Neidio i'r prif gynnwys

Rydyn ni’n gweithio gyda'r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) i wella’r Gwasanaeth Cofnodi Dalfeydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hyn yn cynnwys diweddariadau i’r ap symudol a’r gwasanaeth gwe. Nod y gwelliannau hyn yw datrys problemau technegol blaenorol ar oedd yn effeithio ar gyflwyno cofnodion dalfeydd. Yn enwedig drwy'r ap symudol.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ailadeiladu i’w wneud yn fwy dibynadwy a chadarn. Er y bydd y dechnoleg y tu ôl i’r gwasanaeth yn cael ei huwchraddio, bydd yr ap a'r gwasanaeth gwe yn parhau i edrych yn gyfarwydd ichi. 

Diweddariadau a datblygiadau yn y dyfodol

Rydyn ni yn ystod camau cynnar y broses hon. Byddwn yn gweithio gyda'r MMO i roi'r wybodaeth ddiweddarach ichi ac eraill yn y diwydiant pysgota wrth i'r prosiect fynd rhagddo. Ni fydd ceisiadau presennol am nodweddion ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y diweddariad cychwynnol hwn. Ond bydd gwelliannau ar eu cyfer yn cael eu hystyried yn y dyfodol.

Cefnogi pysgodfeydd yng Nghymru

Mae'r newidiadau hyn yn rhan o'n hymrwymiad i wneud y canlynol: 

  • darparu offerynnau digidol sy'n eich helpu i gydymffurfio â rheoliadau
  • cefnogi rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy, a 
  • diwallu anghenion diwydiant pysgota Cymru

Byddwn yn rhannu diweddariadau wrth inni gyrraedd cerrig milltir pwysig. Os oes gennych gwestiynau neu adborth am y gwasanaeth cofnodi dalfeydd, gallwch anfon e-bost at catchrecording@marinemanagement.org.uk.