Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Bydd y Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu 3 blynedd yn gwella’r cymorth sydd ar gael i bobl ag anableddau dysgu ledled Cymru. 

Bydd yn helpu pobl i fyw bywydau iach ac annibynnol yn eu cymunedau ac yn lleihau’r angen am ofal mewn ysbytai. 

Mae’r rhaglen yn cefnogi datblygiad Strategaeth Anableddau Dysgu 10 mlynedd ac yn mabwysiadu dull gweithredu system gyfan o ran newid a gwella gwasanaethau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau ataliol.

Mae’n ymateb i dystiolaeth sy’n dangos bod angen gwell cymorth cymunedol, cymorth cynharach a gwasanaethau mwy integredig ar bobl ag anableddau dysgu. Mae’n adeiladu ar y dysgu o adolygiadau blaenorol ac ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad byw, teuluoedd, gofalwyr a sefydliadau ledled Cymru. 

Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau, cryfhau hawliau a sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, ateb eu hanghenion unigol yn llawn. 

Y ffrwd waith

Mae’r rhaglen wedi’i threfnu o amgylch 4 ffrwd waith:

  • data, gwybodaeth a chyngor
  • modelau gofal cymunedol integredig
  • gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys gofal cleifion mewnol a chymorth mewn argyfwng
  • atebion llety a thai

Bydd y ffrydiau gwaith hyn yn: 

  • cefnogi atal 
  • yn gwella mynediad at wasanaethau
  • yn lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty
  • helpu pobl i dderbyn cymorth yn nes at adref 

Byddant hefyd yn cryfhau cynllunio, gweithio mewn partneriaeth a’r defnydd o ddata a thystiolaeth i wella gwasanaethau.

Beth mae'r rhaglen yn anelu at ei gyflawni

Nod y rhaglen yw cyflawni:

  • gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel
  • mynediad da at wasanaethau iechyd cymunedol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau ataliol, ynghyd â phrofiadau a chanlyniadau cadarnhaol
  • mynediad 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos at gymorth iechyd a gofal cymdeithasol arbenigol yn y gymuned
  • derbyniadau therapiwtig pwrpasol i’r ysbyty, gofal o ansawdd uchel a rhyddhau amserol 
  • gweithlu medrus a phrofiadol
  • system sy’n cael ei llywio gan ddata a thystiolaeth

Bydd y canlyniadau hyn yn helpu i greu system fwy cyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu i fyw’n dda a chyflawni eu nodau.

Rheoli’r rhaglen

Mae’r rhaglen yn cael ei rheoli a’i goruchwylio gan GIG Cymru Perfformiad a Gwella mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, cysylltwch â LearningDisabilityPolicy@gov.wales