Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru
Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi Uchelgais Newydd i Gymru, Rhaglen Lywodraethu 2026-2030 a’r amcanion llesiant.
Mae’r Rhaglen yn nodi blaenoriaethau ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor hwn y Senedd, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion llesiant. Mae Datganiad Llesiant ategol yn egluro sut y datblygwyd ein hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a sut y maent yn cyfrannu at y nodau llesiant.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn y Senedd y prynhawn yma, yn amlinellu blaenoriaethau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y pedair blynedd nesaf.
