Neidio i'r prif gynnwys

Rhun ap Iorwerth AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynghorwyr arbennig yn rhan bwysig o’r tîm sy’n cefnogi Gweinidogion. Maen nhw’n ychwanegu dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael i Weinidogion, ac yn atgyfnerthu gallu’r Gwasanaeth Sifil parhaol i fod yn wleidyddol ddiduedd drwy fod yn ffynhonnell cyngor a chymorth gwleidyddol ar wahân. 

Y Prif Weinidog sy’n penodi’r Cynghorwyr Arbennig, i wasanaethu’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth gyfan. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda gweision sifil i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gallant helpu’r Gweinidogion ar faterion pan fydd gwaith y Llywodraeth a gwaith y blaid sy’n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai’n briodol, felly, i weision sifil parhaol fod yn rhan o’r gwaith.

Mae’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i’r cyfnod 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. Cafodd yr holl benderfyniadau ynghylch penodi Cynghorwyr Arbennig yn ystod y cyfnod hwn eu gwneud gan y Prif Weinidog blaenorol. 

Cost Cynghorwyr Arbennig

Dros y cyfnod 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026, roedd cost y cynghorwyr arbennig yn £1,407,438 (2024-25 = £1,571,334). Mae hyn yn cynnwys cyflogau (gan gynnwys unrhyw ddyfarniadau cyflog), cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr. Mae hefyd yn cynnwys taliadau a gafodd eu gwneud i Gynghorwyr Arbennig a oedd yn ymddiswyddo am wyliau blynyddol nad oeddent wedi gallu eu cymryd yn ystod eu cyflogaeth. Ni chafodd unrhyw daliadau terfynu cyflogaeth eu gwneud i Gynghorwyr Arbennig yn ystod y cyfnod hwn. 

Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig

Mae Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru yn cael eu penodi yn unol â'r band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol neu fand cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig. Mae manylion y bandiau cyflog hyn fel a ganlyn:

  • Band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol : £62,870 - £82,431                                            
  • Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig: £81,000 - £95,544