Adam Price AS, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Heddiw, rwy’n rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfeiriad cymorth cyflogadwyedd yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i helpu pobl i symud tuag at gyflogaeth, dechrau gweithio, a chamu ymlaen mewn swyddi teg a chynaliadwy. Rwyf wedi ei gwneud yn glir y bydd cymorth cyflogadwyedd effeithiol yn parhau i chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac wrth gefnogi twf cynhyrchiant ledled Cymru.
Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi ystyried trefniadau ar gyfer cymorth yn y dyfodol, gan gynnwys y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd arfaethedig, y bwriadwyd iddi ddisodli’r ddarpariaeth bresennol ar gyflogadwyedd. Mae’r ystyriaeth hon wedi digwydd mewn cyd-destun lle mae’r amgylchedd y mae cymorth cyflogadwyedd yn gweithredu ynddo yn dod yn fwyfwy cymhleth.
Mae’r cymhlethdodau hyn yn cynnwys newidiadau yn y dyfodol i ddarpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau, cyfleoedd sy’n deillio o ddatganoli pellach posibl, a newidiadau ehangach yn yr economi, gan gynnwys goblygiadau deallusrwydd artiffisial ar gyfer cyfranogiad yn y farchnad lafur, galw o ran y gweithlu, a llwybrau i gyflogaeth. Mae hyn i gyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch sut y dylid dylunio cymorth cyflogadwyedd, pwy ddylai gael eu blaenoriaethu, a’r ymyriadau sydd fwyaf tebygol o gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Mae hwn yn gyfnod o ansicrwydd a chyfleoedd, ac efallai y bydd angen inni addasu ein dull gweithredu yn ystod tymor y Senedd. Yn y cyd-destun hwn, mae’n bwysig bod darpariaeth yn y dyfodol yn cael ei llywio gan y dystiolaeth gryfaf sydd ar gael, a’n bod yn cadw’r hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau sy’n newid.
Mae angen cymaint o hyblygrwydd â phosibl er mwyn ystyried y ffordd orau o ymateb i dirwedd polisi a marchnad lafur sy’n datblygu’n gyflym. Gallai caffael barhau i fod yn fecanwaith cyflawni priodol yn y dyfodol, ond nid wyf yn credu y byddai’n iawn ar hyn o bryd i wneud ymrwymiad polisi ac ariannol hirdymor sylweddol trwy’r model Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd.
Dim ond os oes swyddi yn bodoli yn y lle cyntaf y gall pobl symud i waith. Dim ond hanner yr her yw helpu pobl i fod yn barod am swydd. Yr hanner arall yw sicrhau bod cyflogwyr yn barod i recriwtio a bod busnesau yn barod i dyfu. Yn rhy aml, mae llywodraethau wedi canolbwyntio ar ochr cyflenwad y farchnad lafur a heb roi digon o sylw i’r ochr arall, y galw. Rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â hyn.
Dyna pam rwyf wedi penderfynu na ddylai proses gaffael Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd y Llywodraeth flaenorol fynd yn ei blaen. Rwyf hefyd wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r elfen newydd gysylltiedig o’r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd a ariennir gan grant. Rwy’n cydnabod arwyddocâd y penderfyniad hwn, yn enwedig i sefydliadau sydd wedi ymgysylltu’n helaeth â’r broses gaffael.
Yn hytrach na bwrw ymlaen â’r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd, rwy’n cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn contract Twf Swyddi Cymru+ am flwyddyn arall tan 31 Mawrth 2028. Bydd hyn yn darparu sefydlogrwydd i gyfranogwyr a phartneriaid cyflenwi wrth sicrhau bod cymorth yn parhau i fod ar gael i’r rhai sydd ei angen. Bydd penderfyniadau ar ddyfodol rhaglenni a ariennir gan grant Cymunedau am Waith a Mwy a ReAct+ yn cael eu gwneud fel rhan o broses cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yr hydref hwn.
Rydym yn parhau’n ymrwymedig i helpu mwy o bobl ifanc i fanteisio ar addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, gan weithio ar draws ffiniau adrannau i sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei ddarparu yn cyd-fynd yn well â gwasanaethau ehangach ac yn ymateb i’r ystod lawn o rwystrau y gallai unigolion eu hwynebu. Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn ystyried cymhellion ochr y galw i gyflogwyr yn ogystal â chymorth ochr y cyflenwad i unigolion. Byddwn yn ystyried tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ac yn archwilio sut y gall cymorth cyflogadwyedd gyfrannu orau at ein cenhadaeth cynhyrchiant a’n hamcanion economaidd ehangach, a chyd-fynd â’n hymyriadau sgiliau a’n dull gweithredu o ran prentisiaethau.
Rwyf wedi ymrwymo i helpu pobl i gyflawni eu potensial trwy waith ac i sicrhau ein bod yn ymateb i dirwedd sy’n datblygu’n gyflym. Ni allwn fforddio llaesu dwylo. Rhaid inni barhau i werthuso beth sy’n gweithio, tynnu sylw at beth sydd ddim yn gweithio, a bod yn barod i newid cyfeiriad os bydd y dystiolaeth yn mynnu hynny. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.
