Ar 21 Hydref, bydd Prif Weinidog Cymru yn arwain y genedl mewn moment o fyfyrio i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan.
Bydd Rhun ap Iorwerth yn bresennol yn y digwyddiad swyddogol i gofio yn Aberfan, lleoliad cwymp trasig tomen sborion glo a wnaeth ladd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, ym 1966. Bydd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams AS, Ymddiriedolwyr Aberfan a chynrychiolwyr eraill o’r gymuned yn ymuno ag ef yn y digwyddiad.
Cafodd sefydliadau ym mhob cwr o Gymru eu gwahodd gan y Prif Weinidog i ystyried cynnal munud o dawelwch am 9.15am, i nodi’r amser pan darodd y drychineb.
Wrth fyfyrio ar arwyddocâd y dyddiad sydd ar ddod, dywedodd y Prif Weinidog:
“Ddegawdau yn ddiweddarach, mae effaith trychineb Aberfan yr un mor bwerus. Cafodd y gymuned ei dinistrio gan yr hyn ddigwyddodd ar 21 Hydref 1966. Ond mae’r drychineb yn parhau i ysgogi teimladau dwys mewn ardaloedd ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ehangach, ac yn wir ar draws y byd.
“Mae effaith y drychineb yn amlwg mewn gerddi coffa ar hyd a lled Cymru, nid yn Aberfan yn unig. Fel ym Mhorthaethwy – yno, mae pobl wedi coffáu pawb wnaeth farw yn Aberfan, yn ogystal â phawb y gwnaeth eu bywydau newid am byth y foment honno.
"Wrth nodi 60 mlynedd ers y drychineb, bydd gan Gymru gyfle i dalu teyrnged i’r rheini a gollodd eu bywydau. Rwy’n gwahodd sefydliadau ledled Cymru i ystyried cynnal munud o dawelwch am 9.15am i gofio am yr hyn ddigwyddodd chwe deg mlynedd yn ôl, ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn briodol iddyn nhw.”
