Neidio i'r prif gynnwys

Ynglŷn

Mae penodiad a swyddogaethau'r Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) wedi'u nodi yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae adran 22 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynghorydd Cenedlaethol baratoi adroddiad blynyddol ar sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol. Prif swyddogaeth y rôl yw cynghori Gweinidogion Cymru a'u cynorthwyo i ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf a materion cysylltiedig. 

Rhaid i'r adroddiad blynyddol nodi cyflawniadau'r Cynghorydd Cenedlaethol yn erbyn y blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ac unrhyw weithgareddau perthnasol eraill. 

Crynodeb gweithredol

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn adolygu'r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Blynyddol rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026. Yn ystod y cyfnod hwn roedd dau Gynghorydd Cenedlaethol yn rhannu'r swydd cyn trosglwyddo'n ddiweddarach i un Cynghorydd Cenedlaethol. Yn ystod y flwyddyn, canolbwyntiodd y gwaith ar gryfhau ymateb system gyfan a Chymru gyfan i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn seiliedig ar brofiad goroeswyr, arbenigedd sector arbenigol ac uchelgeisiau statudol Deddf VAWDASV (Cymru) 2015.

Yn ystod y flwyddyn, gwelwyd ymgysylltiad cryfach ym meysydd iechyd, addysg, diogelu, tai, cydlyniant cymdeithasol, trafnidiaeth, cyfiawnder troseddol a pholisi'r DU. Gwnaed cynnydd o ran cynnwys VAWDASV mewn agendâu polisi ehangach, cynyddu lefelau craffu drwy strwythurau goroeswyr a sector arbenigol, a chryfhau cynrychiolaeth Cymru mewn datblygiadau yn y DU. Ar yr un pryd, roedd heriau sylweddol yn parhau, gan gynnwys pwysau ar wasanaethau arbenigol, darpariaeth leol anghyson, ansicrwydd o ran cyllid, prinder data cenedlaethol a'r angen am atebolrwydd cliriach ymhlith cyrff cyhoeddus.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod yn rhaid i gam nesaf y gwaith symud o ymrwymiad eang i raglen benodol o dystiolaeth, cyngor, craffu ac atebolrwydd. Bydd cynllun blynyddol 2026 i 2027 yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd drwy adolygu darpariaeth cyrff cyhoeddus, gwella data a thystiolaeth, cryfhau cysondeb ar draws y llywodraeth gyfan a chadw llais goroeswyr ac arbenigedd sector arbenigol yn ganolog i gamau gweithredu yn y dyfodol.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn crynhoi gwaith Yasmin Khan a Johanna Robinson fel Cynghorwyr Cenedlaethol ac yn adrodd ar gynnydd yn erbyn ein cynllun blynyddol ar gyfer 2025 i 2026. Mae hyn yn cynnwys y saith mis olaf o waith fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar y cyd. Yn dilyn proses benodi newydd, dechreuais i, Johanna Robinson, weithio fel yr unig Gynghorydd Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2025. Rwy'n ddiolchgar iawn fyd mod yn cael parhau yn y rôl ac adnewyddu fy ymrwymiad i ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. 

Parhaodd ein ffocws ar roi'r Ddeddf a'r strategaeth genedlaethol ar waith yn effeithiol trwy ymateb system gyfan a Chymru gyfan. Gwnaethom weithio gyda Gweinidogion, adrannau’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus, goroeswyr, gwasanaethau arbenigol a phartneriaid yn y DU i gryfhau gwasanaethau atal, amddiffyn, cefnogi ac atebolrwydd cyflawnwyr.

Roedd profiad goroeswyr ac arbenigedd y sector arbenigol yn ganolog o hyd. Cefnogodd y Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr Cenedlaethol waith craffu ar draws strwythurau’r Glasbrint, tra bod y Grŵp Cyfeirio Arbenigol wedi darparu her a llwybr i bartneriaid godi arfer da, pwysau ar wasanaethau a bylchau. Mae'r sector arbenigol yn parhau i fod yn hanfodol o ran cymorth dibynadwy, arloesedd a gwelliannau i systemau, a rhaid gwerthfawrogi ei gyfranogiad a darparu adnoddau ar gyfer hynny.

Yn ystod y flwyddyn, lluniwyd cysylltiadau cryfach rhwng VAWDASV a meysydd iechyd, addysg, diogelu, tai, cydlyniant cymdeithasol, trafnidiaeth, atal hunanladdiad a chyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, mae cynnydd yn parhau i fod yn anghyson. Mae ansicrwydd o ran cyllid yn parhau i effeithio ar wasanaethau craidd; mae angen mwy o gysondeb o ran comisiynu a darparu gwasanaethau lleol; mae data cenedlaethol yn parhau i fod yn brin; ac mae angen cydlynu mewn achosion lle mae gwasanaethau datganoledig yn rhyngweithio â pholisi a chyfraith a gedwir yn ôl.

Y cyd-destun strategol a deddfwriaethol

Yn ystod y flwyddyn hon bu rhai datblygiadau deddfwriaethol a pholisi pwysig. Ni fydd deddfwriaeth yn dod â newid ar ei phen ei hun a bydd angen i ni weld sut mae'n gweithio i wybod a fydd y newidiadau a ddymunir yn digwydd. Yn ogystal â mynychu pob fforwm strategol perthnasol yng Nghymru, rwy'n aelod o Fwrdd Cynghori ar Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched y DU. Rwy'n un o blith dim ond dau yng Nghymru sy'n mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd ac rwy'n gweithio'n galed i roi sylw i brofiadau, arbenigedd ac anghenion Cymru yn y trafodaethau a'r gwaith gweithredu. 

Datblygiadau deddfwriaeth a pholisi'r DU

Cafodd fframwaith Trais yn Erbyn Menywod a Merched blaenorol y DU ei ddisodli gan y Strategaeth drawslywodraethol ar ryddid rhag trais a chamdriniaeth, sef uchelgais deng mlynedd i haneru trais yn erbyn menywod a merched, a gefnogir gan gynllun gweithredu sydd wedi'i rannu'n dri philer: atal, erlid troseddwyr yn ddi-baid a chymorth. Mae'n berthnasol i swyddogaethau a gedwir yn ôl, gan gynnwys cyfiawnder troseddol, plismona, cyflogaeth a diogelwch ar-lein, ac i gyrff y DU sy'n gweithio yng Nghymru, ond nid yw'n disodli strategaeth VAWDASV Cymru. Newidiodd rhywfaint o weithgarwch o fod ar gael ledled y DU, gan gynnwys y Gronfa Plant y mae Cam-drin yn Effeithio Arnynt (CADA), i fod ar gael yn Lloegr yn unig drwy'r Adran Addysg, gan greu anfanteision i Gymru. Mae'r strategaeth yn uchelgeisiol, ond mae'r adnoddau ar ei chyfer yn parhau i fod yn aneglur.

Ymrwymodd y strategaeth i nifer o newidiadau deddfwriaethol, yn ychwanegol at y rhai a oedd eisoes wedi'u pasio ac wedi'u cynllunio i'w rhoi ar waith ar gyfer y flwyddyn hon. 

Peilot Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig

Roedd y peilot hwn, a roddwyd ar waith mewn sawl ardal, gan gynnwys Gogledd Cymru, yn profi'r fframwaith newydd ar draws llwybrau troseddol, teuluol a sifil, gan lywio prosesau gweithredu yn y dyfodol a chysylltiadau â gwasanaethau arbenigol, tai, gwasanaethau plant a diogelu. Mae cynlluniau ar droed i'w gyflwyno ledled Cymru a Lloegr.

Dechrau darpariaethau Deddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024

Rhoddwyd rhagor o ddarpariaethau ar waith yn ystod y flwyddyn. Roedd adran 17 wedi gwneud telerau cyfrinachedd yn ddi-rym lle maent yn atal dioddefwyr, neu'r rhai sy'n credu'n rhesymol eu bod yn ddioddefwyr, rhag datgelu ymddygiad troseddol i'r heddlu, cyfreithwyr neu ddarparwyr cymorth i ddioddefwyr.

Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025

Ychwanegodd adran 138 droseddau at Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 am greu'n fwriadol, neu ofyn am, ddelwedd bersonol honedig o oedolyn heb gydsyniad neu gred resymol ei fod wedi rhoi cydsyniad, gan ehangu cyfraith droseddol ar gam-drin gan ddefnyddio delweddau personol a alluogir gan AI.

Canllawiau statudol Ymgyrch Encompass

Roedd y canllawiau statudol wedi ffurfioli dyletswydd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr i hysbysu lleoliad addysg plentyn ar ôl ymateb i ddigwyddiad cam-drin domestig yng nghartref y plentyn. Roedd y ddyletswydd hon eisoes wedi'i sefydlu yn ardaloedd heddluoedd Cymru.

Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025

Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd pob cam rhesymol i atal aflonyddu rhywiol. Mae hefyd yn mynd i'r afael ag aflonyddu gan drydydd parti, yn diogelu datgeliadau am aflonyddu rhywiol ac yn cyfyngu ar gyfrinachedd cytundebol mewn achosion o aflonyddu neu wahaniaethu. Trefnodd Llywodraeth Cymru a thîm y Glasbrint gyfres o gynadleddau arweinyddiaeth i gefnogi ymarfer a mesurau amddiffyn gwell. 

Deddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus 2023

Creodd y Ddeddf hon drosedd o aflonyddu, braw neu ofid bwriadol yn seiliedig ar ryw neu ryw dybiedig person.

Datblygiadau polisi yng Nghymru

Newidiadau polisi a gweithredu yn hytrach na dyletswyddau statudol newydd oedd y datblygiadau perthnasol yng Nghymru.

Dechreuodd Medr ymgyngoriadau ar ddull rheoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys amodau cofrestru a chyllido sy'n gysylltiedig â lles a chyfle cyfartal. Ymatebais, gan ofyn am ofynion ynghylch data, cymorth ac adrodd ar aflonyddu, camymddwyn a thrais rhywiol.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ganllawiau statudol ar gyfer strategaethau VAWDASV lleol, gan ddisodli canllawiau anstatudol 2018 â chanllawiau adran 15 o dan Ddeddf VAWDASV (Cymru) 2015. Roedd y cynigion yn cynnwys atebolrwydd cliriach, rolau partneriaeth cryfach, trefniadau rhannu data ac asesu anghenion gwell, a mwy o gyfranogiad gan y sector arbenigol a goroeswyr.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Strategaeth ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036 a chynllun cyflawni ar gyfer 2026 i 2029. Mae'r strategaeth yn pennu dull hirdymor, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n ystyriol o drawma, ar gyfer atal, ymyrraeth gynnar, gallu proffesiynol, cymorth i blant a phobl ifanc, a chymorth i oroeswyr sy'n oedolion, gyda pherthnasedd clir i wasanaethau arbenigol, diogelu a pholisi trais rhywiol.

Nod a blaenoriaethau'r cynllun blynyddol

Ein nod ar gyfer 2025 i 2026 oedd:

  • Gweithio gyda phob rhanddeiliad i sicrhau bod y Ddeddf a'r Strategaeth yn cael eu rhoi ar waith yn y ffordd fwyaf effeithiol fel bod gennym ymateb system gyfan a Chymru gyfan sy'n gweithio tuag at ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau bod y nod hwn yn cael ei gyflawni, gwnaethom nodi'r blaenoriaethau canlynol:

  • Helpu i gyflawni'r uchelgais a'r gwaith sydd ei angen ar draws Llywodraeth Cymru gan sicrhau bod camau gweithredu trawslywodraethol yn cael eu cymryd yn seiliedig ar wybodaeth.
  • Ymgysylltu â phob rhanddeiliad a pharhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Gweinidogion a thîm cyflawni'r Glasbrint i wella profiad dioddefwyr a goroeswyr a thynnu sylw at fylchau a phrofiadau gwael mewn gwasanaethau.
  • Gweithio gyda'r sector arbenigol yng Nghymru i dynnu sylw at ei waith, y meysydd ymarfer sy'n dod i'r amlwg a'r heriau a brofir fel gwasanaethau hanfodol i oroeswyr ac eiriol dros fwy o gyllid cynaliadwy.
  • Parhau i atgyfnerthu'r angen i sicrhau bod ymateb system gyfan yn cynnwys atal, cyflawni a gwasanaethau a arweinir gan oroeswyr.
  • Parhau i ymgysylltu â goroeswyr a gwasanaethau arbenigol i lywio ein cynrychiolaeth, ein cyngor a'n heiriolaeth a sicrhau eu bod yn seiliedig ar brofiad arbenigol a dealltwriaeth o'r ddarpariaeth gyfredol. Byddwn yn gwneud ymdrech benodol i sicrhau ein bod yn mabwysiadu dull croestoriadol, ac yn adlewyrchu'r profiadau a'r heriau ychwanegol sy'n wynebu goroeswyr lleiafrifol.
  • Ymgymryd ag ymchwil a gwaith i lywio ein cyngor i Weinidogion, swyddogion/adrannau Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ynghylch eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf am atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.
  • Darparu cynrychiolaeth gyda llywodraeth y DU, gan sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau Cymru yn cael eu cynnwys mewn polisïau a gwaith cynllunio, yn enwedig lle gallwn ddangos canlyniadau gwell i ddioddefwyr a goroeswyr. Un enghraifft o hyn yw ein gwaith i arfer ein proses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl a gyflawnir drwy weithio ledled Cymru gyfan.
  • Cefnogi'r angen i ehangu capasiti a datblygu modelau darparu gwasanaeth arloesol sy'n diwallu anghenion amrywiol goroeswyr ledled Cymru.

Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau

Gwnaethom gyflawni'r gweithgarwch canlynol i wneud cynnydd yn erbyn ein nod a'n blaenoriaethau.

Arweinyddiaeth drawslywodraethol a gwasanaethau cyhoeddus

Parhaodd y Cynghorwyr Cenedlaethol i bwyso am ymateb gan y llywodraeth gyfan. Cafwyd cyfle i ymgysylltu â gweision sifil, yn enwedig arweinwyr, yn y digwyddiad “Sgwrs gyda'r Cynghorwyr Cenedlaethol” ac roedd cyflwyniadau mewn cynadleddau aflonyddu yn y gweithle a'r Uwchgynhadledd Arweinwyr Cyhoeddus wedi atgyfnerthu cyfrifoldeb cyrff cyhoeddus i fynd i’r afael â VAWDASV fel mater sy'n berthnasol i’r gweithlu, gwasanaethau a diogelu’r cyhoedd.

Iechyd, diogelu a phlant

Parhaodd y gwaith ar y Cynllun Iechyd Menywod i wthio am gynnydd ar gamau VAWDASV. Datblygwyd cysylltiadau rhwng VAWDASV, hunanladdiad a hunan-niweidio ar ôl ystyried gwersi a ddysgwyd o adolygiadau o lofruddiaethau domestig a gwyliadwriaeth ar achosion a amheuir o hunanladdiad. Parhaodd y Cynghorwyr hefyd i ymgysylltu â'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl ac eiriol dros VAWDASV fel rhan o drefniadau llywodraethu diogelu ehangach. Hyrwyddwyd cysondeb rhwng strategaethau VAWDASV a cham-drin plant yn rhywiol, ochr yn ochr â gwaith gyda thimau blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Addysg, rheoleiddio trydyddol a Medr

Roedd ymgysylltiad parhaus â'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, swyddogion polisi a Medr wedi helpu i gynnwys VAWDASV o fewn y system reoleiddio sy'n datblygu ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru. Cyfrannodd y Cynghorydd Cenedlaethol drwy ymgyngoriadau, cyfarfodydd a phapurau safbwynt a gweithiodd gyda Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinwyr gwasanaethau myfyrwyr ar fframwaith a phecyn cymorth asesu VAWDASV. Mae'r fframwaith hwn yn cynnig cyfle i ddarparwyr asesu a gwella eu trefniadau. Byddaf yn parhau i weithio gyda Medr yn ystod y flwyddyn nesaf i fonitro'r datblygiadau a chefnogi gwelliannau yn ôl yr angen. 

Goroeswyr, gwasanaethau arbenigol a mynediad at gymorth

Mae gan y Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr Cenedlaethol 10 aelod gyda phrofiadau ac arbenigedd amrywiol. Cefnogwyd yr aelodau i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Glasbrint a chodi cwestiynau am atal a gwasanaethau â digon o adnoddau. Roedd gwaith ymgysylltu ehangach yn cynnwys profiadau o'r llys teulu a rhwystrau sy'n effeithio ar oroeswyr a staff Du a lleiafrifol. Cododd darparwyr arbenigol bryderon ynghylch gwasanaethau a chomisiynu drwy'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol a chanolbwyntiodd trafodaethau ar y Grant Cymorth Tai, Ar Trac, CADA a Rhaglen Gwasanaethau Ymosodiad Rhywiol Cymru. Mynychais gynadleddau, gweithdai a digwyddiadau a drefnwyd gan bartneriaid yn y sector arbenigol sy'n arddangos eu gwaith, yn codi proffil materion yn y gymuned ac yn cynnig cyfleoedd cydweithio cymunedol sylweddol i wireddu ein nodau cyffredin. 

Gwasanaethau ymosodiad rhywiol

Codwyd pryderon ynghylch newidiadau llywodraethu sy'n effeithio ar Raglen Gwasanaethau Ymosodiad Rhywiol Cymru gyda Gweinidogion, swyddogion a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru er mwyn cynnal y ffocws ar oroeswyr a chwmpas y rhaglen.Mae hwn wedi bod yn faes o risg sylweddol ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae'n parhau i fod yn bryder ac yn flaenoriaeth.

Tai, cymunedau a mannau cyhoeddus

Roedd gwaith agosach gyda thimau tai, camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder teuluol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant wedi cyfrannu at gyllid parhaus i Ar Trac, diwygiadau i ganllawiau'r Grant Cymorth Tai a chanllawiau mynediad Dechrau'n Deg ar gyfer y sector arbenigol. Sicrhawyd cynrychiolaeth VAWDASV o fewn gwaith cydlyniant cymdeithasol, gyda materion rhywedd-benodol yn cael eu hadlewyrchu yn yr argymhellion terfynol. Roedd y cydweithio â Thrafnidiaeth Cymru yn cynnwys cynllunio diogelwch, canllawiau ar deithio llesol a diogelwch menywod, a gweithdy cerdded drwy'r safle yn nherfynfa bysiau Caerdydd.

Partneriaethau ac ymgysylltu ehangach

Mae cynrychioli a chynnwys VAWDASV yn hanfodol fel Cynghorydd Cenedlaethol. Mae gwella'r berthynas â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynydd Plant a'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn helpu i sicrhau ein bod yn gweithio'n gyda'n gilydd ar flaenoriaethau ar y cyd. Hefyd gall mynychu digwyddiadau bord gron, rhwydweithiau a chynadleddau ar feysydd fel Cynhadledd Ysbrydoli ar gyfer Arweinwyr yn y System Gyfiawnder ysgogi perthnasedd a syniadau i bobl sy'n gweithio mewn mannau lle mae cam-drin yn digwydd ond nad yw o bosibl yn rhan o ffocws canolog y gwaith. 

Cynrychiolaeth yn y DU ac yn ehangach

Cynrychiolwyd safbwyntiau Cymru drwy Fwrdd Cynghori ar Strategaeth VAWG y DU, cyfarfodydd â Gweinidogion a swyddogion, ymgysylltiad chwarterol â'r Comisiynydd Cam-drin Domestig a thrafodaethau â chomisiynwyr yn canolbwyntio ar gyfiawnder troseddol. 

Tystiolaeth, data a mesur effaith

Roedd datblygu Dangosyddion Cenedlaethol yn parhau i fod yn anodd am nad oes llawer o ddata addas a chyson ar gael. Mae angen set ddata sylfaenol ar gyfer asesiadau o anghenion a strategaethau lleol VAWDASV, gan gyfuno cyffredinrwydd, galw, mynediad, canlyniadau, daearyddiaeth, nodweddion gwarchodedig a phenderfynyddion cymdeithasol gyda thystiolaeth gan oroeswyr a'r sector arbenigol. Comisiynwyd gwaith i gyfrannu at hyn ond ni fodlonwyd y gofynion llawn. Cyflwynais sylwadau ar gyfer y gwaith hwn ac awgrymiadau i'w cynnwys. Rhaid gwella ar y gwaith hwn fel mater o bryder.

Heriau allweddol a gwersi a ddysgwyd

Atgyfnerthodd y flwyddyn fod cynnydd yn dibynnu ar arweinyddiaeth barhaus, darpariaeth gyson gan gyrff cyhoeddus a gwasanaethau arbenigol sy'n gallu bodloni'r galw. Mae ymrwymiad partneriaid yn amlwg, ond mae camau gweithredu yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Mae goroeswyr yn parhau i wynebu rhwystrau i ddiogelwch, cyfiawnder ac adferiad, yn enwedig lle mae gwasanaethau'n dameidiog, lle mae llwybrau'n aneglur neu lle nad oes darpariaeth ar gael pan fo angen.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at yr angen am sail dystiolaeth gryfach. Heb ddata cenedlaethol a lleol mwy cyson, mae'n anodd asesu a yw ymrwymiadau polisi yn gwella canlyniadau i oroeswyr, yn lleihau niwed neu'n newid ymddygiad cyflawnwyr. Felly, rhaid i waith yn y dyfodol gyfuno data meintiol â thystiolaeth gan oroeswyr, gwybodaeth o'r sector arbenigol a gwersi a ddysgwyd o adolygiadau, gwaith craffu ac ymarfer.

Edrych i'r dyfodol: blaenoriaethau ar gyfer 2026 i 2027

Bydd cynllun blynyddol 2026 i 2027 yn ymateb i'r heriau a nodwyd yn yr adroddiad hwn drwy ganolbwyntio ar dystiolaeth, cyngor, gwaith craffu ac atebolrwydd. Bydd yn cefnogi dealltwriaeth gliriach o'r hyn sy'n cael ei gyflawni ar draws Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus, yn gwella cysondeb â meysydd polisi perthnasol ac yn cryfhau'r wybodaeth sydd ar gael i Weinidogion, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid.

Bydd cam nesaf y gwaith hefyd yn parhau i ganolbwyntio'n glir ar lais goroeswyr, arbenigedd y sector arbenigol ac ymarfer croestoriadol. Mae hyn yn cynnwys herio bylchau mewn darpariaeth leol, comisiynu, atal, atebolrwydd cyflawnwyr a mynediad at gymorth, gan barhau i eiriol dros ymateb system gyfan a all wneud cynnydd mesuradwy tuag at uchelgeisiau Deddf VAWDASV.

Casgliad

Mae'r flwyddyn hon wedi dangos cryfder a her ymateb Cymru i VAWDASV. Mae cysondeb cliriach rhwng meysydd polisi, ymgysylltiad cryfach â datblygiadau yn y DU ac ymrwymiad parhaus gan oroeswyr, gwasanaethau arbenigol a chyrff cyhoeddus. Fodd bynnag, mae maint yr angen, y pwysau ar wasanaethau ac anghysondeb y ddarpariaeth yn dangos nad yw uchelgais ar ei ben ei hun yn ddigon.

Mae Llywodraeth newydd Cymru, a ffurfiwyd ym mis Mai 2026, yn gyfle pwysig i adnewyddu arweinyddiaeth wleidyddol ac ymrwymiad y llywodraeth gyfan i uchelgeisiau Deddf VAWDASV. Mae ei hymrwymiad i ddull system gyfan a chymdeithas gyfan sy'n canolbwyntio ar y goroeswr yn cyd-fynd â'r gwersi a ddysgwyd o'r adroddiad hwn a'r angen parhaus i sicrhau bod atal, amddiffyn, cymorth ac atebolrwydd cyflawnwyr yn cael eu gwreiddio ar draws y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau. Mae cynllun blynyddol 2026 i 2027 yn ymateb yn uniongyrchol i'r heriau hyn drwy symud o ymrwymiad eang i raglen fwy penodol o dystiolaeth, cyngor, craffu ac atebolrwydd. Bydd y camau nesaf yn hyrwyddo uchelgeisiau’r Ddeddf ymhellach drwy gryfhau trefniadau cyflawni llywodraeth gyfan a system gyfan, adolygu sut mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, gwella’r cysondeb â phartneriaid iechyd, addysg, diogelu a phartneriaid strategol eraill, a datblygu data a chyngor thematig gwell i lywio polisi ac ymarfer.

Fel yr unig Gynghorydd Cenedlaethol, byddaf yn parhau i ddefnyddio barn annibynnol i gryfhau llais goroeswyr, herio bylchau yn y ddarpariaeth a chefnogi ymateb system gyfan a all wneud cynnydd mesuradwy tuag at ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.