Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddwyd Papur Gwyn Iechyd y Cyhoedd ym mis Ebrill, oedd yn arwydd o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i greu deddfwriaeth er mwyn gwella ac amddiffyn iechyd a llesiant pobl Cymru. Cafodd yr Aelodau y diweddaraf am yr ymgynghoriad mewn datganiad llafar ar 7 Hydref ac rwy’n falch o gael cyhoeddi adroddiad cryno nawr ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Amlinellodd Papur Gwyn Iechyd y Cyhoedd gyfres o gynigion deddfwriaethol mentrus ac ymarferol i fynd i’r afael â heriau iechyd penodol mewn meysydd fel rheoli tybaco, sigaréts electronig, y defnydd o alcohol, a thoiledau at ddefnydd y cyhoedd. Roedd y cynigion yn seiliedig ar egwyddorion iechyd darbodus ac yn hybu ymhellach iechyd y boblogaeth ac atal problemau fel nodweddion canolog ar ein hagenda yng Nghymru. Mae’n bwysig nodi bod y cynigion yn gorwedd ochr yn ochr â’r dull gweithredu cyffredinol ar gyfer deddfwriaeth drwy Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n gosod gwella iechyd fel targed canolog ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Arweiniodd cynigion y Papur Gwyn at drafodaeth fywiog a diddordeb helaeth. Mae amrywiaeth y safbwyntiau cryf ar yr ystod lawn o gynigion yn dangos pa mor bwysig yw’r materion hyn i bobl ledled Cymru. Nid oedd barn unffurf ar yr un cynnig. Ym mhob achos, roedd rhai’n dadlau y dylid ehangu ar y cynigion a’u datblygu ymhellach; yn yr un modd roedd rhai’n dadlau dros ddiwygio mwy cynnil. Daeth cyfoeth o wybodaeth a thystiolaeth werthfawr i law drwy’r ymatebion mewn perthynas â holl bynciau’r Papur Gwyn.

Cafwyd nifer fawr o ymatebion i’r ymgynghoriad a chefnogaeth gref ar y cyfan i’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni. Daeth mwy na 700 o ymatebion i law gan amrywiaeth eang o randdeiliaid a’r cyhoedd. Gan fod amddiffyn iechyd a llesiant plant a phobl ifanc yn y dyfodol yn ganolbwynt i nifer o’r cynigion, roedd yn arbennig o galonogol bod safbwyntiau mwy na 200 o blant a phobl ifanc i’w gweld yn yr ymatebion.

Ni all adroddiad cryno adlewyrchu’r holl faterion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori, ond mae pob un o’r cyfraniadau wedi cael eu croesawu, eu darllen a’u hystyried. Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyflwyno’u safbwyntiau a chymryd rhan yn y cyfarfodydd a’r trafodaethau cyhoeddus. Cyhoeddir cyfres o ddogfennau yn cynnwys yr ymatebion ochr yn ochr â’r adroddiad cryno.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr ymatebion wrth i waith manwl fynd yn ei flaen i ddatblygu deddfwriaeth ar y cynigion yn y Papur Gwyn cyn toriad yr haf yn 2015. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau’n cael y diweddaraf ar hynt y gwaith.

Bydd crynodeb o’r ymatebion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.