Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pwy fydd aelodau'r Gweithgor Arbenigol a fydd yn helpu i lunio'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru, ynghyd â Chylch Gorchwyl y grŵp.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • penodi aelodau i Weithgor Arbenigol i ddatblygu'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru 
  • cyhoeddi Cylch Gorchwyl sy'n rhestru'r pedwar piler ar gyfer system fwyd wydn a chynaliadwy 
  • bwriad i gyflymu gweithredu cynnar ar fwyd mewn ysgolion, garddwriaeth fwytadwy a'r gadwyn gyflenwi cig  

Cadeirydd y grŵp yw Simon Wright, perchennog Wright's Food Emporium yn Llanarthne, a benodwyd ym mis Gorffennaf ar ôl cyhoeddi'r Strategaeth yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Ers hynny, mae Wright wedi gweithio gydag unigolion pwysig yn y sector i helpu i ddatblygu'r Cylch Gorchwyl, sy'n esbonio'r rhesymeg, yr amcanion a'r dulliau gweithio ar gyfer y strategaeth o hyn ymlaen. 

Bydd y strategaeth yn seiliedig ar bedwar piler: iechyd a lles, diogelu cyflenwadau bwyd (neu ddiogeledd bwyd), datblygu gwledig ac economaidd, a'r amgylchedd. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn llywio dull system gyfan o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru, o'r cynhyrchydd i'r plât; manwerthu, iechyd, addysg, caffael cyhoeddus a'r economi gylchol. 

Bydd y canlynol yn ymuno â Simon Wright ar y Gweithgor Arbenigol: 

  • Ian Rickman, FUW 
  • Sarah Gould, Lantra 
  • Tim Lang, Prifysgol Dinas Llundain 
  • Deiniol ap Dafydd, Blas ar Fwyd 
  • Catherine Smith, Cadeirydd, Hybu Cig Cymru 
  • Sue Pritchard, Prif Weithredwr, Food, Farming and Countryside Commission 
  • Sam Kemp, Partneriaeth Bwyd Torfaen 
  • Shea Buckland-Jones, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth, WWF Cymru 
  • Dr Rhian Hayward, Aelod o Fwrdd Cymru, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Cynrychiolydd o NFU Cymru

Dewiswyd yr aelodau i gynrychioli ehangder system fwyd Cymru, sy'n rhychwantu amaethyddiaeth, garddwriaeth, manwerthu, lletygarwch, prosesu cig coch, iechyd y cyhoedd, tlodi bwyd, polisi amgylcheddol a diogeledd bwyd. 

Bydd y grŵp yn cwrdd yn rheolaidd i nodi heriau a chyfleoedd cyffredin ar draws y system fwyd, argymell ymyriadau cynnar ac ymarferol cyn cyhoeddi'r strategaeth derfynol, a llunio ffyrdd i'r cyhoedd helpu i siapio a pherchnogi datblygiad y strategaeth. Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am dderbyn yr argymhellion yn derfynol o hyd. 

Er mwyn bwrw iddi'n gyflym, bydd tri grŵp yn canolbwyntio ar fwyd mewn ysgolion, ehangu garddwriaeth fwytadwy yng Nghymru, a diogeledd cadwyn gyflenwi cig Cymru. Bydd yr is-grwpiau hyn yn defnyddio arbenigedd allanol ychwanegol i nodi atebion cyflym ochr yn ochr â gwaith tymor hwy'r strategaeth. 

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: 

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cytuno i wasanaethu ar y Gweithgor Arbenigol hwn. Mae eu profiad helaeth, o'n ffermydd a'n pysgodfeydd i'n hysgolion a'n cymunedau, yn adlewyrchu maint yr uchelgais sydd ei hangen arnom i drawsnewid ein system fwyd er gwell." 

Dywedodd cadeirydd y Gweithgor Arbenigol, Simon Wright: 

"Rydw i wrth fy modd ac yn falch iawn bod cynifer o leisiau uchel eu parch o bob rhan o feysydd bwyd a ffermio Cymru wedi cytuno i ymuno â'r gwaith hwn. 

"Byddwn yn gweithio â rhanddeiliaid a chymunedau ledled Cymru ar genhadaeth genedlaethol i sicrhau dyfodol mwy ffyniannus, iach, ecogyfeillgar a diogel ar gyfer bwyd Cymru."