Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC): canllawiau i ymgeiswyr
Sut i wneud cais am gyllid i gefnogi gosod systemau larwm tân cyffredin mewn adeiladau preswyl cymwys.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Sefydlwyd Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) i gefnogi’r broses o osod systemau larwm tân cyffredin fel mesur diogelwch tân dros dro tra bod atebion parhaol yn cael eu darparu.
Nod y grant yw:
- Cefnogi preswylwyr i aros yn ddiogel yn eu cartrefi.
- Lleihau dibyniaeth ar drefniadau patrolau diogelwch tân parhaus pan fo hynny’n briodol.
- Lleihau cost mesurau diogelwch tân interim.
- Lleihau’r angen i symud preswylwyr allan o adeiladau
- Cefnogi cynnydd tuag at waith adfer a lliniaru parhaol.
Dim ond mesurau interim y mae’r grant hwn yn ei gefnogi. Rhaid i ymgeiswyr barhau i wneud cynnydd â gwaith adfer neu liniaru parhaol ochr yn ochr ag unrhyw waith gosod larymau interim.
Pwy all wneud cais
Mae’r sefydliadau a’r unigolion canlynol yn gymwys i wneud cais am gyllid o dan y rhaglen hon:
- Endidau cyfrifol
- Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Awdurdodau lleol
- Asiantau rheoli sydd wedi eu hawdurdodi i weithredu ar ran perchennog adeilad neu endid cyfrifol.
- Cynrychiolwyr awdurdodedig eraill sy’n gweithredu ar ran Endid Cyfrifol.
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi eich awdurdodi i weithredu ar ran perchennog yr adeilad neu’r endid cyfrifol pan fo hynny’n berthnasol.
Ni chaiff lesddeiliaid, tenantiaid, na phreswylwyr wneud cais am y grant yn uniongyrchol. Dylent gysylltu â’u hendid cyfrifol neu, pan fo hynny’n berthnasol, landlord awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig.
Yr hyn sy’n gymwys
Er mwyn i adeilad gael ei ystyried yn gymwys ar gyfer cyllid, rhaid iddo:
- Fod yng Nghymru
- Bod yn 11 metr o uchder neu’n uwch
- Bod yn amlfeddiannaeth
- Cynnwys llety preswyl
Hefyd, mae’n rhaid i’r adeilad:
Fod ag Asesiad Risg Tân (FRA), Arfarniad Risg Tân Waliau Allanol (FRAEW), neu asesiad diogelwch tân cyfatebol sy’n dangos yr angen am fesurau diogelwch tân interim, a/neu
Bod wedi derbyn hysbysiadau gan reoleiddiwr lleol, megis awdurdod lleol neu wasanaeth tân ac achub, a allai gynnwys hysbysiadau gorfodi neu wahardd.
Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gadarnhau cymhwysedd.
Cyn i chi wneud cais
Cyn gwneud cais, dylech ddarllen canllawiau Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) a’r Cwestiynau Cyffredin a sicrhau eich bod chi:
- Wedi eich awdurdodi i wneud cais.
- Wedi cael cyngor diogelwch tân priodol sy’n cefnogi gosod system larwm tân interim.
- Wedi cael yr asesiadau diogelwch tân perthnasol a’r dogfennau ategol.
- Wedi cael o leiaf dri dyfynbris pan fo hynny’n bosibl ar gyfer y gwaith arfaethedig.
- Yn gallu darparu gwybodaeth am unrhyw fesurau interim cyfredol sydd ar waith.
- Yn gallu dangos bod gwaith adfer neu liniaru yn mynd rhagddo.
- Yn gallu darparu amserlenni disgwyliedig ar gyfer y gwaith gosod.
- Yn gallu cadarnhau nad oes unrhyw gyllid arall sydd eisoes wedi ei dderbyn neu fod cais am gyllid cyhoeddus ar y gweill ar hyn o bryd mewn cysylltiad â’r adeilad.
Mae’n bosibl y bydd ceisiadau yn cael eu gohirio os na ddarperir yr wybodaeth ofynnol.
Sut i wneud cais
Wrth wneud cais, rhaid i chi gynnwys yr holl wybodaeth a’r ddogfennau ategol sydd eu hangen i ddangos yr angen am larwm mesurau interim. Gallai ceisiadau anghyflawn arwain at oedi ac efallai na fyddant yn cael eu hasesu nes bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi ei darparu.
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwch yn cael e-bost cydnabyddiaeth yn cadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chi i ofyn am wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol pan fo angen hyn i asesu’r cais.
Nodwch nad yw cydnabyddiaeth bod eich cais wedi ei dderbyn yn gwarantu y bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu. Bydd pob cais yn cael ei asesu o’i gymharu â meini prawf cymhwysedd y grant.
Y ffurflen gais
Rhaid cyflwyno ceisiadau a thystiolaeth ategol yn electronig drwy e-bost i: GLMIC@llyw.cymru
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu
Yn rhan o’r broses ymgeisio, mae’n ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth a allai gynnwys:
Manylion yr ymgeisydd
Rhaid i geisiadau gynnwys manylion cyswllt a manylion y sefydliad, tystiolaeth o awdurdod i weithredu, a manylion y person neu’r endid cyfrifol.
Manylion yr adeilad
Rhaid i fanylion yr adeilad gynnwys cyfeiriad yr adeilad, uchder yr adeilad, nifer yr unedau preswyl, a manylion meddiannu.
Gwybodaeth diogelwch tân
Gwybodaeth diogelwch tân sy’n cefnogi tystiolaeth sy’n nodi’r angen am larwm interim.
Gallai hyn fod yn un o fwy o’r canlynol:
- Asesiad Risg Tân (FRA) yn unol â chod ymarfer BS 9792:2025
- Arfarniad Risg Tân Waliau Allanol (FRAEW) sy’n dilyn ac yn bodloni methodoleg PAS 9980:2022
- hysbysiadau gan reoleiddiwr lleol, megis awdurdod lleol neu wasanaeth tân ac achub, a allai gynnwys hysbysiadau gorfodi neu wahardd.
- unrhyw dystiolaeth ychwanegol sy’n cefnogi’r gofyniad am system larwm interim.
Mesurau interim
Pan fo mesurau interim cyfredol ar waith, mae’n rhaid i chi ddarparu manylion am fesurau diogelwch tân presennol a’r argymhellion, gan gynnwys manylion am unrhyw drefniadau patrolau diogelwch tân parhaus.
Gwybodaeth ariannol
Rhaid i geisiadau am gyllid grant gael eu cefnogi gan dystiolaeth ariannol priodol, gan gynnwys dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith arfaethedig, gwybodaeth gaffael, dadansoddiad manwl o’r costau, gwybodaeth TAW, tystiolaeth o’r taliad, a manylion am unrhyw gyllid cyhoeddus arall a dderbyniwyd neu y ceisir amdano mewn cysylltiad â’r adeilad.
Ceisiadau ôl-weithredol
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai rhai perchnogion adeiladau a phobl gyfrifol fod wedi gosod systemau larwm tân cyffredin eisoes mewn ymateb i risgiau diogelwch tân brys.
Bydd ceisiadau ôl-weithredol ar gyfer gosodiadau larymau mesur interim a gychwynnwyd neu a gwblhawyd ar 1 Medi 2021 neu wedi hynny ac ar 30 Medi 2026 neu cyn hynny yn cael eu hystyried os bodlonir yr holl ofynion cymhwysedd.
Pan na ellir cyflwyno cais rhagweithiol cyn gosod larwm, bydd ceisiadau ôl-weithredol ar gyfer gosodiadau larwm mesur interim ar 1 Hydref 2026 neu ar ôl hynny yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol ac fesul achos pan fo angen gosodiad o ganlyniad i hysbysiad gorfodi brys neu hysbysiad gwahardd.
Sut yr ydym yn asesu ceisiadau
Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau cyfreithiol a diwydrwydd dyladwy ar yr wybodaeth a ddarperir gennych.
Trwy gyflwyno eich cais, rydych yn cytuno y ceir cynnal y gwiriadau hyn fel y nodir yn adran Grant Larymau Mesur Interim o hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru.
Mae’r gwiriadau hyn yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- wiriadau ar strwythur perchnogaeth a chymhwysedd yr adeilad.
- gwiriadau ar gyfarwyddwyr yr Endid Cyfrifol a’r llofnodwyr yn eich cais.
- adolygiad o’r wybodaeth dechnegol a ddarparwyd gennych ac unrhyw sicrwydd ychwanegol yr ydym wedi ei geisio.
- a yw eich costau ar gyfer gwaith cymwys yn rhesymol ac yn unol â meincnodau
- mae cwmpas y gwaith yn unol â gofynion y rhaglen.
- y dyddiadau cychwyn a gorffen a ragwelir gennych ar gyfer gwaith ar y safle.
Byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau ac yn rhoi gwybod ichi pan fydd ein hadolygiad wedi ei gwblhau. Os cytunir ar gostau, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn darparu Llythyr Dyfarnu Grant (GAL) y mae’n rhaid i’r Endid Cyfrifol ei lofnodi
Dyfarnu a thalu grant
Y Llythyr Dyfarnu Grant (GAL) yw’r contract cyfreithiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Endid Cyfrifol.
Mae’r GAL yn ddogfen nad yw’n agored i drafodaeth. Rhaid i’r ymgeiswyr sy’n dymuno derbyn arian grant a ariennir yn gyhoeddus, er mwyn helpu i osod larwm mesurau interim, gytuno a chadw at ei delerau.
Pan fo cynrychiolydd yn cael ei benodi i arwain y cais ac, mewn rhai achosion, yn rheoli’r cyllid, mae’r Endid Cyfrifol yn dal yn gorfod llofnodi’r GAL.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol mai dim ond i’r Endid Cyfrifol, y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu’r Awdurdod Lleol sy’n gweithredu fel Landlord y mae’r ymrwymiadau a roddir yn y GAL yn berthnasol. Os byddant yn dewis penodi cynrychiolydd i weithredu ar eu rhan, mae’n rhaid iddynt wneud yn siŵr bod y cynrychiolydd yn ymwybodol o ofynion Llywodraeth Cymru — fel y’u mynegir yn y canllawiau hyn ac yn y GAL — ac yn eu bodloni.
Dylai llofnodwyr y cytundeb cyllido grant fod yn gyfarwyddwyr, neu’n unigolion eraill sydd wedi eu hawdurdodi i lofnodi cytundebau cyfreithiol ar ran eich sefydliad.
Fel amod y grant, rhaid i dderbynwyr roi gwybod i'r holl lesddeiliaid a phreswylwyr yr effeithir arnynt am y dyfarniad cyllid o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y Llythyr Dyfarnu Grant. Pan fo lesddeiliaid wedi cyfrannu tuag at gostau gosod larwm cymwys, rhaid i'r ohebiaeth esbonio swm y grant a ddyfarnwyd, y trefniadau ad-dalu arfaethedig a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer ad-dalu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am dystiolaeth bod lesddeiliaid a phreswylwyr wedi cael eu hysbysu, a lle bo'n berthnasol, tystiolaeth bod lesddeiliaid cymwys wedi cael eu had-dalu, cyn rhyddhau'r taliad terfynol neu gau'r grant.
Cyflawni gwaith
Pan fydd y GAL wedi ei lofnodi, ceir ymgysylltu’n ffurfiol â’r cyflenwr larymau.
Bydd angen ichi ddarparu’r hyn a ganlyn i Lywodraeth Cymru:
- y fanyleb y cytunwyd arni
- y contract gwaith wedi’i lofnodi
- y dyddiadau cychwyn a chwblhau disgwyliedig
Rhaid ichi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw gymeradwyaeth reoleiddiol, cydsyniad statudol, neu ganiatâd arall sydd ei angen mewn cysylltiad â’r prosiect fel y bo’n berthnasol
Cwblhau a thalu
Telir cyllid grant ar ôl i’r larwm interim gael ei osod, a bydd angen ichi ddarparu:
- tystysgrif comisiynu (oddi wrth y cwmni larymau)
- FRA wedi’i ddiweddaru sy’n adlewyrchu gosodiad y larwm
- yr anfoneb derfynol sy’n dangos y swm a dalwyd i’r cwmni larymau
- tystiolaeth o’r cyfathrebu â lesddeiliaid a phreswylwyr, gan ddangos yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed a’r effaith y mae hynny’n ei chael ar breswylwyr
- pan fo lesddeiliaid wedi cyfrannu tuag at gost gosodiad larwm cymwys, tystiolaeth o'r trefniadau ad-dalu arfaethedig ac, lle bo'n berthnasol, tystiolaeth bod ad-daliadau wedi'u gwneud;
- tystiolaeth o unrhyw gymeradwyaeth rheoleiddiol gofynnol, ardystiad, neu gymeradwyaeth wedi’i llofnodi, fel y bo’n berthnasol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r wybodaeth a gyflwynir gennych ac mae’n bosibl y bydd yn cysylltu â chi pe byddai angen eglurhad ychwanegol.
Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo, bydd y grant yn cael ei dalu i gyfrif banc enwebedig yr ymgeisydd.
Gellid ystyried trefniadau talu eraill mewn amgylchiadau eithriadol os oes tystiolaeth o gyni ariannol. Anogir ymgeiswyr i drafod eu hamgylchiadau â Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl.
Monitro, archwilio, ac adennill cyllid
Yn rhan o’r broses o reoli’r grant, gallai Llywodraeth Cymru ymgymryd â gweithgareddau monitro, sicrwydd, ac archwilio, gan gynnwys:
- Adolygu’r cynnydd
- Gwirio dogfennau ategol
- Archwiliadau ariannol
- Adolygiadau ar ôl cwblhau’r gwaith.
Rhaid ichi gadw cofnodion ar gyfer y cyfnod a nodir yn eich Llythyr Dyfarnu Grant.
Caiff Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol ichi ad-dalu’r grant cyfan neu ran ohono o dan yr amgylchiadau a ganlyn:
- Mae amodau’r grant wedi eu torri.
- Nid yw’r cyllid yn cael ei ddefnyddio at y diben cymeradwy.
- Darparwyd gwybodaeth ffug neu gamarweiniol.
- Mae gwybodaeth berthnasol sy’n effeithio ar eich cymhwysedd wedi ei chadw’n ôl.
- Nid yw’r dystiolaeth angenrheidiol wedi ei darparu.
- Nid yw ymrwymiadau adfer yn mynd rhagddynt fel y datganwyd yn y cais.
Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal gwiriadau cymesur i wirio’r wybodaeth a ddarperir yn rhan o gais. Gallai hyn gynnwys adolygu cofnodion caffael, gwybodaeth ariannol, a dogfennaeth diogelwch tân ategol.
Rheoli cymhorthdal
Bydd y grant yn gweithredu yn unol â Chynllun Cymorthdaliadau Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.
Mae’n bosibl y gofynnir ichi ddarparu gwybodaeth i gefnogi asesiadau rheoli cymorthdaliadau a gofynion tryloywder.
Gellid cyhoeddi gwybodaeth am ddyfarniadau grant pan fo hynny’n angenrheidiol yn ôl deddfwriaeth neu’r cynllun cymorthdaliadau perthnasol.
Y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb. Cewch wneud cais a gohebu â ni yn Gymraeg neu Saesneg.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Hysbysiad preifatrwydd
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn rhan o gais Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC).
Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth er mwyn:
- asesu ceisiadau grant neu gais am gyllid grant.
- monitro perfformiad cynlluniau.
- gwirio unrhyw wybodaeth a ddarperir.
- sicrhau bod grantiau wedi eu talu yn unol ag amodau cymhwysedd a rheoli cymorthdaliadau y cynlluniau.
- gwerthuso ac adolygu effaith, perfformiad, a chostau y cynlluniau.
- ymchwilio i effeithiolrwydd y cynlluniau a chefnogi datblygiad polisïau yn y dyfodol.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut y mae Llywodraeth Cymru yn prosesu gwybodaeth bersonol yn hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.
Gwneud cwyn
Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a gawsoch gan Lywodraeth Cymru, gallwch wneud cwyn gan ddefnyddio Gweithdrefn Cwyno Llywodraeth Cymru.
Bydd cwynion yn cael eu trin yn unol â threfniadau cwyno cyhoeddedig Llywodraeth Cymru.
Ni fydd cwyn yn arfer arwain at gais am gyllid yn cael ei ailasesu oni bai bod tystiolaeth nad yw’r broses asesu cyhoeddedig wedi ei dilyn yn gywir.
Ceir gwybodaeth am sut i wneud cwyn yn LLYW.CYMRU:
Sut i wneud cwyn am Lywodraeth Cymru
Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon ar ôl i’ch cwyn gael ei hystyried, efallai y byddwch yn gallu cyfeirio’r mater at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Ceir rhagor o wybodaeth yn:
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC), e-bost: GLMIC@llyw.cymru
