Atebion i gwestiynau cyffredin am y grant gan gynnwys pwy sy'n cael gwneud cais, at ba ddiben y gellir defnyddio'r grant a sut i wneud cais.
Cynnwys
Beth yw Grant Larymau Mesur Interim Cymru?
Mae Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) yn darparu cyllid grant ar gyfer gosod systemau larwm tân cyffredin mewn adeiladau preswyl cymwys lle mae angen mesurau diogelwch tân interim hyd nes y bydd gwaith adfer wedi ei gwblhau. Nod y grant yw gwella diogelwch preswylwyr a lleihau dibyniaeth ar drefniadau patrolau diogelwch tân parhaus costus.
Pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r grant hwn?
Cyflwynwyd y grant er mwyn:
- gwella diogelwch tân i breswylwyr
- cefnogi’r nod o ddisodli patrolau diogelwch tân parhaus pan fo hynny’n briodol
- lleihau’r baich ariannol sy’n gysylltiedig â mesurau diogelwch tân interim
- hwyluso meddiannu adeiladau yn fwy diogel tra bod gwaith adfer yn mynd rhagddo
Pwy all wneud cais?
Dyma pwy sy’n cael cyflwyno ceisiadau:
- endidau cyfrifol
- landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- awdurdodau lleol
- asiantau rheoli sydd wedi eu hawdurdodi i weithredu ar ran perchennog adeilad neu endid cyfrifol
- cynrychiolwyr awdurdodedig eraill sy’n gweithredu ar ran Endid Cyfrifol
Efallai y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu hawdurdodi i wneud cais ar ran yr Endid Cyfrifol.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Person Cyfrifol ac Endid Cyfrifol?
Mae’r Person Cyfrifol yn gyfrifol am reoli diogelwch tân yn yr adeilad.
Mae gan yr Endid Cyfrifol gyfrifoldeb cyffredinol am yr adeilad ac am sicrhau bod unrhyw waith adfer neu liniaru angenrheidiol yn mynd rhagddo. Gallai’r rhain fod yr un sefydliad mewn rhai achosion.
A gaiff lesddeiliaid neu breswylwyr wneud cais yn uniongyrchol?
Na chânt. Ni chaiff lesddeiliaid, tenantiaid, na phreswylwyr wneud cais yn uniongyrchol. Rhaid cyflwyno ceisiadau gan y sefydliad neu’r unigolyn sy’n gyfrifol am reoli diogelwch tân yr adeilad.
Pa adeiladau sy’n gymwys?
Er mwyn i adeilad gael ei ystyried yn gymwys ar gyfer cyllid grant, rhaid iddo:
- fod yng Nghymru
- bod yn 11 metr o uchder neu’n uwch
- bod yn amlfeddiannaeth
- cynnwys llety preswyl
Hefyd, mae’n rhaid i’r adeilad:
- fod ag Asesiad Risg Tân (FRA), Arfarniad Risg Tân Waliau Allanol (FRAEW), neu asesiad diogelwch tân cyfatebol sy’n dangos yr angen am fesurau diogelwch tân interim, a/neu
- bod wedi derbyn hysbysiadau gan reoleiddiwr lleol, megis awdurdod lleol neu wasanaeth tân ac achub, a allai gynnwys hysbysiadau gorfodi neu wahardd
Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gadarnhau cymhwysedd.
A yw derbyn cais yn gwarantu cyllid grant?
Nac ydy. Nid yw cyflwyno cais yn gwarantu y bydd cyllid grant yn cael ei ddyfarnu. Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu o’u cymharu â meini prawf cymhwysedd y grant.
Pa dystiolaeth y bydd angen imi ei chyflwyno?
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu:
- manylion yr adeilad
- dogfennaeth asesu diogelwch tân diweddar / cyfredol
- gwybodaeth am fesurau diogelwch interim cyfredol (os yw’n berthnasol)
- tri dyfynbris ar gyfer y gosodiad larwm arfaethedig
- manylion y gwaith gosod larwm/larymau arfaethedig
- tystiolaeth o awdurdod i weithredu ar ran yr Endid Cyfrifol, pan fo hynny’n berthnasol
Pa gostau y gellir eu hariannu â grant?
Gallai costau cymwys gynnwys:
- offer larwm tân a chydrannau cysylltiedig
- dyfeisiau canfod a phaneli rheoli
- costau gosod a chomisiynu
- gwifrau angenrheidiol a gwaith cysylltiedig
- costau cyfalaf ymlaen llaw rhesymol sy’n ymwneud â gosod larwm/larymau
Pa gostau na ellir eu hariannu â grant?
Fel arfer, ni fydd y grant yn cwmpasu:
- costau patrolau diogelwch tân parhaus
- ffioedd rheoli prosiect
- costau gweinyddol
- costau cynnal a chadw, a gwasanaethu
- tynnu neu newid systemau larwm
- costau staffio parhaus sy’n gysylltiedig â rheoli diogelwch tân
A gaf i wneud cais yn ôl-weithredol am waith gosod larwm sydd eisoes wedi ei wneud?
Cewch. Bydd ceisiadau ôl-weithredol ar gyfer gosodiadau larymau mesur interim a gychwynnwyd neu a gwblhawyd ar 1 Medi 2021 neu wedi hynny ac ar 30 Medi 2026 neu cyn hynny yn cael eu hystyried os bodlonir yr holl ofynion cymhwysedd.
Bydd ceisiadau ôl-weithredol ar gyfer gosodiadau larymau mesur interim ar 1 Hydref 2026 neu ar ôl hynny yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol a fesul achos pan fo angen gosodiad o ganlyniad i hysbysiad gorfodi brys neu hysbysiad gwahardd.
A yw’r grant yn talu am waith adfer parhaol?
Nac ydy. Bwriedir i’r grant gefnogi mesur interim yn unig.
Mae ymgeiswyr yn dal yn gyfrifol am fynd â’r cyllid grant angenrheidiol ar gyfer gwaith adfer a nodir trwy asesiadau diogelwch tân rhagddo.
Ceir gwybodaeth am gyllid grant ar gyfer gwaith adfer ar wefan Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.
Pa fath o system larwm y dylid ei osod?
Dylai’r system larwm tân cyffredin gael ei chynllunio i fodloni argymhellion system BS 5839-1 ar gyfer Categori L5 neu fanyleb arall a gynghorir gan asesydd risg tân proffesiynol i fodloni’r amcanion diogelwch tân penodol ar gyfer yr adeilad yn seiliedig ar y risgiau sy’n bresennol.
Dylai unrhyw system canfod tân a larwm tân gael eu dylunio, eu gosod, a’u comisiynu gan unigolyn neu bobl fedrus sy’n meddu ar gymwysterau priodol sydd wedi eu hachredu gan drydydd parti. Dylai’r system larwm hon gael ei chynllunio â’r nod o gyrraedd y safonau y cyfeirir atynt yn Simultaneous Evacuation Guidance
A fydd gosod larwm yn dileu’r angen am batrolau diogelwch tân parhaus?
Yn y mwyafrif o’r achosion, gallai gosod system larwm tân cyffredin addas ganiatáu i fesurau patrolau diogelwch tân parhaus gael eu dileu neu eu lleihau.
Fodd bynnag, dylai’r penderfyniad hwn fod yn seiliedig ar gyngor diogelwch tân proffesiynol ac amgylchiadau penodol yr adeilad.
Pwy sy’n gyfrifol am ddiogelwch tân ar ôl i’r larwm gael ei osod?
Mae’r Person Cyfrifol yn parhau i fod yn gwbl gyfrifol am ddiogelwch yr adeilad a’i feddianwyr ac am gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol. Nid yw cyllid grant a ddarperir trwy GLMIC yn trosglwyddo unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ddiogelwch tân, diogelwch yr adeilad, na chydymffurfiaeth reoleiddiol i Lywodraeth Cymru.
Sut y bydd ceisiadau yn cael eu hasesu?
Bydd ceisiadau yn cael eu hadolygu er mwyn asesu:
- cymhwysedd yr adeilad
- yr angen am system larwm interim
- a yw’r costau arfaethedig yn rhesymol
- a yw’r gosodiad arfaethedig yn werth am arian
Pa mor gyflym y dylai’r gwaith a ariennir â grant gael ei gwblhau?
Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus osod y system larwm cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn cymeradwyaeth er mwyn cynyddu gymaint â phosibl y buddion diogelwch tân a lleihau dibyniaeth ar fesur interim.
A fydd angen imi adrodd y cynnydd?
Bydd. Mae’n bosibl y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, tystiolaeth o waith gosod a chadarnhad bod cynnydd a wneir gydag unrhyw gamau diogelwch tân cysylltiedig.
A yw’n bosibl y gofynnir imi ad-dalu cyllid grant?
Mae cyllid grant yn ddarostyngedig i delerau ac amodau. Pan fo ymgeiswyr yn methu â chydymffurfio â’r gofynion hynny, gallai Llywodraeth Cymru geisio adennill rhywfaint neu’r holl gyllid grant a ddyfarnwyd.
Ble allaf gael rhagor o wybodaeth?
Ceir rhagor o wybodaeth am gymhwysedd, y ddogfennaeth sydd ei hangen ac amserlenni ymgeisio yn Canllawiau GLMIC a Chanllawiau i Ymgeiswyr GLMIC.
Dylai ymgeiswyr geisio cyngor diogelwch tân proffesiynol yn ôl yr angen cyn gwneud cais.
A oes angen i mi gael mwy nag un dyfynbris?
Oes. Disgwylir i ymgeiswyr gael o leiaf dri dyfynbris, pan fo hynny’n bosibl, i ddangos gwerth am arian. Pan fo llai na thri dyfynbris a gaffaelwyd, gofynnir i’r ymgeiswyr esbonio pam nad oedd hyn yn bosibl.
A gaiff landlordiaid cymdeithasol ymgeisio?
Cânt, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gymwys i wneud cais am gyllid grant.
Beth os yw oes Contract Cyweirio gan Ddatblygwr sy’n cwmpasu’r adeilad?
Pan fo adeilad a gwmpesir gan Gontract Cyweirio gan Ddatblygwr, dylai’r ymgeiswyr ymgysylltu â’r datblygwr perthnasol yn y lle cyntaf i drafod cyllido unrhyw ofynion larymau mesur interim.
Felly, dylai ymgeiswyr ddangos bod cyllid ar gyfer y mesurau arfaethedig wedi eu trafod â’r datblygwr, a, phan fo hynny’n briodol eu bod wedi eu ceisio ganddo, cyn gwneud cais am y grant. Mae’n bosibl y gofynnir am dystiolaeth o ymgysylltiad â’r datblygwr yn rhan o’r broses asesu cais.
Beth sy’n digwydd os bydd gwaith adfer diogelwch tân yn cael ei gwblhau cyn i’r larwm gael ei osod?
Dylai ymgeiswyr roi gwybod i Lywodraeth Cymru ar unwaith, oherwydd y gallai hyn effeithio ar eich cymhwysedd i gael cyllid grant.
A gaf hawlio TAW?
Mae’n bosibl y bydd TAW yn gymwys ar gyfer cyllid grant os na allwch ei hadhawlio. Ni ellir ariannu TAW â grant os ydych yn gallu ei hadennill.
Pryd y gallaf ddisgwyl taliad?
Mae cyllid grant yn arfer cael ei dalu mewn ôl-ddyledion ar ôl i osodiad y larwm interim gael ei gwblhau a chymeradwyaeth y dystiolaeth ategol angenrheidiol. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, os oes tystiolaeth o gyni ariannol, yr ystyried trefniadau talu eraill. Anogir ymgeiswyr i gysylltu â Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl i drafod eu hamgylchiadau.
Ble allaf ddod o hyd i’r ffurflen gais a’r canllawiau?
Mae’r ffurflen gais, y canllawiau a’r wybodaeth ategol ar gael yn Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) | LLYW.CYMRU
