Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr 0 i 16 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Cyhoeddi cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr 0 i 16 oed.
  • Y cynllun hwn yw cam cyntaf yr ymrwymiad i godi safonau ac mae'n ymateb i bryderon y gweithlu addysg.
  • Cyflwyno dangosyddion cenedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ynghyd ag asesiad gwaelodlin newydd ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau'r ysgol.

Cyhoeddwyd cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd heddiw (15 Medi). Mae'n amlinellu dangosyddion cenedlaethol newydd, asesiad gwaelodlin ar gyfer plant sy'n dechrau'r ysgol, a chanllawiau i athrawon ar yr hyn y dylai dysgwyr fod yn ei ddysgu ac ym mha gyfnod.

Y cynllun hwn yw’r cam cyntaf pwysig yn y gwaith o gyflawni gweledigaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer codi safonau, ac mae'n ymateb i bryderon a godwyd gan athrawon a'r gweithlu addysg ehangach. 

Mae wedi'i gynllunio i ategu'r Cwricwlwm i Gymru, a fydd yn parhau i fod yn rhan annatod o system addysg Cymru, ac mae'n amlinellu ymrwymiad i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar y gweithlu addysg i wneud eu gwaith yn fwy effeithiol. 

Mae'r cynllun yn cynnwys disgwyliadau cliriach ynghylch pwysigrwydd Ffoneg Synthetig Systematig, ac yn nodi sut y dylai ysgolion ddefnyddio targedau gwella llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, ochr yn ochr â thargedau unigol ar gyfer dysgwyr. 

Mae'r cynllun yn mabwysiadu dull cyfannol ar gyfer dysgwyr 0 i 16 oed, gan gydnabod bod datblygiad llythrennedd a rhifedd yn dechrau cyn dechrau'r ysgol ac yn parhau drwy gydol plentyndod. Mae'n cynnwys ffocws ar gryfhau ymgysylltiad rhieni, hyrwyddo darllen a datblygiad iaith yn y cartref, cynyddu mynediad at lyfrau drwy lyfrgelloedd ysgol, a mynd i'r afael â'r rhwystrau i ddysgu sy'n gysylltiedig â thlodi. Bydd y cynnig gofal plant estynedig yn cefnogi'r gwaith hwn yn rhannol.

Bydd y cynllun yn helpu i nodi dysgwyr a allai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, gan ganolbwyntio ar y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd, drwy ddefnyddio asesiad gwaelodlin wrth ddechrau'r ysgol a mesur o gynnydd ym Mlwyddyn 6 drwy'r Asesiadau Personol. 

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: 

"Fel llywodraeth newydd, rydyn ni wedi gwneud addysg yn un o'n prif flaenoriaethau, ac rydyn ni'n cymryd camau pendant i godi safonau yn ein hysgolion, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. 

"Mae cyfrifoldeb arnon ni i gael llythrennedd a rhifedd yn iawn, er mwyn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer gweithredu ac yn rhoi i athrawon ac ysgolion yr eglurder y maent wedi bod yn galw amdano yn sgil cyfnod hir o ddiwygio.  

"Mae llythrennedd a rhifedd wrth wraidd popeth rydyn ni'n anelu at ei gyflawni. Dyma'r sylfeini y mae dysgu, gwaith a bywyd yn gyffredinol wedi'u hadeiladu arnynt.  Mae heddiw yn garreg filltir bwysig wrth adeiladu system addysg effeithiol, hyderus a chydweithredol sy'n gweithio i bob dysgwr ac yn grymuso pob partner i ffynnu."