Yr Aelodau a ailbenodwyd yw Ian Bancroft a Nuria Zolle, a fydd yn gwasanaethu fel ail dymor a'r tymor olaf - Ian fel Is-gadeirydd y Bwrdd - o 1 Hydref 2026 tan 30 Medi 2029.
Mae gwybodaeth fywgraffyddol ar gyfer y ddau Aelod ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru.
Mae aelodau Bwrdd Chwaraeon Cymru yn cael eu talu £292 y dydd, sy'n adlewyrchu ymrwymiad amser o o leiaf 2 ddiwrnod y mis.
Telir £322 y dydd i'r Is-gadeirydd, yn seiliedig ar ymrwymiad amser o 3 diwrnod y mis.
Mae'r ailbenodiadau hyn wedi'u gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.
Mae'r ddau Aelod wedi datgan nad ydynt wedi ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Mae Nuria yn Gyfarwyddwr Anweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
