Neidio i'r prif gynnwys

Rydyn ni'n annog pobl Cymru i edrych i weld pa gymorth ariannol y gallen nhw ei hawlio, gan fod mwy na £1 biliwn o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio bob blwyddyn yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Gallai miloedd o bobl ledled Cymru fod yn colli allan ar arian y mae ganddyn nhw'r hawl iddo, wrth i filiau ynni gyrraedd eu lefel uchaf ers tair blynedd y gaeaf hwn.
  • Mae'r ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi yn cysylltu pobl â chyngor cyfrinachol rhad ac am ddim drwy Advicelink Cymru - sy'n rhan o becyn cymorth costau byw Llywodraeth Cymru.
  • Y llynedd, fe wnaeth Advicelink Cymru, a darparwyr cyngor eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru, helpu 79,000 o bobl ledled Cymru gyda materion lles cymdeithasol.

Gyda biliau ynni ar fin cyrraedd eu huchaf ers tair blynedd y gaeaf hwn, mae'r ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi gan Lywodraeth Cymru'n annog pobl i gael cyngor rhad ac am ddim cyn i'r pwysau ariannol gynyddu.

Gallai pobl fod â hawl i gymorth ychwanegol p'un a ydyn nhw'n gyflogedig, yn ddi-waith, yn astudio, neu eisoes yn hawlio budd-daliadau.

Mae'r ymgyrch yn cyfeirio pobl at linell gymorth Advicelink Cymru - gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol rhad ac am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae cynghorwyr hyfforddedig yn edrych yn fanwl ar sefyllfa pobl dros y ffôn ac yn eu helpu i ddeall beth y mae ganddyn nhw'r hawl iddo. Gallen nhw hefyd gefnogi pobl drwy gydol y broses hawlio os oes angen, gan gynnwys eu helpu i lenwi ffurflenni.

Gall y gwasanaeth gynghori ar ddyledion, rhent a biliau, costau llety prifysgol, a chostau gofal plant.

Y llynedd, fe wnaeth Advicelink Cymru, a darparwyr eraill y Gronfa Gynghori Sengl a ariennir gan Lywodraeth Cymru, helpu mwy na 79,000 o bobl ar hyd a lled Cymru. Gyda'i gilydd, fe wnaethan nhw sicrhau £75.6 miliwn o incwm ychwanegol a helpu i ddileu £21 miliwn o ddyled.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams: 

"Rydyn ni'n gwybod bod pobl ledled Cymru o dan bwysau mawr yn sgil costau cynyddol, ac i lawer o deuluoedd, dyw arian ddim yn mynd yn ddigon pell.

"Mae rhai o'r pethau sy'n cyfrannu at y pwysau hwn, fel biliau ynni cynyddol, y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Ond rydyn ni'n defnyddio pob pŵer sydd gennym ni i helpu pobl i reoli costau byw.

"Gallai miloedd o bobl fod yn colli allan ar arian y mae ganddyn nhw hawl iddo, a gallai un alwad ffôn rhad ac am ddim wneud byd o wahaniaeth. Rydyn ni am helpu pobl cyn iddyn nhw wynebu anawsterau ariannol, ac rwy'n annog unrhyw un sy'n cael trafferth i ffonio Advicelink Cymru am gyngor cyn gynted â phosibl.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd angen mwy o gefnogaeth ar lawer o bobl o hyd. Petai gennym fwy o reolaeth dros feysydd fel nawdd cymdeithasol, gallem wneud llawer mwy i helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw hwn."

Roedd Julia, mam i bedwar o blant sy'n dibynnu'n llwyr ar Gredyd Cynhwysol a Budd-daliadau Plant, yn cael trafferth talu rhent a chostau ynni. Tynnodd Advicelink Cymru sylw at gymorth pellach, gan gynnwys y Taliad Disgresiwn at Gostau Tai a bargeinion gwell o ran ynni, gan helpu i gynyddu incwm ei theulu.

Dywedodd Robin Jones, cynghorydd yn Advicelink Cymru: 

"Nid yw achos Julia'n unigryw. Rydyn ni'n cefnogi pobl sydd ddim yn gwybod am y cymorth ariannol y gallen nhw fod â hawl iddo, yn enwedig ar ôl newid yn eu hamgylchiadau, neu pan fyddan nhw'n cael trafferth â chostau hanfodol yn sgil colli gwaith, problemau iechyd, problemau o ran tai, neu berthynas yn chwalu.

"Drwy ddeall sefyllfa pob person, gallwn dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a'u helpu i gael gafael arno. Yn achos Julia, gallai hynny olygu £2,195 ychwanegol y mis, gan leddfu'r pwysau o ran rhent a biliau ynni a rhoi mwy o sicrwydd ariannol i'w theulu."

Mae'r ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi yn rhan o becyn ehangach o gymorth costau byw Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys y Gronfa Gynghori Sengl, y Gronfa Cymorth Dewisol, y Rhaglen Cartrefi Clyd, talebau banc tanwydd, prydau ysgol am ddim, tocynnau bws rhatach a gofal plant i blant rhwng 9 mis a 4 oed.