Mabon ap Gwynfor AS, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Yn dilyn y gwrandawiad cyn penodi gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar 24 Medi 2026, pleser yw cadarnhau y bydd Phil Berrington yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o 1 Hydref 2026 ymlaen. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor am ei waith craffu ar y broses benodi hon.
Daw Phil â chyfoeth o brofiad o arweinyddiaeth a llywodraethiant ar lefel Bwrdd yn y GIG yn Lloegr, ochr yn ochr â gyrfa nodedig mewn trawsnewid busnes. Yn rhinwedd ei swydd fel cyn-Bartner Gweithredol yn IBM Consulting, bu'n arwain cyfrifon mawr a oedd yn cefnogi sefydliadau drwy raglenni trawsnewid cymhleth a ysgogwyd gan newid technolegol.
Mae'r penodiad hwn wedi'i wneud yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.
Hoffwn hefyd ddiolch i Colin Dennis, Cadeirydd ymadawol Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, am y cyfraniad sylweddol y mae wedi'i wneud yn ystod ei gyfnod yn y swydd ers 2022.
