Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd prosiect Ffermydd y Dyfodol ei ddatblygu drwy gydweithredu amlbartner ac mae'n cyd-fynd â blaenoriaethau polisi Cymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Sefydlwyd prosiect peilot Ffermydd y Dyfodol i dreialu model ymarferol y gellir ei addasu ar gyfer galluogi busnesau garddwriaeth sydd newydd ymuno â'r maes i gael mynediad at dir, i sicrhau cartrefi fforddiadwy ar y safle ac i gyflenwi marchnadoedd lleol ym Mhowys a Chymru ehangach. Cafodd prosiect Ffermydd y Dyfodol ei beilota yn Sarn, Powys. Cafodd ei ddatblygu drwy gydweithredu amlbartner ac mae'n cyd-fynd â blaenoriaethau polisi Cymru ynghylch gwydnwch bwyd, yr hinsawdd, bioamrywiaeth, iechyd y cyhoedd, yr economi sylfaenol a lles cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae'r prosiect peilot yn dangos sut y gellir ailbwrpasu tir cyhoeddus ar gyfer cynhyrchu bwyd mewn modd adfywiol ar raddfa fach – lle mae cynllunio, partneriaeth, cyllid ac ymrwymiad gwleidyddol yn cyd-fynd â'i gilydd . Yn Sarn, mae pum tyfwr newydd bellach yn gweithredu tri busnes garddwriaeth annibynnol gyda llety, seilwaith a rennir a mynediad i farchnadoedd lleol. 

Yr her

Nod y prosiect oedd mynd i'r afael â sawl rhwystr strwythurol sy'n ei gwneud yn anodd i dyfwyr newydd sefydlu busnesau garddwriaeth hyfyw. Roedd y rhain yn cynnwys mynediad at dir fforddiadwy, tai diogel, cyfyngiadau cynllunio, costau seilwaith, perygl llifogydd, cyfleustodau, diogelwch dŵr, sgiliau a diffyg seilwaith cynhyrchu bwyd lleol. 

Roedd safle Sarn yn dir amaethyddol moel heb unrhyw adeiladau presennol, heb ddraenio ffurfiol a heb gysylltiadau â gwasanaethau. Roedd rhaid i'r prosiect hefyd ymdrin â phryderon cymunedol, dyddiadau cau tyn ar gyfer cyllid, trefniadau lesio cymhleth, gofynion cynllunio ar gyfer anheddau ar fentrau gwledig, a'r angen i ddarparu seilwaith a fyddai'n cefnogi tri busnes annibynnol heb greu dibyniaeth ddiangen. 

Y dull

O'r cychwyn cyntaf, ffurfiwyd partneriaeth draws-sector, a nododd dir ar ystad fferm Cyngor Sir Powys ac aeth ati i nodi tri daliad garddwriaeth masnachol bach yn Sarn. Roedd asesiad manwl o'r safle a gwaith dichonoldeb yn llywio'r cynllun, gan ystyried pridd, draenio, bioamrywiaeth, cyflenwad dŵr, mynediad, seilwaith, marchnadoedd ac economeg. Cafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer anheddau ar fenter gwledig, sied pacio a rennir, polytwneli a systemau ynni adnewyddadwy. 

Roedd y prosiect yn cyfuno amrywiaeth o grantiau, gan gynnwys cyllid cyfalaf Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau, cydweithredu rhwng awdurdodau lleol, cydlynu'r trydydd sector a mewnbwn arbenigol i oresgyn rhwystrau sy'n ymwneud â mynediad i dir, perygl llifogydd, darpariaeth seilwaith a dehongli polisi cynllunio. 

Roedd y cynllunio'n cynnwys rhannu seilwaith i leihau'r baich cyfalaf ar dyfwyr, wrth hefyd gydnabod pwysigrwydd annibyniaeth busnesau, cyfleustodau ar wahân a'r gallu i rannu seilwaith ar gyfer modelau yn y dyfodol. 

Mae'n cyfrannu at 

  • Ymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn enwedig drwy atal, cydweithio, meddwl hirdymor a chefnogi cymunedau iachach, mwy gwydn. 
  • Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru, drwy gefnogi gwydnwch bwyd lleol a thwf ym maes garddwriaeth. 
  • Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac amcanion polisi ehangach yn ymwneud â rheoli tir mewn modd cynaliadwy, bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd. 
  • Prydau ysgol am ddim i bawb ac uchelgeisiau i gaffael bwyd lleol, drwy helpu i adeiladu capasiti cyflenwi garddwriaethol lleol. 
  • Adfer natur Powys, sero net, economi sylfaenol a blaenoriaethau partneriaethau bwyd leol. 
  • Amcanion stiwardio asedau cymunedol a thir cyhoeddus drwy ddangos sut y gall tir cyhoeddus gefnogi budd cymunedol hirdymor a chyfranogiad economaidd lleol. 

Effeithiau a chanlyniadau

  • Mae pum tyfwr newydd yn gweithredu tri busnes garddwriaeth annibynnol yn Sarn, gyda mynediad at lety, seilwaith a rennir a marchnadoedd lleol. 
  • Cafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer anheddau ar fenter gwledig, sied pacio a rennir, polytwneli a systemau ynni adnewyddadwy. 
  • Cyfrannodd y prosiect peilot yn uniongyrchol at ganllawiau cynllunio lleol newydd ar gyfer daliadau garddwriaeth ym Mharc Cenedlaethol Powys a Bannau Brycheiniog, gan helpu i leihau ansicrwydd ynghylch cynlluniau yn y dyfodol. 
  • Mae'r safle wedi dod yn enghraifft fyw i Gymru sy'n dangos y gellir ailbwrpasu tir cyhoeddus i gefnogi cynhyrchu bwyd  ar raddfa fach mewn ffordd adfywiol. 
  • Gwerthodd tyfwyr y llysiau cyntaf ym mis Mehefin 2025, a dechreuon nhw gynhyrchu focsys llysiau ym mis Gorffennaf 2025. Yn ystod pum mis olaf 2025, gwerthodd y cynllun bocsys llysiau 455 o focsys i 60 o aelwydydd o fewn radiws o 15 milltir. 
  • Datblygodd diddordeb y gymuned o amheuaeth gynnar i gefnogaeth ofalus ac, mewn llawer o achosion, frwdfrydedd gweithredol wrth i dyfwyr ddod yn weladwy, yn hygyrch ac yn rhan o fywyd lleol. 
  • Arweiniodd y prosiect at ddysgu ar gyllid cyfunol, partneriaethau cymdeithasau tai, diogelwch dŵr, dylunio seilwaith, eglurder ynghylch lesoedd, cyfleustodau, ymgysylltu â'r gymuned a chefnogi tyfwyr.

Gwersi a ddysgwyd a chynllunio'r dyfodol

Positive learning includes that public land can be unlocked for new entrant agroecological growers where there is strong partnership working, local authority support and clear political commitment. Affordable on-site housing is essential to viable small-scale horticulture, and shared infrastructure can reduce capital costs when it supports, rather than constraints, business autonomy. 

Key challenges included compressed funding timescales, delayed lease completion, uncertainty for growers, planning delays, water-security concerns, infrastructure snagging and the difficulty of balancing short -term affordability with long-term quality.

The next phase is focused on replication, including exploring alternative blended finance models and partnerships with housing associations to reduce reliance on public grant funding while retaining affordability and long-term stewardship controls.