Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn nodi canlyniadau 4 o’r cwestiynau am gymunedau ac ardaloedd lleol yn Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ystod blwyddyn arolwg Ebrill 2024 i Mawrth 2025, ar sail oddeutu 6,000 o gyfweliadau â phobl 16 oed neu hŷn.

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr i ba raddau roeddent yn cytuno â’r datganiadau:

  • ‘Rydw i’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fy ardal leol’
  • ‘Rydw i’n perthyn i fy ardal leol’
  • ‘Mae pobl yn yr ardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda’

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr hefyd pa mor fodlon oeddent ar eu gallu i gyrraedd y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd ar gael yn eu hardal leol.

Oherwydd problemau gwaith maes a gafwyd rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, roedd cyfraddau ymateb is o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, a meintiau sampl llai. Felly, mae cyfyngau hyder yn ehangach na blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, mae’r ystadegau hyn yn dal yn briodol i’w defnyddio.

Ar lefel genedlaethol, mae'r arolwg yn parhau i ddarparu amcangyfrifon rhesymol, yn enwedig pan gaiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill. Mae maint llai’r sampl yn golygu nad yw’n bosibl cael rhai dadansoddiadau manwl o’r data ar gymunedau ac ardaloedd lleol.

Prif bwyntiau

Mae’r canfyddiadau’n cynnwys:

  • 19% o bobl a ddywedodd eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol
  • 78% yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol
  • 73% yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol
  • 80% yn meddwl bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda yn eu hardal leol

Roedd pobl a ddywedodd y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol yn fwy tebygol o fod:

  • yn 65 oed neu’n hŷn
  • yn byw mewn ardal wledig
  • wedi cysylltu â’r cynghorydd lleol yn y 12 mis blaenorol
  • yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol
  • yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol
  • heb wasanaethu’n flaenorol yn lluoedd arfog y DU

Roedd pobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol yn fwy tebygol o fod:

  • heb salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol
  • yn byw mewn ardal drefol
  • yn cael boddhad uchel iawn â bywyd
  • yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol

Roedd pobl a oedd yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol yn fwy tebygol o fod:

  • yn 45 oed neu’n hŷn
  • yn wyn (Cymreig, Saesnig, Prydeinig ac ati)
  • yn rhan o leiafrif ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd gwyn)
  • yn byw mewn ardal wledig

Roedd pobl a oedd yn meddwl bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda yn eu hardal leol yn fwy tebygol o fod:

  • yn 65 oed neu’n hŷn
  • heb salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol
  • yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol
  • yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol

A ydynt yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol

Gofynnwyd i bobl a oeddent yn cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fy ardal leol’.

19% o bobl yn cytuno eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Mae hyn i lawr o 30% yn cytuno yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, y tro diwethaf y gofynnwyd y cwestiwn hwn, ac mae’n ôl ar y lefel a welwyd yn Ebrill 2016 i Fawrth 2019.

Ffigur 1: canran y bobl a ddywedodd eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol o 2016 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 1: graff llinell yn dangos bod cyfrannau tebyg o bobl yn cytuno eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau a wneir sy’n effeithio ar eu hardal leol yn Ebrill 2016 i Fawrth 2017 ac yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (20% a 19%, yn y drefn honno). Cynyddodd y gyfran yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (26%) a chynyddodd eto yn y flwyddyn ganlynol. Ym mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, roedd y gyfran wedi gostwng i’r lefel a welwyd yn Ebrill 2016 i Fawrth 2019.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Y ffactorau a oedd gysylltiedig â theimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol oedd:

  • bod yn hŷn
  • bod yn byw mewn ardal wledig
  • heb fod wedi gwasanaethu’n flaenorol yn lluoedd arfog y DU
  • bod wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn y 12 mis blaenorol
  • bod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol
  • teimlo ei bod yn perthyn i’r ardal leol

Roedd pobl 65 oed neu hŷn yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol nag yr oedd pobl mewn grwpiau oedran eraill. Dywedodd 23% o bobl 65 oed neu hŷn eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, o’i gymharu â 18% o bobl 16 i 64 oed.

Roedd pobl sy’n byw mewn ardal wledig yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol (22%) na’r rhai sy’n byw mewn ardal drefol (18%).

Roedd pobl nad oeddent wedi gwasanaethu’n flaenorol yn lluoedd arfog y DU yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol (19%) na phobl a oedd wedi gwasanaethu (14%).

Roedd pobl a oedd wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn ystod y 12 mis diwethaf yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol na phobl nad oeddent wedi cysylltu â’u cynghorydd. Dywedodd 24% o bobl a oedd wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn ystod y 12 mis diwethaf eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, o’i gymharu â 18% o bobl nad oeddent wedi cysylltu.

Roedd pobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol (21%) na phobl nad oeddent yn fodlon (12%).

Roedd pobl a oedd yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol (gweler ffigur 2).

Ffigur 2: canran y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, yn ôl perthyn i’w hardal leol, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart far yn dangos mai pobl a oedd yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol oedd fwyaf tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol (25%). Roedd pobl a oedd yn tueddu i gytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol (19%) na phobl nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol (11%) neu a oedd yn anghytuno’n gryf eu bod yn perthyn (8%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Canfuwyd bod cyfeiriadedd rhywiol hefyd yn gysylltiedig â theimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.  Roedd cyfrannau tebyg o bobl heterorywiol a phobl a oedd o unrhyw gyfeiriadedd rhywiol arall yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.

Ystyriwyd y ffactorau canlynol yn y dadansoddiad hefyd. Fodd bynnag, ni chafwyd eu bod yn gysylltiedig â theimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.

  • Rhyw
  • Ethnigrwydd
  • Statws priodasol
  • Bod â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol
  • Crefydd
  • Cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
  • Bod mewn amddifadedd materol
  • Gallu siarad Cymraeg
  • Boddhad â bywyd
  • Rhanbarth
  • Teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn yr ardal leol yn cyd-dynnu’n dda

Bodlon ar y gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol

Gofynnwyd i bobl hefyd pa mor fodlon oeddent ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau yn yr ardal leol.

Roedd 78% o bobl yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol. Mae hyn i lawr o 86% yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, y tro diwethaf y gofynnwyd y cwestiwn hwn (gweler ffigur 3).

Ffigur 3: canran y bobl a ddywedodd eu bod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol, o 2017 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 3: graff llinell yn dangos bod cyfran y bobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol wedi codi i uchafbwynt yn 2021 i 2022 (86%). Yna gostyngodd i gyfran debyg yn 2024 i 2025 i’r hyn oedd yn 2017 i 2018 (78%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Y ffactorau y canfuwyd eu bod yn gysylltiedig â bod yn fodlon ar y gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol oedd:

  • bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, neu fod yn sengl
  • bod heb salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol
  • bod yn byw mewn ardal drefol
  • bod â boddhad uchel iawn â’u bywyd
  • heb fod wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn y 12 mis blaenorol
  • teimlo eu bod yn perthyn i’r ardal leol
  • teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn yr ardal leol yn cyd-dynnu’n dda

Roedd pobl sengl, neu a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil, yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol na phobl a oedd yn bartneriaid a oedd wedi goroesi priodas neu bartneriaeth sifil (gweler ffigur 4), hyd yn oed wrth gymryd ffactorau fel oedran a gwledigrwydd i ystyriaeth.

Ffigur 4: canran y bobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol, yn ôl statws priodasol, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart far yn dangos bod pobl a oedd yn sengl (79%) neu a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil (80%) yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol na phobl a oedd yn bartneriaid a oedd wedi goroesi priodas neu bartneriaeth sifil (69%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Roedd pobl nad oedd ganddynt salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol (82%) na phobl a oedd â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (72%).

Roedd pobl a oedd yn byw mewn ardal drefol yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol (81%) na phobl a oedd yn byw mewn ardal wledig (74%).

Roedd pobl a oedd yn fwy bodlon ar eu bywyd yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol. Y rhai oedd â boddhad uchel iawn â bywyd oedd fwyaf tebygol o fod yn fodlon â’u gallu i gyrraedd gwasanaethau lleol (85%), ac yna pobl â boddhad uchel â bywyd (79%). Pobl â boddhad canolig â bywyd oedd y mwyaf tebygol wedyn (69%), a phobl â boddhad isel â bywyd oedd y lleiaf tebygol (56%).

Roedd pobl nad oeddent wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn ystod y 12 mis blaenorol yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol (79%) nag yr oedd pobl a oedd wedi gwneud hynny (74%).

Pobl a oedd yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol oedd fwyaf tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol, fel y dangosir yn Ffigur 5.

Ffigur 5: canran y bobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol, yn ôl yr ymdeimlad o berthyn i’w hardal leol, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart far yn dangos bod pobl a oedd yn cytuno’n gryf (83%) neu’n tueddu i gytuno (79%) eu bod yn perthyn i’w hardal leol yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol na’r rhai a oedd yn tueddu i anghytuno (65%) neu a oedd yn anghytuno’n gryf (67%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Canfuwyd hefyd bod cysylltiad rhwng p’un a oedd pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda a bod yn fodlon ar y gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol, fel y dangosir yn ffigur 6.

Ffigur 6: canran y bobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol, yn ôl cytundeb bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart far yn dangos bod pobl a oedd yn cytuno’n gryf neu’n tueddu i gytuno bod pobl o wahanol gefndiroedd yn yr ardal leol yn cyd-dynnu’n dda (85% a 78%) yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol na’r rhai nad oedd yn cytuno nac yn anghytuno (72%) neu a oedd yn anghytuno’n gryf (64%). Roedd pobl a ddywedodd fod pawb yn eu hardal leol o’r un cefndir (88%) hefyd yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol na’r grwpiau hyn.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Ystyriwyd y ffactorau canlynol yn y dadansoddiad hefyd. Fodd bynnag, canfuwyd nad oedd cysylltiad annibynnol rhyngddynt â bod yn fodlon ar y gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol.

  • Rhyw
  • Oedran
  • Ethnigrwydd
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Crefydd
  • Gallu siarad Cymraeg
  • Wedi gwasanaethu’n flaenorol yn lluoedd arfog y DU
  • Cwintel MALlC
  • Bod mewn amddifadedd materol
  • Rhanbarth

Perthyn i’r ardal leol

Gofynnwyd i bobl a oeddent yn cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n perthyn i fy ardal leol’.

73% o bobl oedd yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol. Mae hyn i lawr o 79% yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, y tro diwethaf y gofynnwyd y cwestiwn hwn (gweler ffigur 7).

Ffigur 7: canran y bobl a oedd yn cytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol o 2016 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 7: graff llinell yn dangos bod cyfrannau’r bobl a oedd yn cytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol wedi cyrraedd uchafbwynt o 83% yn 2020 i 2021, cyn gostwng yn 2024 i 2025 i gyfrannau tebyg i 2016 i 2019.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Y ffactorau y canfuwyd eu bod yn gysylltiedig â pherthyn i’r ardal leol oedd:

  • bod yn hŷn na 45
  • bod yn wyn neu o leiafrif ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd gwyn)
  • bod yn Gristion
  • bod yn byw mewn ardal wledig
  • yn siarad Cymraeg
  • yn cael boddhad uchel iawn â bywyd
  • bod wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn y 12 mis blaenorol
  • teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn yr ardal leol yn cyd-dynnu’n dda

Roedd pobl rhwng 45 a 64 oed, neu 65 oed neu hŷn, yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol (77% a 80% yn y drefn honno) na phobl rhwng 16 a 44 oed (65%).

Roedd 73% o bobl yn y grŵp ethnig gwyn Prydeinig, a chyfran debyg (77%) o bobl mewn grŵp lleiafrifoedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd gwyn) yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol. Roedd y ddau grŵp yn fwy tebygol o gytuno o’u cymharu â phobl o gefndiroedd gwyn eraill (56%).

Roedd pobl a ddywedodd eu bod yn Gristnogion yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol (79%) na phobl a ddywedodd nad oedd ganddynt grefydd (68%). Nid oedd pobl a ddywedodd eu bod yn rhan o grefydd arall ar wahân i Gristnogaeth yn fwy nac yn llai tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol o’u cymharu â Christnogion neu bobl nad oeddynt yn grefyddol.

Roedd pobl a oedd yn byw mewn ardal wledig yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol (79%) na phobl a oedd yn byw mewn ardal drefol (70%).

Roedd pobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg (81%) yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol na phobl nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg (70%).

Pobl â boddhad uchel iawn â bywyd (83%) oedd fwyaf tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol, ac yna pobl â boddhad uchel â bywyd (72%). Pobl â boddhad canolig â bywyd oedd y mwyaf tebygol wedyn i deimlo eu bod yn perthyn (61%), a phobl â boddhad isel â bywyd oedd y lleiaf tebygol (50%).

Roedd pobl a oedd wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn y 12 mis diwethaf yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol (80%) na phobl nad oedd wedi cysylltu (72%).

Roedd pobl a oedd yn cytuno bod pobl o wahanol  gefndiroedd yn eu hardal leol yn cyd-dynnu’n dda yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol na phobl nad oeddent yn cytuno â’r datganiad hwnnw (gweler ffigur 8).

Ffigur 8: canran y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol, yn ôl a oeddynt yn teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn yr ardal leol yn cyd-dynnu’n dda ai peidio, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart far yn dangos bod pobl a oedd yn cytuno’n gryf neu’n tueddu i gytuno bod pobl o wahanol gefndiroedd yn eu hardal leol yn cyd-dynnu’n dda (88% a 72% yn y drefn honno) yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol na phobl nad oedd yn cytuno nac yn anghytuno (51%), yn tueddu i anghytuno (49%), neu’n anghytuno’n gryf (43%). Roedd pobl a ddywedodd fod pawb yn eu hardal leol o’r un cefndiroedd hefyd yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn perthyn i’w hadaloedd lleol na’r rhai o’r grwpiau hyn.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Canfuwyd hefyd bod cysylltiad rhwng a oedd rhywun wedi gwasanaethu’n flaenorol yn lluoedd arfog y DU â’r teimlad o berthyn i’w ardal leol. Roedd canrannau tebyg o gyn-filwyr a’r rhai nad oeddent yn gyn-filwyr yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol (69% a 73%, yn y drefn honno).

Ystyriwyd ffactorau eraill hefyd yn y dadansoddiad ond ni chanfuwyd bod cysylltiad annibynnol rhyngddynt a pherthyn i’r ardal leol. Y ffactorau hyn oedd:

  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • bod â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol
  • statws priodasol
  • cwintel MALlC
  • bod mewn amddifadedd materol
  • rhanbarth
  • bod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol

Pobl yn yr ardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda

Gofynnwyd i bobl i ba raddau yr oeddent yn cytuno â’r datganiad ‘bod pobl yn yr ardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda’.

Roedd 80% o bobl yn meddwl bod pobl o wahanol gefndiroedd yn eu hardal leol yn cyd-dynnu’n dda (gweler ffigur 9). Mae hyn i lawr o 82% yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, y tro diwethaf y gofynnwyd y cwestiwn hwn.

Ffigur 9: canran y bobl a oedd yn cytuno bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda, o 2016 i 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: siart linell yn dangos bod canran y bobl a oedd yn cytuno bod pobl o wahanol gefndiroedd yn eu hardal leol yn cyd-dynnu’n dda wedi cyrraedd uchafbwynt yn 2020 i 2021 (85%). Yna gostyngodd i 80% yn 2024 i 2025, ond roedd yn dal i fod ar gyfran uwch na 2018 i 2019.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Y ffactorau a oedd gysylltiedig â chytuno bod pobl yn yr ardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda oedd:

  • bod yn hŷn
  • bod heb salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol
  • heb fod yn y cwintel MALlC mwyaf difreintiedig
  • bod yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau neu gyfleusterau lleol
  • teimlo ei bod yn perthyn i’r ardal leol

Roedd pobl 65 oed neu hŷn yn fwy tebygol o gytuno bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda (84%) na phobl 16 i 44 oed (78%), neu 45 i 64 oed (79%).

Roedd pobl nad oedd ganddynt salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol yn fwy tebygol o gytuno bod pobl o wahanol gefndiroedd yn eu hardal leol yn cyd-dynnu’n dda (82%) na phobl a oedd â salwch neu anabledd hirdymor o’r fath (76%).

Roedd pobl o gwintel mwyaf difreintiedig Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn llai tebygol o gytuno bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda na phobl yn y trydydd cwintel, y pedwerydd cwintel na’r cwintel lleiaf difreintiedig (gweler ffigur 10).

Ffigur 10: canran y bobl a oedd yn cytuno bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda, yn ôl cwintel MALlC, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 10: siart far yn dangos bod pobl yn y cwintelau mwyaf difreintiedig (73%) yn llai tebygol o gytuno bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda na phobl yn y trydydd cwintel, y pedwerydd cwintel neu’r cwintel lleiaf difreintiedig (82%, 81%, a 83%, yn y drefn honno).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Roedd pobl a oedd yn fodlon ar eu gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn fwy tebygol o gytuno bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda (82%) na phobl nad oeddent yn fodlon (73%).

Roedd pobl a oedd yn cytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol hefyd yn fwy tebygol o gytuno bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda nag eraill (gweler ffigur 11).

Ffigur 11: canran y bobl a oedd yn cytuno bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda, yn ôl yr ymdeimlad o berthyn i’w hardal leol, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart far yn dangos mai pobl a oedd yn cytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol (89%) oedd fwyaf tebygol o deimlo bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda, ac yna pobl a oedd yn tueddu i gytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol (82%). Roedd pobl nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol (68%) yn fwy tebygol o deimlo bod pobl yn eu hardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda na phobl a oedd yn anghytuno’n gryf eu bod yn perthyn i’w hardal leol (50%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Canfuwyd hefyd bod rhyw yn gysylltiedig â chytuno bod pobl yn yr ardal leol o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda. Roedd cyfrannau tebyg o ddynion a menywod yn teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda (82% a 78%, yn y drefn honno).

Ystyriwyd y ffactorau canlynol yn y dadansoddiad hefyd. Fodd bynnag, ni chanfuwyd bod cysylltiad annibynnol rhyngddynt â phobl o wahanol gefndiroedd yn yr ardal leol yn cyd-dynnu’n dda.

  • Ethnigrwydd
  • Statws priodasol
  • Bod mewn amddifadedd materol
  • Bod wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol yn y 12 mis blaenorol
  • Bod yn byw mewn ardal drefol neu wledig
  • Gallu siarad Cymraeg
  • Boddhad â bywyd
  • Rhanbarth
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Crefydd
  • Wedi gwasanaethu’n flaenorol yn lluoedd arfog y DU

Y cyd-destun polisi

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi democratiaeth leol effeithiol a sicrhau bod pobl yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (deddfwriaeth y DU) yn cynnwys mesurau i annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (deddfwriaeth y DU) yn pwysleisio cynnwys pobl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau.

Ochr yn ochr â chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, mae profiadau pobl o gael gafael ar wasanaethau a chyfleusterau lleol yn agwedd bwysig ar lesiant cymunedol a gallant roi cipolwg ar ba mor effeithiol y mae cymunedau’n cael eu gwasanaethu. Mae deall barn preswylwyr am eu gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau lleol a’u gallu i gael gafael ar wasanaethau yn darparu tystiolaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau ledled Cymru.

Cydlyniant yw’r graddau y mae pobl mewn cymuned yn trin ei gilydd â pharch, yn cyd-dynnu â’i gilydd ac yn cymryd rhan i sicrhau bod pawb yn gallu arfer eu hawliau dynol a chyflawni eu potensial. Mae cydlyniant cymunedol yn bwysig oherwydd dyma’r sylfaen ar gyfer sut gallwn ni i gyd fyw’n dda gyda’n gilydd mewn cymdeithasau diogel a chynhwysol, lle gall unigolion ffynnu a lle mae cynnydd ar y cyd yn bosibl. Mae creu cymunedau cydlynus yn gofyn am gymryd cyfrifoldeb unigol ac ar y cyd, er budd pob un ohonom. Mae rhagor o wybodaeth am Egwyddorion Cydlyniant Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill 2024 i Fawrth 2025 yn arolwg hapsampl, graddfa fawr, a oedd yn cynnwys pobl 16 oed a hŷn ledled Cymru.

Cafodd cwestiynau ynghylch ‘Rydw i’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fy ardal leol’, ‘Rydw i’n perthyn i fy ardal leol’, ac ‘mae pobl o wahanol gefndiroedd yn fy ardal leol yn cyd-dynnu’n dda’ eu hateb ar sail graddfa 5 pwynt, o gytuno’n gryf i anghytuno’n gryf. Cafodd y bobl a ymatebodd gyda naill ai ‘tueddu i gytuno’ neu ‘cytuno’n gryf’ eu dosbarthu fel rhai a oedd yn cytuno â’r datganiad ar gyfer y gwahanol adrannau.

Methodoleg

Dewiswyd cyfeiriadau ar hap, ac anfonwyd gwahoddiadau drwy’r post yn gofyn i bobl ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellid darparu rhif ffôn drwy borth ar-lein neu linell ymholiadau dros y ffôn. Os na chafodd rhif ffôn ei ddarparu, cynhaliwyd teleparu â chronfeydd data o rifau ffôn sydd ar gael i weld a ellid dod o hyd i un ar gyfer y cyfeiriad.

Yna, fe wnaeth y cyfwelydd alw’r rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad, darganfod faint o oedolion a oedd yn byw yno, a dewis un ar hap (y person a oedd â’r pen-blwydd nesaf) i gymryd rhan yn yr arolwg. Cafodd y person a ddewiswyd ei gyf-weld dros y ffôn. Ar ôl cwblhau’r adran ffôn, gofynnwyd iddynt gwblhau adran ar-lein ac anfonwyd manylion atynt.

Os na chafwyd rhif ar gyfer y cyfeiriad, dewiswyd 46% o’r achosion hyn ar hap ac fe wnaeth y cyfwelydd ymweld â’r cyfeiriad i ddewis ymatebydd. Yna, cynhaliwyd cyfweliad wyneb yn wyneb gyda nhw yn y cartref neu (os oedd yn well ganddynt gyfweliad dros y ffôn) casglwyd rhif ffôn ar eu cyfer.

Roedd yr arolwg yn para tua 40 i 45 munud ar gyfartaledd ac yn ymdrin ag ystod o bynciau. Cynigwyd taleb £15 i’r ymatebwyr i ddiolch iddynt am gymryd rhan. Roedd maint y sampl a gyflawnwyd bob mis yn rhyw 500 o bobl ar gyfartaledd, a’r gyfradd ymateb oedd 18.7% o’r rhai a oedd yn gymwys i gymryd rhan.

Pwysoli’r arolwg

Defnyddir pwysoliadau arolwg i ddod â sampl o boblogaeth yn agosach at y boblogaeth lawn o ran oedran, rhyw, a maint awdurdod lleol, yn ogystal ag i wneud iawn am amrywiad o’r targed yn nifer y cyfweliadau ym mhob bwrdd iechyd ym mhob chwarter. Mae’r pwysoliadau’n lleihau ond ni fyddant yn dileu effeithiau gwahaniaethau yn y sampl a gyflawnwyd o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol ac â’r boblogaeth gyffredinol. Ar gyfer sampl Ebrill 2024 i Fawrth 2025, mae lledaeniad llai cyfartal o gyfweliadau ar draws y flwyddyn (er enghraifft, llai yn gymesur ym mis Chwefror a Mawrth) o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Dylid cymryd gofal, felly, wrth gymharu’r canlyniadau â’r blynyddoedd blaenorol, a dylid archwilio unrhyw wahaniaethau yng nghyd-destun ffynonellau eraill.

Dadansoddiad ystadegol

Mae’r datganiad hwn yn defnyddio dadansoddiad atchweliad i archwilio perthnasoedd rhwng gwahanol nodweddion tra'n cadw ffactorau eraill yn gyson (gelwir hyn weithiau yn “rheoli ar gyfer ffactorau eraill”). Mae’r canlyniadau’n dangos cysylltiadau posibl rhwng ffactorau, ond nid ydynt yn dangos bod unrhyw un ffactor yn achosi un arall.

Pan fo testun y datganiad hwn yn nodi gwahaniaeth rhwng 2 ganlyniad arolwg, rydym wedi gwirio i sicrhau nad yw’r cyfyngau hyder (a elwir weithiau’n “ffin cyfeiliornad”) ar gyfer y 2 ganlyniad yn gorgyffwrdd. Mae hyn yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol, sy'n golygu bod siawns o lai na 5% neu 1 o bob 20 fod y canlyniadau yn deillio o hynodrwydd yn sampl yr arolwg yn hytrach nag yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol yn y boblogaeth ehangach. Pan na nodir gwahaniaeth, mae’r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd.

Mae holiadur yr arolwg ar gael ar ein tudalennau ar y we.

Mae siartiau a thablau manwl o’r canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu’r data a’r fethodoleg, gweler ein Hadroddiad ansawdd a’n Hadroddiad technegol.

Datganiad o gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein hymarfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Y swyddfa sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (SRY) hyn yn dangos y safonau disgwyliedig mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Mae’r holl ddata personol sy’n sail i’r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Cyhoeddir ystadegau Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn modd hygyrch a threfnus, gyda rhag-gyhoeddiad ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae’r holl ddatganiadau ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Mae’r holl allbynnau’n cadw at y Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ar dudalennau gwe’r calendr o ddigwyddiadau i ddod. Yn ystod y prosesu, mae’r mynediad at y data wedi’i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy’n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau’r DU).

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu creu gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael.

Ansawdd

Fel y nodwyd uchod, mae maint y sampl a gyflawnwyd ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Ebrill 2024 i Fawrth 2025 (6,000 o ymatebwyr) yn llai nag a gynlluniwyd yn wreiddiol. Mae maint y sampl yn llai am i’r contractwr ddod ar draws problemau gwaith maes gan gynnwys cyfraddau ymateb is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae newidiadau hefyd yng nghyfansoddiad y sampl heb ei phwysoli a gyflawnwyd o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol.

Felly, ym mis Gorffennaf 2025, gofynnwyd i’r SRY atal dros dro ein statws ystadegau swyddogol achrededig ar gyfer y datganiad cyntaf hwn ac ar gyfer allbynnau eraill yn seiliedig ar ddata Ebrill 2024 i Fawrth 2025 ac fe roddwyd ataliad dros dro inni. Mae’r ataliad dros dro yn adlewyrchu’r ffaith nad yw allbynnau Ebrill 2024 i Fawrth 2025 yn gyffredinol yn darparu canlyniadau digon manwl gywir ar gyfer ardaloedd daearyddol bach ac is-grwpiau bach eraill, ac y dylid cymryd gofal wrth gymharu rhai o ganlyniadau Ebrill 2024 i Fawrth 2025 â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol. Mae’r holl allbynnau a seilir ar ddata Ebrill 2024 i Fawrth 2025 wedi’u nodi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad.

Mae’n dal yn briodol defnyddio’r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o amcangyfrifon i Gymru, yn enwedig os cânt eu defnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill. Er hynny, dylai defnyddwyr nodi’r cyfyngau hyder ehangach yn enwedig ar gyfer daearyddiaethau llai ac is-grwpiau poblogaeth llai.

Mae’r holl gamau sydd ynghlwm wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu’r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr proffesiynol ac mae’r ystadegau yn cael eu cynhyrchu heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. Sicrhawyd ansawdd yr holl ystadegau cyn eu cyhoeddi.

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Mae’r gwaith sefydlu ar gyfer dyluniad arolwg ar-lein newydd yn mynd rhagddo’n dda. Bydd y prif waith maes yn dechrau ym mis Mawrth 2026, ac fe ddisgwylir y canlyniadau cyntaf yn haf 2027. Un o fanteision allweddol y dull newydd yw y bydd yn bosibl darparu meintiau sampl llawer mwy, ac felly amcangyfrifon llawer mwy manwl gywir ar gyfer is-grwpiau bach. Ar ôl i’r prif waith maes ddechrau o dan y dyluniad newydd yn Ebrill 2026 i Mawrth 2027, byddwn yn gofyn bod bathodynnau ystadegau swyddogol achrededig yn cael eu hadfer gan y SRY ar gyfer allbynnau arolygon o Ebrill 2026 i Mawrth 2027 ymlaen.

Gwerth

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:

  • darparu cyngor i’r Gweinidogion
  • llywio ystod eang o benderfyniadau polisi

Mae’r sylwebaeth a’r nodiadau yn y datganiad hwn wedi’u datblygu i geisio gwneud yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr.

Mae croeso ichi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r SRY drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y SRY.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol ger bron Senedd Cymru. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Tîm Arolygon
E-bost: arolygon@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 30/2026