Mewn pecyn cymorth newydd gan UNESCO a gyhoeddwyd heddiw, cyfeirir at brofiad Cymru o ddod â'r Gymraeg i mewn i'r byd digidol fel esiampl ryngwladol amlwg.
- Defnyddio profiad Cymru o ddatblygu a chefnogi technoleg ddwyieithog i ddatblygu pecyn cymorth newydd UNESCO.
- Mae'r pecyn cymorth yn darparu canllawiau ymarferol i gefnogi gwasanaethau digidol amlieithog.
- Mae UNESCO yn rhannu profiad Cymru yn rhyngwladol i helpu gwledydd a chymunedau eraill i gryfhau'r defnydd o'u hieithoedd yn y byd digidol.
Mae'r pecyn cymorth ymarferol ar gyfer cefnogi gwasanaethau digidol amlieithog yn tynnu ar arbenigedd Cymru o ran ymgorffori'r Gymraeg mewn gwefannau, apiau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n addasu Pecyn Cymorth Technoleg Ddwyieithog Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer cynulleidfa ryngwladol, gan roi arweiniad ymarferol i genhedloedd eraill ar wneud yr un peth, yn enwedig y rhai sydd â llai o adnoddau ac sydd â ieithoedd brodorol.
Mae'r pecyn cymorth yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol Rhyngwladol UNESCO. Mae'r cyhoeddiad yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu, ac enw da cynyddol Cymru fel arweinydd byd ym maes technoleg iaith. Wrth i wledydd a chymunedau chwilio am ffyrdd o gryfhau'r defnydd o'u hieithoedd yn yr oes ddigidol, mae Cymru yn helpu i lywio'r sgwrs ryngwladol ac yn darparu model ymarferol y gall eraill ei ddilyn.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol UNESCO ym maes Cyfathrebu a Gwybodaeth, Mariya Gabriel:
Gan dynnu ar brofiad Llywodraeth Cymru o integreiddio'r Gymraeg i lwyfannau digidol, bydd y Pecyn Cymorth Ymarferol hwn yn helpu pawb i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol mewn ffordd gyfartal, yn enwedig siaradwyr ieithoedd brodorol sydd â llai o adnoddau, gan gefnogi amcanion Compact Digidol Byd-eang y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:
Mae'r Gymraeg yn perthyn inni i gyd, ac mae'n rhaid sicrhau lle cryf iddi yn y technolegau y mae pobl yn eu defnyddio bob dydd.
Mae Cymru yn cael ei chydnabod fwyfwy ledled y byd am ei hymdrechion i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, ac am ddangos y gall ein hiaith ffynnu fel rhan o fywyd modern bob dydd.
Mae'n destun balchder i mi bod UNESCO yn tynnu ar ein profiad a'n harbenigedd, ac yn ei rannu â llywodraethau a chymunedau ledled y byd. Mae gweld Cymru yn helpu cenhedloedd eraill i ddod â'u hieithoedd eu hunain i mewn i'r oes ddigidol yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwn ei wneud ar y llwyfan rhyngwladol.
Wrth i dechnoleg barhau i esblygu, mae'n bwysig nad yw ieithoedd llai yn cael eu gadael ar ôl. Drwy rannu ein profiad, fe allwn ni helpu i gefnogi ymdrechion i sicrhau dyfodol cryf i fwy o ieithoedd yn yr oes ddigidol, a'u bod yn rhan naturiol o'r ffordd y mae pobl yn cyfathrebu, yn dysgu ac yn manteisio ar wasanaethau.
