Dadansoddiad data recriwtio penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru: 2026
Adroddiad y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar amrywiaeth ddemograffig ymgeiswyr a phenodiadau cyhoeddus.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu data bob blwyddyn i Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (OCPA). Mae’r data hyn yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2025/26 ac maent yn dod o ddata recriwtio sydd wedi’u storio yn Cais (System Recriwtio Llywodraeth Cymru). Yna mae Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn defnyddio’r data hyn i gynhyrchu adroddiad blynyddol, sy’n cynnwys dadansoddiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r adroddiadau blaenorol ar gael yma: Adroddiadau blynyddol - Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried poblogaeth Cymru yn benodol wrth archwilio amrywiaeth ddemograffig yr ymgeiswyr a’r rhai a benodir i benodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n archwiliad manylach a dyfnach o’r data a geir yn Cais. O ganlyniad, dim ond y penodiadau cyhoeddus a broseswyd gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio system recriwtio Cais sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, ac mae’n bosibl nad yw hynny’n cynnwys pob penodiad cyhoeddus yng Nghymru.
Methodoleg
Ffynhonnell a chwmpas y data
Cynhyrchwyd y data ar gyfer yr adroddiad hwn drwy ryngweithio’r ymgeiswyr â llwyfan recriwtio Llywodraeth Cymru, sef Cais. Wrth i ymgeiswyr roi eu manylion personol a symud ymlaen drwy’r broses recriwtio, cafodd eu data eu casglu’n awtomatig yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd.
Nid yw’r ceisiadau hynny am benodiadau cyhoeddus na chawsant eu prosesu drwy Cais wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Felly, dim ond data o ymarferion recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2025/26 y mae’r adroddiad hwn yn eu defnyddio. Yn yr un modd, dylid pwysleisio mai dim ond ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Nid yw’n cynnwys aelodau presennol byrddau.
Roedd darparu gwybodaeth bersonol yn ddewisol, a gallai’r ymgeiswyr ddewis peidio â darparu manylion am eu nodweddion personol. At ddibenion dadansoddi’r nodweddion demograffig dewisol, cafodd y rhai a ddewisodd “mae’n well gennyf beidio â dweud” eu dileu. Mae cyfran yr ymgeiswyr hynny yr oedd yn well ganddynt beidio â rhoi eu manylion wedi’i chynnwys fel troednodyn ym mhob adran.
Echdynnu data a samplu
Ym mis Mai 2026, cafodd y data o Cais eu hechdynnu. Cafodd 697 o geisiadau eu hechdynnu o Cais. O blith y rhain, cafodd pedwar eu tynnu’n ôl ar y cam ymgeisio neu’r cam cyfweld. Felly, cafodd 693 o geisiadau eu cynnwys yn y dadansoddiad terfynol. Tynnwyd unrhyw nodweddion adnabod personol o’r set ddata hon cyn iddi gael ei throsglwyddo i’w dadansoddi.
Roedd y data a ddadansoddwyd yn cynnwys nodweddion personol yr ymgeiswyr, a’r camau y gwnaethant eu cyrraedd yn y system recriwtio. I ddadansoddi’r data, mae rhai categorïau wedi cael eu grwpio, fel ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol. Mae hyn yn unol â’r dull a ddefnyddir i gelu data (mae’r broses o gelu data yn cael ei rhoi ar waith pan fydd categori neu opsiwn ymateb yn cynnwys pump neu lai o unigolion) er mwyn sicrhau nad oes modd adnabod ymgeiswyr unigol drwy’r dadansoddiad hwn. Yn benodol, cafodd yr ymgeiswyr eu grwpio fel a ganlyn:
- Pobl 16–34 oed, 35–44, 45–54, 55–64 a 65 oed a hŷn
- Gwrywaidd, benywaidd ac arall (sy’n cynnwys anneuaidd)
- Anabl neu ddim anabledd wedi’i ddatgan (os nad oedd unigolyn wedi ateb y cwestiwn hwn, roeddent yn cael eu categoreiddio fel rhywun heb anabledd)
- Ymgeiswyr gwyn ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig
- Heterorywiol, Hoyw/Lesbiaidd a Deurywiol/Arall
- Cristnogaeth, Anffyddiaeth/Dim Crefydd a Chrefyddau Eraill (gan gynnwys Bwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Sikhiaeth ac Islam)
Dim ond data ymgeiswyr a gyflwynodd eu ceisiadau am swyddi rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 a ddadansoddwyd yn yr adroddiad hwn. Ni chafodd ceisiadau anghyflawn, ceisiadau na chawsant eu cyflwyno na cheisiadau dyblyg eu cynnwys yn y data a gafodd eu hechdynnu.
Dylid nodi bod y data a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar geisiadau, yn hytrach na nodi pwy oedd yr ymgeiswyr. Felly, bydd unigolion a wnaeth gais am sawl penodiad cyhoeddus yn 2025/26 wedi cael eu cynnwys sawl gwaith.
Lle bo’n berthnasol, defnyddiwyd ffynonellau data allanol i feincnodi proffiliau ymgeiswyr â phoblogaeth Cymru. Daeth y data poblogaeth o StatsCymru, gan ddefnyddio’r ystadegau swyddogol diweddaraf oedd ar gael. Mae’n bosibl na fydd modd cymharu’r mesurau ymgeiswyr a phoblogaeth yn uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau mewn cwmpas oedran, geiriad cwestiynau, categorïau ymateb a dulliau casglu data.
Y dadansoddiad
Ar ôl i’r data gael eu hechdynnu a’u grwpio, cawsant eu dadansoddi gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn Llywodraeth Cymru. Mae’r dadansoddiad wedi’i gyfyngu i ystadegau disgrifiadol, ac ni chynhaliwyd unrhyw brofion ystadegol pellach. Felly, nid oes unrhyw ensyniad o achosiaeth na pherthynas rhwng unrhyw rai o’r canlyniadau a ddarperir yn yr adroddiad hwn.
Defnyddiwyd y camau canlynol i ddiffinio’r broses recriwtio:
- Wedi gwneud cais – mae hyn yn cynnwys pob ymgeisydd
- Wedi cyrraedd y rhestr fer – ymgeiswyr y cafodd eu ffurflenni cais eu pasio ymlaen i’r cam cyfweld a/neu’r ganolfan asesu. Cafodd nodweddion adnabod personol (e.e. enw) a demograffig (e.e. ethnigrwydd) eu celu hyd at y cam hwn. Felly, nid oedd gan baneli recriwtio fynediad at ethnigrwydd, enw, oedran, anabledd, rhywedd na chyfeiriadedd rhywiol ymgeiswyr tan gam 3.
- Yn addas i’w penodi – pasiodd yr ymgeiswyr ofynion y cyfweliad a/neu’r ganolfan asesu ond nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eu bod wedi cael eu penodi. Bydd y paneli recriwtio wedi cael mynediad at fanylion personol ymgeiswyr ar y cam hwn.
- Wedi cael eu penodi – cafodd yr ymgeisydd oedd yn addas i’w benodi ei adolygu gan y panel recriwtio a’r Gweinidog perthnasol a phenodwyd yr ymgeisydd i’r swydd.
Mae pob cam yn olynol, ac roedd y rhai a fu’n rhan o’r camau cynnar yn rhan wedyn o’r camau diweddarach. Er enghraifft, mae’r ymgeiswyr a benodwyd wedi eu cynnwys ym mhob un o’r camau blaenorol (h.y. y camau wedi gwneud cais, wedi cyrraedd y rhestr fer, ac yn addas i’w penodi). Fodd bynnag, mae’n bosibl nad oedd y camau’n cyfateb ar gyfer pob swydd. Efallai fod y gweithdrefnau recriwtio ar gyfer rhai swyddi penodiadau cyhoeddus yn wahanol i’r gweithdrefnau ar gyfer eraill. Er enghraifft, efallai fod rhai’n cynnwys canolfan asesu, tra bo eraill wedi cael cyfweliad.
Cyfyngiadau
Ar gyfer rhai grwpiau demograffig, lle mae grŵp yn llai na phum ymgeisydd, mae’r canrannau wedi cael eu talgrynnu i lai na phump (< 5%) er mwyn osgoi gallu adnabod ymgeiswyr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer y camau recriwtio diweddarach lle mae cyfanswm yr ymgeiswyr yn llai.
Mae’r canrannau’n seiliedig ar unigolion a roddodd wybodaeth ar gyfer y nodwedd ddemograffig dan sylw, felly mae’r cyfraddau ymateb a blwyddyn gyfeirio’r data poblogaeth yn amrywio rhwng mesurau. Mae’r canfyddiadau’n disgrifio patrymau yn y data ac ni ddylid eu dehongli, ar eu pen eu hunain, fel tystiolaeth o wahaniaethau achosol mewn canlyniadau recriwtio.
Dylid nodi hefyd bod pob nodwedd ddemograffig wedi’i dadansoddi ar wahân, felly nid yw’r dadansoddiad hwn yn archwilio sut y gall canlyniadau gael eu siapio gan gyfuniadau o nodweddion. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol lle mae nodweddion yn gysylltiedig, fel ethnigrwydd a chrefydd (sweler Grŵp ethnig yn ôl crefydd yn y DU - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n dangos bod cyfran is o bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi dweud nad oes ganddynt grefydd), neu oedran ac anabledd.
Canfyddiadau: nodweddion gwarchodedig
Mae’r adran hon yn cymharu nodweddion gwarchodedig yr ymgeiswyr ar bob cam o’r broses recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus yn 2025/2026 â’r data mwyaf perthnasol sydd ar gael ar gyfer poblogaeth Cymru.
Gwnaed cyfanswm o 693 o geisiadau am benodiadau cyhoeddus yn 2025/26 drwy Cais. O blith y rhain:
- Cafodd 222 (32%) eu rhoi ar y rhestr fer
- Canfuwyd bod 104 (15%) yn addas i’w penodi
- Cafodd 64 (9%) eu penodi
Dylid nodi y gallai’r 693 gwreiddiol gynnwys rhai unigolion a wnaeth gais am sawl swydd ac felly maent wedi eu dyblygu yn y dadansoddiad. Oherwydd bod y data yn cael eu troi’n ddienw ar y cam ymgeisio, nid oes modd gwybod faint o ymgeiswyr sydd wedi eu dyblygu yn y dadansoddiad.
Oedran
O’r rheini sy’n 16 oed neu’n hŷn ym mhoblogaeth Cymru, mae ychydig dros chwarter (28%) yn 16–34 oed, a 26% yn 65 oed neu’n hŷn, ac ychydig o dan hanner (46%) yn 35–64 oed.
Mae’r proffil oedran hwn wedi’i wrthdroi ar gyfer y rhai sy’n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus drwy Cais. Yn wahanol i boblogaeth Cymru, lle mae’r grŵp mwyaf yn 16–34 oed, dyma’r grŵp lleiaf (12%) ymysg yr ymgeiswyr am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru drwy Cais.
Y rheini sy’n 65 oed neu’n hŷn yw’r grŵp lleiaf nesaf (16%), a’r rheini sy’n 45–54 oed neu’n 55–64 oed yw’r grwpiau mwyaf, gweler Ffigur 1.
Mae’r patrwm hwn yn dod yn fwy amlwg wrth i ymgeiswyr symud drwy’r broses recriwtio o’r rhestr fer i’r cam penodi. Ar y cam penodi, dim ond 6% sydd yn 16–35 oed ac mae 65% yn 45–64 oed.
Mae hyn yn awgrymu nid yn unig nad yw’r ymgeiswyr yn adlewyrchu proffil oedran poblogaeth Cymru, ond hefyd bod cyfran yr ymgeiswyr iau a hŷn yn lleihau ar draws y camau recriwtio, tra bod y gyfran sydd yn 45–64 oed yn cynyddu.
* O’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn, ni wnaeth 4.6% nodi eu hoedran.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw a blwyddyn ar StatsCymru.
Rhyw
Os ydych chi’n ystyried poblogaeth gyfan Cymru (gan gynnwys y rhai 0–15 oed), mae 51% yn fenywod a 49% yn ddynion (dylid nodi bod rhyw yn cael ei nodi gan yr unigolyn ac y gallai fod yn gysylltiedig â hunaniaeth rhywedd yn hytrach na chyfeirio’n benodol at ryw biolegol). Mae cyfran y boblogaeth sy’n fenywod yn gostwng i 50.6% os ystyriwch y rhai 16–64 oed ond mae’n codi i 51.4% o’r rhai 45–64 oed (y grŵp oedran mwyaf ymhlith y rhai sy’n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus).
Felly, er bod menywod yn cynrychioli dros hanner y boblogaeth yng Nghymru, mae llai na hanner yr ymgeiswyr yn nata Cais (47.2%) yn fenywod. Fodd bynnag, mae’r patrwm hwn yn cael ei wrthdroi o ran yr ymgeiswyr hynny y canfuwyd eu bod yn addas i’w penodi ac sydd wedyn yn mynd ymlaen i gael eu penodi, gyda 53.7% o’r penodiadau yn fenywod, gweler Ffigur 2.
Mae hyn yn awgrymu, er gwaethaf y ffaith eu bod yn lleiafrif yng nghyfanswm yr ymgeiswyr, bod menywod yn gyfran fwy o’r rhai a benodwyd nag o’r ymgeiswyr.
* O’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn, ni wnaeth 2.2% nodi eu rhyw.
Ffynhonnell ar gyfer Data Poblogaeth Cymru: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw a blwyddyn ar StatsCymru.
Anabledd
Ar draws poblogaeth gyfan Cymru yn ôl cyfrifiad 2021, nodwyd bod 21.6% yn bodloni’r diffiniad o anabledd a geir yn y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae’r diffiniad o anabledd a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021 yn cyd-fynd â’r diffiniad o anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Ystyrir bod unigolyn yn anabl os yw’n hunanadrodd bod ganddo gyflwr iechyd neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy, ac sy’n lleihau ei allu i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, mae 19.5% o’r rhai 16–64 oed yn anabl; mae 39.9% o’r rhai 65 oed a hŷn yn anabl.
Mae Ffigur 3 yn dangos bod 17.2% o’r ymgeiswyr a gofnodwyd yn Cais yn 2025/2026 yn dweud eu bod yn anabl, ac mae’r gyfran hon yn gostwng i 12.7% ar gyfer y rheini a benodwyd. Mae gostyngiad amlwg yng nghyfran yr ymgeiswyr sy’n anabl rhwng y cam rhestr fer a’r cam addas i’w penodi. Roedd ymgeiswyr anabl yn gyfran lai ar y cam addas i’w penodi na’r cam rhestr fer.
Ffynhonnell: Pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl oedran a rhyw, ar gyfer Cymru, Cyfrifiad 2021 ar StatsCymru.
Ethnigrwydd
Yn ôl Cyfrifiad 2021, nododd 6.2% o boblogaeth Cymru eu bod yn dod o gefndir ethnig leiafrifol (oherwydd niferoedd bach, mae gwahanol leiafrifoedd ethnig wedi cael eu cyfuno. Er bod hyn yn angenrheidiol ar gyfer dadansoddi, gall cyfuno lleiafrifoedd ethnig guddio gwahanol ganlyniadau). Fodd bynnag, yn 2025/26, o blith yr ymgeiswyr hynny a nododd eu hethnigrwydd yn Cais, nododd 15% o’r ymgeiswyr eu bod yn dod o leiafrif ethnig. Er bod cyfran y rhai a benodwyd sy’n dod o leiafrif ethnig wedi gostwng o’i chymharu â chyfran yr ymgeiswyr yn ystod 2025/26 (11.9%), mae’n dal yn uwch na phoblogaeth Cymru, gweler Ffigur 4.
Mae hyn yn awgrymu bod cyfran uwch o ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig nag a geir yn y boblogaeth, ond bod y gyfran hon wedi gostwng drwy’r camau ymgeisio. Fodd bynnag, nid yw’r gostyngiad hwn yn unffurf ar draws pob cam, gyda chyfrannau is ar y cam rhestr fer a’r cam penodi, ond cyfran uwch ar y cam addas i’w penodi.
* O’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn, ni wnaeth 2.9% nodi eu hethnigrwydd.
Ffynhonnell: Pobl yn ôl grŵp ethnig, dros Gymru ac awdurdodau lleol, Cyfrifiad 2021 ar StatsCymru.
Cyfeiriadedd rhywiol
Gofynnir am gyfeiriadedd rhywiol i rai 16 oed a hŷn yn y Cyfrifiad. Ar draws poblogaeth Cymru, ar gyfer y rheini a nododd eu cyfeiriadedd rhywiol, dywedodd 3.1% fod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol.
Fodd bynnag, ar gyfer ymgeiswyr a nododd eu cyfeiriadedd rhywiol yn eu cais Cais, dywedodd 10.4% fod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol. Cododd y gyfran hon drwy’r camau ymgeisio fel bod 15.0% o’r rhai a benodwyd yn dweud bod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol, gweler Ffigur 5.
Fel gydag ymgeiswyr anabl, roedd cyfran yr ymgeiswyr oedd yn ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu’n ddeurywiol neu â chyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall wedi gostwng rhwng y cam rhestr fer a’r cam addas i’w penodi ond wedi codi eto ar y cam penodi. Mae hyn yn awgrymu y gallai ymgeiswyr â chyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol fod yn llai tebygol o basio asesiadau ond wedyn yn fwy tebygol o gael eu dewis i gael eu penodi nag ymgeiswyr eraill.
* Ni wnaeth 7.6% o’r boblogaeth a 9.4% o’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn nodi eu cyfeiriadedd rhywiol.
Ffynhonnell: Pobl yn ôl cyfeiriadedd rhywiol, dros Gymru ac awdurdodau lleol, Cyfrifiad 2021 ar StatsCymru.
Crefydd
Yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd i bobl pa grefydd maent yn cysylltu neu’n uniaethu â hi (eu hymlyniad crefyddol), nid a oeddent yn arfer eu crefydd neu’n credu ynddi ai peidio. Ar draws poblogaeth Cymru, nododd 46.5% eu bod yn Gristnogion, nododd 49.7% eu bod yn Anffyddwyr neu nad oedd ganddynt grefydd a nododd 3.8% fod ganddynt grefydd arall.
Mae Ffigur 6 yn dangos, o’r ymgeiswyr hynny yn 2025/26 a nododd eu crefydd yn eu cais Cais, fod 50.0% wedi nodi eu bod yn Gristnogion, sy’n uwch na chyfartaledd y boblogaeth. I’r gwrthwyneb, nododd cyfran lai (41.4%) eu bod yn Anffyddwyr neu nad oedd ganddynt grefydd.
Drwy’r camau recriwtio, cododd cyfran y rhai oedd yn ystyried eu hunain yn Gristnogion i 51.9% ar y cam rhestr fer ond gostyngodd wedyn i 48.4% ar y cam penodi. Mae hyn yn wahanol i’r rhai a nododd fod ganddynt grefydd arall, a ostyngodd i 5.8% ar y cam rhestr fer a chodi i 9.7% ar y cam penodi.
† Ni wnaeth 6.3% o’r boblogaeth a 7.4% o’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn nodi eu crefydd.
* Crefyddau eraill, gan gynnwys Bwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Sikhiaeth ac Islam.
Ffynhonnell: Pobl yn ôl crefydd, dros Gymru ac awdurdodau lleol, Cyfrifiad 2021 ar StatsCymru.
Canfyddiadau: cefndir a phrofiad
Mae’r adran hon yn edrych ar gefndir a phrofiad yr ymgeiswyr ar draws y broses recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus yn 2025/2026, gan gynnwys man preswylio, cyflogaeth flaenorol, gallu yn y Gymraeg, cefndir economaidd-gymdeithasol a datgan gweithgarwch gwleidyddol. Lle mae data addas ar gael, mae proffil yr ymgeiswyr hefyd yn cael ei gymharu â phoblogaeth Cymru. Mae’r canfyddiadau’n disgrifio patrymau ar draws y camau recriwtio ac ni ddylid eu dehongli, ar eu pen eu hunain, fel tystiolaeth bod nodwedd benodol wedi achosi gwahaniaethau mewn canlyniadau recriwtio.
Preswylio
Gofynnir i ymgeiswyr am benodiadau cyhoeddus yn ardal pa awdurdod lleol maent yn preswylio. Darparodd 685 o ymgeiswyr eu preswylfa yn eu cais Cais, ac roedd 106 (15.5%) ohonynt yn byw y tu allan i Gymru. Roedd pob un o’r 67 ymgeisydd a benodwyd wedi nodi eu preswylfa, gyda 10 (14.9%) o’r rhai a benodwyd yn byw y tu allan i Gymru.
Ar gyfer y rheini sy’n byw yng Nghymru, mae’r awdurdodau lleol wedi cael eu grwpio’n rhanbarthau er mwyn eu dadansoddi:
- Gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam
- Canolbarth Cymru: Powys a Cheredigion
- De-orllewin Cymru: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
- De-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd
Mae Ffigur 7 yn dangos bod bron i hanner y boblogaeth (49%) ac ychydig dros hanner yr ymgeiswyr (54–59% ar draws y camau ymgeisio) yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru. Er bod 22% o boblogaeth Cymru yn byw yng Ngogledd Cymru, dim ond 11–12% o’r ymgeiswyr oedd yn byw yno. I’r gwrthwyneb, er mai dim ond 7% o’r boblogaeth sy’n byw yng Nghanolbarth Cymru, roedd 12% o’r ymgeiswyr a 18% o’r rhai a benodwyd yn byw yng Nghanolbarth Cymru.
* O’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn, ni wnaeth 1.6% nodi eu preswylfa.
Ffynhonnell: Arolwg Poblogaeth Blynyddol: hunaniaeth genedlaethol yn ôl ardal a blwyddyn | StatsCymru
Y Gymraeg
Gofynnwyd i’r ymgeiswyr hefyd roi gwybodaeth am eu gallu yn y Gymraeg: gwrando a siarad. Roedd gan y rhan fwyaf (51.7%) o’r ymgeiswyr sgiliau gwrando a siarad sylfaenol o leiaf, ond mae’r ymgeiswyr yn fwy tebygol o fod â sgiliau gwrando na sgiliau siarad.
Yn 2025/26, nid oedd gan 29.4% o’r ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus yn Cais unrhyw sgiliau gwrando Cymraeg, roedd gan ychydig dros eu hanner (51.7%) sgiliau sylfaenol ac roedd gan 18.9% sgiliau gwrando Cymraeg uwch, gweler Ffigur 9. Er bod cyfran y rhai a benodwyd oedd heb unrhyw sgiliau gwrando Cymraeg yn debyg i gyfran yr ymgeiswyr, roedd cyfran y rhai a benodwyd oedd â sgiliau gwrando uwch yn uwch (31.3%) ac roedd cyfran y rhai a benodwyd oedd â sgiliau gwrando sylfaenol yn is (40.6%).
Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn 2025 (gweler: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth – Gallu siarad Cymraeg yn ôl oedran, rhyw a blwyddyn ar StatsCymru), mae 27.3% o’r boblogaeth sy’n oedolion yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Er nad oes modd cymharu’n uniongyrchol, dywedodd 45.5% o’r ymgeiswyr am benodiadau cyhoeddus drwy Cais nad oeddent yn gallu siarad unrhyw Gymraeg, roedd gan 35.6% sgiliau sylfaenol neu ganolradd ac roedd 18.9% yn dweud bod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg uwch, gweler Ffigur 10.
O’r cam ymgeisio i’r cam penodi, gostyngodd y gyfran oedd yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw allu i siarad Cymraeg o 45.5% i 35.4%, tra cynyddodd y gyfran oedd yn dweud bod ganddynt sgiliau siarad uwch o 18.9% i 30.8%.
Profiad Cyflogaeth Blaenorol
Gofynnir i ymgeiswyr am benodiadau cyhoeddus drwy Cais ddewis y categori sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o’u profiad cyflogaeth blaenorol. Mae’r profiad hwn wedi’i grwpio fel a ganlyn:
- Y gwasanaeth sifil yn bennaf
- Y sector preifat yn bennaf
- Y trydydd sector yn bennaf
- Y sector cyhoeddus ehangach yn bennaf
- Cyfuniad
Mae Ffigur 8 yn dangos bod ychydig dros draean yr ymgeiswyr (34%) wedi dweud bod ganddynt brofiad yn y sector cyhoeddus ehangach yn bennaf, wedi’i ddilyn gan gyfuniad (29%), y sector preifat yn bennaf (21%), y trydydd sector yn bennaf (12%) ac yna’r gwasanaeth sifil yn bennaf (4%).
Ar draws y camau recriwtio, cynyddodd y gyfran â phrofiad yn y sector cyhoeddus ehangach yn bennaf o 34% o’r ymgeiswyr ar y cam ymgeisio i 42% o’r rhai a benodwyd ar y cam penodi.
* O’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn, ni wnaeth 8.9% nodi eu profiad cyflogaeth blaenorol.
Cefndir economaidd-gymdeithasol
Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i’r ymgeiswyr nodi a fyddent yn disgrifio eu hunain fel rhywun o gefndir economaidd-gymdeithasol is. Nod y cwestiwn hwn yw caniatáu i ymgeiswyr ymateb ar sail eu profiad goddrychol o’u cefndir, yn hytrach na defnyddio mesurau mwy gwrthrychol o gefndir economaidd-gymdeithasol, fel addysg neu broffesiwn rhieni.
Yn y cam ymgeisio, dywedodd 39.6% yn eu cais Cais eu bod yn dod o gefndir economaidd-gymdeithasol is. Cynyddodd hyn i 49.3% o benodiadau, gweler Ffigur 11.
* O’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn, ni wnaeth 6.2% ateb y cwestiwn cefndir economaidd-gymdeithasol.
Datgan gweithgarwch gwleidyddol
Gofynnir i bob ymgeisydd am benodiad cyhoeddus drwy Cais roi gwybodaeth am unrhyw weithgarwch gwleidyddol y maent wedi ymgymryd ag ef neu ymlyniad gwleidyddol a fu ganddynt yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid yw gweithgarwch nac ymlyniad yn faen prawf ar gyfer penodi (ac eithrio lle mae’r statud yn mynnu cynrychiolaeth benodol). Gofynnir i ymgeiswyr roi manylion ynghylch a ydynt wedi:
- Canfasio
- Bod â swydd mewn cangen leol
- Siarad fel ymgeisydd ar gyfer swydd
- Sefyll fel ymgeisydd ar gyfer swydd
- Gwneud unrhyw weithgarwch gwleidyddol perthnasol arall
Os yw’r ymgeisydd yn ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o’r uchod, ystyrir ei fod wedi datgan gweithgarwch gwleidyddol; gofynnir iddo hefyd roi enw’r blaid wleidyddol.
Mae Ffigur 12 yn dangos nad oedd 91.2% o’r ymgeiswyr wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol, tra bod hyn wedi cynyddu ychydig i 92.2% o’r rhai a benodwyd.
* O’r 693 o ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn, ni wnaeth 1.2% nodi datganiad am weithgarwch gwleidyddol.
Crynodeb
Roedd yr ymgeiswyr am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru drwy Cais yn 2025/2026 yn wahanol i boblogaeth Cymru o safbwynt nifer o nodweddion gwarchodedig. Roedd yr ymgeiswyr wedi’u crynhoi yn y grwpiau oedran gweithio canol a hŷn, gyda 65% o’r rhai a benodwyd yn 45–64 oed, tra bod menywod yn gyfran uwch o’r rhai a benodwyd (53.7%) nag o boblogaeth Cymru (51.0%).
Er bod 21.6% o boblogaeth Cymru yn anabl, roedd 17.2% o’r holl ymgeiswyr a 12.7% o’r rhai a benodwyd yn anabl. Roedd ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig ac ymgeiswyr oedd yn dweud bod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol yn gyfran fwy o’r ymgeiswyr nag o boblogaeth Cymru, er bod eu cynrychiolaeth yn amrywio ar draws y camau recriwtio.
Mae’r canfyddiadau cefndir a phrofiad hefyd yn dangos gwahaniaethau ar draws y camau recriwtio. Roedd yr ymgeiswyr a’r rhai a benodwyd wedi’u crynhoi yn Ne-ddwyrain Cymru, tra bod Gogledd Cymru wedi’i dangynrychioli o’i gymharu â’i gyfran o’r boblogaeth a Chanolbarth Cymru yn gartref i gyfran gymharol uchel o’r rhai a benodwyd.
Profiad ehangach yn y sector cyhoeddus oedd y cefndir cyflogaeth mwyaf cyffredin a chynyddodd o 34% o’r ymgeiswyr i 42% o’r rhai a benodwyd.
Roedd y rhai a benodwyd hefyd yn fwy tebygol na’r ymgeiswyr o nodi sgiliau gwrando a siarad Cymraeg uwch ac i’w disgrifio eu hunain fel rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol is, tra dywedodd mwy na naw o bob deg o’r ymgeiswyr a’r rhai a benodwyd nad oedd ganddynt unrhyw weithgarwch gwleidyddol i’w ddatgan.
Yn gyffredinol, newidiodd cyfansoddiad yr ymgeiswyr rhwng y camau ymgeisio, rhestr fer, addas i’w penodi a phenodi, ond roedd cyfeiriad a graddfa’r newid yn amrywio yn ôl nodwedd. Mae’r canlyniadau’n nodi meysydd i ymchwilio iddynt ymhellach – yn enwedig oedran, anabledd, cynrychiolaeth ranbarthol a’r amrywio rhwng y cam rhestr fer a’r cam penodi.
