Proffil aelodau bwrdd presennol cyrff cyhoeddus
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno dadansoddiad cryno o ymatebion arolwg a gyflwynwyd gan aelodau bwrdd presennol cyrff cyhoeddus Cymru.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yng Nghymru, mae cyfanswm o 30 o Gyrff Hyd Braich sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae i bob Corff Hyd Braich fwrdd o aelodau annibynnol, sy'n bodoli i gefnogi a chraffu ar berfformiad y corff dan sylw.
Un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw recriwtio a phenodi aelodau annibynnol i fyrddau Cyrff Hyd Braich. Awdurdodir yr holl benodiadau hyn (a elwir yn benodiadau cyhoeddus) gan Weinidog etholedig perthnasol Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o swyddogaeth Llywodraeth Cymru, rhaid adolygu cyfansoddiad ac amrywiaeth aelodau'r byrddau yn rheolaidd. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno dadansoddiad cryno o ymatebion aelodau bwrdd presennol cyrff cyhoeddus Cymru i arolwg.
Methodoleg
Anfonwyd yr arolwg at holl aelodau bwrdd presennol ein Cyrff Hyd Braich. Gofynnwyd i'r aelodau bwrdd ddarparu eu manylion rhwng 1 Ionawr a 28 Chwefror 2026.
Daeth 138 o ymatebion cyflawn i law.
Gan mai dewisol oedd yr arolwg, dylid ystyried y canfyddiadau yn amcan, yn hytrach nag yn gynrychiolaeth ystadegol.
Fel rhan o'r dadansoddiad, cymharwyd amrywiaeth aelodau bwrdd ag ystadegau poblogaeth genedlaethol Cymru yng Nghyfrifiad 2021.
1. Trosolwg o ymatebwyr yr arolwg
Dywedodd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr (dros 90%) mai un rôl gyhoeddus a reoleiddir oedd ganddynt. Dywedodd lleiafrif bach eu bod mewn dwy neu ragor. Cafwyd ymatebion gan ystod eang o gyrff cyhoeddus. Daeth y nifer uchaf o ymatebion gan fyrddau GIG a sefydliadau hyd braich cenedlaethol.
Dyma'r pum corff a ddarparodd y nifer mwyaf o ymatebion:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – 11 ymateb
- Gofal Cymdeithasol Cymru – 10 ymateb
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 9 ymateb
- Llais, sef Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol – 8 ymateb
- Hybu Cig Cymru – 8 ymateb
Roedd bron i hanner yr ymatebwyr (47%) yn byw yn y De-ddwyrain. Roedd 17% yn byw yn y De-orllewin, 12% yn byw yn y Gogledd a 7% yn byw yn y Canolbarth. Roedd ychydig o dan 17% o'r ymatebwyr yn byw y tu allan i Gymru.
2. Proffil oedran
Mae aelodaeth y byrddau yn gogwyddo'n drwm tuag at grwpiau oedran hŷn. Mae ffigur 1 yn dangos bod bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr yn 55 oed neu'n hŷn, ac roedd y niferoedd o dan 35 oed yn isel iawn (dim ond 2%). Mae hyn yn cyferbynnu â phoblogaeth Cymru, lle roedd ychydig o dan chwarter (23.1%) yn 16-34 oed.
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw a blwyddyn ar StatsCymru.
Y proffil oedran hwn yw un o'r gwahaniaethau mwyaf amlwg rhwng aelodau'r byrddau a'r boblogaeth ehangach. Mae'r grŵp oedran 16-34 wedi'i dangynrychioli, a'r grŵp oedran 35-64 wedi'i orgynrychioli'n sylweddol.
3. Rhywedd, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol
Menywod oedd mwyafrif yr ymatebwyr (57.7%), sy'n uwch na chyfran y menywod ym mhoblogaeth Cymru yn gyffredinol - gweler Tabl 1.
| Rhywedd | % yr ymatebwyr | % poblogaeth Cymru |
|---|---|---|
| Benyw | 57.7% | 51.1% |
| Gwryw | 42.3% | 48.9% |
Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw a blwyddyn ar StatsCymru.
Nododd tua thri chwarter yr ymatebwyr nad ydynt yn dioddef o unrhyw gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor. Mae hyn yn dynodi y gallai pobl anabl fod wedi'u tangynrychioli braidd ar fyrddau o gymharu â phoblogaeth Cymru, er y dylid cofio na fydd pawb wedi datgelu gwybodaeth.
- Mae 76.6% o'r ymatebwyr yn nodi nad ydynt yn anabl, o gymharu â 78.9% o'r boblogaeth (ffynhonnell: StatsCymru)
- Mae tua 16% o'r ymatebwyr yn nodi bod ganddynt salwch neu gyflwr hirdymor
- Mae 6.6% yn teimlo nad yw hyn yn cyfyngu arnynt
- Mae 9.5% yn teimlo bod hyn yn cyfyngu rywfaint arnynt
- Mae 5.1% yn teimlo bod hyn yn cyfyngu'n fawr arnynt
- Mae'n well gan 2.2% beidio â dweud
Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn ystyried eu hunain yn heterorywiol neu'n syth. Roedd cyfran fach yn ystyried eu hunain yn hoyw, yn lesbiaidd neu'n ddeurywiol, ond mae'r gyfran yn uwch na'r amcangyfrifon o'r boblogaeth. O'r rhai a nododd gyfeiriadedd rhywiol (a atebodd y cwestiwn yn hytrach na dewis "Mae'n well gen i beidio â dweud"):
| Cyfeiriadedd rhywiol | % yr ymatebwyr | % poblogaeth Cymru |
|---|---|---|
| Heterorywiol | 90.2% | 96.8% |
| Hoyw neu Lesbiaidd | 5.3% | 1.6% |
| Deurywiol neu arall | 4.5% | 1.6% |
| Mae'n well gennych beidio â dweud | 3.6% | 7.6% |
Ffynhonnell: Pobl fesul cyfeiriadedd rhywiol, ar gyfer Cymru ac awdurdodau lleol, Cyfrifiad 2021 ar StatsCymru.
4. Ethnigrwydd a chrefydd
Roedd tua naw o bob deg ymatebydd yn ystyried eu hunain yn Wyn. Mae cyfran aelodau'r byrddau sy'n dod o gefndir ethnig leiafrifol yn debyg o ran graddfa i gyfran y bobl yng Nghymru sy'n dod o gefndir ethnig leiafrifol, er bod y gynrychiolaeth yn amrywio yn ôl grŵp ethnig penodol. Yn fwyaf nodedig, mae cynrychiolaeth uwch ar gyfer pobl o gefndir Du, a chynrychiolaeth is ar gyfer pobl o gefndir Gwyn, Asiaidd neu Gymysg.
| Categori | % yr ymatebwyr | % poblogaeth Cymru |
|---|---|---|
| Gwyn | 89.8% | 93.8% |
| Du | 5.1% | 0.9% |
| Asiaidd | 0.7% | 2.9% |
| Cymysg / Arall | <0.5% | 2.5% |
Ffynhonnell: Pobl fesul grŵp ethnig, ar gyfer Cymru ac awdurdodau lleol, Cyfrifiad 2021 ar StatsCymru.
Roedd Cristnogion wedi'u gorgynrychioli ymhlith aelodau bwrdd o gymharu â Chymru gyfan, ac roedd y rhai a nododd nad oedd ganddynt grefydd wedi'u tangynrychioli. O'r rhai a nododd grefydd (a atebodd y cwestiwn yn hytrach na dewis "Mae'n well gen i beidio â dweud"):
| Crefydd | % yr ymatebwyr | % poblogaeth Cymru |
|---|---|---|
| Cristion | 60.6% | 46.5% |
| Dim crefydd | 35.6% | 49.7% |
| Crefydd arall | 3.8% | 3.8% |
| Mae'n well gennych beidio â dweud | 4.3% | 6.3% |
Ffynhonnell: Pobl fesul crefydd, ar gyfer Cymru ac awdurdodau lleol, Cyfrifiad 2021 ar StatsCymru.
5. Hunaniaeth genedlaethol a gallu yn y Gymraeg
Roedd ychydig yn llai na thri o bob pum ymatebydd yn ystyried eu hunain yn Gymry o ran hunaniaeth genedlaethol, sy'n cyd-fynd yn agos ag amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer poblogaeth Cymru.
- Cymreig: 57.7% (57.6% o'r boblogaeth sydd â hunaniaeth Gymreig yn unig - ffynhonnel: StatsCymru)
- Prydeinig: 31.4%
- Seisnig: 7.3%
- Gwyddelig: 1.5%
Mae gallu aelodau'r byrddau yn y Gymraeg yn sylweddol uwch nag ym mhoblogaeth Cymru yn gyffredinol. O'r ymatebwyr hynny a nododd eu gallu yn y Gymraeg, nododd tua thraean eu bod yn rhugl yn y Gymraeg (34.3%), a nododd bron i draean rywfaint o allu yn y Gymraeg (32.1%). Mae hyn yn cymharu â llai nag un o bob pump sy'n byw yng Nghymru (23.2%) a nododd y gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu siarad Cymraeg yn ôl oedran, rhyw a blwyddyn ar StatsCymru).
