Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae'r bwletin hwn yn ymwneud â disgyblion o oedran ysgol uwchradd yn y casgliad presenoldeb ysgol blynyddol. Mae'r casgliad uwchradd yn rhedeg o ddechrau'r flwyddyn academaidd i ddiwedd gŵyl banc y Gwanwyn ym mis Mai.

Mae dadansoddiad prydau ysgol am ddim (PYD) yn ymwneud â chymhwysedd prawf modd. Mae absenoldeb cyson yn defnyddio'r trothwy 10% o'r nifer mwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol. Ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Prif bwyntiau

Cymariaethau rhwng blynyddoedd academaidd 2024 i 2025 a 2025 i 2026

Absenoldeb cyffredinol:

  • 10.9% i lawr o 11.0% rhwng 2025 i 2026 a 2024 i 2025 ar gyfer pob disgybl
  • 18.8% yr un fath â 18.8% rhwng 2025 i 2026 a 2024 i 2025 ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael PYD
  • 8.9% yr un fath â 8.9% rhwng 2025 i 2026 a 2024 i 2025 ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer PYD

Absenoldeb cyson gan ddefnyddio'r trothwy 10%:

  • 32.8% i lawr o 33.0% rhwng 2025 i 2026 a 2024 i 2025 ar gyfer pob disgybl
  • 57.8% i lawr o 58.0% rhwng 2025 i 2026 a 2024 i 2025 ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael PYD
  • 26.5% i lawr o 26.8% rhwng 2025 i 2026 a 2024 i 2025 ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer PYD

Cymariaethau rhwng blynyddoedd academaidd 2018 i 2019 a 2025 i 2026

Absenoldeb cyffredinol:

  • 10.9% i fyny o 6.2% rhwng 2025 i 2026 a 2018 i 2019 ar gyfer pob disgybl
  • 18.8% i fyny o 10.5% rhwng 2025 i 2026 a 2018 i 2019 ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael PYD
  • 8.9% i fyny o 5.3% rhwng 2025 i 2026 a 2018 i 2019 ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer PYD

Absenoldeb cyson gan ddefnyddio'r trothwy 10%:

  • 32.8% i fyny o 17.1% rhwng 2025 i 2026 a 2018 i 2019 ar gyfer pob disgybl
  • 57.8% i fyny o 35.5% rhwng 2025 i 2026 a 2018 i 2019 ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael PYD
  • 26.5% i fyny o 13.4% rhwng 2025 i 2026 a 2018 i 2019 ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer PYD

Absenoldeb cyffredinol

Ffigur 1: canran y sesiynau hanner diwrnod yn absennol o'r ysgol gan ddisgyblion oedran ysgol uwchradd, 2013 i 2014 i 2025 i 2026 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos absenoldeb cyffredinol, absenoldeb awdurdodedig ac absenoldeb heb awdurdod rhwng 2013 i 2014 a 2025 i 2026. Ar ôl gostwng rhwng 2022 i 2023 a 2024 i 2025, mae absenoldeb cyffredinol wedi aros yr un fath, mae absenoldeb awdurdodedig wedi gostwng ac mae absenoldeb anawdurdodedig wedi cynyddu rhwng 2024 i 2025 a 2025 i 2026.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb

[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019 i 2020, 2020 i 2021, 2021 i 2022 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’r blynyddoedd lle mae data yn cael eu nodi gan y marcwyr cylchol ar y llinellau. Dangosir y cyfnod pandemig fel ardal lwyd yn y siart.

Absenoldeb cyson

Mae'r ystadegau prif bwynt yn defnyddio'r trothwy 10%. Mae sesiynau gofynnol yn dibynnu ar y flwyddyn a'r casgliad; nid oes angen i absenoldebau fod yn olynol.

Ffigur 2: canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd yn absennol yn gyson, 2013 i 2014 i 2025 i 2026 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart llinell sy'n dangos absenoldeb cyson (trothwy 10%) ar gyfer pob disgybl, disgyblion sy'n gymwys i gael PYD a disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer PYD rhwng 2013 i 2014 a 2025 i 2026. Ar ôl gostwng rhwng 2022 i 2023 a 2024 i 2025, mae absenoldeb cyson wedi aros yr un fath ar gyfer pob disgybl, ac ar gyfer disgyblion sy’n gymwys ac nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, rhwng 2024 i 2025 a 2025 i 2026.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb

[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019 i 2020, 2020 i 2021, 2021 i 2022 oherwydd pandemig y COVID-19. Mae’r blynyddoedd lle mae data yn cael eu nodi gan y marcwyr cylchol ar y llinellau. Dangosir y cyfnod pandemig fel ardal lwyd yn y siart.

Data

Eleni nid oes taenlen ddogfen agored i gyd-fynd â'r datganiad hwn. Mae'r holl ddata yn y daenlen honno, ynghyd â setiau data presenoldeb ychwanegol, ar gael ar ddiwrnod cyhoeddi yn Disgyblion | StatsCymru. Nid yw data ysgolion arbennig wedi'u cynnwys ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026, fodd bynnag, bydd yn cael ei gynnwys mewn cyhoeddiad presenoldeb uwchradd a chynradd cyfunol yn ddiweddarach eleni.

Manylion cyswllt

Ystadegau ysgolion
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 76/2025

Image