Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £2filiwn mewn cyfleusterau chwaraeon ledled y wlad.
Mae buddsoddiad pellach o £2filiwn yn cael ei wneud mewn chwaraeon yng Nghymru i ariannu amrywiaeth o brosiectau a sefydliadau, gan gynnwys rhan o gyfleuster beicio gwerth miliynau o bunnoedd cyn i'r Tour de France ymweld â Chymru y flwyddyn nesaf.
Mae'r £2filiwn ychwanegol hwn yn dod â chyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Chwaraeon Cymru, sy'n dosbarthu'r arian ar eu rhan, i gyfanswm o £13miliwn mewn cyfalaf ar gyfer 2026 i 2027.
Mae'r prosiectau sy'n cael eu cefnogi ledled y wlad yn cynnwys:
- Cylchdaith seiclo ffordd gaeedig yng Nghaerdydd, sy'n rhan o brosiect gwerth miliynau o bunnoedd cyn Tour de France, gan ddarparu gwaddol parhaol i'r ddinas. Bydd y gylched amlswyddogaethol yn cefnogi sesiynau hyfforddi clybiau, at ddefnydd ysgolion, sesiynau cymunedol, digwyddiadau a chystadlaethau, hyfforddi a datblygu'r gweithlu, a gweithgareddau talu a theithio.
- Bydd prosiect gyda Nofio Cymru yn ariannu "podiau pwll" mewn o leiaf 6 phwll nofio ledled Cymru. Mae'r gosodiadau llawr mesanîn hyn yn rhoi mynediad haws a mwy cynnil i byllau ac o byllau i bobl anabl a phobl hŷn.
- Bydd y cynllun Grant Arbed Ynni - sydd wedi'i ordanysgrifio yn ei ddwy rownd flaenorol o geisiadau - yn derbyn dyraniad pellach i alluogi Chwaraeon Cymru i ariannu sawl prosiect arall ar draws sawl math o chwaraeon a chyfleusterau.
- Mae cynlluniau ar y gweill i uwchraddio'r llifoleuadau presennol yn Felodrom Parc Caerfyrddin i LED, ac i ychwanegu colofnau goleuadau newydd at goronau'r ddau dro.
- Mae prosiect cae artiffisial yn cael ei gefnogi, gan helpu i gyflwyno cynlluniau i wella darpariaeth chwaraeon cymunedol.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Ers dod yn Weindiog, dw i wedi bod yn glir bod diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yn rhan hanfodol o fywyd cenedlaethol. Maen nhw'n ganolog i’n hunaniaeth, ac mae'r llywodraeth hon yn cydnabod eu grym unigryw i ddatgloi potensial economaidd Cymru, cynnal cymunedau bywiog a chydlynol a hyrwyddo llesiant ein pobl. Dyna pam rydyn ni'n cymryd camau ymarferol ar unwaith i gefnogi uchelgais Cymru ar gyfer chwaraeon gyda buddsoddiad.
“Er mwyn cefnogi ein gweledigaeth, rydyn ni wedi ymrwymo £2filiwn ychwanegolar gyfer chwaraeon, gan dyfu cyfanswm ein buddsoddiad cyfalaf yn 2026 i 2027 i £13miliwn. Nid arian ychwanegol yn erbyn hen gynlluniau yw hyn. Mae'n adlewyrchu dewis bwriadol i ail-flaenoriaethu cyllid cyfalaf tuag at y prosiectau a fydd yn sicrhau'r effaith fwyaf.”
Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, a fydd yn darparu'r arian i brosiectau a sefydliadau:
“Rydyn ni'n croesawu'n fawr y buddsoddiad ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn helpu i greu a gwella cyfleoedd i bobl ledled Cymru fod yn egnïol, cymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau'r manteision yn sgil hynny i'w hiechyd a'u llesiant.
“Mae'r prosiectau hyn yn aml yn ymwneud â mwy na'r cyfleuster ei hun yn unig. Maen nhw'n creu lleoedd lle gall cymunedau ddod at ei gilydd a lle gall mwy o bobl gymryd rhan, ni waeth beth fo'u hoedran, eu gallu neu eu cefndir.
“Rydyn ni'n diolch i Lywodraeth Cymru am ei chymorth parhaus ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod y buddsoddiadau hyn yn darparu manteision parhaol i gymunedau, cyfranogwyr a'r system chwaraeon yn ehangach.”
