Neidio i'r prif gynnwy

Croeso a chyflwyniadau

Agorodd y Cadeirydd gyfarfod Partneriaeth Gwydnwch Cymru (y Bartneriaeth), gan groesawu aelodau a rhoi manylion yr ailstrwythuro i Lywodraeth Cymru ers i'r Llywodraeth newydd gael ei ffurfio. Byddai Prif Weinidog Cymru yn parhau i fod â'r prif gyfrifoldeb am wydnwch, diogelwch gwladol a materion seiber.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.

Fframwaith Ymateb i Lifogydd Cymru

Roedd fersiwn wedi'i diweddaru o Fframwaith Ymateb i Lifogydd Cymru yn cael ei datblygu i'w gyhoeddi yn 2026, wedi'i lywio gan ddigwyddiadau stormydd diweddar a gwaith gwydnwch ehangach.

Cyflwynwyd y fframwaith diwygiedig i'r aelodau er mwyn iddyn nhw ymgynghori yn ei gylch. Er mwyn mynd i'r afael ag ehangder y sylwadau a sicrhau ymgysylltu cynhwysfawr â rhanddeiliaid, cynigiodd yr aelodau sefydlu gweithgor ar sail gorchwyl a gorffen.

Y penderfyniad: Gweithgor i gael ei ffurfio i sicrhau ymgysylltu cynhwysfawr ag aelodau Partneriaeth Gwydnwch Cymru.

Iechyd anifeiliaid

Amlinellwyd y risgiau parhaus o glefydau anifeiliaid egsotig hysbysadwy, gan gynnwys clwy'r traed a'r genau, ffliw adar a'r tafod glas. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd bod yn barod, o ystyried y goblygiadau sylweddol i fioddiogelwch, masnach, iechyd y cyhoedd a'r economi ehangach.

Cytunodd yr aelodau y byddai grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu i egluro'r rhyngwyneb rhwng iechyd anifeiliaid ac argyfyngau sifil posibl. Cynigiwyd ymarfer casglu tystiolaeth gymesur i helpu i nodi bylchau a chanolbwyntio ar flaenoriaethau'r grŵp.

Y penderfyniad: Grŵp gorchwyl a gorffen i gael ei sefydlu i ystyried dull Cymru gyfan o fynd i'r afael ag unrhyw fylchau gallu.

Ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus Llywodraeth y DU

Rhoddwyd trosolwg byr i'r aelodau o ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus Llywodraeth y DU, a fyddai â'r nod o wella ymwybyddiaeth y cyhoedd a pharodrwyd am argyfyngau.

Y penderfyniad: Byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i drefnu gweithdy i aelodau'r Bartneriaeth fwydo unrhyw sylwadau a safbwyntiau ar yr ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus.

Cynllunio tanwydd

Cafodd canlyniadau ymarfer diweddar a brofodd barodrwydd am darfu difrifol ar gyflenwadau tanwydd eu cyflwyno i aelodau.

Er mwyn datblygu trefniadau cyson ar gyfer cynllunio tanwydd ledled Cymru, cytunwyd y byddai grŵp gorchwyl a gorffen Cymru gyfan yn cael ei sefydlu i fynd i'r afael ag argymhellion allweddol yr ymarfer.

Y penderfyniad:  Sefydlu grŵp tasg a gorffen ar gynllunio ar gyfer tarfu ar gyflenwadau tanwydd.

Fframwaith Gwydnwch Cymru a’r Cynllun Cyflawni

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariadau ar y gyfres o ddigwyddiadau a oedd yn cael eu cynnal ar Faes y Sioe Frenhinol ar 1–2 Gorffennaf, i nodi pen-blwydd lansio Fframwaith Gwydnwch Cymru a'r Cynllun Cyflawni.

Is-grwpiau Partneriaeth Gwydnwch Cymru: diweddariad gan gadeiryddion

Ar ôl cytuno ar raglen waith y Bartneriaeth, penodwyd cadeiryddion ac aelodau o is-grwpiau gwirfoddolwyr. Rhoddodd cadeiryddion is-grwpiau ddiweddariadau ar gynnydd eu gwahanol grwpiau. Byddai cynlluniau gwaith yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Bartneriaeth.

Cynllun Ymateb Cymru Gyfan

Roedd adolygiad o Gynllun Ymateb Cymru Gyfan yn cydnabod ei fod wedi dyddio, nad oedd bellach yn cyd-fynd â threfniadau llywodraethu diwygiedig, terminoleg a swyddogaethau gweithredol cyfredol, ac nad oedd yn adlewyrchu'r mathau o ddigwyddiadau modern fel digwyddiadau seiber neu darfu ar seilwaith.

Roedd fframwaith cynhwysfawr newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i argyfwng yn cael ei ddatblygu i egluro rolau a chyfrifoldebau a gwella cyfleusterau a phrosesau argyfwng, gyda'r potensial iddo gynnwys trefniadau Cymru gyfan wedi'u diweddaru.

Y penderfyniad: Oedi unrhyw adolygiadau o PEATs a SAMMs nes bod Dogfen Egluro Gweithrediadau Llywodraeth newydd Cymru wedi cael ei pharatoi. Bydd y ddogfen hon yn cael ei chyflwyno i gyfarfod Partneriaeth Gwydnwch Cymru yn y dyfodol.

Unrhyw fater arall

Atgoffwyd yr aelodau bod yr alwad am dystiolaeth yn mynd rhagddi ac fe'u cyfeiriwyd at wefan JESIP i gael rhagor o wybodaeth.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Disgwylir i gyfarfod nesaf y Bartneriaeth gael ei gynnal ar 16 Medi 2026.