yn ystod y cyfnod hwn, mae disgwyl y byddai’r cynnig yn lleihau’r tebygolrwydd y byddai lefrod dibynnol yn cael eu hamddifadu ac yn dioddef niwed y gellid ei osgoi. Mae’r dull yn adlewyrchu’r egwyddor sydd eisoes wedi’i chymhwyso i rywogaethau hela eraill ac yn dilyn model deddfwriaethol sefydledig sydd ar waith yn Yr Alban ers 2012.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod tymor caeedig yn ymyrraeth gymesur oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar y cyfnod lle mae pryderon lles yn dod i’r amlwg gan barhau i ganiatáu saethu ysgyfarnogod y tu allan i’r cyfnod hwn. Felly, mae’r cynnig yn ceisio cyflawni’r amcan polisi heb osod cyfyngiadau y tu hwnt i’r rhai sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r mater lles a nodwyd.
Byddai’r opsiwn a ffefrir yn parhau i ganiatáu ymyrraeth mewn amgylchiadau cyfyngedig lle mae cyfiawnhad clir, gan gynnwys atal difrod difrifol i dda byw, cnydau neu eiddo. Y dull a ffefrir gan Lywodraeth Cymru yw y byddai gweithgarwch o’r fath yn cael ei awdurdodi trwy’r fframwaith trwyddedu presennol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, yn hytrach na thrwy greu cyfundrefn drwyddedu newydd.
Opsiwn 3: gwaharddiad llwyr ar saethu ysgyfarnogod
O dan yr opsiwn hwn, byddai saethu ysgyfarnogod yn cael ei wahardd trwy gydol y flwyddyn.
Yr opsiwn hwn fyddai’n darparu’r lefel uchaf o amddiffyniad a byddai’n dileu’r posibilrwydd o ysgyfarnogod yn cael eu saethu ar unrhyw adeg yn ystod y cylch blynyddol. Byddai felly yn dileu’r niwed lles penodol sy’n gysylltiedig â saethu yn ystod y tymor bridio.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai’r dull hwn yn mynd llawer ymhellach nag sy’n angenrheidiol i gyflawni’r amcan polisi datganedig. Mae’r pryder lles a nodwyd yn ymwneud â’r cyfnod bridio a magu yn hytrach na’r egwyddor o saethu ysgyfarnogod. Byddai gwaharddiad trwy gydol y flwyddyn yn gosod llawer mwy o gyfyngiadau ar weithgareddau saethu, arferion rheoli tir ac unrhyw fesurau rheoli yn y dyfodol nag sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r mater lles a nodwyd. Felly, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai’r opsiwn hwn yn anghymesur.
Y grwpiau sy’n cael eu heffeithio
Gallai’r grwpiau sy’n cael eu heffeithio gynnwys:
- unigolion sy’n saethu ysgyfarnogod ar hyn o bryd
- perchnogion tir a rheolwyr tir
- ystadau helwriaeth
- sefydliadau saethu a chyrff cynrychiadol
- ffermwyr a busnesau amaethyddol, yn enwedig y rhai sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â rheoli ysgyfarnogod i atal neu liniaru difrod i gnydau
- awdurdodau gorfodi
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- sefydliadau cadwraeth, a
- sefydliadau lles anifeiliaid
Disgwylir i raddfa unrhyw effaith amrywio yn dibynnu ar y graddau y mae unigolion neu sefydliadau ar hyn o bryd yn ymgymryd â saethu ysgyfarnogod yn ystod y cyfnod tymor caeedig arfaethedig.
Costau
Disgwylir i’r prif gostau sy’n gysylltiedig â’r opsiwn a ffefrir godi o’r canlynol:
- ymgyfarwyddo â’r gofynion cyfreithiol newydd
- cynhyrchu deunyddiau canllaw a chyfathrebu
- gweithgarwch cydymffurfio a gorfodi cyfyngedig
- colli cyfle i saethu ysgyfarnogod yn ystod cyfnod y tymor caeedig
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi tystiolaeth bod saethu ysgyfarnogod yn cynrychioli gweithgarwch economaidd annibynnol sylweddol yng Nghymru. Felly, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd o’r farn bod effeithiau economaidd yr opsiwn a ffefrir yn debygol o fod yn gyfyngedig.
Disgwylir i’r prif effeithiau ddeillio o golli cyfle i saethu ysgyfarnogod yn ystod cyfnod y tymor caeedig ac o ymgyfarwyddo â’r gofynion cyfreithiol newydd.
Gallai rhai ffermwyr, rheolwyr tir a busnesau amaethyddol wynebu effeithiau gweinyddol cyfyngedig ychwanegol lle maen nhw ar hyn o bryd yn ymgymryd â rheoli ysgyfarnogod i atal difrod difrifol i dda byw, cnydau neu eiddo, a byddai’n ofynnol iddynt gael trwydded yn y dyfodol cyn ymgymryd â gweithgaredd o’r fath yn ystod y tymor caeedig. Mae Llywodraeth Cymru yn deall y byddai unrhyw drwyddedau o’r fath yn cael eu gweinyddu trwy drefniadau trwyddedu statudol presennol a byddai disgwyl iddynt ddod o fewn categori o drwyddedau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymhwyso hepgoriad tâl ar eu cyfer ar hyn o bryd. O ganlyniad, nid oes disgwyl i ymgeiswyr ffi am y drwydded. Y disgwyl felly yw mai’r brif gost i ymgeiswyr fydd yr amser sy’n gysylltiedig â pharatoi a chyflwyno cais am drwydded a darparu unrhyw wybodaeth ategol sydd ei hangen. Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld yr angen am drefn drwyddedu neu system ymgeisio newydd, gan fod disgwyl i unrhyw ofynion trwyddedu weithredu trwy drefniadau trwyddedu statudol presennol.
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu darparu amcangyfrif o’r gost weinyddol o brosesu ceisiadau am drwyddedau sy’n gysylltiedig â’r cynnig gan nad yw nifer y ceisiadau posibl am drwydded yn wybyddus ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu graddfa debygol unrhyw effeithiau gweinyddol a bydd yn diweddaru’r asesiad cyn cyhoeddi’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol terfynol.
Felly, disgwylir i’r rhan fwyaf o gostau fod yn effeithiau anariannol yn hytrach na gwariant uniongyrchol. Nid oes angen unrhyw gostau cyfalaf sylweddol, ac nid oes angen corff cyflenwi, arolygiaeth nac awdurdod gorfodi.
Mae asesiad rhagarweiniol Llywodraeth Cymru o effeithiau ar y system gyfiawnder yn awgrymu nifer fach o ymchwiliadau neu erlyniadau ar draws y ddau fesur sydd wedi’u cynnwys yn y Bil. Byddai gorfodi yn digwydd trwy drefniadau troseddau bywyd gwyllt presennol, ac mae disgwyl i’r rheiny fod yn ddigonol.
Manteision
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai prif fudd yr opsiwn a ffefrir ar gyfer ysgyfarnogod fyddai lleihau dioddefaint y gellid ei osgoi i anifeiliaid yn ystod y tymor bridio. Er nad oes digon o dystiolaeth i feintioli gwerth economaidd y gwelliannau lles anifeiliaid a fyddai’n deillio o’r Bil arfaethedig, gellir dangos y pwysigrwydd y mae cymdeithas yn ei roi ar les anifeiliaid trwy’r miliynau o bunnoedd a roddir i elusennau lles anifeiliaid bob blwyddyn a’r cannoedd o filoedd o bobl sy’n ymweld â sefydliadau lles anifeiliaid bob blwyddyn, gan gynnwys canolfannau bywyd gwyllt.
Drwy leihau’r tebygolrwydd bod ysgyfarnogod beichiog ac ysgyfarnogod sy’n bwydo yn cael eu lladd, eu hanafu neu eu cymryd yn fwriadol neu’n ddi-hid, disgwylir i’r cynnig leihau’r risg bod lefrod dibynnol yn cael eu hamddifadu ac wedi hynny yn dioddef oherwydd newyn, amlygiad i niwed neu ysglyfaethu.
Mae’r opsiwn a ffefrir hefyd yn mynd i’r afael ag anghysondeb hirsefydlog o fewn deddfwriaeth rheoli bywyd gwyllt. Ar hyn o bryd, mae ysgyfarnogod yn eithriad nodedig i’r egwyddor y dylid gwarchod rhywogaethau hela yn ystod cyfnodau bridio a magu. Byddai’r cynnig yn gwneud ysgyfarnogod yn destun i’r un egwyddor lles sydd eisoes wedi’i adlewyrchu mewn mannau eraill o fewn deddfwriaeth rheoli anifeiliaid hela.
Mantais arall yw sefydlu safon gyfreithiol gyson.
Er bod canllawiau gwirfoddol yn bodoli ar hyn o bryd, mae cydymffurfiaeth yn amrywio ac nid yw’r canllawiau yn orfodadwy. Byddai’r opsiwn a ffefrir yn darparu mwy o eglurder i reolwyr tir, saethwyr a chyrff gorfodi.
Byddai’r eithriadau i’r drosedd ac argaeledd trwyddedu trwy drefniadau statudol presennol yn caniatáu cyflawni amcanion lles anifeiliaid y cynnig gan ddal gafael hefyd ar yr hyblygrwydd i fynd i’r afael â difrod difrifol i dda byw, cnydau, pysgodfeydd neu eiddo lle bo hynny’n gyfiawn. Disgwylir i hyn wella cymesuredd y cynnig a lleihau’r risg o ganlyniadau anfwriadol i ffermio, rheoli tir a gweithgareddau cyfreithlon eraill.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd o’r farn y byddai’r cynnig yn gwella hyder y cyhoedd mewn deddfwriaeth lles bywyd gwyllt ac yn cryfhau enw da Cymru am gynnal safonau lles uchel i anifeiliaid.
Gallai’r cynnig hefyd gynhyrchu manteision ehangach trwy gydweddu Cymru â dulliau deddfwriaethol sydd eisoes yn gweithredu mewn rhannau eraill o’r DU neu y mae cynigion yn eu lle i’w mabwysiadu yn y dyfodol.
Er y gall rhai manteision cadwraeth godi yn sgil y cynnig, nid dyma’r brif resymeg dros ymyrryd ac nid ydynt wedi cael eu defnyddio fel y prif gyfiawnhad dros y cynnig.
Anfanteision, risgiau, ansicrwydd a sensitifrwydd
Mae’r prif ansicrwydd yn ymwneud ag absenoldeb data cynhwysfawr ynglŷn â graddfa bresennol saethu ysgyfarnogod yng Nghymru ac, yn benodol, saethu yn ystod y cyfnod tymor caeedig arfaethedig. Mae hyn yn creu ansicrwydd ynghylch graddfa’r buddion lles a allai godi o’r cynnig a maint unrhyw effeithiau economaidd a brofwyd gan fuddiannau sy’n cael eu heffeithio. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod yr ansicrwydd hwn yn effeithio ar y rhesymeg lles anifeiliaid sylfaenol dros ymyrryd, sef y risg y bydd ysgyfarnogod beichiog ac ysgyfarnog sy’n magu yn cael eu saethu yn ystod y tymor bridio a lefrod dibynnol yn cael eu hamddifadu o ganlyniad.
Efallai y bydd rhai sefydliadau saethu a rheoli tir yn ystyried y cynnig yn ddiangen neu’n anghymesur, yn enwedig pan fo’r tymor caeedig statudol arfaethedig yn ymestyn y tu hwnt i’r trefniadau gwirfoddol presennol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod modd cyfiawnhau mesur statudol oherwydd na all canllawiau gwirfoddol atal gweithgarwch niweidiol lle mae’n parhau i ddigwydd.
Mae ansicrwydd hefyd ynghylch i ba raddau y gall fod angen trwyddedau i awdurdodi rheoli ysgyfarnogod yn ystod y tymor caeedig a pha mor aml y mae amgylchiadau o’r fath yn codi. Gan nad oes tystiolaeth gynhwysfawr ar gael, mae ansicrwydd yn parhau ynghylch nifer y ceisiadau am drwydded y gellir eu gwneud a hyd a lled effaith y cynnig ar reolwyr tir. Fodd bynnag, gan fod disgwyl i drwyddedu weithredu trwy drefniadau statudol presennol, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld yr angen am system drwyddedu newydd neu seilwaith gweinyddol ychwanegol sylweddol.
Gweithredu, gorfodi a monitro
Mae disgwyl y bydd gweithredu yn ei gwneud yn ofynnol cyfathrebu, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyhoeddi canllawiau i gefnogi dealltwriaeth o’r gofynion newydd.
Byddai’r cynnig yn cael ei orfodi trwy drefniadau troseddau bywyd gwyllt presennol, ac nid oes unrhyw gorff gorfodi newydd yn cael ei gynnig. Byddai ymchwilio ac erlyn yn gweithredu trwy’r un fframwaith a ddefnyddir ar gyfer troseddau bywyd gwyllt eraill. Mae asesiad rhagarweiniol Llywodraeth Cymru o effeithiau ar y system gyfiawnder yn awgrymu bod disgwyl i unrhyw gynnydd mewn gweithgarwch gorfodi fod yn isel a bod modd ymdopi â’r cynnydd hwnnw o fewn y trefniadau presennol.
Byddai monitro yn digwydd trwy ystyried gweithgarwch gorfodi, adborth rhanddeiliaid a thystiolaeth a gasglwyd ar ôl cychwyn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddai adolygiad ar ôl gweithredu yn ystyried a yw’r mesur wedi cyflawni’r amcanion lles anifeiliaid a fwriadwyd ac a oes angen unrhyw ddiwygiadau.
Effeithiau ehangach
Bydd y cynnig yn cyfrannu’n gadarnhaol at amcanion lles anifeiliaid ehangach a chefnogi hyder y cyhoedd yn y fframwaith rheoli bywyd gwyllt yng Nghymru. Gall hefyd gryfhau canfyddiadau o Gymru fel gwlad sy’n cynnal safonau uchel o ran lles anifeiliaid a rheoli bywyd gwyllt yn gyfrifol.
Mae’r cynnig yn rhan o gam cyntaf rhaglen dau gam ehangach o ddiwygio cyfraith bywyd gwyllt. Er bod y mesur yn mynd i’r afael â phryder lles penodol ac uniongyrchol, bydd cwestiynau ehangach sy’n ymwneud â strwythur, hygyrchedd a chydlyniant cyfraith bywyd gwyllt yn cael eu hystyried ar wahân trwy’r rhaglen gydgrynhoi ac ailddatgan cyfraith bywyd gwyllt yn y dyfodol.
Crynodeb o’r cynigion a ffefrir
Bil Lles Anifeiliaid Gwyllt (Cymru) yw’r cam cyntaf mewn rhaglen dau gam o ddiwygio cyfraith bywyd gwyllt yng Nghymru. Mae’r Bil yn fwriadol yn gyfyngedig o ran cwmpas ac mae’n gyfyngedig i ddau fesur wedi’u targedu sy’n mynd i’r afael â phryderon lles anifeiliaid a nodwyd ac y mae Gweinidogion wedi cytuno y dylid mynd i’r afael â hwy cyn y rhaglen ehangach o gydgrynhoi ac ailddatgan cyfraith bywyd gwyllt.
Mae’r cynigion a ffefrir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu nodi isod.
Maes polisi deddfwriaethol: lles ysgyfarnogod
Cynnig a ffefrir
Cyflwyno tymor caeedig sy’n gwahardd lladd, anafu neu gymryd ysgyfarnog yn fwriadol neu’n ddi-hid rhwng 1 Chwefror a 30 Medi bob blwyddyn (yn amodol ar eithriadau a’r gallu i drwyddedu rhai gweithgareddau)
Maes polisi deddfwriaethol: lles morloi
Cynnig a ffefrir
Cyflwyno trosedd newydd o aflonyddu ar forloi yn fwriadol neu’n ddi-hid ledled Cymru yn amodol ar eithriadau a’r gallu i drwyddedu rhai gweithgareddau)
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod yr opsiynau a ffefrir yn ymatebion cymesur i bryderon lles anifeiliaid a nodwyd ac mai’r opsiynau hyn sy’n darparu’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni’r amcanion polisi a nodwyd. Bwriad y cynigion yw cau bylchau a nodwyd yn y fframwaith deddfwriaethol presennol wrth osgoi creu cyrff rheoleiddio newydd, strwythurau gweinyddol newydd helaeth neu faich anghymesur ar unigolion a sefydliadau sy’n cael eu heffeithio.
Disgwylir i brif fanteision y cynigion ddod i’r amlwg trwy ganlyniadau lles gwell i anifeiliaid, mwy o gysondeb o fewn deddfwriaeth bywyd gwyllt, a gwell gallu gorfodi mewn perthynas ag ymddygiadau sy’n gallu achosi niwed y mae modd ei osgoi i anifeiliaid gwyllt.
Ar y cam hwn, nid yw’n bosibl pennu gwerth ariannol cadarn i’r buddion a ragwelir, ac mae peth ansicrwydd yn parhau ynghylch graddfa’r effeithiau. O’r herwydd, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal i geisio profi’r rhagdybiaethau sy’n sail i’r asesiad hwn ac i nodi unrhyw dystiolaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol terfynol.
Asesiad cyffredinol
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod yr opsiynau a ffefrir yn ymatebion cymesur sydd wedi’u targedu i bryderon lles anifeiliaid a nodwyd mewn perthynas ag aflonyddu ar forloi yn fwriadol neu’n ddi-hid a lladd, anafu neu gymryd ysgyfarnogod yn fwriadol neu’n ddi-hid yn ystod y tymor bridio. Bwriad y cynigion yw mynd i’r afael â bylchau penodol o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol gan osgoi creu rheoleiddwyr newydd, strwythurau gweinyddol newydd sylweddol neu faich anghymesur ar unigolion, busnesau ac awdurdodau cyhoeddus.
Mae’r asesiad yn nodi bod y prif gostau sy’n gysylltiedig â’r cynigion yn debygol o ddeillio o ymgyfarwyddo â gofynion cyfreithiol newydd, gweithgarwch gweithredu canllawiau a chyfathrebu, gweithgarwch gorfodi cyfyngedig ac, yn achos ysgyfarnogod, cyfyngiadau ar ladd, anafu neu gymryd ysgyfarnogod yn ystod cyfnod y tymor caeedig arfaethedig. Gall effeithiau gweinyddol ychwanegol godi pan fo angen trwyddedau i awdurdodi gweithgareddau a fyddai fel arall yn cael eu gwahardd. Fodd bynnag, disgwylir i’r ddau gynnig weithredu trwy drefniadau trwyddedu statudol presennol a strwythurau gorfodi presennol. O ganlyniad, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld yr angen am systemau trwyddedu na chyrff rheoleiddio newydd na mecanweithiau cyflawni ychwanegol sylweddol.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi tystiolaeth sy’n awgrymu bod y naill gynnig neu’r llall yn debygol o arwain at effeithiau economaidd sylweddol. Ar hyn o bryd, nid yw saethu ysgyfarnogod yn cynrychioli gweithgaredd economaidd annibynnol sylweddol yng Nghymru. Yn ogystal, mae llawer o sefydliadau ac unigolion sy’n cael eu heffeithio gan y cynnig yn ymwneud ag aflonyddu ar forloi eisoes yn ceisio osgoi aflonyddu trwy gadw at y canllawiau a’r arferion da presennol. Felly, disgwylir i’r prif effeithiau cydymffurfio ddeillio o addasu ymddygiad, ymgyfarwyddo a, lle bo angen hynny, ceisiadau am drwyddedau.
Disgwylir i’r prif fanteision ddod i’r amlwg trwy welliannau mewn lles anifeiliaid a lleihau’r niwed y gellir ei osgoi i anifeiliaid gwyllt. Ar gyfer morloi, bwriad yr opsiwn a ffefrir yw lliniaru’r effeithiau andwyol ar les sy’n gysylltiedig ag aflonyddu, gan gynnwys straen, anaf, gwahanu mamau a morloi bach neu beri i famau droi cefn ar forloi bach dibynnol. Ar gyfer ysgyfarnogod, bwriad yr opsiwn a ffefrir yw lleihau’r tebygolrwydd y bydd anifeiliaid beichiog ac anifeiliaid sy’n magu yn cael eu saethu yn ystod y tymor bridio a’r risg gysylltiedig bod lefrod dibynnol yn cael eu hamddifadu. Bwriedir i’r cynigion hefyd wella cysondeb o fewn deddfwriaeth bywyd gwyllt, darparu mwy o eglurder i awdurdodau gorfodi a chefnogi hyder y cyhoedd mewn safonau diogelu lles bywyd gwyllt.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhywfaint o ansicrwydd yn parhau ynglŷn â graddfa effeithiau penodol. Yn benodol, nid oes data cynhwysfawr ar gael ynglŷn ag amlder digwyddiadau aflonyddu ar forloi yng Nghymru, faint o ysgyfarnogod sy’n cael eu saethu yn ystod y cyfnod tymor caeedig arfaethedig na’r galw tebygol am drwyddedau o dan y fframwaith trwyddedu statudol presennol. Mae’r ansicrwydd hwn yn effeithio ar ba mor fanwl y mae modd meintioli’r effeithiau, ond nid yw hynny’n newid barn Llywodraeth Cymru bod y ddau gynnig yn mynd i’r afael â phryderon lles anifeiliaid a bylchau deddfwriaethol amlwg.
Felly, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod manteision disgwyliedig yr opsiynau a ffefrir yn debygol o orbwyso’r costau cyfyngedig a nodwyd ar hyn o bryd. Gwahoddir ymatebion i’r ymgynghoriad i brofi’r rhagdybiaethau sy’n sail i’r asesiad hwn, nodi unrhyw dystiolaeth ychwanegol a gwella dealltwriaeth o raddfa debygol yr effeithiau cyn cyflwyno’r Bil.
Tystiolaeth, rhagdybiaethau ac ansicrwydd allweddol
Mae’r asesiad hwn wedi’i lywio gan ystod o ffynonellau tystiolaeth gan gynnwys llenyddiaeth wyddonol, tystiolaeth a ystyriwyd gan sefydliadau lles anifeiliaid a chadwraeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, deddfwriaeth bywyd gwyllt bresennol a dulliau polisi a fabwysiadwyd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac asesiad rhagarweiniol Llywodraeth Cymru o effeithiau cyfiawnder.
Rhagdybiaeth allweddol sy’n sail i’r asesiad yw’r gallu i gyflawni gweithredu a gorfodi trwy drefniadau gweinyddol, gorfodi a chyfiawnder troseddol presennol heb yr angen i greu sefydliadau na chyrff rheoleiddio newydd neu strwythurau cyflawni ychwanegol sylweddol.
Mae’r asesiad hefyd yn tybio y bydd costau cydymffurfio yn gyfyngedig oherwydd bod llawer o unigolion a sefydliadau sy’n debygol o gael eu heffeithio eisoes yn gweithredu yn unol â chanllawiau arferion da gyda’r bwriad o leihau aflonyddu ar forloi ac osgoi lladd ysgyfarnogod yn ystod y tymor bridio.
Mae’r ansicrwydd pennaf yn ymwneud â’r canlynol:
- hyd a lled y gweithgarwch aflonyddu ar forloi presennol yng Nghymru
- pa mor aml y mae aflonyddu yn achosi effeithiau ar les
- graddfa’r gweithgarwch saethu ysgyfarnogod yn ystod y cyfnod tymor caeedig arfaethedig
- maint y buddion lles posibl sy’n deillio o’r cynigion
- hyd a lled unrhyw effeithiau economaidd ar fuddiannau sy’n cael eu heffeithio
- amlder tebygol ceisiadau am drwyddedau i awdurdodi gweithgareddau a fyddai fel arall yn aflonyddu ar forloi
- amlder tebygol ceisiadau am drwyddedau i awdurdodi lladd ysgyfarnogod yn ystod y tymor caeedig
- y galw am orfodi yn y dyfodol, ac
- i ba raddau y gellir priodoli newid ymddygiad yn uniongyrchol i ddeddfwriaeth yn hytrach na gweithgarwch hybu ymwybyddiaeth barhaus
Er bod yr ansicrwydd hwn yn effeithio ar ba mor fanwl y mae modd meintioli effeithiau, mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad ydynt yn tanseilio’r rhesymeg sylfaenol dros ymyrryd. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod y ddau gynnig yn mynd i’r afael â phryderon a bylchau lles anifeiliaid adnabyddadwy o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol. O’r herwydd, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal, i brofi’r rhagdybiaethau sy’n sail i’r asesiad hwn, i nodi unrhyw dystiolaeth ychwanegol ac i wella’r ddealltwriaeth o raddfa debygol yr effeithiau cyn cyflwyno’r Bil.
