Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Bydd Aelodau o’r Senedd am wybod ein bod yn cydsynio i’r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.
Mae’r Rheoliadau (Saesneg yn unig) yn nodi’r camau y gall manwerthwyr eu cymryd i wirio oedran cwsmeriaid sy’n prynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts, cynhyrchion fepio a chynhyrchion nicotin at ddibenion dibynnu ar yr amddiffyniad statudol i drosedd yn ymwneud ag oedran gwerthu. Maent yn darparu ar gyfer gwirio oedran cwsmeriaid drwy ddefnyddio dogfennau adnabod ffisegol a systemau adnabod digidol sy’n bodloni gofynion penodol. Gall person a gaiff ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud ag oedran gwerthu ddibynnu ar yr amddiffyniad statudol a ddarperir gan Ddeddf Tybaco a Fêps 2026 lle y gallant ddangos eu bod wedi dilyn y camau a nodir yn y Rheoliadau. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru ac yn Lloegr.
Mae’r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Fodd bynnag, nid yw Deddf Tybaco a Fêps 2026 yn rhoi’r pwerau gwneud rheoliadau perthnasol i Weinidogion Cymru. Yn hytrach, mae adrannau 1(3) a 10(3) o’r Ddeddf yn nodi bod rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn y caiff wneud Rheoliadau o ran Cymru.
Rwyf felly wedi cydsynio i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud y Rheoliadau o ran Cymru. Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, nodais fod Llywodraeth Cymru wedi ymwneud yn llawn â’r gwaith o ddatblygu’r Rheoliadau ac nad oes unrhyw wahaniaeth polisi rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd dull gweithredu cyson ledled Cymru a Lloegr yn hybu cydymffurfiaeth a phrosesau gorfodi ac yn darparu mwy o eglurder i fanwerthwyr. Mae’r cydsynio hefyd yn galluogi’r Rheoliadau i fod yn gymwys o ran Cymru o dan y weithdrefn statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Tybaco a Fêps 2026.
Mae’r Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) cysylltiedig, sy’n rhoi’r manylion am darddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael hefyd.
