Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Deddf 1998) Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd) yn sefydliad corfforedig. I bob pwrpas, felly, roedd yn weithrediaeth ddatganoledig (hynny yw, roedd yn llywodraeth) ac yn ddeddfwrfa i Gymru. Fodd bynnag, nid oedd yn ddeddfwrfa yn ystyr draddodiadol y gair hwnnw, o ystyried ei bwerau deddfwriaethol cyfyngedig.

Roedd Deddf 1998 yn gyfrwng i drosglwyddo swyddogaethau gweithredol (hynny yw, pwerau a dyletswyddau) o Lywodraeth y DU. Roedd y rhain mewn meysydd fel:

  • amaethyddiaeth
  • diwylliant
  • datblygu economaidd
  • addysg
  • iechyd
  • tai
  • llywodraeth leol
  • gwasanaethau cymdeithasol 
  • cynllunio 

O ganlyniad, byddai’r Cynulliad Cenedlaethol (ar y pryd) yn dod yn gyfrifol am gyflawni’r rheini mewn perthynas â Chymru.

Gwnaed deddfwriaeth bellach wedi hynny o dan Ddeddf 1998 er mwyn trosglwyddo nifer o swyddogaethau gweithredol i’r Cynulliad, yn y meysydd uchod. Gwnaed hyn drwy “orchmynion trosglwyddo swyddogaethau”. Roedd y swyddogaethau hyn yn cynnwys gwneud rheoliadau, rheolau a gorchmynion a rhoi cymorth ariannol. Y prif orchymyn trosglwyddo swyddogaethau oedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Sefydlodd Deddf 1998 Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru hefyd. Mae swyddogaeth Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru yn cael ei chyflawni gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru erbyn hyn.

Rhoddodd Deddf 1998 bŵer hefyd i’r Cynulliad Cenedlaethol i ad-drefnu sefydliadau cyhoeddus penodol yng Nghymru. Er enghraifft, drwy orchymyn a wnaed gan y Cynulliad o dan Ddeddf 1998, diddymwyd Awdurdod Datblygu Cymru, a throsglwyddwyd ei swyddogaethau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Gelwir Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn Senedd Cymru.

Cafodd y rhan fwyaf o Ddeddf 1998 ei diddymu gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, er bod rhai darpariaethau yn parhau mewn grym am resymau technegol.

Gweler Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ar legislation.gov.uk.

Gweler Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar legislation.gov.uk.

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ar legislation.gov.uk