Mae dull newydd wedi'i gynllunio i gryfhau atebolrwydd GIG Cymru, yn ogystal â nodi risgiau'n gynt a darparu cymorth i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gynt.
- mae dull newydd wedi'i gynllunio i gryfhau atebolrwydd GIG Cymru, yn ogystal â nodi risgiau'n gynt a darparu cymorth i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gynt
- bydd y cymorth yn gymesur, am gyfnod penodol ac yn seiliedig ar dystiolaeth glir o gynnydd
- Dywed y Gweinidog Iechyd mai'r nod yw rhoi mwy o hyder i bobl bod gwasanaethau'r GIG yn cael eu cefnogi i wella pan fydd heriau'n codi
Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru yn cael eu dwyn i gyfrif yn fwy clir ac yn cael cymorth cynharach, mwy cyson i fynd i'r afael â heriau cyn iddynt droi'n broblemau difrifol, o dan ddull newydd a lansiwyd heddiw.
Mae Fframwaith Atebolrwydd a Chymorth GIG Cymru yn disodli'r hen Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio, gan ddod ag atebolrwydd, sicrwydd a chymorth ar gyfer gwella ynghyd am y tro cyntaf.
Yn ei chynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad o effeithiolrwydd Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth GIG Cymru.
Dywed y Gweinidog Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, fod y dull newydd wedi'i gynllunio i gryfhau atebolrwydd a nodi problemau'n gynt fel bod sefydliadau'r GIG yn cael yr help sydd ei angen arnynt cyn i broblemau ymwreiddio.
Mae'r dull newydd yn gosod disgwyliadau cliriach ar gyfer byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ac yn rhoi ffordd fwy cyson i Lywodraeth Cymru asesu a ydynt yn cyflawni'r hyn a ddisgwylir ganddynt.
Mae'r system 5 lefel ar gyfer nodi ac ymateb i bryderon, sy'n amrywio o oruchwyliaeth arferol ar Lefel 1 i ymyrraeth ddwys ar Lefel 5, bellach yn adlewyrchu nid yn unig ddifrifoldeb y pryder ond hefyd sut y bydd cymorth yn cael ei sbarduno'n gynt i atal uwchgyfeirio.
O dan y trefniadau newydd, bydd perfformiad sefydliadau'n cael ei asesu ar draws 5 maes allweddol:
- arweinyddiaeth ac effeithiolrwydd sefydliadol
- perfformiad
- ansawdd
- y gweithlu
- chyllid a chynllunio
Mae hyn yn rhoi darlun mwy cyflawn o'r heriau sy'n wynebu byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, gan gydnabod bod problemau mewn un maes yn aml yn gysylltiedig â phwysau mewn mannau eraill yn y sefydliad.
Bydd unrhyw gymorth a roddir yn glir, yn gymesur ac am gyfnod penodol, a disgwylir i sefydliadau ddangos cynnydd o fewn amserlen y cytunwyd arni.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:
Mae'r dull newydd hwn yn gam pwysig ymlaen i NHS Cymru. Mae atebolrwydd a chymorth yn mynd law yn llaw. Mi fyddwn ni'n parhau i ddwyn sefydliadau i gyfrif am ddarparu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel, ond mi fyddwn ni hefyd yn sicrhau bod y cymorth cywir ar gael pan fydd ei angen arnyn nhw.
Mae'n golygu y gallwn ni nodi pryderon yn gynt, cynnig cymorth mwy cyson i'n byrddau iechyd a'n hymddiriedolaethau, a'u helpu i fynd i'r afael â heriau cyn iddyn nhw wreiddio.
Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â rhoi mwy o hyder i bobl Cymru bod gwasanaethau'r NHS yn cael y cymorth cywir i wella pan fydd heriau'n codi, fel bod pawb yn cael y safon uchel o ofal maen nhw'n ei haeddu.
