Neidio i'r prif gynnwys

Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â’r tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn Llywodraeth Cymru, drwy e-bostio: risgllifogyddarfordirol@llyw.cymru 

© Hawlfraint y Goron 2026      
WG55358         
ISBN digidol 978-1-80853-457-7

Cyflwyniad: Y Gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Mae Llywodraeth Cymru yn annog Awdurdodau Rheoli Perygl i fynd ar drywydd ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol ac, i gefnogi hyn, mae’r Canllawiau ar Achosion Busnes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn ei gwneud yn orfodol ystyried Rheoli Llifogydd yn Naturiol mewn perthynas â phob cynllun.

Mae parhad y rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn ceisio cyflymu ein gwaith o gyflawni ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol i leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â llifogydd neu erydu arfordirol ac mae’n cefnogi ein huchelgais i reoli perygl llifogydd ar raddfa dalgylch. Bydd allbynnau’r rhaglen hon hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn rhoi cyfleoedd dewisol a chydweithredol i ffermwyr gyflawni gwaith Rheoli Llifogydd yn Naturiol.

Rydym yn bwriadu cyflymu’r gwaith o gyflawni Rheoli Llifogydd yn Naturiol ymhellach drwy barhau i gynnig cyllid o 100% am ddylunio neu gyflawni cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol, neu’r ddau beth, o fewn y rhaglen hon. 
 

Dylunio’r cynllun

Gall gwneud gwaith dylunio ymlaen llaw roi gwell syniad o gostau’r cynllun a gwell cynllun yn y pen draw, felly rydym yn fodlon ystyried ceisiadau am yr elfen ddylunio yn unig ar gyfer cynllun Rheoli Llifogydd yn Naturiol rydych chi’n bwriadu ei adeiladu o fewn dwy flwyddyn ariannol ar ôl cwblhau’r gwaith dylunio. Wrth gytuno ar gyllid am waith dylunio y mae angen ei gwblhau o fewn y flwyddyn ariannol, dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:  

  • Os gall y gwaith dylunio a’r gwaith adeiladu gael eu cwblhau o fewn un flwyddyn ariannol, dylai’r ddau gam gael eu cynnwys yn yr un cais. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid cyflwyno cais ar wahân am y cam adeiladu mewn blwyddyn ariannol ddiweddarach. Rhaid gwneud hyn o fewn dwy flynedd i gwblhau’r cam dylunio. 
  • Os na fydd y cynllun yn symud i’r cam adeiladu o fewn dwy flynedd i gwblhau’r gwaith dylunio, rydym yn cadw’r hawl i gymryd y cyllid a ddarparwyd am y cam hwn yn ôl. 
  • Bydd y rhaglen yn cynnwys cyllid ar sail blwyddyn a bydd yn rhedeg o fis Ebrill i fis Mawrth. Nid oes sicrwydd y bydd cyllid ar gael mewn blwyddyn ariannol ddiweddarach ar gyfer y cam adeiladu. 
  • Ni ddylai’r gost dylunio ac adeiladu gyda’i gilydd fod yn fwy na £300,000 fesul cynllun (heb gynnwys costau dylunio ‘suddedig’ os cafodd y gwaith ei wneud mewn blwyddyn flaenorol fel rhan o’r cam dylunio drwy’r rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol).
  • Dylai gwaith dylunio yn unig gael ei gwblhau o fewn un flwyddyn ariannol ac mae wedi’i gyfyngu i £50,000. Gall y costau hyn gael eu hystyried yn gostau ‘suddedig’ ac nid ydynt yn rhan o gost gyffredinol y cam adeiladu dilynol.
  • Mae cynlluniau adeiladu un flwyddyn, neu gynlluniau dylunio ac adeiladu un flwyddyn, wedi’u cyfyngu i gyfanswm o £300,000.

Nid yw’r cyllid hwn yn cynnwys cyllid ar gyfer gwaith cynnal a chadw parhaus, monitro na thaliadau iawndal. Fodd bynnag, gall gael ei ddefnyddio i osod offer monitro.

Nid yw costau iawndal yn gymwys am gyllid o dan y rhaglen hon i osgoi’r perygl o ddyblygu cyllid neu gyllid sy’n gorgyffwrdd, yn enwedig lle gall cymorth tebyg fod ar gael drwy gynlluniau eraill fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Ni fydd yn ofynnol i Awdurdodau Rheoli Perygl ddarparu cyfraniad tuag at gostau cyflawni cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol, neu elfennau Rheoli Llifogydd yn Naturiol cynlluniau “hybrid”. Fodd bynnag, efallai y byddant am ychwanegu at gyllid i ddarparu buddion ychwanegol neu geisio cymorth ychwanegol gan drydydd partïon sy’n dymuno cyfrannu.

Gall penderfyniadau cyllido gael eu gwneud yn seiliedig ar flaenoriaethu cynlluniau yn ôl y buddion y maent yn eu darparu, a bydd cynifer o gynlluniau yn cael eu cyllido ag y bydd y gyllideb sydd ar gael yn ei ganiatáu.  

Bydd cyllid grant yn cael ei ddyfarnu yn unol â’r cyfraddau grant presennol ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Rhaid i’r gwaith gael ei wneud, ei gwblhau, a rhaid hawlio amdano, o fewn y flwyddyn ariannol pan ddyfernir cyllid i’r cynllun. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Cyhoeddwyd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2026: disgrifiad o'r cynllun ym mis Gorffennaf. Mae’n amlinellu gofynion a chyfraddau talu arfaethedig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fel bod pobl yn gwybod beth sy’n ofynnol os byddant yn dewis bod yn rhan o’r Cynllun yn 2026.

Dyma ddechrau rhaglen hirdymor newydd i gefnogi’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae’r Cynllun wedi’i gynllunio i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac yn barhaus, gan ar yr un pryd fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. 

Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys gofyniad bod o leiaf 10% o bob fferm yn cael ei rheoli fel cynefin. Gweler Pennod 3 am fanylion yr hyn all gyfrannu at y gofyniad o 10% yn y cynllun. Mae angen cynnwys ardaloedd o gynefin lled-naturiol presennol ac ardaloedd cynefin sydd newydd eu creu neu sydd wedi’u hadfer ar dir wedi’i wella, ac mae’n bosibl cynnwys (lle bo angen) ardaloedd sefydledig o goetir llydanddail. Felly, bydd ardaloedd ymyrraeth Rheoli Llifogydd yn Naturiol sy’n cyd-fynd â’r mathau o gynefinoedd a restrir ac a ddisgrifir yn Atodiad 5 yn gymwys. Mae hefyd yn werth nodi nad yw nodweddion man penodol (yn hytrach na nodweddion sy’n seiliedig ar ardal), fel argaeau sy’n gollwng neu goed unigol, yn gallu cyfrannu at y ganran ar eu pennau eu hunain, er y byddai’r tir y maent yn sefyll arno, os yw’n gynefin presennol, yn gallu cyfrannu.

Meini prawf cymhwystra

Yn yr un modd â grant craidd Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, mae’r gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol ddim ond ar gael i Awdurdodau Rheoli Perygl sy’n gweithredu yng Nghymru. Fodd bynnag, byddem yn annog Awdurdodau Rheoli Perygl i gydweithio ag unrhyw ddarpar bartneriaid a meysydd cyllido traws-bolisi i gyrchu arian ychwanegol i gefnogi dull gweithredu a buddion i ddalgylch mwy. Gallai hyn hefyd gynnwys Awdurdodau Lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyllido trydydd partïon i wneud gwaith ar eu rhan a’r Awdurdod Rheoli Perygl yn gwneud cais am gyllid grant gan Lywodraeth Cymru, ac yn ei hawlio.

Yn unol â’n polisi cyllido a amlinellir yn y Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, rhaid i’r holl ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol arfaethedig leihau’r perygl i bobl ac eiddo neu gynnal eu lefelau diogelwch presennol. Mae hyn yn cyd-fynd â grant craidd Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae angen i’r gwaith fod yn werth chweil yn economaidd a bodloni’r holl ofynion statudol angenrheidiol.

I gefnogi gwerthusiad parhaus cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol, rhaid i bob prosiect gynnwys gwaith monitro ar ôl adeiladu a ddylai gael ei gyllido drwy grantiau refeniw presennol.

Rydym yn cydnabod bod mesur y buddion sy’n gysylltiedig â chyflawni cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn parhau i fod yn heriol. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar wedi arwain at ddatblygu dulliau mwy cymesur a chyson o amcangyfrif buddion Rheoli Llifogydd yn Naturiol, gan ddefnyddio sylfeini tystiolaeth sefydledig ar draws y DU, offer prisio amgylcheddol a setiau data cenedlaethol ar berygl llifogydd. Mae’r dulliau hyn wedi’u cynllunio i ddatblygu dros amser pan fydd rhagor o dystiolaeth fonitro ar gael.

Felly, mae monitro a chasglu data yn parhau i fod yn hanfodol i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth a dylai ymgeiswyr amlinellu’n glir sut y bydd yr allbynnau a’r canlyniadau yn cael eu cofnodi. Gall hyn gynnwys cyfuniad o dystiolaeth feintiol ac ansoddol, gan gynnwys tystiolaeth anecdotaidd neu gymunedol briodol lle nad yw dulliau casglu data mwy ffurfiol yn bosibl nac yn gymesur.

Ar hyn o bryd, mae data monitro yn cael ei gasglu a’i gadw yn bennaf ar lefel prosiect neu Awdurdod Rheoli Perygl, yn hytrach na mewn un gronfa ganolog yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn annog ymgeiswyr i fabwysiadu dulliau cyson a thryloyw o gofnodi canlyniadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i wrthod cynlluniau nad ydynt yn dangos dull clir a chymesur o roi tystiolaeth o werth am arian.

Dylid cynnwys y buddion ehangach a ddisgwylir yn y cais er mwyn eu hystyried ac i gefnogi’r cais. Disgwylir i Awdurdodau Rheoli Perygl adrodd ar gynnydd mewn perthynas â buddion ehangach wrth i’r cynlluniau symud yn eu blaenau.

Gwahoddir Awdurdodau Rheoli Perygl i gyflwyno ceisiadau gwerth hyd at £300,000 fesul cynllun adeiladu a dylunio sy’n cael ei gyflawni mewn un flwyddyn, £50,000 am ddylunio yn unig mewn un flwyddyn ac yna uchafswm o £300,000 am adeiladu o fewn dwy flynedd i’r gwaith dylunio yn unig, gan ddefnyddio’r ceisiadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar RPW Ar-lein.

Mae cynlluniau â gwerth uwch yn dal i fod yn gymwys ond dylid eu trafod yn gyntaf gyda’r tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol i ystyried a yw llwybr Cyfiawnhad Busnes ar wahân neu Achos Busnes Llawn yn fwy priodol.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflawni mewn ffordd debyg i’r Grant Gwaith Graddfa Fach, lle gall awdurdodau lleol gyflwyno nifer o geisiadau am gynlluniau; rhaid cwblhau pob cynllun a chyflwyno’r hawliad terfynol erbyn y dyddiad a nodir yn y llythyr dyfarnu grant. 

Gwaith nad yw’n gymwys am gyllid

Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o ran Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol o hyd yw perygl i fywyd a dylai pob cynllun leihau’r perygl i gartrefi, fodd bynnag, gall lleihau’r perygl i wasanaethau neu gyfleustodau eraill, er enghraifft, ffyrdd, rheilffyrdd neu amaethyddiaeth, fod yn fudd ychwanegol. Ni fyddai cynlluniau sy’n benodol yn lleihau’r perygl i dir amaethyddol, ffyrdd neu seilwaith arall yn unig yn gymwys.

Nid yw costau iawndal yn gymwys am gyllid o dan y rhaglen hon. Mae hyn i osgoi’r perygl o ddyblygu cyllid neu gyllid sy’n gorgyffwrdd, yn enwedig lle gall cymorth tebyg fod ar gael drwy gynlluniau eraill fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Y broses ymgeisio

Dylid cyflwyno ceisiadau i’r Gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol, gan ddefnyddio’r ffurflen ar RPW Ar-lein, am gynlluniau gwerth hyd at £300,000 fesul cynllun adeiladu a dylunio sy’n cael ei gyflawni mewn un flwyddyn, £50,000 am ddylunio yn unig mewn un flwyddyn ac yna uchafswm o £300,000 am adeiladu o fewn dwy flynedd i’r gwaith dylunio yn unig. Gall cynlluniau dros £300,000 fod yn gymwys o hyd os oes  disgwyl iddynt greu buddion ehangach, ond dylech gysylltu â changen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yn gyntaf i drafod ymhellach a allai’r rhain gael eu hystyried yn eithriadau.

Rydym yn annog gweithio mewn partneriaeth ac ar draws Awdurdodau Rheoli Perygl. Gall cynllun dalgylch gynnwys nifer o brosiectau sydd o fudd i fwy nag un Awdurdod Rheoli Perygl a/neu nifer o drydydd partïon. Yn yr achos hwn, dylai’r cais gael ei wneud gan ddim ond un o’r Awdurdodau Rheoli Perygl a fydd yn gweithredu fel derbynnydd grant.

Cytunir ar y cyllid hwn drwy gyllideb gyfalaf Llifogydd am un flwyddyn ariannol yn unig, felly dylai cynlluniau symud yn eu blaenau yn gyflym a chael eu cwblhau erbyn y dyddiad terfyn. Dylai hyn gael ei ystyried wrth gwblhau ceisiadau, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw gynigion sy’n cynnwys gwaith o fewn cyrsiau dŵr. Os bydd oedi o ran cynllun ac nad yw’n gallu cael ei gwblhau mewn pryd, gellir colli’r cyllid, ac nid oes sicrwydd y bydd cyllid ar gael ar gyfer y cynllun mewn blynyddoedd i ddod.

Mae’r cyllid presennol ar sail blwyddyn ac ni ellir trosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd. Gofynnir i Awdurdodau Rheoli Perygl ragweld gwariant fel rhan o’r cais ac ymdrechu i gadw at hyn.

Ni chaniateir amrywiadau i’r contract fel rhan o’r rhaglen hon o ganlyniad i gyfyngiadau cyllidebol llym.

Gellir cyflawni buddion ehangach y tu hwnt i reoli perygl llifogydd drwy waith a gyllidir gan y grant, a dylid ystyried y rhain fel rhan o’r broses ymgeisio. Er bod y buddion ecolegol ehangach sy’n gysylltiedig ag ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn sefydledig, dylai ceisiadau gynnwys crynodeb byr o’r buddion penodol sy’n gysylltiedig â’r cynllun dan sylw. Gall y buddion ehangach gynnwys:

  • Ansawdd dŵr 
  • Ymgysylltu â grwpiau cymunedol lleol a’r trydydd sector; 
  • Addysg/codi ymwybyddiaeth drwy greu partneriaeth â phreswylwyr ac ysgolion; 
  • Cefnogi busnesau lleol; 
  • Gwelliannau o ran bioamrywiaeth; 
  • Gwelliannau o ran amwynderau sy’n gysylltiedig â’r prosiect Rheoli Llifogydd yn Naturiol; 
  • Defnyddio contractwyr lleol i wneud y gwaith hwn a datblygu sgiliau.

Gofynnir i dimau prosiect adrodd yn benodol mewn perthynas ag Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy Llywodraeth Cymru, lle maent yn berthnasol. Rhaid cynnwys y rhain yn y ceisiadau fel y nodir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ac fel y rhestrir isod:

  • Cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy; 
  • Lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd; 
  • Cynnal a gwella cadernid ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu; 
  • Cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd.

Mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, mae’n hanfodol bod Awdurdodau Rheoli Perygl yn ystyried sut y mae’r gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau llesiant a’r egwyddorion datblygu cynaliadwy ac yn dangos hyn yn y ceisiadau. Dylech roi enghreifftiau penodol ar y ffurflen gais o sut y bydd y gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau llesiant, yn hytrach na dim ond rhestru’r nodau.

Gall Llywodraeth Cymru hefyd nodi gofynion ychwanegol o ran casglu data.

Dewis a blaenoriaethu cynlluniau

Bydd y broses o flaenoriaethu prosiectau i’w cyllido yn seiliedig ar y buddion y maent yn eu cyflawni, a bydd cynifer o gynlluniau yn cael eu cyllido ag y bydd y gyllideb sydd ar gael yn ei ganiatáu.

Os bydd gormod o geisiadau i’r rhaglen, bydd prosiectau yn cael eu dewis yn bennaf ar sail cost fesul eiddo, gan ystyried y ffactorau canlynol:

  • Tystiolaeth o lifogydd gwirioneddol neu lifogydd fu bron â digwydd 
  • Cyfanswm nifer yr eiddo a fydd yn elwa 
  • Y gost amcangyfrifedig fesul eiddo 
  • Y buddion ehangach 
  • Cyfleoedd dysgu a monitro 
  • Gweithio mewn partneriaeth 
  • Y gallu i gyflawni o fewn 12 mis.

Tystiolaeth i gefnogi’r cais

Bydd darparu tystiolaeth gyda’r cais yn cynorthwyo effeithlonrwydd y broses asesu.

Rhaid i’r dystiolaeth sydd i’w chyflwyno gyda’r ffurflenni cais gynnwys (lle bo’n briodol):

  • Mapiau sy’n dangos lleoliad y gwaith arfaethedig 
  • Mapiau llifogydd sy’n dangos y perygl 
  • Cyfeiriad at Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol lle bo’n briodol 

Hawliadau

Bydd y cyfnodau hawlio bob 6 mis, yn unol â Chwarter 2 a Chwarter 4 y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol safonol. Mae angen i hawliadau gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein, gan ddefnyddio’r Grant Rheoli Llifogydd yn Naturiol presennol, erbyn y dyddiadau cau a restrir yn eich llythyr dyfarnu grant.

Brandio

Lle bo’n briodol, dylai unrhyw waith a gyllidir drwy grantiau Llywodraeth Cymru gael ei frandio a dangos logo Llywodraeth Cymru. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â brandio yn gymwys am gyllid grant. Mae byrddau dehongli ac allgymorth cymunedol ochr yn ochr â phrosiectau yn cael eu hannog yn weithredol a byddant yn cael eu hystyried yn y broses flaenoriaethu.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Dîm Brandio Llywodraeth Cymru: BrandingQueries@llyw.cymru.

Canllawiau

Mae cyngor ar Weithio gyda Phrosesau Naturiol a Mapiau Cyfleoedd ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar gael ar wefannau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o ganllawiau defnyddiol ar Reoli Llifogydd yn Naturiol hefyd wedi’u datblygu gan Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban yn ei Llyfryn Rheoli Llifogydd yn Naturiol.

Cwestiynau

Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r Grantiau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, cysylltwch â changen llifogydd Llywodraeth Cymru: risgllifogyddarfordirol@llyw.cymru.