Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu newydd, sy'n nodi ei blaenoriaethau a'i chynlluniau dros dymor pedair blynedd y Senedd, yn dilyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cael ei chyhoeddi gan lywodraeth newydd ar ddechrau pob tymor yn y Senedd. Mae'n amlinellu'r hyn y mae gweinidogion Llywodraeth Cymru eisiau ei gyflawni cyn yr etholiad nesaf.

Mae'r ddogfen, a gafodd ei lansio heddiw gan y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth newydd. Yn eu plith, mae lleihau rhestrau aros, helpu teuluoedd â chostau byw, creu swyddi da sy'n talu'n dda, codi safonau addysgol, mynd i'r afael â thlodi plant, a sefyll dros Gymru.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Y Rhaglen Lywodraethu hon yw ein glasbrint ar gyfer newid. Mae'n gosod uchelgais newydd i Gymru i wireddu ein gweledigaeth o genedl fodern, ffyniannus, uchelgeisiol a hyderus.

"Am gyfnod rhy hir, mae gweithio ar wahân neu'n ynysig wedi rhwystro cynnydd. Mae'r llywodraeth newydd hon yn mynd ati mewn ffordd wahanol. Drwy ddefnyddio dychymyg ac arloesedd wrth wneud penderfyniadau a phennu blaenoriaethau, byddwn yn gweithio ar draws adrannau'r llywodraeth - nid oddi mewn iddynt yn unig - i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas heddiw.

"Ein ffocws nawr yw troi gweithredu cynnar yn ganlyniadau parhaol - drwy leihau rhestrau aros, sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'n Gwasanaeth Iechyd, helpu teuluoedd â chostau byw, creu swyddi da, codi safonau yn ein hysgolion, mynd i'r afael â thlodi plant a sefyll dros ein cenedl. 

"Byddwn yn ddigyfaddawd wrth sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan, gan ddadlau dros rymuso'r Senedd â'r adnoddau a fydd yn ein galluogi i fod yn fwy beiddgar a radical wrth newid bywydau ein dinasyddion er gwell.

"Cawsom ein hethol i symud Cymru yn ei blaen ar ôl blynyddoedd o ddiffyg cyfeiriad a diffyg twf. Dyna yw ein cenhadaeth o hyd."