Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn  nodi deuddeg ymrwymiad ynghylch cyflogaeth foesegol a risgiau arferion llafur anfoesegol ac anghyfreithlon.

Mae'r Cod Ymarfer, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2017, yn mynd i'r afael â materion fel caethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol, cosbrestru, hunangyflogaeth ffug, defnydd annheg o gynlluniau ambarél a chontractau dim oriau, a thalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob sefydliad sector cyhoeddus, pob busnes a phob sefydliad trydydd sector ymrwymo i’r Cod Ymarfer os ydynt yn cael cyllid gan y sector cyhoeddus. Caiff sefydliadau eraill sy’n gweithredu yng Nghymru o unrhyw sector eu hannog i fabwysiadu’r Cod.

Rydym bellach yn ymgynghori ar fersiwn ddiwygiedig o'r Cod Ymarfer i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad lafur ac mewn arferion caffael moesegol ers 2017. Y nod yw sicrhau bod y Cod yn parhau i fod yn gadarn ac yn berthnasol a'i fod yn cyd-fynd â'r disgwyliadau cyfredol o arferion cyflogaeth foesegol. Bydd eich barn yn helpu i lunio Cod diwygiedig sy'n parhau i gefnogi triniaeth deg i weithwyr a chaffael cyfrifol ledled Cymru.

Cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: drafft o'r ymrwymiadau diwygiedig

Byddwn yn:

Datblygu a gweithredu polisi ar fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Cynhyrchu a gweithredu polisi (neu bolisïau) ysgrifenedig i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chyflogaeth a recriwtio anfoesol yn ein sefydliad ein hunain a'n cadwyni cyflenwi. Dylid cymeradwyo polisïau o'r fath ar lefel uwch a chynnwys gweithwyr rhyngwladol lle bo'n berthnasol.

Darparu hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Hyfforddi staff perthnasol ac, lle bo'n bosibl, annog cyflenwyr i ddeall caethwasiaeth fodern, cyflogaeth anfoesegol a pholisïau ein sefydliad.

Nodi risgiau o gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Cynhyrchu a diweddaru asesiad risg yn rheolaidd o gynhyrchion a gwasanaethau allweddol a allai gynnwys caethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth anfoesegol yn ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi.

Mynd i'r afael â risgiau o gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Ymateb i'n hasesiadau risg trwy weithredu i leihau a lliniaru risgiau. Unioni niwed sy'n gysylltiedig â'n sefydliad a'n cadwyni cyflenwi. 

Cofnodi ein gweithredoedd i leihau caethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Cofnodi ein gweithredoedd, canfyddiadau, cynnydd a chanlyniadau allweddol, o fewn ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi, a gwneud hyn yn desun rheolaidd o gyfarfodydd rheoli ac adolygu contractau. 

Cyhoeddi datganiadau blynyddol am ein gwaith ar gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Cynhyrchu a chyhoeddi datganiad blynyddol sy'n esbonio'r hyn yr ydym wedi'i wneud a'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol yn ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi. Bydd y datganiad yn rhestru'r uwch unigolyn/unigolion a enwir sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r materion hyn.

Talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol 

  • Talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr uniongyrchol. Ystyriwch ddod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig ac annog cyflenwyr y DU i dalu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.
  • Wrth brynu nwyddau a gwasanaethau dramor, canolbwyntio ar gyflenwyr sy'n talu o leiaf y cyflog byw rhanbarthol ar gyfer eu hardal ddaearyddol neu ddefnyddio ardystiadau sy'n canolbwyntio ar gyflog teg, fel ardystiad Masnach Deg.

Darparu mynediad at undebau llafur

  • Gwneud yn siŵr bod undebau llafur yn gallu cael mynediad i'r gweithle a bod gweithwyr yn gallu ymuno a chymryd rhan mewn undebau llafur heb ofni gwahaniaethu. Sicrhau bod gweithwyr yn cael eu diogelu rhag triniaeth andwyol a chosbrestru wrth godi cwynion, gwneud cwynion ffurfiol neu chwythu'r chwiban. Sicrhau bod yr hawliau hyn wedi'u nodi'n glir mewn contractau cyflogaeth.
  • Canolbwyntio ar gyflenwyr, yn y DU ac yn fyd-eang, sy'n gallu dangos agwedd gadarnhaol a chydweithredol at weithio gydag undebau llafur. Mewn gwledydd lle mae undebau llafur yn cael eu hatal rhag gweithredu'n rhydd, ystyried cyflenwyr sy'n cefnogi strwythurau democrataidd neu gydweithredol amgen gan gydnabod nad yw'r rhain yn cyfateb i ymgysylltu ag undebau llafur.

Amddiffyn hawliau gweithwyr a diogelwch swyddi

  • Cwrdd â'r holl ddyletswyddau cyfreithiol i'n gweithwyr a sicrhau eu bod yn gwybod eu hawliau. Atal triniaeth annheg mewn perthynas â thâl, telerau ac amodau ac osgoi defnydd annheg o gynlluniau ymbarél a chontractau dim oriau, neu hunangyflogaeth ffug. 
  • Sicrhau bod unrhyw newidiadau i dâl, telerau neu amodau yn cael eu cytuno trwy drafod priodol gyda'r gweithlu ac osgoi arferion annerbyniol fel diswyddo ac ailgyflogi.
  • Cefnogi diogelwch swyddi gweithwyr cyflenwyr trwy dalu anfonebau yn brydlon, o fewn 30 diwrnod, a sicrhau nad yw pwysau cost ac amser diangen yn cael eu rhoi ar waith a allai arwain at driniaeth anfoesegol o weithwyr. 

Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

  • Ymgorffori cyfleoedd cyfartal wrth recriwtio, yn ein gweithlu ac wrth drin eraill, a dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon.
  • Canolbwyntio ar gyflenwyr sy'n mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn weithredol ac annog cyflenwyr i barhau i wella arferion yn y meysydd hyn.
  • Gweithredu i atal pob math o wahaniaethu ac aflonyddu (gan gynnwys aflonyddu rhywiol) ac ymateb yn effeithiol pan fydd yn codi.

Cadw gweithwyr a gweithleoedd yn ddiogel

  • Sicrhau bod gan ein sefydliad fesurau iechyd a diogelwch effeithiol, a bod y rhain yn cael eu cyfleu a'u hadolygu'n rheolaidd mewn ymgynghoriad â gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur.
  • Ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr gydymffurfio â'r holl reoliadau iechyd a diogelwch perthnasol. Canolbwyntio ar gyflenwyr sy'n gallu darparu tystiolaeth glir o reoli iechyd a diogelwch yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys asesiadau risg cadarn, cynnwys y gweithlu mewn mesurau iechyd a diogelwch, a thryloywder yn ymwneud â'r broses o adrodd a chofnodi digwyddiadau. 

Ystyried effaith technoleg ar weithwyr

  • Mewn ymgynghoriad â'r gweithlu, nodi a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o dechnoleg, gan gynnwys AI a thechnoleg rheoli pobl, yn ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi. 

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i ddatblygu a gweithredu polisi ar fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 2

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i ddarparu hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 3

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i nodi risgiau o gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 4 

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i fynd i'r afael â risgiau o gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 5

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i gofnodi gweithredoedd i leihau risgiau o gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 6

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i gyhoeddi datganiadau blynyddol am waith i fynd i'r afael â risgiau o gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 7

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i dalu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol fel y nodir yn y ddogfen ddrafft? 

Cwestiwn 8

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i ddarparu mynediad at undebau llafur fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 9

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i amddiffyn hawliau gweithwyr a diogelwch swyddi fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 10 

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 11

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i gadw gweithwyr a gweithleoedd yn ddiogel fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 12

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cod Ymarfer diwygiedig gynnwys ymrwymiad i ystyried effaith technoleg ar weithwyr fel y nodir yn y ddogfen ddrafft?

Cwestiwn 13 

Ar y cyfan, ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru'r Cod Ymarfer yn unol â'r drafft hwn o’r fersiwn ddiwygiedig?

Cwestiwn 14

A oes unrhyw beth ar goll, yn aneglur neu'n annigonol yn y Cod Ymarfer diwygiedig drafft?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 30 Mai 2025, drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol.

Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (ee, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod inni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i ofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd y mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am y ddogfen hon mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Rhagor o wybodaeth:

Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: GwaithTeg@llyw.cymru 

Mae'r ddogfen hon ar gael hefyd yn Saesneg.

Rhif: WG54084