Presenoldeb a chyfranogiad yn y sector ôl16: gwerthusiad o bresenoldeb, cyfranogiad ac arfer darparwyr ledled Cymru - Ymateb Llywodraeth
Ein hymateb i adroddiad ac argymhellion Estyn.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Mae'r adroddiad thematig hwn wedi'i ysgrifennu mewn ymateb i gais am gyngor gan Medr ar ran Llywodraeth Cymru yn eu llythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2025 i 2026.
Mae'r adroddiad yn ystyried presenoldeb a chyfranogiad ymhlith dysgwyr amser llawn rhwng 16 ac 19 oed mewn colegau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ledled Cymru. Diffinnir presenoldeb fel presenoldeb y dysgwr mewn sesiwn wedi'i hamserlennu, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
Canfu'r adroddiad fod darparwyr wedi dechrau cryfhau dulliau o hyrwyddo presenoldeb ac amlygodd mai cryfder nodedig ar draws y rhan fwyaf o ddarparwyr oedd ymddangosiad a datblygiad rolau cymorth arbenigol a mabwysiadu dulliau 'tîm o amgylch y dysgwr'. Canfu'r adroddiad hefyd fod y rhan fwyaf o ddarparwyr yn cydnabod bod perthynas gref rhwng presenoldeb, cyfranogiad a deilliannau dysgwyr.
Canfu'r adolygiad hefyd nad oes dull cenedlaethol cyson o fesur presenoldeb ôl-16 nac adrodd arno ar hyn o bryd, ac o ganlyniad nid yw'r ffigurau presenoldeb yn gwbl gymaradwy ar draws darparwyr. Mewn rhai achosion, nid yw prif ddata presenoldeb yn adlewyrchu presenoldeb corfforol dysgwyr mewn gwersi yn gywir. Mae'r anghysondebau hyn yn lleihau defnyddioldeb data presenoldeb ar gyfer meincnodi, hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.
Mae'r adroddiad yn gwerthuso chwe maes allweddol. Ceir crynodebau byr ohonynt isod:
Crynodeb o'r cyfraddau presenoldeb a chyfranogiad
Gyda’r rhan fwyaf o’r darparwyr, roedd dysgwyr wedi mynychu tua 80% o'r gwersi wedi’u hamserlennu, a nododd mwyafrif o’r darparwyr welliant graddol dros y tair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, ymysg lleiafrif o’r darparwyr, mae presenoldeb yn parhau i fod yn sylweddol is na'r lefelau cyn y pandemig, gyda'r cyfraddau presenoldeb isaf mewn darpariaeth sgiliau gorfodol ac ailsefyll.
Rhwystrau cyffredin rhag presenoldeb cryf
Ar draws darparwyr, nodwyd ystod eang o ffactorau sy’n achosi presenoldeb is. Gyda’r rhan fwyaf o’r darparwyr, priodolwyd absenoldeb i gyfuniad o ffactorau rhyng-gysylltiedig, yn enwedig pryderon lles a diffyg gwytnwch, yn ogystal â rhwystrau cludiant ac ariannol. Pan oedd llai o wybodaeth am bontio i addysg ôl-16, roedd darparwyr hefyd yn llai abl i adnabod dysgwyr sydd mewn perygl o bresenoldeb gwael yn ddigon cynnar.
Dulliau darparwyr o wella presenoldeb
Roedd darparwyr ar eu mwyaf effeithiol yn gwella presenoldeb pan oedd arweinwyr yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer presenoldeb ac yn eu cyfathrebu'n effeithiol. Fodd bynnag, roedd darparwyr yn llai effeithiol pan oedd arweinwyr yn canolbwyntio ar brif ffigurau presenoldeb heb ddadansoddi patrymau yn fanwl, lle nad oeddent yn defnyddio data yn effeithiol, a lle nad oeddent yn gwahaniaethu'n glir rhwng presenoldeb corfforol ac ymgysylltu ehangach.
Profiadau dysgwyr o bresenoldeb a chyfranogiad
Roedd dysgwyr yn teimlo bod cyfuniad o ffactorau yn dylanwadu ar bresenoldeb, gan gynnwys pa mor ddiddorol a pherthnasol oedd gwersi, ansawdd y berthynas â staff, materion amserlennu, cludiant, ymrwymiadau eraill, pryderon lles, argaeledd adnoddau ar-lein ac eglurder disgwyliadau presenoldeb. Roedd rhwystrau ymarferol yn peri pryder arbennig, ac yn arbennig o arwyddocaol i'r rhai sy'n teithio pellteroedd hir neu'n cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws ardaloedd daearyddol eang.
Cymorth a goruchwyliaeth awdurdodau lleol
Mae gan awdurdodau lleol rôl gyfyngedig wrth gefnogi presenoldeb ôl-16 ac maent yn canolbwyntio'n bennaf ar brosesau pontio a chynhwysiant. Mae diffyg data presenoldeb cenedlaethol cyson hefyd yn cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer meincnodi a rhannu arfer effeithiol. Mae polisïau cludiant awdurdodau lleol yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Mae trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â phresenoldeb a’r gwasanaethau cymorth ehangach sydd ar gael hefyd yn amrywio.
Effeithiau presenoldeb ar ddeilliannau dysgwyr
Gyda’r rhan fwyaf o ddarparwyr, roedd presenoldeb rheolaidd yn gysylltiedig â chyfraddau cyrhaeddiad, cadw a dilyniant cryfach. Fodd bynnag, mae gwerthusiad ffurfiol wedi'i dan-ddatblygu mewn llawer o ddarparwyr, ac nid oedd rhai arweinwyr yn dadansoddi'r berthynas rhwng presenoldeb a deilliannau yn systematig, gan gyfyngu ar eu gallu i nodi dulliau effeithiol o wella cyfraddau presenoldeb, cadw a deilliannau dysgwyr dros amser.
Dylai darparwyr:
A1. gryfhau eu dull strategol i wella presenoldeb, yn cynnwys gwneud defnydd effeithiol o ddata i nodi tueddiadau ac achosion presenoldeb isel.
A2. gwahaniaethu’n glir rhwng presenoldeb corfforol, absenoldeb awdurdodedig a chyfranogiad dysgwyr mewn dysgu arall wedi’i amserlennu, yn cynnwys gwersi a gyflwynir o bell, wrth gofnodi presenoldeb.
A3. gosod a rhannu disgwyliadau uchel ar gyfer mynychu wyneb yn wyneb i bob dysgwr.
A4. adolygu cynllunio’r cwricwlwm ac amserlennu mewn meysydd lle mae presenoldeb yn gyson wannach i sicrhau bod darpariaeth yn berthnasol, yn hygyrch ac yn cefnogi lefelau presenoldeb uchel.
A5. cydweithio ag awdurdodau lleol, darparwyr ac asiantaethau eraill i wella rhannu gwybodaeth bontio am bresenoldeb ac anghenion cymorth blaenorol dysgwyr, a’u rhwystrau rhag ymgysylltu.
Ymateb Llywodraeth Cymru:
Mae cyfrifoldeb ar ddarparwyr i fonitro presenoldeb ac ymgysylltiad dysgwyr, ac i nodi ac ymateb i anghenion cymorth sy'n dod i'r amlwg a rhwystrau rhag ymgysylltu.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gwrdd â chynrychiolwyr o Colegau Cymru i ystyried sut y gallwn wella arferion rhannu gwybodaeth rhwng ysgolion a cholegau.
Byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unrhyw waith sy'n cael ei ysgwyddo gael ei ddatblygu ar y cyd ac mewn partneriaeth â rhanddeiliaid perthnasol, gan ystyried cymesuredd, goblygiadau cyflawni a'r manteision posibl i ddysgwyr.
Dylai Medr:
A6. weithio gyda’r sector i safoni disgwyliadau ar gyfer cofnodi ac adrodd am bresenoldeb a chyfranogiad yn y sector ôl-16, yn cynnwys diffiniadau cyffredin, codau presenoldeb a threfniadau adrodd, i gefnogi cymhwyso polisïau presenoldeb darparwyr yn gyson, gan gynnwys disgwyliadau’n ymwneud â chymhwyster a thaliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
A7. gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr i gyhoeddi data presenoldeb cenedlaethol ôl-16 i gefnogi meincnodi, gwerthuso a gwelliant parhaus.
A8. hwyluso rhannu arfer effeithiol ar draws y sector, yn enwedig o amgylch defnydd data, cymorth bugeiliol a dulliau sy’n cysylltu presenoldeb, lles ac ymgysylltu.
Ymateb Llywodraeth Cymru:
Mae gan Medr rôl i’w chwarae wrth ddarparu arweinyddiaeth ac annog cydweithio a chydlyniant ar draws y sector addysg drydyddol, ac ysgogi gwelliannau parhaus i ddysgwyr.
Byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unrhyw waith a wneir gael ei ddatblygu mewn partneriaeth â darparwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys ystyried cymesuredd, goblygiadau cyflawni a'r manteision posibl i ddysgwyr.
Dylai Llywodraeth Cymru:
A9. weithio gyda Medr i adolygu trefniadau cludiant a chymorth ariannol sy’n effeithio ar fynediad at ddarpariaeth ôl-16, yn enwedig ar draws ffiniau awdurdodau lleol ac mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
A10. gweithio gyda Medr a darparwyr i gyhoeddi data presenoldeb cenedlaethol ôl-16 i gefnogi meincnodi, gwerthuso a gwelliant parhaus.
Ymateb Llywodraeth Cymru:
A9. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae trefniadau cludiant a chymorth ariannol yn ei chwarae wrth alluogi mynediad cyfartal at gyfleoedd addysg a hyfforddiant ôl-16.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y Cynllun Tocynnau Pobl Ifanc i wneud trafnidiaeth yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc, a byddwn yn tynnu ar dystiolaeth o'i werthusiad i gryfhau ein dealltwriaeth o'r rôl y gall trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ei chwarae wrth gefnogi cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.
Byddwn yn gweithio gyda Medr, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid cyflenwi allweddol eraill i ystyried sut y gall ymyriadau a rhwydweithiau trafnidiaeth alluogi mynediad at ddarpariaeth ôl-16 yn well. Mae'r Rhaglen Diwygio Bysiau yn rhoi cyfle sylweddol i ymgysylltu'n uniongyrchol â darparwyr addysg bellach a dysgwyr i helpu i lunio rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n cefnogi mynediad at gyfleoedd addysg a hyfforddiant ledled Cymru, yn enwedig pan fydd dysgwyr yn teithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol neu i gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Bydd y gwaith hwn yn rhan o'n rhaglen ehangach o wella trefniadau teithio dysgwyr a bydd yn cael ei lywio gan drafodaethau â rhanddeiliaid, tystiolaeth a gesglir drwy ein gwaith parhaus gyda'r sector, ac ystyriaeth o rwystrau a brofir gan ddysgwyr a theuluoedd.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026 i 2027, mae trothwyon incwm aelwydydd LCA wedi'u cynyddu, gan alluogi tua 1,500 yn ychwanegol o bobl ifanc i fod yn gymwys i gael cymorth. Byddwn yn adolygu trothwyon LCA ac yn gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod pob dysgwr cymwys yn ymwybodol o LCA ac yn gwneud cais amdano.
A10. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Medr a darparwyr i ystyried dichonoldeb, manteision a goblygiadau ymarferol sefydlu setiau data presenoldeb cenedlaethol a threfniadau adrodd sy'n cefnogi meincnodi, hunanwerthuso a gwelliant parhaus tra'n lleihau'r baich diangen ar ddarparwyr.
Dylai awdurdodau lleol:
A11. weithio gydag ysgolion, colegau, awdurdodau lleol eraill a phartneriaid i wella rhannu gwybodaeth yn y cyfnod pontio a mynd i’r afael â rhwystrau rhag mynychu, yn enwedig mewn cysylltiad â materion cludiant.
Ymateb Llywodraeth Cymru:
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu Argymhelliad 11. Mae pontio o addysg orfodol i addysg a hyfforddiant ôl-16 yn gyfnod allweddol yn nhaith ddysgu person ifanc pan fydd yn gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch ble a sut y bydd yn parhau â'i addysg, gan gynnwys a fydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen i ddysgwyr gael mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad amserol am opsiynau trafnidiaeth wrth ddewis eu hastudiaethau ôl-16 ac mae angen cydweithio rhwng ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i gefnogi hyn.
Mae cynllunio ôl-16 yn elfen graidd o'r hawl i ddysgu 14 i 16, a dylai pob ysgol sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynghori'n llawn ac yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu cyfnod pontio ôl-16, gan gynnwys cael digon o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael mewn sefydliadau addysg bellach a darparwyr ôl-16 eraill.
Gyda chefnogaeth £1.135m o gyllid Llywodraeth Cymru (wedi'i ddyrannu i golegau gan Medr), mae Prentisiaethau Iau amser llawn yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr sydd mewn perygl o ddatgysylltu drwy roi profiad galwedigaethol ymarferol i ddysgwyr 14 i 16 oed mewn lleoliad coleg. O 2027 ymlaen, bydd cyflwyno TAAU yn gwella ymwybyddiaeth o lwybrau galwedigaethol a chyflogaeth. Er eu bod wedi'u cynllunio i’w cyflawni yn yr ysgol, mae cyfle i ysgolion a cholegau gydweithio i ddarparu dysgu galwedigaethol diddorol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gwrdd â chynrychiolwyr o Colegau Cymru i ystyried sut y gallwn wella rhannu gwybodaeth rhwng ysgolion a cholegau. Er enghraifft, mae'r llywodraeth ar hyn o bryd yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru, y Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr a CBAC i sicrhau bod gan golegau fynediad at ddata canlyniadau arholiadau modiwlaidd i helpu i gyflwyno dysgwyr newydd o hydref 2027 ymlaen.
Manylion cyhoeddi
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn ac fe'i cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2026.
