Neidio i'r prif gynnwys

Mae trefniadau cyfansoddiadol Cymru yn seiliedig ar ddatganoli, sofraniaeth seneddol, hawliau dynol, y gyfraith gyffredin a gwahanu pwerau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Y man cychwyn ar gyfer deall trefniadau cyfansoddiadol Cymru yw deall sut mae pŵer yn cael ei wahanu a’i rannu yn y DU. Yn hanesyddol, roedd pob pŵer yn y DU wedi’i freinio yn y Goron. Roedd athrawiaeth (h.y. cysyniad) Dwyfol Hawl Brenhinoedd yn rhoi cyfreithlondeb brenhinol a gwleidyddol i’r syniad o reolaeth uniongyrchol drwy ewyllys Duw. Golygai hyn fod y Brenin neu’r Frenhines (“y Monarch”) yn sofran, ac yn dal yr awdurdod goruchaf. Dros y canrifoedd, fodd bynnag, mae pŵer y Monarch wedi’i wahanu, ei rannu, a’i gyfyngu mewn sawl ffordd.

Dechreuodd y broses hon yn arbennig (o ran Lloegr) gyda’r canlynol:

  • Magna Carta yn y 13eg ganrif, a oedd yn cyfyngu ar bŵer y Monarch
  • Deddf Iawnderau 1688, a sefydlodd hawliau penodol i Senedd Lloegr

Y cysyniad o ‘sofraniaeth Seneddol’ oedd y datblygiad mwyaf arwyddocaol. Mae hyn yn golygu:

  • bod modd i Senedd y DU basio deddfau ar unrhyw fater
  • na all unrhyw Senedd rwymo Senedd yn y dyfodol (mewn geiriau eraill, gall Senedd yn y dyfodol newid y gyfraith bob amser)
  • na all cyfraith a basiwyd gan Senedd y DU gael ei diddymu gan y llysoedd: mae hynny oherwydd nad oes cyfraith gyfansoddiadol ‘uwch’ y gellir barnu Deddf Seneddol yn ei herbyn

Gweler Deddf Iawnderau 1688 ar legislation.gov.uk.

Gweler Magna Carta ar nationalarchivesw.gov.uk.

Mae’r ffaith nad oes cyfansoddiad ysgrifenedig neu godeiddiedig yn golygu hefyd nad oes unrhyw gyfyngiadau ar bŵer Senedd y DU. Nid oes unrhyw ofynion iddi weithredu mewn ffordd benodol.

Mae Senedd y DU yn gwneud cyfreithiau drwy basio Deddfau Seneddol (a elwir hefyd yn ddeddfwriaeth sylfaenol). Yn ogystal â newid y gyfraith drwy’r Ddeddf ei hun, gall Deddf Seneddol roi pŵer i bobl eraill i newid y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys:

  • rhoi pŵer i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon i greu eu ffurfiau ei hunain o ddeddfwriaeth sylfaenol
  • rhoi pŵer mwy cyfyngedig i Weinidogion i wneud ‘is-ddeddfwriaeth’: mae hynny fel rheol drwy gyfrwng ‘offeryn statudol’

Er bod y cysyniad o sofraniaeth Seneddol yn gymwys o hyd, mae rhai yn ystyried ei bod wedi ei chyfyngu erbyn hyn – naill ai’n gyfreithiol neu’n ymarferol. Mae hynny oherwydd cytundebau rhyngwladol, neu drwy gydnabod ewyllys pobl cenhedloedd hanesyddol y DU (sef datganoli pŵer).

Mae rhannu pŵer rhwng deddfwrfeydd, a rhoi pwerau i Weinidogion, wedi arwain at fwy o rôl i’r llysoedd hefyd. Erbyn hyn, mae’r llysoedd yn dyfarnu yn amlach o ran ble y mae pŵer yn gorwedd, ac a yw’r pŵer wedi cael ei ddefnyddio’n gywir.

Datganoli pŵer i Gymru

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006) Gynulliad Cenedlaethol newydd i Gymru fel deddfwrfa gyflawn. Sefydlodd hefyd weithrediaeth ar wahân. Enwyd y weithrediaeth hon i ddechrau yn ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’, ond yn ddiweddarach yn ‘Llywodraeth Cymru’. Yn arwyddocaol iawn, rhoddodd Deddf 2006 bŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd) basio ei ddeddfwriaeth sylfaenol ei hun. Ar y dechrau, gallai wneud hynny drwy ‘Fesurau’r Cynulliad’, o dan system lle rhoddwyd cymhwysedd cyfyngedig bob yn dipyn. Rhoddwyd cymhwysedd naill ai drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol neu drwy Ddeddf Seneddol. Yna, yn dilyn y refferendwm ar bwerau deddfu pellach yn 2011, roedd y Cynulliad yn pasio ei ddeddfwriaeth sylfaenol drwy ‘Ddeddfau’r Cynulliad’. Gallai wneud hynny ar unrhyw fater a roddwyd gan Atodlen 7 (ar y pryd) i’r Ddeddf. Ailenwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd Cymru ym mis Mai 2020, ac erbyn hyn mae’r Deddfau yn ‘Ddeddfau’r Senedd’.

Cafodd Deddf 2006 ei diwygio gan Ddeddf Cymru 2017. Ers i Ddeddf 2017 ddod i rym, mae cwmpas cymhwysedd Senedd Cymru i ddeddfu wedi’i bennu yn adran 108A o Ddeddf 2006, ac yn Atodlenni 7A a 7B i’r Ddeddf honno. Mae’r rhain, gyda’i gilydd, yn gosod y paramedrau, neu’r ffiniau, o ran cymhwysedd deddfwriaethol drwy gyfeirio at yr hyn na all Senedd Cymru ei wneud. Mae hyn yn cynnwys drwy restru materion sydd wedi’u cadw’n ôl ar gyfer Senedd y DU.

Mae sofraniaeth seneddol yn golygu y gall Senedd y DU ddeddfu ar faterion nad ydynt wedi’u cadw yn ôl (yn ogystal ag ar unrhyw beth arall). Fodd bynnag, yn ôl confensiwn (y cyfeirir ato’n aml fel ‘Confensiwn Sewel’) ni fydd yn gwneud hynny fel arfer ac eithrio â chydsyniad Senedd Cymru. Gwnaeth Deddf yr Alban 2016 a Deddf Cymru 2017 ddarpariaeth i adlewyrchu’r confensiwn hwn yn y gyfraith. Yn y Deddfau hyn, cyflwynwyd hefyd y syniad o barhauster Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban, a Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ôl eu trefn. Er bod hyn yn awgrymu bod sofraniaeth Senedd y DU wedi’i chyfyngu o ganlyniad i ddatganoli, cadarnhaodd y Goruchaf Lys, yn achos Miller, nad yw darpariaethau Sewel yn rhai traddodadwy. Ystyr hynny yw bod y Goruchaf Lys yn ystyried nad oedd llys yn gallu penderfynu arnynt. Nododd, fodd bynnag, fod Confensiwn Sewel yn gonfensiwn cyfansoddiadol pwysig serch hynny. Dywedodd fod y confensiwn yn chwarae rhan sylfaenol yng ngweithrediad ein cyfansoddiad.

Yn debyg i Ddeddfau Senedd y DU, yn aml bydd Deddfau Senedd Cymru yn rhoi pwerau i Weinidogion i wneud is-ddeddfwriaeth. Mae hynny gan amlaf drwy offeryn statudol Cymreig. Yn aml mae Deddfau Senedd Cymru hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru (neu gyrff eraill) i ddyroddi canllawiau neu godau ymarfer. Gelwir y rhain weithiau yn “gyfraith feddal”. Sefyllfa aml o ran rhain yw nad ydynt yn rhwymo yn gyfreithiol. Fodd bynnag, fel arfer mae’n ofynnol i’r rhai y maent wedi’u cyfeirio atynt roi ystyriaeth iddynt.

Cyfraith Ewrop

Pan oedd y DU yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, roedd cyfraith Ewrop hefyd yn cael effaith ar bŵer Senedd y DU. Roedd yn effeithio hefyd ar bwerau Gweinidogion a deddfwrfeydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd cyfreithiau’r UE naill ai’n uniongyrchol gymwys neu, yn achos Cyfarwyddebau’r UE, wedi eu hymgorffori yng nghyfraith y DU yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 (fel yr oedd ar y pryd). O dan adrannau 80 a 108A o Ddeddf 2006, roedd yn rhaid i gyfreithiau a wnaed yng Nghymru gael eu gwneud yn unol â chyfraith Ewrop hefyd. Fodd bynnag, mae darpariaethau perthnasol Deddf 1972 a Deddf 2006 bellach wedi eu diddymu, ac nid ydynt yn gymwys mwyach.

Hawliau dynol

Rhoddodd Deddf Hawliau Dynol 1998 effaith bellach i’r hawliau a’r rhyddid sydd wedi’u gwarantu o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (gweler testun rhagarweiniol y Ddeddf). Gelwir y rhain yn “Hawliau’r Confensiwn”. Mae Deddf 1998 wedi cael dylanwad sylweddol ar gynnwys cyfraith y DU a’r dehongliad ohoni. Er enghraifft, o ran deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y mae’n bosibl gwneud hynny rhaid eu darllen a rhoi effaith iddynt mewn modd sy’n gydnaws â hawliau’r Confensiwn.

Rhaid i Weinidogion y Goron sy’n gyfrifol am Fil yn Senedd y DU wneud datganiad bod y Bil yn gydnaws â hawliau’r Confensiwn. Os na all y Gweinidog gadarnhau hynny, rhaid gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw. Byddai’r datganiad yn cadarnhau bod y llywodraeth, serch hynny, yn dymuno bwrw ymlaen â’r Bil. Pan fo achos yn cael ei ddwyn sy’n honni bod Deddf gan Senedd y DU, neu ddarpariaeth ynddi, yn anghydnaws ag un o hawliau’r Confensiwn, y llysoedd fydd yn penderfynu ar hynny. Os yw’r llys yn penderfynu ei bod yn anghydnaws, caiff y llys wneud datganiad o’r anghydnawsedd hwnnw.

O dan adrannau 81 a 108A o Ddeddf 2006, ni chaiff cyfreithiau a wneir yng Nghymru fod yn anghydnaws â hawliau’r Confensiwn.

Y gyfraith gyffredin a chyfreithiau ecwiti

Mae gan y DU system gyfreithiol cyfraith gyffredin. Yn ogystal â chyfraith statud (sef cyfreithiau a wneir gan Seneddau’r DU a Chynulliad Gogledd Iwerddon), mae ganddi gorff o gyfraith sy’n esblygu dros amser. Mae’n esblygu, felly, wrth iddi gael ei ‘datgan’ gan farnwyr pan fyddant yn penderfynu achosion cyfreithiol yn y llysoedd. Er mwyn canfod beth yw’r gyfraith gyffredin ar fater penodol, mae angen astudio’r dyfarniadau a wneir yn y llysoedd. Cyfeirir at hyn gan amlaf fel cyfraith achosion.

Mae athrawiaeth cynsail yn helpu i sicrhau bod y gyfraith gyffredin yn gymharol resymegol a bod modd ei rhagweld. O dan athrawiaeth cynsail, fel rheol rhaid i farnwr ddilyn dyfarniadau cynharach ar yr un mater cyfreithiol. Yn ogystal, mae’n ofynnol i farnwr ddilyn dyfarniad cynharach a wnaed gan lys uwch na’r llys lle mae’n eistedd.

Yn hanesyddol, roedd y gyfraith ‘a wnaed gan farnwr’ yn cynnwys edefyn ar wahân, a elwir yn gyfraith ecwiti. Cafodd y gyfraith hon ei datblygu drwy gyfraith achosion hefyd. Fodd bynnag, yn aml nid yw’r gwahaniaeth rhwng y gyfraith gyffredin a chyfreithiau ecwiti o arwyddocâd ymarferol heddiw. Mae’r ddwy set o gyfreithiau yn cael eu gweinyddu ochr yn ochr â’i gilydd ac yn cael eu hystyried gyda’i gilydd fel cyfraith gyffredin y DU.

Nid oes ffin glir rhwng cyfraith gyffredin a chyfraith statud bob amser. Gall cyfraith statud ymwneud â mater lle nad oes cyfraith gyffredin. Ar y llaw arall, gall statud ddisodli’r gyfraith gyffredin mewn maes penodol, neu ategu neu amrywio’r gyfraith gyffredin. Mewn geiriau eraill, gall cyfraith statud a chyfraith gyffredin ill dwy fod yn berthnasol mewn sefyllfa benodol.

Mae’r gyfraith a wneir yng Nghymru yn cynnwys deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Mae yna gyfraith achosion hefyd sy’n ystyried y rhain. Fodd bynnag, un awdurdodaeth gyfreithiol yw Cymru a Lloegr o hyd. Felly, pan fydd barnwyr yn datgan pwyntiau o gyfraith gyffredin, gan gynnwys ynghylch deddfwriaeth Gymreig, maent yn pennu’r gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr fel ei gilydd.