Adeiladu tai newydd: Ebrill i Mehefin 2026
Gwybodaeth am anheddau newydd a ddechreuwyd (lle bo’r gwaith adeiladu wedi dechrau) ac anheddau newydd a gwblhawyd (lle bo’r gwaith adeiladu wedi’i orffen a’r adeilad yn barod ar gyfer ei feddiannu), ar gyfer Ebrill i Fehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC). Ni cheir yn y datganiad hwn wybodaeth gan PAIs eraill, sy’n debygol o arwain at dan gyfrif yng nghyfanswm yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd (gweler y nodiadau). Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu chwarter 1 blwyddyn ariannol 2026 i 2027 (Ebrill i Fehefin 2026).
Prif bwyntiau
Ffigur 1: nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd, rhwng chwarter 1 2017 i 2018 a chwarter 1 2026 i 2027
Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos y cafwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer y tai newydd a ddechreuwyd rhwng chwarter 1 2017 i 2018 a chwarter 1 2026 i 2027. Er bod nifer yr anheddau newydd wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf, mae nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd wedi cynyddu.
Ffynhonnell: arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC
[Nodyn 1] Ni chasglwyd data chwarterol ar gyfer 2020 i 2021 na 2021 i 2022 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Yn ystod Ebrill i Fehefin 2026:
- dechreuwyd 899 o anheddau newydd, 18% llai na’r un chwarter yn 2025 (1,090)
- cwblhawyd 1,190 o anheddau newydd, 3% mwy na’r un chwarter yn 2025 (1,228)
- roedd dwy ran o dair (67%) o'r holl anheddau newydd wedi'u cwblhau yn cynnwys 3 neu fwy o ystafelloedd gwely
- roedd y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a gwblhawyd yn perthyn i’r sector preifat (80%), gyda chyfran lai yn perthyn i awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) (20%) (dylid trin gwybodaeth am ddeiliadaeth yn ofalus – gweler y Nodiadau am fanylion)
Nodiadau
Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.
Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r NHBC sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill, sy’n debygol o arwain at dan gyfrif yng nghyfanswm yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.
Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy:
- adeiladu o'r newydd
- prynu
- caffael
- prydlesu
- addasu anheddau presennol
Mae'r erthygl ystadegol Asesu dichonoldeb defnyddio data gweinyddol i fesur cyflenwad tai newydd, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2026, yn archwilio dichonoldeb defnyddio data Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC), data bilio'r dreth gyngor a data'r Arolwg Ordnans (AR) i sicrhau ansawdd y wybodaeth a gyflwynir yn y gyfres ystadegol hon. Rhagwelir y bydd diweddariad i'r gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2027. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau gan ddefnyddwyr ar y gwaith hwn. Mae eich barn a'ch adborth yn ein helpu i wneud y mwyaf o ansawdd a gwerth ein hystadegau. Cysylltwch â ni yn ystadegau.tai@llyw.cymru.
Cyhoeddir pwyntiau allweddol a data StatsCymru yn chwarterol a chyhoeddir adroddiad blynyddol. Mae’r data ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdodau lleol yn ogystal â nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul math yr annedd a nifer yr ystafelloedd gwely.

